Monitro'r Cynllun Lles Anifeiliaid

 

Pwy yw'r Ymwelwyr Lles Anifeiliaid?

Aelodau o'r gymuned leol a sefydliadau perthnasol yw'r Ymwelwyr Lles Anifeiliaid sy'n ymweld, arsylwi a chofnodi ar yr amodau lle mae cŵn yr heddlu yn byw, yn cael eu hyfforddi ac yn cael eu cludo.


Pam fod Cynllun Lles Anifeiliaid yng Ngwent?

Arweiniodd marwolaeth ci'r heddlu yn Essex a'r erlyniad dilynol o swyddogion yr heddlu at golled ddealladwy o hyder y cyhoedd mewn dulliau hyfforddi cŵn yr heddlu.

Mewn ymateb i'r materion hyn cyflwynwyd cynlluniau Ymwelwyr Lles Anifeiliaid.

Mae Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cael ei sefydlu mewn ymgynghoriad â Phrif Gwnstabl Gwent a'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).

Staff y Comisiynydd sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun ac, mewn ymgynghoriad â'r Prif Gwnstabl, ganddyn nhw mae'r cyfrifoldeb pennaf am bob mater sy'n ymwneud â'r cynllun.

Llawlyfr y Cynllun Lles Anifeiliaid

Tystysgrif ymddiriedolaeth cwn


Monitro'r Cynllun Lles Anifeiliaid

Caiff cofnodion pob cyfarfod eu cyhoeddi yn unol â chyfrifoldebau monitro'r Comisiynydd.