Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth

Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, partneriaeth sy’n cynnwys Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, wedi lansio Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Mae’r cynllun yn amlinellu penderfyniad partneriaid i wneud popeth yn eu gallu, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu pob math o hiliaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol.

Datblygwyd y cynllun dros gyfnod o 18 mis, gan weithio’n agos gyda dros 600 o aelodau’r cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Goruchwylir ei gyflawniad gan banel goruchwylio a chynghori annibynnol sy’n cynnwys 12 o aelodau o bob rhan o Gymru.

Darllenwch y cynllun