Fy Nghyfrifoldebau

Mae'r Comisiynydd yn gyfrifol am gynrychioli pobl Gwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu yn effeithlon ac yn effeithiol. Gwneir hyn drwy:

  • ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu gwasanaeth plismona lleol
  • pennu a diweddaru cynllun yr heddlu a throseddu
  • pennu cyllideb a phraesept yr heddlu
  • ymgysylltu â'r cyhoedd a chymunedau'n rheolaidd
  • penodi ac, os bydd angen, diswyddo'r Prif Gwnstabl

Mae gan y Comisiynydd nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau penodol:

Pennu cyfarwyddyd strategol ac atebolrwyddplismona:

  • bod yn atebol i bobl Gwent
  • pennu blaenoriaethau plismona strategol
  • dwyn yr heddlu i gyfrif drwy'r Prif Gwnstabl
  • ymgysylltu â'r cyhoedd a'u cynnwys

Gweithio gyda phartneriaid i atal a mynd i'r afael â throseddau ac aildroseddu:

  • sicrhau bod yr heddlu yn ymateb yn effeithiol i bryderon y cyhoedd a bygythiadau i
  • ddiogelwch cymunedol
  • hyrwyddo a galluogi cydweithio ar gyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol
  • gwella hyder y cyhoedd yn sut y caiff nifer y troseddau ei leihau a sut y darperir y gwasanaeth plismona

Galw ar farn y cyhoedd, y bobl fregus a'r dioddefwyr:

  • sicrhau y gweithredir ar flaenoriaethau’r cyhoedd, yr ymgynghorir â dioddefwyr ac na chaiff yr unigolion mwyaf bregus eu hanwybyddu
  • cydymffurfio â'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb

Cyfrannu at sicrhau ymateb yr heddlu i fygythiadau rhanbarthol a chenedlaethol:

  • sicrhau cyfraniad effeithiol yr heddlu, gyda phartneriaid eraill, at drefniadau diogelwch y cyhoedd yn genedlaethol o fygythiadau trawsffiniol eraill yn unol â'r Gofyniad Plismona Strategol

Sicrhau gwerth am arian:

  • yn gyfrifol am bennu'r gyllideb, gan gynnwys cydran praesept yr heddlu o dreth y cyngor a dosbarthu grantiau plismona o'r llywodraeth ganolog.

Y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am blismona gweithredol a swyddogion a staff Heddlu Gwent.