Sut I ofyn am adolygiad o gŵyn y mae Heddlu Gwent wedi ymdrin â hi

Rhaid i Heddlu Gwent fod wedi ymdrin â phob cwyn a gyflwynir yn erbyn swyddog heddlu neu staff heddlu cyn y gellir cyflwyno'r gŵyn ar gyfer adolygiad gan Swyddfa'r Comisiynydd. Bydd manylion ynghylch pa awdurdod yw'r un priodol i ystyried adolygiad o'ch cwyn yn cael eu cynnwys yn eich llythyr canlyniad.  Mae gennych chi 28 diwrnod o ddyddiad eich llythyr canlyniad i wneud cais am adolygiad.

Os oes gennych chi gŵyn mewn perthynas â'r Prif Gwnstabl, llenwch y ffurflen briodol a'i hanfon at y Comisiynydd trwy:

E-bost: commissioner@gwent.pnn.police.uk

Yn ysgrifenedig at:

Y Prif Weithredwr
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Pencadlys yr Heddlu
Llantarnam Park Way
Llantarnam
Cwmbran
Torfaen
NP44 3FW

Sylwer:Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig.

Mae gwybodaeth fanwl ynghylch pa ddata personol bydd yn cael eu rhannu gyda'n darparwr gwasanaeth allanol yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Pan fydd Swyddfa'r Comisiynydd wedi adolygu eich cwyn, ni fydd unrhyw hawl i adolygiad pellach. Os nad ydych yn credu bod yr adolygiad wedi cael ei gynnal yn unol â'r gyfraith, gallech ystyried adolygiad barnwrolNi fydd adolygiad barnwrol yn gwrthdroi canlyniad eich adolygiad.