Adroddiad blynyddol 2022/23


Cyflwyniad
Cadw cymdogaethau'n ddiogel
Brwydro yn erbyn troseddau difrifol
Rhoi cymorth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed
Gwella hyder y gymuned mewn plismona
Ysgogi plismona cynaliadwy
Edrych i’r dyfodol

Cyflwyniad

Roedd hi'n flwyddyn brysur, gyda rhai llwyddiannau a heriau sylweddol.

Mae hyder y cyhoedd mewn plismona'n hollbwysig ac yn amlochrog. Rwyf yn benderfynol o hyd bod y safonau uchaf posibl yn cael eu cynnal trwy'r amser yn fy swyddfa i ac yn Heddlu Gwent. Bydd unrhyw ymddygiad negyddol yn cael ei fwrw allan o blismona yng Ngwent ac rwyf yn hyderus o hyd y bydd Prif Gwnstabl Pam Kelly yn cyflawni hyn. Rhaid dal plismona i safonau uwch ac mae diswyddiad uwch swyddogion, a gafodd gryn gyhoeddusrwydd, yn dangos pa mor ddifrifol mae'r Prif Gwnstabl yn ystyried y mater hwn. Rwyf yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth a'r gwaith craffu sydd eu hangen arni i herio'r problemau yma.

Byddwn yn herio ymddygiad annerbyniol ble bynnag y gwelwn ef. Fodd bynnag, rwyf yn credu'n gryf bod y rhan fwyaf o swyddogion a staff Heddlu Gwent yn weision cyhoeddus gweithgar ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i wasanaethu ein cymunedau. Rwyf eisiau sicrhau'r swyddogion eu bod yn parhau i dderbyn fy nghefnogaeth lawn.

Er mwyn cydnabod pwysigrwydd adnabod a chydnabod bod anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yn amlwg ar draws pob agwedd ar fywydau pobl, lansiodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ei gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ym mis Medi. Rydym yn un o brif bartneriaid Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ac mae'r cynllun hwn yn amlinellu penderfyniad partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda'i gilydd, i gael gwared ar unrhyw ffurf ar hiliaeth ar draws y system cyfiawnder troseddol. O'r dechrau, ymroddodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru i wrando, clywed ac ymgorffori profiadau a lleisiau pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn llywio datblygiad y ddogfen. Esblygodd y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth dros gyfnod o 18 mis, gan gofnodi a sefydlu pob cam angenrheidiol i gyflawni newid go iawn ar draws y system cyfiawnder troseddol. Roedd hyn yn cynnwys cymorth gan dros 600 o aelodau o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyd-gynhyrchu cynllun sy'n cydnabod y darlun unigryw yng Nghymru ac sy'n diwallu anghenion ein cymunedau. Mae eu cyfraniad gwerthfawr wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu'r cynllun hwn a bydd yn ein harwain ni wrth i ni fynd ati i weithio gyda'n partneriaid tuag at ein nod cyffredin o gael Cymru wrth-hiliol.

Mae'r argyfwng costau byw wedi parhau i gael effaith sylweddol ar ein cymunedau, ac mae hyn yn cynnwys ein swyddogion a'n staff heddlu ein hunain. Mae plismona fel sefydliad wedi cael ei effeithio gan gostau cynyddol. Mae goblygiadau pellgyrhaeddol posibl i drosedd a diogelwch cymunedol. Rydym wedi bod yn gweithio i ddeall sut y gallwn liniaru unrhyw broblemau sy'n codi o hyn, ac yn ddiamheuol bydd y gwaith hwn yn parhau am flynyddoedd i ddod. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod Heddlu Gwent yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd, o fewn ei adnoddau, gan sicrhau bod trigolion yn derbyn gwerth am eu harian ar yr un pryd.

Mae ein pwyslais ar wasanaethau i ddioddefwyr yn parhau i fod yn hollbwysig, ac ym mis Tachwedd dathlodd fy swyddfa a Heddlu Gwent flwyddyn ers sefydlu'r Uned Gofal Dioddefwyr arloesol. Mae’r uned yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hasesu am unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn eu hachos yn unol â'u hawliau, ac yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r asiantaethau cywir sy'n gallu eu helpu nhw i symud ymlaen gyda'u bywydau. Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd, ond gallaf eich sicrhau y bydd canolbwyntio ar ddioddefwyr wrth galon fy ngwaith bob amser. Dyna pam y gwnaethom gomisiynu adolygiad annibynnol o'n gwasanaethau i ddioddefwyr y llynedd er mwyn canfod meysydd y gallwn eu gwella. Rydym yn disgwyl canlyniadau'r gwaith yma yn fuan.

Gwnaethom adolygu Strategaeth Ystâd Heddlu Gwent i sicrhau bod adeiladau'r heddlu'n gynaliadwy, fforddiadwy ac yn addas ar gyfer plismona modern. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ddarparu gwasanaeth plismona sy'n canolbwyntio ar drigolion, wrth gefnogi gofynion plismona gweithredol a dangos gwerth am arian. Bydd ein strategaeth ddiwygiedig yn rhoi amgylcheddau cynaliadwy, modern i Heddlu Gwent, ble gallant amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau. Bydd y strategaeth newydd yn cael ei chyhoeddi yn 2023/24 a bydd yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n gyson ledled Gwent, gan roi'r hyblygrwydd i Heddlu Gwent esblygu i wynebu newidiadau yn y dyfodol.

O ran y cyfleusterau eu hunain, trosglwyddodd Heddlu Gwent a fy swyddfa wasanaethau o'r cyn bencadlys i'r pencadlys newydd yn ystod y flwyddyn. Mae'r adeilad yn Llantarnam yn gartref i'r Ystafell Gyswllt a Rheoli, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau i'r heddlu, ynghyd â'r timau troseddau mawr, swyddogaethau hyfforddi, gwasanaethau cymorth ac uwch reolwyr. Ym mis Tachwedd, roeddem yn falch iawn i groesawu Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex i agor yr adeilad newydd yn swyddogol. Dechreuodd gwaith ar orsaf heddlu newydd £6.4 miliwn yn Y Fenni hefyd. Mae ei lleoliad ar yr A465 yn Llan-ffwyst yn golygu y gall tîm cymdogaeth Heddlu Gwent fynd ar batrolau cerdded yn hawdd yng nghanol y dref a bydd gan geir sy'n ymateb i alwadau fynediad da at y rhwydwaith ffyrdd lleol ar gyfer galwadau brys.

Yn yr haf, lansiodd Heddlu Gwent strategaeth newydd sy'n rhoi lles plant a phobl ifanc wrth wraidd ei holl benderfyniadau. Datblygwyd y strategaeth plismona sy'n canolbwyntio ar y plentyn gyda phlant a phobl ifanc o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gwent. Rwyf wedi ymroi i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Gwent yn gallu byw eu bywydau'n ddiogel. Os oes rhaid iddyn nhw ddelio gyda'r heddlu, naill ai fel dioddefwr trosedd neu fel troseddwr, rhaid iddynt gael eu trin yn deg, gyda thosturi, a gyda pharch. Mae Heddlu Gwent wedi bod yn cymryd camau pwysig tuag at ddull plismona sy'n canolbwyntio mwy ar y plentyn yn y blynyddoedd diweddar ac mae'r strategaeth hon yn ffurfioli'r gwaith yma, gan roi plant a phobl ifanc wrth wraidd pob penderfyniad yn y dyfodol.

Yn ystod yr hydref, gwnaethom roi cartref dros dro i'r Angel Cyllyll, cerflun 27 troedfedd o uchder sydd wedi'i wneud allan o fwy na 100,000 o gyllyll. Comisiynwyd y cerflun eiconig gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, ac fe'i crëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley. Cafodd ei weld mwy na 640,000 o weithiau gan bobl ym mis Tachwedd. Roedd ymateb y cyhoedd yn eithriadol o gadarnhaol ac i gyd-fynd â'r ymweliad gwnaethom waith ymgysylltu gyda mwy na 4,000 o bobl ifanc yng Ngwent. Darparodd ein partneriaid yn yr elusen Fearless weithdai am beryglon trais ac ymosodiad, a gwnaethom weithio gyda 12 ysgol gynradd a grwpiau ieuenctid hefyd i drafod y materion pwysig yma. Mae'r gwaith yma'n parhau er bod yr Angel Cyllyll wedi gadael.

Fel pob heddlu yng Nghymru a Lloegr, wynebodd Gwent ei siâr o drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau eraill y llynedd. Serch hynny, mae'n parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef. Mae galwadau 999 a 101 yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel ac yn ystod y tywydd poeth yr haf diwethaf gwelsom rai o'r lefelau uchaf i'w cofnodi erioed. Ymatebodd Heddlu Gwent i fwy na 170,000 o ddigwyddiadau'r llynedd, gan gofnodi mwy na 59,000 o droseddau. Mae nifer y digwyddiadau'n debyg i'r nifer yn y flwyddyn flaenorol, ond mae troseddau wedi cynyddu gan ryw 5,000. Mae hyn yn dangos rhai o'r gwelliannau mewn arferion cofnodi troseddau rydym wedi bod yn canolbwyntio arnynt eleni, ond rydym wedi gweld bod rhai troseddau'n cynyddu ac mae hynny'n achos pryder. Byddwn yn monitro hyn yn ofalus yn ystod y flwyddyn nesaf.

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n wynebu plismona a'r gymdeithas ehangach mae angen gweithio gyda phartneriaid. Mae Cymru'n flaenllaw yn y ffordd rydym ni a heddluoedd cyfagos ac asiantaethau eraill yn cydweithio. Mae'r Swyddfa Gartref yn awyddus i ddysgu yn sgil ein llwyddiant a gweld sut gellir defnyddio'r un dull yn Lloegr. Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, cefais gyfarfod gyda gweinidogion plismona nifer o weithiau yn ystod y flwyddyn ac eglurais wrthynt sut rydym wedi cyflawni hyn yng Nghymru.
Ym mis Mehefin, dechreuais yn fy rôl fel cadeirydd Plismona yng Nghymru. Mae Plismona yng Nghymru'n dod â chomisiynwyr a phrif gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru at ei gilydd i hwyluso cydgysylltu a gweithredu ar faterion Cymru gyfan, lle mae digon o debygrwydd a phwrpas. Mae rôl y cadeirydd yn symud o un comisiynydd i'r nesaf yn flynyddol. Yn ogystal â chadeirio'r cyfarfodydd bob tri mis, bûm yn cwrdd â'r Prif Gwnstabl arweiniol a Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn fisol. Yn aml iawn mae gwybodaeth o waith Plismona yng Nghymru'n cyfrannu at Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru (sy'n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog), sef y corff sy'n dwyn plismona ynghyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid sector cyhoeddus allweddol. Trwy'r gwaith yma rydym yn cyfrannu'n helaeth at waith ledled Cymru ar faterion fel gwrth-hiliaeth, trais yn erbyn menywod a merched, ein rhaglen ysgolion, a phlismona deddfwriaeth Cymru yn unig.

Yn genedlaethol, mae'r Gofyniad Plismona Strategol (y Gofyniad) yn amlinellu'r bygythiadau hynny sydd, ym marn yr Ysgrifennydd Cartref, yn peri'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch y cyhoedd. Cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'r Gofyniad ym mis Chwefror 2023 a roddodd fwy o fanylion am y camau gweithredu sydd eu hangen gan blismona ar lefel lleol a rhanbarthol i ymateb i'r bygythiadau cenedlaethol difrifol. Mae Gofyniad 2023 yn amlinellu saith bygythiad cenedlaethol, sef: trosedd difrifol a chyfundrefnol; terfysgaeth; seiberdrosedd cam-drin plant yn rhywiol; anhrefn cyhoeddus ac argyfyngau sifil. Dyma'r rhai a oedd yn fersiwn 2015 ac ychwanegwyd trais yn erbyn menywod a merched yn 2023, gan adlewyrchu'r bygythiad hwnnw i ddiogelwch a hyder y cyhoedd. Gan fod yr adroddiad blynyddol yma'n ymdrin â'r flwyddyn Ebrill 2022 - Mawrth 2023, ni fydd yn ymateb yn fanwl i'r Gofyniad diwygiedig oherwydd amseriad ei gyhoeddi. Fodd bynnag, rwyf yn hyderus fy mod wedi talu sylw dyledus i'r chwe bygythiad a nodwyd yn y Gofyniad blaenorol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ac yn fy rôl yn dwyn Prif Gwnstabl Gwent i gyfrif.

Gydol y flwyddyn mae fy nirprwy Eleri Thomas wedi parhau i arwain gwaith strategol fy swyddfa ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae'r gwaith yma wedi arwain at adolygu ac atgyfnerthu'r cynllun cenedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ac wedi creu'r glasbrint VAWDASV sy'n cael cefnogaeth gan dimau pwrpasol. Barn a phrofiadau goroeswyr sy'n sail i'r gwaith yma er mwyn sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu diwallu. Rydym yn parhau i arwain y gwaith ar blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan VAWDASV ar gyfer y cynllun cenedlaethol a'r glasbrint. Yn ogystal, roedd Heddlu Gwent yn un o 14 gwasanaeth heddlu i gynnal cynllun peilot er mwyn trawsnewid ymateb plismona i dreisio a throseddau rhywiol difrifol trwy Ymgyrch Soteria Bluestone.

I gloi, hoffwn ddiolch yn swyddogol i swyddogion a staff Heddlu Gwent, fy nhîm fy hun yn Swyddfa'r Comisiynydd, a'n sefydliadau partner am eu gwaith parhaol i amddiffyn a thawelu meddwl ein preswylwyr. Mae gennym ni 1,506 o swyddogion yng Ngwent yn awr, sy'n 359 yn fwy na phan gefais fy ethol gyntaf yn 2016. Mae plismona'n yrfa gyffrous, gyda chyfleoedd ardderchog a siawns i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau a wasanaethir. Rwyf yn gweld tystiolaeth o hyn bob dydd. Rwyf wrth fy modd i groesawu'r swyddogion newydd yma i'r teulu plismona ac rwyf yn siŵr y bydd eu hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus yn gwneud argraff yn lleol. Fodd bynnag, rhaid i mi bwysleisio na fydd recriwtio yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw. Mae angen buddsoddiad cyson a chynaliadwy gan Lywodraeth y DU; nid yn unig mewn plismona, ond yn y system cyfiawnder troseddol ehangach hefyd. Dim ond trwy agwedd gyfannol tuag at fuddsoddi yn y system gyfan y byddwn yn gallu ysgogi'r newid rydym yn ei geisio.

Jeff Cuthbert
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Cadw cymdogaethau'n ddiogel

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2021/22 a 2022/23)

  • Lleihau troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus (Sefydlog) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (Lleihau), a nifer y bobl sy'n cyflawni'r gweithredoedd hyn yn fynych (Sefydlog).
  • Lleihau nifer y troseddau meddiangar a throseddwyr mynych (Sefydlog).
  • Gwella diogelwch ffyrdd trwy Went gyfan (Llai o farwolaethau neu anafiadau difrifol).
  • Comisiynu a buddsoddi mewn ymgyrchoedd atal trosedd effeithiol.

    Beth rydym ni wedi ei wneud
  • Cefnogi adolygiad o ddiogelwch cymunedol Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Gwent, adolygiad cenedlaethol y Swyddfa Gartref o bartneriaethau diogelwch cymunedol, a lansiad Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
  • Rhoi grantiau o £1,396,070 i brosiectau diogelwch cymunedol, y gwnaeth £489,000 helpu i sicrhau cydweithio mwy gwybodus ac effeithiol trwy ariannu partneriaethau diogelwch cymunedol, dadansoddwr Gwent Fwy Diogel, a'r pum gwasanaeth troseddau ieuenctid.
  • Gwaith ail-gomisiynu helaeth ar Ddull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod a Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd De Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a Llywodraeth Cymru.
  • Cafwyd 194 atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 a 278 atgyfeiriad i Ddull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod o Went. Canfuwyd bod 90% o'r defnyddwyr gwasanaeth a ymgysylltodd â'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 a 81% o ddefnyddwyr gwasanaeth a ymgysylltodd â Dull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod wedi gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at gyflawni o leiaf un o'u canlyniadau allweddol.
  • Mae canfyddiadau dechreuol (ers i'r cynlluniau gael eu lansio) yn dangos nad oedd 72% o ddefnyddwyr a atgyfeiriwyd i'r gwasanaeth 18-25 a 88% o'r rhai a atgyfeiriwyd i Ddull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod wedi aildroseddu o fewn naw mis i ddiwedd y gefnogaeth.
  • Sicrhau cyllid o £746,000 o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn y gymdogaeth.
  • Cyfrannodd cyllid Strydoedd Saffach at raglenni gwaith ieuenctid, yn ogystal â:

    - 9,000 o becynnau marcio eiddo a phecynnau atal trosedd;
    - Systemau goleuadau 'machlud tan y wawr' ar gyfer 500 o gartrefi;
    - Prosiect mentora ar gyfer pobl ifanc yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lefel isel o weithgarwch troseddol; a
    - Chamerâu CCTV y gellir eu hadleoli, i'w defnyddio mewn ardaloedd problemus.
  • Cynhaliodd Dyfodol Cadarnhaol, rhaglen cynhwysiant cymdeithasol sy'n defnyddio chwaraeon i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol, 842 o sesiynau dargyfeirio wedi'u trefnu ledled Gwent.
  • Cynhaliwyd 81 sesiwn Dyfodol Cadarnhaol ymatebol i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol:
  • Daeth 4,196 o bobl ifanc i'r sesiynau;
  • Nododd 91% bod eu hiechyd a lles wedi gwella;
  • Nododd 54% bod eu sgiliau bywyd wedi gwella; a
  • Nododd 22% eu bod yn ymgysylltu mwy gydag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Cyfrannu £867,279 at Wasanaeth Cyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau Ac Alcohol Gwent (GDAS), a weithiodd gyda 447 o ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Canran defnyddwyr gwasanaeth GDAS a oedd yn gwneud newidiadau cadarnhaol ym mhob maes canlyniad oedd:

    - Camddefnyddio alcohol – 56%
    - Camddefnyddio sylweddau - £53%
    - Troseddu - 66%
    - Iechyd a lles – 49%
    - Llety – 45%
    - Cyllid – 54%
    - Cydberthnasau – 38%

  • Parhaodd cynllun peilot gwarediadau y tu allan i'r llys, sy'n penderfynu a yw cefnogaeth i fynd i'r afael ag anghenion cymhleth troseddwyr mynych sy'n cyflawni troseddau lefel isel yn gyson yn lleihau eu tebygolrwydd o aildroseddu ac, o ganlyniad, yn lleihau'r galw ar systemau cyfiawnder troseddol, cymdeithasol ac iechyd.
  • Cefnogi ymgyrch gorfodi am wythnos gyda phartneriaid yn targedu masnachwyr twyllodrus.

Brwydro yn erbyn troseddau difrifol

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2021/22 a 2022/23)

  • Lleihau nifer y plant sy'n dioddef ecsbloetiaeth troseddol a rhywiol fwy nac unwaith (Mae data swyddogol yn dangos lleihad, ond rydym ni o'r farn nad yw'r troseddau hyn yn cael eu riportio ddigon).
  • Mwy o darfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol, ac ail-fuddsoddi asedau a atafaelwyd yn y cymunedau lleol (Troseddau cyffuriau - sefydlog, trais difrifol – lleihad, atafaelu asedau - cynnydd).
  • Gwella ymateb cyffredinol y system cyfiawnder troseddol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Trais a throseddau rhywiol difrifol a riportiwyd - lleihad, troseddau domestig - cynnydd, trais yn erbyn menywod a merched - sefydlog, ond mae canlyniadau cyfiawnder troseddol yn parhau yn isel).
  • Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n gweithio gyda phobl sy'n cyflawni troseddau difrifol i atal a lleihau aildroseddu.

    Beth rydym ni wedi ei wneud
  • Yn defnyddio enillion troseddau a atafaelwyd gan droseddwyr, rhoddais £270,493 i 10 sefydliad sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ledled Gwent yn rhan o fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu.
  • Derbyniais bwerau newydd i ddod â phartneriaid ynghyd i benderfynu ar ymateb cyfunol i drais difrifol, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y blynyddoedd nesaf, dan arweiniad fy nhîm. Darparwyd cyllid ychwanegol o £500,000 gan y Swyddfa Gartref i ni fuddsoddi yn y gwaith yma.
  • Yn defnyddio canfyddiadau o astudiaeth a ariannwyd gennym yn 2021/22, gwnaethom ddechrau gweithio i ail-gomisiynu ein gwasanaeth cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol i ddarparu cymorth yn y dyfodol i ddioddefwyr cam-drin a thrais rhywiol.
  • Cyd-gadeirio tasglu VAWDASV Cymru gyfan sy'n dwyn asiantaethau arweiniol Cymru at ei gilydd i herio agweddau ac ymddygiad sy'n cyfrannu at gamdriniaeth.
  • Cyflwyno dau gais llwyddiannus i'r Swyddfa Gartref gan sicrhau £594,058 ar gyfer 2022/23 a £569,058 ar gyfer 2023/24 i gynnal dwy raglen beilot gyda thramgwyddwyr cam-drin domestig yng Ngwent.
  • Gorffen y rhaglen beilot ymyrraeth tramgwyddwyr.
  • Rhoi cartref dros dro i'r Angel Cyllyll a gafodd ei gweld gan dros 640,000 o bobl yn ystod mis Tachwedd a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu gyda mwy na 4,000 o bobl ifanc i gyd-fynd â'r ymweliad.
  • Ymrwymo cyllid pellach i Crimestoppers (£40,851) a St Giles Trust (£123,794) i addysgu, llywio a gweithio gyda phobl ifanc ynghylch peryglon troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan helpu i'w dargyfeirio oddi wrth y troseddau yma.
  • Hybu cyngor gwrth-sgamio trwy gydol y flwyddyn ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn mwy na 76 sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd, gan ymgysylltu â mwy na 11,415 o breswylwyr a busnesau.
  • Parhau i gefnogi man diogel newydd i fenywod sy'n profi, neu mewn perygl o brofi, ecsbloetiaeth a thrais rhywiol.

Rhoi cymorth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2021/22 a 2022/23)

  • Gwella gwasanaethau i ddioddefwyr a sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu cydnabod a’u bod yn derbyn ymateb priodol trwy Connect Gwent a'r Uned Gofal Dioddefwyr (Boddhad gyda'r Uned Gofal Dioddefwyr - 87%.
  • Gwella ein gwaith gyda phartneriaid i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed.
  • Sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad yr heddlu'n fwy amserol (Data'n cael eu datblygu).
  • Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol i gefnogi dioddefwyr trwy'r broses cyfiawnder troseddol gyfan.

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Mae ein canolbwynt ar wasanaethau i ddioddefwyr yn hollbwysig o hyd, gyda'r uned gofal dioddefwyr newydd yn ymdrin â 54,766 o atgyfeiriadau ac yn rhoi cymorth i 29,649 o bobl.
  • Derbyniodd ein gwasanaeth cymorth amldrosedd i oedolion, a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr 1,792 o atgyfeiriadau a derbyniodd ein gwasanaeth plant a phobl ifanc, a ddarperir gan Umbrella Cymru, dros 262 atgyfeiriad.
  • Roedd 69% o bobl a ddaeth i ddiwedd eu cymorth gyda Cymorth i Ddioddefwyr a 77% o blant a phobl ifanc a ddaeth i ddiwedd eu cymorth gydag Umbrella Cymru yn gallu ymdopi a gwrthsefyll yn well ar ôl cael cymorth.
  • Atgyfeiriodd Cymorth i Ddioddefwyr, a dderbyniodd £259,000 ac sydd yn y ganolfan i ddioddefwyr rydym yn ei hariannu, 1,793 o bobl a rhoddodd gymorth i 1,911 o bobl.
  • Gwnaethom roi cyllid i Age Cymru (£18,343), Umbrella Cymru (£74,964) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (£30,785) i ddarparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a chafodd 450 o bobl eu hatgyfeirio a derbyniodd 502 o bobl gymorth yn ystod y flwyddyn rhyngddynt.
  • Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella gwasanaethau, gwnaethom benodi Supporting Justice i gynnal asesiad o anghenion dioddefwyr er mwyn llywio gwasanaethau cymorth y flwyddyn nesaf.
  • Derbyniodd New Pathways £441,549 ar gyfer cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol (ISVA) a gwasanaethau cwnsela, gan ymdrin â 1,196 o atgyfeiriadau.
  • Derbyniodd Cyfannol £152,476 ar gyfer ISVA a gwasanaethau cwnsela, gan ymdrin â 253 atgyfeiriad.
  • Cyd-gynhyrchu a dosbarthu mwy na 600 o daflenni troseddau casineb i helpu pobl ag anableddau i ddeall pryd mae trosedd casineb wedi cael ei chyflawni a sut i'w riportio.
  • Cyd-gynhyrchu sioe deithiol am wythnos ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, gan ymuno mewn partneriaeth â Heddlu Gwent, Connect Gwent, Fearless, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Umbrella Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i ddarparu cyngor, arweiniad, a chefnogaeth i drigolion mewn digwyddiadau ym mhob bwrdeistref yng Ngwent.
  • Arwain gwaith partner rhanbarthol ar ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu VAWDASV gan ganolbwyntio ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Gam-drin Pobl Hŷn a Diwrnod Rhuban Gwyn.
  • Derbyniodd y gwasanaeth cynghorydd annibynnol ar drais domestig (IDVA) 1,595 o atgyfeiriadau a chafodd 4,083 o bobl eu cefnogi yn ystod y flwyddyn.
  • Ar gyfartaledd dywedodd 81% o bobl a ymgysylltodd â'r gwasanaeth IDVA eu bod yn teimlo'n fwy diogel, bod eu hiechyd a lles yn well, neu eu bod yn teimlo'n fwy gwybodus ac yn barod i weithredu oherwydd hynny.
  • Parhaodd y rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, sy'n galluogi ymyrraeth gynnar ac atal yr achosion sydd wrth wraidd problemau, i redeg yng Nghasnewydd:
    - Derbyniwyd 351 Hysbysiad Gwarchod y Cyhoedd;
    - Elwodd 560 o blant a phobl ifanc o 309 o deuluoedd ar y grant; a
    - Gorffennodd 90% o deuluoedd a dderbyniodd gymorth gyda chanlyniad llwyddiannus.

Gwella hyder y gymuned mewn plismona

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2021/22 a 2022/23)

  • Gwella effeithiolrwydd gwaith ymgysylltu swyddogion a staff gyda thrigolion yn eu cymunedau, a hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn Heddlu Gwent. (Hyder wedi gostwng i 64%)
  • Gwella hygyrchedd timau plismona cymdogaeth trwy amrywiaeth o sianelau cysylltu sy'n diwallu anghenion y cyhoedd. (Dim metrigau penodol)
  • Mwy o achosion o bobl o gymunedau sy'n llai tebygol o ymgysylltu â'r heddlu yn riportio troseddau. (Sefydlog)
  • Cynyddu amrywiaeth swyddogion a staff i sicrhau bod ein gwasanaeth heddlu'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. (Codi i 3.9% o swyddogion a 1.9% o staff yn dod o gefndir ethnig leiafrifol yn erbyn 5.8% ym mhoblogaeth ehangach Gwent)

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Gweithio gyda phartneriaid yn Cyfiawnder Troseddol i Gymru i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth pwrpasol a thryloyw a grŵp cynghori annibynnol.
  • Cyd-gynhyrchu a lansio strategaeth plismona sy'n canolbwyntio ar y plentyn Heddlu Gwent, a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod 2022/23 a 2023/24.
  • Yn dilyn sesiynau prawf a gafodd dderbyniad da, dechrau cynnal gweithdai 'mannau diogel' gyda phobl ifanc.
  • Darparu arferion ymgysylltu i fwy na 500 o blant yn Nhorfaen yn ystod yr haf.
  • Cwrdd â disgyblion Roma o Ysgol Gynradd Maendy a Chomisiynydd Plant Cymru i dynnu sylw at broblemau diogelwch cymunedol.
  • Cynnal wyth taith gerdded o gwmpas cymunedau Gwent, mynd i 12 digwyddiad haf a arweiniwyd gan bartneriaid a 76 sesiwn ymwybyddiaeth cyffredinol yn ystod y flwyddyn.
  • Adolygiad dechreuol o berfformiad trwyddedu arfau tanio, gydag adolygiadau'n digwydd bob chwe mis yn y dyfodol.
  • Cynnal tri phanel craffu ar warediadau y tu allan i'r llys a adolygodd 62 achos a ddewiswyd ar hap a gafodd eu datrys gan Heddlu Gwent y tu allan i'r llys. Gwnaeth y panel argymhellion ar bump o achosion y barnodd y dylent fod wedi mynd i'r llys.
  • Cynnal pedwar panel craffu ar gyfreithlondeb a adolygodd hapsampl o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnyddio grym trwy gamerâu corff a data Heddlu Gwent. Gwnaed argymhellion i'r heddlu lle y nodwyd cyfleoedd i wella, neu i gydnabod arfer da gan swyddogion wrth iddynt ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd ar yr adegau hyn.
  • Y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd:
    - Cynhaliwyd 76 ymweliad pan oedd 402 o bobl yn cael eu cadw yn y ddalfa a derbyniodd 271 ohonynt ymweliad.
    - Rhoddwyd sylw i 122 o fân broblemau a godwyd gyda Rhingyll y Ddalfa ar y pryd, a rhoddwyd sylw i saith wedi hynny.
    - Aeth staff Swyddfa'r Comisiynydd i dri sesiwn hyfforddiant y ddalfa i dynnu sylw at bwysigrwydd y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
  • Y Cynllun Lles Anifeiliaid:
    - Enillwyd Tystysgrif Dogs Trust.
    - Cynhaliwyd 11 ymweliad, a chodwyd un mater yn ymwneud â phecynnau cymorth cyntaf cŵn yn rhai o gerbydau'r heddlu.
    - Arsylwodd y gwirfoddolwyr ar dri asesiad hyfforddiant yn ystod y flwyddyn.
  • Hapsamplu ffeiliau cwynion am yr heddlu, gan dynnu sylw at ymholiadau a rhoi adborth i'r adran Safonau Proffesiynol, a arweiniodd at sicrhau bod achwynwyr yn derbyn newyddion am eu cwyn yn fwy rheolaidd ac adolygiad gan yr adran Safonau Proffesiynol o'i brosesau gweinyddol.
  • Ymdrin â 29 cais am adolygiad o gŵynion, y cafodd pedwar ohonynt eu cadarnhau gan arwain at argymhellion i Heddlu Gwent.

Ysgogi plismona cynaliadwy

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2021/22 a 2022/23)

  • Sicrhau bod gan Heddlu Gwent y nifer cywir o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn y llefydd cywir (Cynnydd mewn adnoddau i 1,506 swyddog heddlu cyfwerth ag amser llawn, 857 staff heddlu, 170 swyddog cefnogi cymuned, a 73 cwnstabl gwirfoddol yn gwirfoddoli cyfartaledd o 8,000 o oriau bob tri mis).
  • Cynyddu buddsoddiad mewn technoleg plismona'r 21ain ganrif a'i mabwysiadu er mwyn cwrdd â heriau yfory heddiw.
  • Gwella cymorth iechyd a lles ar gyfer swyddogion a staff i sicrhau bod ein gweithlu'n ffit ac yn barod i gwrdd â heriau plismona (Graddau salwch yn sefydlog).
  • Lleihau effaith amgylcheddol plismona yn unol â thargedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Data'n cael eu datblygu).

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Cynyddu nifer swyddogion Heddlu Gwent i 1,506 - y mwyaf erioed.
  • Cytuno ar gyllideb o £156.4 miliwn i Heddlu Gwent ar gyfer 2023/24 (£8.9 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol).
  • Pennu praesept y dreth gyngor ar 6.82 y cant.
  • Creu cyllideb gyfalaf o £23.9 miliwn ar gyfer 2023/24.
  • Meincnodi costau blynyddol trwy broffiliau gwerth am arian Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
  • Derbyn dyfarniad sicrwydd gan archwilwyr mewnol bod gennym reolwyr a phrosesau rheoli a llywodraethu digonol ac effeithiol.
  • Derbyn datganiad sicrwydd ‘boddhaol ar y cyfan’ gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer y gwasanaethau TG a ddarperir gan SRS.
  • Cyhoeddi fy Natganiad Llywodraethu Blynyddol, sy’n dangos effeithiolrwydd ein llywodraethu.
  • Cwblhau adolygiad o Strategaeth yr Ystâd i'w rhoi ar waith yn 23/24.
  • Agor pencadlys newydd Heddlu Gwent yng Nghwmbrân yn swyddogol.
  • Dechreuodd gwaith adeiladu ar orsaf heddlu newydd £6 miliwn yn Y Fenni i wasanaethu gogledd Sir Fynwy.
  • Cyfrannu £65,000 i Gronfa Gymunedol yr Uchel Siryf i lywio pobl ifanc oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Cynnal pedwar cyfarfod o'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
  • Cynnal pedwar panel craffu ar gyfreithlondeb i adolygu digwyddiadau gyda swyddogion Heddlu Gwent lle defnyddiwyd grym.
  • Cyhoeddi chwe ymateb Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ar MAPPA, effaith Covid-19 ar y system cyfiawnder troseddol, ymateb i dreisio, fforenseg ddigidol, camymddwyn o ran fetio, a chasineb tuag at fenywod yn y gwasanaeth heddlu, a’r adroddiad blynyddol ar gyflwr plismona.
  • Ymateb i 37 cais Rhyddid Gwybodaeth, gan ymateb i 95% o fewn 20 diwrnod gwaith.
  • Ni chafwyd DIM achosion o fynediad diawdurdod at ddata.
  • Derbyniwyd 29 cais am fynediad at ddata gan y testun, yr oedd un yn unig ohonynt yn ymwneud â gwybodaeth a ddelir gan Swyddfa'r Comisiynydd ac ymatebwyd iddo o fewn y cyfnod amser penodedig o un mis.
  • Symud gwaith ymlaen i ddatblygu fframwaith sicrwydd y bwrdd a chynnal pedwar Cydbwyllgor Archwilio.
  • Croesawu lansiad y strategaeth cynaliadwyedd ‘Gwent Wyrddach’ newydd, sy'n ysgogi buddsoddiad mewn fflyd cerbydau trydan newydd, adeiladau mwy effeithlon o ran ynni, dim gwastraff i dirlenwi a mentrau eraill i leihau ein hôl troed carbon.
  • Cadeirio grŵp Plismona yng Nghymru trwy gydol 2022/23.

Edrych i’r dyfodol

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom groesawu cyhoeddiad dogfen Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn rhannu ein barn gyda Llywodraeth Cymru ar y ddogfen a sut bydd cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith.

Croesawodd pedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru'r adroddiad yma, gan fod cyswllt anorfod rhwng gwaith plismona a'r system cyfiawnder troseddol gydag ystod o gyfrifoldebau datganoledig. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi dangos manteision cydweithrediad ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Rydym o'r farn mai datganoli plismona a chyfiawnder troseddol - a chyfiawnder Sifil - yw'r cam rhesymol nesaf ar y llwybr datganoli.

Ni ellir cyflawni plismona na chyfiawnder yn llwyddiannus heb gydweithio; maent yn dibynnu ar lawer o gydweithio, proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth rhwng amrywiaeth o broffesiynau a sefydliadau. Mae angen gweithio trwy lawer o fanylion er mwyn gwireddu'r dyhead yn ymarferol, ond gyda'n gilydd rydym yn ymdrechu i ddarparu plismona a chyfiawnder o'r ansawdd gorau posibl i bobl Cymru.

Mae llawer o newidiadau ar ddod o ran diogelwch cymunedol, yma yng Ngwent a ledled Cymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae'r Swyddfa Gartref yn ymgynghori ynglŷn ag a ddylid cryfhau'r cysylltiadau rhwng comisiynwyr a phartneriaethau Diogelwch Cymunedol, gyda grymoedd newydd posibl i gomisiynwyr o ganlyniad. Disgwylir diwygiadau mwy sylfaenol eto yn 2025. Rydym yn aros i glywed mwy am fanylion y diwygiadau hyn, ond rwyf yn bendant y bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau fod o fudd cadarnhaol i gymunedau Gwent.