Taith gwrth-drais genedlaethol yr Angel Cyllid

Mae'r Angel Cyllyll, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Gofeb Genedlaethol yn Erbyn Trais ac Ymosodiad, yn dod i Went ym mis Tachwedd yn rhan o'i daith ledled y DU. Bydd yn cael ei osod yng nghanolfan siopa Friars Walk yng Nghasnewydd o ddydd Mercher yr 2il tan ddydd Mercher y 30ain o Dachwedd.

Beth yw'r Angel Cyllyll?

Comisiynwyd yr Angel Cyllyll gan y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig yng Nghroesoswallt ac fe'i crëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley. Cafodd ei ddylunio i greu newid cymdeithasol, helpu i godi ymwybyddiaeth o'r dinistr mae ymddygiad treisgar yn gallu ei greu mewn cymunedau, a gweithredu fel cofeb i bobl sydd wedi colli eu bywydau trwy drais.

Ffeithiau a ffigyrau:
• Mae'r Angel Cyllyll dros 27 troedfedd o uchder.
• Mae wedi'i wneud o dros 100,000 o gyllyll wedi eu hildio mewn amnestau ledled y DU.
• Mae negeseuon o obaith gan deuluoedd dioddefwyr wedi cael eu hysgythru ar adenydd yr Angel.
• Ers dechrau ar ei daith yn 2018, mae'r Angel Cyllyll wedi ymweld â 27 o drefi a dinasoedd ledled y DU.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Angel Cyllyll ar gael ar wefan y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig.

Yr Angel Cyllyll yng Ngwent

Trwy gydol ymweliad yr Angel Cyllyll byddwn yn gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Fearless, Ymddiriedolaeth St Giles a StreetDoctors i ddarparu gweithdai am beryglon trais ac ymosodiad i bobl ifanc yng Ngwent.

Rydym yn annog trigolion i gymryd lluniau o'r Angel Cyllyll a'u rhannu nhw gan ddefnyddio'r hashnod #AngelCyllyllGwent

Dyluniwch sticer gwrth-trais

Yn rhan o ymweliad yr Angel Cyllyll rydyn ni eisiau i blant ein helpu ni i ddylunio sticer y gall pobl ei wisgo i ddangos eu cefnogaeth sy’n dweud 'dwed na wrth drais'.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:
Lawrlwytho'r templed.
• Meddyliwch am yr hyn sy'n gwneud ymddygiad treisgar, a pham rydych eisiau rhoi terfyn arno.
• Dyluniwch a lliwiwch eich sticer.
• Llenwch y manylion ar gefn y templed hwn ac anfonwch eich dyluniad atom ni erbyn dydd Llun 1af Rhagfyr.

Bydd y tri dyluniad gorau yn derbyn taleb a bydd yr enillydd yn cael ei sticeri wedi eu dylunio a'u hargraffu. Byddant yn cael eu gwisgo gan gannoedd o blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau dros y flwyddyn nesaf.

Chwiliwch am gymorth

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Heddlu Gwent
Gallwch riportio troseddau neu roi gwybodaeth i Heddlu Gwent fel a ganlyn:
Gwefan: Heddlu Gwent
Ffôn: 101

Fel arall gallwch riportio problemau ar dudalennau Facebook a Twitter Heddlu Gwent.

Fearless
Mae Fearless yn rhan o'r elusen Crimestoppers ac mae'n caniatáu i bobl ifanc geisio gwybodaeth a chyngor, a riportio trosedd yn ddienw.
Gwefan: Fearless
Ffôn: 0800 555 111

Connect Gwent
Connect Gwent yw gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr Heddlu Gwent. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu dioddefwyr trosedd i fynd at y gwasanaethau cymorth gorau ar gyfer eu hanghenion.
Gwefan: Connect Gwent
E-bost: connectgwent@gwent.police.uk 
Ffôn: 0300 1232133