Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent

Mae Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent yn archwilio gweithrediadau a phenderfyniadau'r Comisiynydd. Mae'r Panel yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i chi fel y gallwch asesu p'un a yw'n dwyn y Comisiynydd i gyfrif.

Mae'r Panel yn cefnogi ac yn herio'r Comisiynydd pan fydd yn cyflawni ei swyddogaethau.

Mae'n canolbwyntio ar weithrediadau a phenderfyniadau strategol pwysig a wneir gan y Comisiynydd, gan gynnwys p'un a yw wedi:

  • cyflawni'r nodau yn ei Gynllun yr Heddlu a Throseddu a'r adroddiad blynyddol;
  • ystyried blaenoriaethau'r partneriaid diogelwch cymunedol;
  • ymgynghori'n briodol â'r cyhoedd a dioddefwyr trosedd.

Pwerau'r panel

Mae gan y Panel amrywiaeth o bwerau i'w helpu i gyflawni ei swyddogaeth a chyfrifoldebau penodol yn ymwneud â Chynllun yr Heddlu a Throseddu a'r adroddiad blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • llunio adroddiadau ac argymhellion ar y ddwy ddogfen hyn, y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu hystyried ac ymateb iddynt
  • cyhoeddi pob adroddiad ac argymhelliad a wneir ganddo
  • cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yr adroddiad blynyddol a chwestiynu'r Comisiynydd.

Gall y Panel hefyd lunio adroddiadau neu argymhellion ynghylch y cynion gan y Comisiynydd, ar:

  • lefel y praesept (tâl y dreth gyngor i'r heddlu);
  • penodi prif gwnstabl.

Aelodau'r panel

I gael rhagor o wybodaeth am Banel yr Heddlu a Throseddu Gwent, ei aelodau, ei gyfarfodydd a'i fusnes, ewch i wefan Panel yr Heddlu a Throseddu.


Gwybodaeth am Gwynion

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am nifer y cwynion a/neu faterion ynghylch ymddygiad a ddaethpwyd i sylw'r Comisiynydd drwy banel yr heddlu a throseddu.

Caiff y wybodaeth ei diweddaru ar ddechrau pob blwyddyn ariannol fel safon ofynnol.

Sut i gwyno am y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd