Contractau a Gwahoddiadau i Dendro

Mae dyletswydd ar y Comisiynydd i gyhoeddi manylion pob contract ynghyd â chopi o bob gwahoddiad i dendro a gyhoeddir.

Mae system In-Tend yn rhoi rhestr o gontractau cyfredol i awdurdodau contractio sy'n aelodau, cyhyd â bod y sefydliad yn cynnal y gronfa ddata. Mae Heddlu Gwent yn defnyddio'r system i gyhoeddi copïau o gontractau ffurfiol.

  1. I fynd at y wybodaeth, ewch i In-Tend, dewiswch ‘Contracts’ ar y ddewislen.
  2. Dewiswch ‘Current’.
  3. Defnyddiwch ‘Filter’ i ddewis enw'r sefydliad e.e. Heddlu Gwent.
  4. Pwyswch ‘Search’.

Mae gwaith caffael Heddlu Gwent yn cael ei gynnal yn electronig ac mae gwybodaeth sy'n ymwneud â gwahoddiadau i dendro yn cael ei chadw yn offeryn e-tender etendercymru. Pan fyddwn yn hysbysebu ein cyfleoedd i dendro, darperir dolen i'r dogfennau Gwahoddiad i Dendro.

Ar gyfer caffael lle nad oes contract ffurfiol ar waith, ceisir gwerth am arian, yn aml trwy ddyfynbrisiau cystadleuol, a chodir archebion prynu yn defnyddio'r telerau ac amodau atodedig.

Hysbysebu cyfleoedd i dendro

Mae Heddlu Gwent yn defnyddio nifer o ddulliau i gyhoeddi cyfleoedd busnes, yn dibynnu ar natur a gwerth y cyfle:

GwerthwchiGymru – menter gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu busnesau bach a chanolog a chyflenwyr eraill i weithio'n llwyddiannus gyda chleientiaid sector cyhoeddus. Ar ôl cofrestru, mae cyflenwyr yn gallu gweld cyfleoedd i dendro, hyrwyddo eu sefydliad, cysylltu â sefydliadau sector cyhoeddus cofrestredig a cheisio cyngor.

Find a Tender – mae'r gwasanaeth yma'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob cyfle tendro sy'n uwch na'r trothwy presennol (gynt yn cael ei adnabod fel OJEU).

Contracts Finder – rhoi gwybodaeth gyfredol am dendrau a chontractau sector cyhoeddus yn y DU.

Mae mwy o wybodaeth yn y canllaw: Sut i wneud busnes gyda Heddlu Gwent.

Gwahoddiadau i Dendro

Gellir gweld cyfleoedd i dendro ar gyfer Heddlu Gwent ar wefan GwerthwchiGymru. Mae hon yn system ddynamig sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chyfleoedd i dendro. Gall sefydliadau gofrestru eu meysydd diddordeb penodol a chael hysbysiad e-bost am gyfleoedd i dendro newydd, gan gynnwys rhai oddi wrth y gwasanaethau brys.

I weld pob gwahoddiad i dendro blaenorol, dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol:

  1. Ewch i wefan GwerthwchiGymru
  2. Ar y dudalen chwilio manylach cliciwch ar y blwch 'Enw'r Awdurdod' a rhowch 'Police and Crime Commissioner for Gwent'.
  3. Ar waelod y dudalen chwilio ticiwch y blwch i gynnwys hysbysiadau sydd wedi darfod.
  4. Cliciwch 'Chwilio'
  5. Dylai pob cyfle i dendro cyfredol a chyfleoedd sydd wedi darfod ymddangos.

Ble y bo'n bosibl, ar ôl dyfarniad, mae copïau o wahoddiadau i dendro ar gyfer contractau y mae disgwyl iddynt fod yn uwch na £12,500 ar gael ar system In-Tend.Yr adran Gwasanaethau Masnachu a Chaffael ar y Cyd sy'n gyfrifol am reoli gweithgarwch tendro a chontractau ar gyfer y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl.

Contractau sydd wedi'u dyfarnu

Mae pob contract ffurfiol sy'n cael ei ddyfarnu ar y system In-Tend.

I fynd at yr holl gontractau, dilynwch y cyfarwyddiadau yma:

  1. Ewch i In-Tend a dewiswch 'Contracts' ar y ddewislen.
  2.  Dewiswch 'Show All'.
  3. Defnyddiwch 'Filter' i ddewis enw'r sefydliad e.e. Heddlu Gwent.
  4. Pwyswch 'Search'