Cwynion - Golwg Gyffredinol

Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cymryd cwynion o ddifrif ac rydym am sicrhau bod y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i gymunedau yn broffesiynol, yn effeithiol ac yn effeithlon.

Rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fydd pobl yn teimlo'n anfodlon ar y gwasanaeth maen nhw wedi ei dderbyn. Gall hyn fod o ganlyniad i ddigwyddiad penodol y maen nhw wedi ymwneud ag ef, penderfyniad polisi ynghylch plismona eu cymdogaeth neu ymddygiad unigolyn penodol sy'n gyflogedig gan yr heddlu neu'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae pedwar prif gorff yn ymwneud â chwynion am blismona a'r heddlu:

• eich Comisiynydd;
• Panel yr Heddlu a Throsedd;
• y Prif Gwnstabl; a
• Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Bydd pa un o'r cyrff hyn sy’n briodol i ymdrin â chwyn am blismona neu'r heddlu yn dibynnu'n gyffredinol ar yr hyn y mae'r gŵyn yn ei chylch, ei natur a'i difrifoldeb.

I weld sut rydym yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Hygyrchedd

Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch chi i'ch helpu chi drwy'r system cwynion, rhowch wybod i ni. Er enghraifft, os oes gennych chi nam ar y golwg, efallai y byddwch eisiau i ni ddarparu ymatebion ysgrifenedig mewn testun mwy o faint. Os hoffech chi gysylltu â ni yn Saesneg, rhowch wybod i ni. Dyma ein manylion cyswllt:
Ffôn: 01633 642200 (Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg)
E-bost: commissioner@gwent.police.uk