Disgyblion yn cyfareddu'r Comisiynydd yng nghyfarfod blynyddol yr Uwch-gyngor

14eg Hydref 2026

Yr wythnos hon ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, â dros 90 o blant o ysgolion ledled Casnewydd yn nigwyddiad blynyddol yr Uwch-gyngor.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol De Cymru; Casnewydd – y lle perffaith i ysbrydoli dysgwyr.

Trwy gydol y dydd cymerodd disgyblion ran mewn amrywiaeth o weithdai a oedd yn cynnig cyfle i'r plant ddysgu sgiliau newydd a newid eu canfyddiadau am eu cymunedau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: 'Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ngwahodd i'r digwyddiad. Mae'r Uwch-gyngor yn darparu lle diogel i blant o ysgolion ledled Casnewydd ddod at ei gilydd gyda diben cyffredin sef cael hwyl, cael eu hysbrydoli a dysgu sut i barchu eu cyfoedion a'u cymunedau.

'Roeddwn i'n ffodus i gymryd rhan yng ngweithdy Gwrth-Hiliaeth Cynefin Pamoja. Aeth y sesiwn â dysgwyr ar daith i ddarganfod pwysigrwydd Cynllun Gwrth-Hiliaeth Cymru. Roeddwn i’n falch o weld y disgyblion yn rhyngweithio ac yn gwrando ar sut y gallant wneud gwahaniaeth i’r dyfodol yng Nghymru. Mae'r sesiwn yn amserol gan ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos hon. Ein plant yw'r dyfodol, os gallan nhw gymryd un peth o'r gweithdy a'i rannu gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, rwy'n gwybod y bydd y neges honno'n gwneud gwahaniaeth wrth helpu i chwalu rhwystrau a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.'