Llythyr Archwilio Blynyddol

Mae'r datganiadau ariannol yn ffordd hanfodol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent roi cyfrif am eu stiwardiaeth o'r adnoddau sydd ar gael iddynt a'u perfformiad ariannol o ran defnyddio'r adnoddau hynny. Mae Cod Ymarfer Archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi mai cyfrifoldeb y corff sy'n cael ei archwilio yw:

  • rhoi ar waith systemau rheoli mewnol i sicrhau rheoleidd-dra a chyfreithlondeb trafodion;
  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol; a
  • pharatoi datganiadau ariannol yn unol â gofynion perthnasol

Mae'n ofynnol i'r archwilydd a benodwyd archwilio'r datganiadau ariannol a chyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys barn ar ba un a yw'r datganiadau ariannol yn rhoi darlun 'gwirioneddol a theg' o sefyllfa materion y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. Mae adroddiad yr archwilydd hefyd yn mynegi barn o ran a yw'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi'n gywir yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau neu reoliadau perthnasol, a safonau cyfrifyddu perthnasol.

Llythyr Archwilio Blynyddol 2022/23:


Llythyr Archwilio Blynyddol 2021/22

Llythyr Archwilio Blynyddol 2020/21

Llythyr Archwilio Blynyddol 2019/20

Llythyr Archwilio Blynyddol 2018/19

Llythyr Archwilio Blynyddol 2017/18

Llythyr Archwilio Blynyddol 2016/17

Llythyr Archwilio Blynyddol 2015/16

Llythyr Archwilio Blynyddol 2014/15