Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd

Pwy yw'r Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd?

Aelodau'r cyhoedd o'ch ardal leol yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd sy'n cynnal ymweliadau dirybudd â dalfeydd i wirio triniaeth carcharorion a'u cyfleusterau a sicrhau bod eu hawliau'n cael eu parchu.


Beth sy'n digwydd yn ystod ymweliad?

Gall ymweliadau â dalfa gymryd rhwng hanner awr ac ychydig o oriau ac fe'u cynhelir unwaith yr wythnos. Mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn ymweld mewn parau a nhw eu hunain sy'n penderfynu pryd bydd ymweliad yn cael ei gynnal – bore, prynhawn neu nos.

Pan fyddant yn cyrraedd gorsaf heddlu, mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn cael mynd i mewn ar unwaith a chânt eu hebrwng yn syth i'r ddalfa. Mae carcharorion yn cael eu hadnabod yn ôl eu rhif dalfa yn unig ac mae rheolau cyfrinachedd llym ar waith.

Mae sgyrsiau â charcharorion yn canolbwyntio ar eu hawliau ac a yw eu hawliau wedi cael eu parchu dan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol. Fel arfer, er mwyn diogelwch yr ymwelwyr annibynnol â dalfeydd, mae cyfweliadau â charcharorion yn cael eu cynnal o fewn golwg, ond allan o glyw'r swyddog sy’n hebrwng. Bydd yr ymwelwyr annibynnol yn lleisio unrhyw achos pryder gyda swyddog y ddalfa ar adeg yr ymweliad a chaiff unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol eu cymryd.

Mae ffurflen adroddiad yn cael ei llenwi ar ôl pob ymweliad sy'n rhoi cipolwg ar y ffordd roedd y ddalfa'n cael ei rhedeg ar adeg yr ymweliad. Darperir copïau o'r adroddiadau i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent at ddibenion monitro.

Polisi Dial

Mae cyfrifoldeb ar Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (Swyddfa’r Comisiynydd) i sicrhau bod pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa’n gallu siarad yn agored gydag ymwelwyr annibynnol â dalfeydd heb ofni dial gan yr heddlu. Mae hyn yn rhan o’i chyfrifoldebau o dan y Protocol Dewisol ar gyfer Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Poenydio (OPCAT). Cytundeb hawliau dynol rhyngwladol yw OPCAT sydd wedi ei lunio gyda’r nod o gryfhau amddiffyniad i bobl sydd wedi’u hamddifadu o’u rhyddid. Cliciwch yma i ddarllen ein polisi dial

 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ewch at wefan Y Gymdeithas Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd.


Llawlyfr y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd


Monitro'r Cynllun Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd

Cyhoeddir cofnodion a diweddariadau blynyddol pob cyfarfod yn unol â chyfrifoldebau monitro'r Comisiynydd.

 

Gwybodaeth bellach

Adroddiadau arolygu HMICFRS