Prosiect baner gymunedol Rhuban Gwyn

15fed Hydref 2026

Ymunwch â'r arlunydd proffesiynol Emma Bevan a helpwch i greu baner gymunedol i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn rhan o’n hymgyrch byd-eang i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae'n digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn.

Mae'r sesiynau am ddim a bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu darparu. Mae croeso i chi ddod â'ch cit gwnïo eich hun ac unrhyw ddarnau o ddefnydd yr hoffech chi eu defnyddio yn eich dyluniad.

Pan fydd wedi ei gorffen, bydd y faner yn cael ei harddangos yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn rhan o'i arddangosfa Rhuban Gwyn a fydd yn parhau am 16 diwrnod.

 Archebwch le yn un o'r sesiynau canlynol:

  • Dydd Mawrth 20 Hydref, 10am–2pm The Wool Croft, 14 Stryd Nevill, Y Fenni NP7 5AD
  • Dydd Gwener 23 Hydref, 10am–2pm EVI, Stryd yr Eglwys, Glynebwy NP23 6BE
  • Dydd Llun 26 Hydref, 1pm-5pm Hyb Magwyr a Gwndy, Prif Ffordd, Cil-y-coed NP26 3GD
  • Dydd Mawrth 27 Hydref, 10am–2pm Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Sgwâr Gwent, Cwmbrân NP44 1XQ
  • Dydd Iau 29 Hydref, 10am–2pm Memo Trecelyn, Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4FH
  • Dydd Llun 2 Tachwedd, 10am–2pm Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Kingsway, Casnewydd NP20 1HG

Archebwch eich lle mewn sesiwn yma.