Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhoi hwb i'r gefnogaeth i bobl ifanc yng Nghwm Aber
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, yn parhau â'i chefnogaeth i bobl ifanc yng Nghwm Aber.
Mae'r Comisiynydd Mudd wedi dyrannu cyllid o'i Chronfa Gymunedol i alluogi Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd (SYDIC) i barhau i gynnal sesiynau galw heibio wythnosol i bobl ifanc.
Gall pobl ifanc sy'n mynd i’r sesiynau galw heibio fanteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys TG a Wi-Fi, chwarae gemau cyfrifiadur, gweithdai celfyddydol a chreadigol, sesiynau coginio, gweithgareddau corfforol a chymorth iechyd meddwl. Bydd y cyllid hefyd yn caniatáu i weithwyr ieuenctid ddarparu gweithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol a hyfforddiant ar faterion gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, diogelwch ar-lein ac ymddygiad cymryd risgiau.
Mae mwy na 100 o bobl ifanc wedi defnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd yn 2026 hyd yn hyn.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Rwy'n falch o barhau i gefnogi'r tîm yng Nghanolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd i gynnig darpariaeth ieuenctid mawr ei angen mewn ardal lle mae yna gefnogaeth gyfyngedig i bobl ifanc.
"Yn gynharach eleni, gadawodd llofruddiaeth erchyll yn Abertridwr lawer o bobl ifanc yn chwilio am le diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt i siarad â nhw. O ganlyniad, gwelodd y ganolfan y nifer a oedd yn bresennol yn cynyddu. Mae'n galonogol gweld pobl ifanc yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac yn teimlo'n hyderus wrth gael cymorth gan staff.
"Trwy gefnogi cymunedau i ddarparu'r gwasanaethau maen nhw'n gwybod bod yr angen mwyaf amdanynt yn lleol, rydyn ni’n helpu i greu amgylcheddau mwy diogel i bobl ifanc gan hefyd leihau'r galw am wasanaethau cyhoeddus rheng flaen."
Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.
Dywedodd yr uwch-weithiwr ieuenctid Matthew Thorne: "Mae angen cymorth gyda lles emosiynol, perthnasoedd, rheoli gwrthdaro a datblygu grwpiau cyfeillgarwch cadarnhaol ar lawer o bobl ifanc sy’n dod aton ni. Rydyn ni’n darparu lle diogel, gweithgareddau ystyrlon, a chyfleoedd i gefnogi addysg a chyflogaeth.
"Mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol mewn ardal wledig fel Cwm Aber, a hoffem ddiolch i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd am ei chefnogaeth barhaus."