Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yw Mr Jeff Cuthbert, BSc, MCIPD.

Bywgraffiad

Etholwyd Jeff Cuthbert yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent dydd Sul 8 Mai 2016 ar ôl iddo roi'r gorau i fod yn Aelod Cynulliad dros Gaerffili. Cafodd ei ail ethol i wasanaethu am ail dymor ddydd Sul 9 Mai 2021.

Ganed Jeff yn Glasgow a symudodd i Gaerdydd pan oedd yn ifanc ac astudiodd beirianneg mwyngloddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel peiriannydd, aeth Jeff yn ei flaen i weithio yn y maes addysg, yn gweithio gyda Chydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac yn gwasanaethu ar fyrddau nifer o sefydliadau addysgol gan gynnwys Prifysgol Caerdydd a'r Coleg yn Ystrad Mynach.

Cafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2003 fel Dirprwy Weinidog Sgiliau (2011-2013 ac ychwanegwyd y brîff Technoleg yn 2013) ac yna yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (2013-2014), ac roedd yn y swydd hon pan gyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae Jeff wedi cadeirio Pwyllgor y Cynulliad ar Safonau Ymddygiad a bu'n aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Amlinellir ei flaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throseddu Gwent


Cyflog
£73,302 y flwyddyn


Cysylltu â'ch Comisiynydd Heddlu a Throsedd


Llw yn Rhinwedd Swydd y Comisiynydd  


Mae'r Comisiynydd wedi llofnodi Rhestr Wirio Foesegol a ddarparwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn ei adroddiad 'Tone from the top - leadership, ethics and accountability'. Mae'r rhestr wirio yn darparu gwybodaeth am y dull moesegol y bydd y Comisiynydd yn ei fabwysiadu i hyrwyddo, cefnogi a chynnal safonau uchel tra bydd yn y swydd.


Hysbysiad o Fuddiannau Datgeladwy


Y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch


Treuliau a Gwariant