Cynlluniau Gwirfoddoli
Cynllun Lles Anifeiliaid
Fel rhan o'r Cynllun Lles Anifeiliaid mae gwirfoddolwyr yn cynnal gwiriadau annibynnol er mwyn arsylwi a chofnodi ar yr amodau lle mae cŵn yr heddlu yn byw, yn cael eu hyfforddi ac yn cael eu cludo.
Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
Gwirfoddolwyr yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd sy'n mynd i mewn i ddalfeydd yr heddlu i wirio lles y carcharorion a'u cyfleusterau.
Cyfleoedd i wirfoddoli gyda Heddlu Gwent
Mae'r Comisiynydd yn cefnogi nifer o gyfleoedd gwirfoddoli sy'n cael eu rhedeg gan Heddlu Gwent hefyd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Heddlu Gwent.