Gorchymyn Gwybodaeth Benodedig

Mae Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) yn gosod dyletswydd ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'i swyddfa i gyhoeddi gwybodaeth benodol ar gyfer y cyhoedd ac i adolygu’r wybodaeth honno'n rheolaidd.

Mae'r gofynion yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario, beth yw ein blaenoriaethau, sut rydym yn gwneud penderfyniadau a gwybodaeth am gwynion, polisïau a gweithdrefnau.

Ceir manylion cyhoeddi isod:

Diwygiad 2021

Perfformiad:

Datganiad ar gyfraniad Heddlu Gwent tuag at gyflawni gwelliannau yn erbyn y prif flaenoriaethau cenedlaethol fel y mynegir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. 

  • gan gynnwys eglurhad o ba rai o'r blaenoriaethau cenedlaethol sy'n cael eu hasesu i fod yn berthnasol a pha rai nad ydynt yn berthnasol yng nghyd-destun yr ardal blismona berthnasol a'r rhesymau dros yr asesiad hwnnw.

Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (yr Arolygiaeth):

Adroddiad arolwg PEEL mwyaf diweddar - 2021/22

Asesiad crynodol o berfformiad Heddlu Gwent o'r arolwg PEEL:

Eithriadol: n/a
Da: Atal trosedd. Rheoli troseddwyr.
Digonol: Trin y cyhoedd. Datblygu gweithle cadarnhaol.
Angen gwella: Ymchwilio i drosedd. Diogelu pobl agored i niwed.
Annigonol: Ymateb i'r cyhoedd. 

Adroddiad Mesurau Cenedlaethol yr Heddlu a Throseddu 2022 - 23

Cwynion:

Data perfformiad chwarterol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer Heddlu Gwent

Adroddiad Ystadegau Blynyddol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer Heddlu Gwent

Adroddiad a gyhoeddir gan Swyddfa'r Comisiynydd sy'n ymdrin â: (yn cael ei gynhyrchu)

  • sut mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag ymdrin â chwynion am yr heddlu; ac
  • asesiad gan Swyddfa'r Comisiynydd o'i pherfformiad wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu cwynion am yr heddlu.

2022/23
2021/22

2020/21
 

Pwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud: gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau a chontractau.

Enwau a manylion cyswllt Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd

Gwybodaeth am strwythurau mewnol Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnwys siartiau sefydliadol, (gydag enwau uwch staff, os ydynt yn cytuno i hynny), bandiau cyflog a demograffeg yn cynnwys ethnigrwydd, rhywedd ac anabledd (yn ôl cyfran). -

Gwybodaeth am unrhyw drefniadau sydd gan y Comisiynydd i ddefnyddio staff prif swyddog yr heddlu neu awdurdod lleol.

Unrhyw eiddo neu dir sy'n eiddo i'r Comisiynydd neu'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith y Comisiynydd

 

Yr hyn rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario: Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant rhagamcanol a gwirioneddol ac archwiliad ariannol clir er mwyn tryloywder.

Cyllideb Swyddfa'r Comisiynydd, yn cynnwys:

Holl wariant arfaethedig 

Holl ffynonellau refeniw disgwyliedig

Lefelau praesept arfaethedig

Y praesept drafft (sy'n gorfod cael ei ystyried gan Banel yr Heddlu a Throsedd);

Yr ymateb i adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd ar y praesept arfaethedig

 

Manylion pob grant (gan gynnwys grant lleihau trosedd ac anhrefn) a ddyfarnir gan y Comisiynydd, yn cynnwys:

Yr amodau (os oes rhai) sy'n gysylltiedig â'r grant

Derbynnydd y grant

Y rhesymau pam roedd y corff yn ystyried y byddai'r grant yn sicrhau, neu'n cyfrannu at sicrhau lleihad mewn trosedd ac anhrefn yn ardal y corff, ble y bo'n briodol.

Gwybodaeth am unrhyw eitem o wariant dros £500 (ac eithrio ar gyfer grantiau lleihau trosedd ac anhrefn) gan y Comisiynydd neu'r Prif Swyddog, yn cynnwys:

Y derbynnydd

Pwrpas y gwariant

Y rhesymau pam fod y Comisiynydd neu'r Prif Swyddog yn ystyried y byddai gwerth am arian yn cael ei gyflawni (ac eithrio contractau dros £10,000).

 

Lwfansau a Threuliau

Manylion y lwfansau a threuliau sydd wedi cael eu hawlio neu eu gwario gan y Comisiynydd a'r  Dirprwy Gomisiynydd .

Dylai Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a'u Dirprwyon gyhoeddi dadansoddiad o'u treuliau, yn cynnwys:

Enw, ardal y llu, blwyddyn ariannol, mis, dyddiad, rhifau cyfeirnod hawliadau, mathau o dreuliau (e.e. teithio, llety), disgrifiad cryno, manylion, swm a hawliwyd, swm a ad-dalwyd, swm na chafodd ei ad-dalu, a'r rheswm pam na chafodd hawliad ei ad-dalu.

Ar gyfer hawliadau teithio a chynhaliaeth: dyddiad, tarddle, cyrchfan, categori siwrnai, dosbarth teithio, milltiroedd, hyd arhosiad mewn gwesty, categori gwesty

Gwariant y Comisiynydd

Gwariant y Dirprwy Gomisiynydd

Contractau a Gwahoddiadau i Dendro:

Rhestr o gontractau am £10,000 neu lai - yn cynnwys gwerth y contract, enwau'r holl bartïon sy'n rhan o'r contract a'i bwrpas;

Copïau llawn o gontractau dros £10,000;

Copïau o bob gwahoddiad i dendro a gyhoeddir gan y Comisiynydd neu'r Prif Swyddog lle mae'r contract yn fwy na £10,000.

 Cyflogau Uwch:

Cyflogau dros £58,200 yn cynnwys enwau (gyda'r opsiwn i wrthod enw rhag cael ei gyhoeddi), disgrifiad swydd a chyfrifoldebau yn Swyddfa'r Comisiynydd.

Ynglŷn â'r Prif Weithredwr | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)

Ynglŷn â'r Prif Swyddog Cyllid | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)

 

Archwilio:

Cyfrifon wedi'u harchwilio: (yr archwiliad arbenigol o gyfrifon Swyddfa'r Comisiynydd)

  • Barn archwilwyr am gyfrifon archwiliedig y llu a'r Comisiynydd, yn cynnwys unrhyw broblemau sylweddol ac unrhyw sylwadau.
  • Y datganiad cyfrifon blynyddol yn dangos sut mae'r gyllideb wedi cael ei gwario.
  • Adroddiadau Archwilio cyfrifon Swyddfa'r Comisiynydd (gweler Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Lloegr) 20011 a Rheoliadau Cyfrifon ac  Archwilio (Cymru) 2005.

https://www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/publications/statement-of-accounts

https://www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/publications/annual-audit-letter/

 Strategaeth Fuddsoddi:

Strategaeth fuddsoddi'r Comisiynydd (gweler: Deddf Llywodraeth Leol 2003 adran 15).

Lluosrif Tâl:

2019/20

Tâl Prif Swyddog Cyllid - 94,299 
Tâl Canolrifol Staff Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd - 32,796 
Cymhareb Tâl Canolrifol - 2.87 

2020/21

Tâl Prif Swyddog Cyllid - 96,657
Tâl Canolrifol Staff Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd - 34,578
Cymhareb Tâl Canolrifol - 2.80

2021/22

Tâl Prif Swyddog Cyllid – 96,657
Tâl Canolrifol Staff Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd - 34,578
Cymhareb Tâl Canolrifol - 2.80

Adroddiadau Archwilio Ariannol

Rheoliadau Cyllid Mewnol ac Awdurdod Dirprwyedig

Deddf Rheolau Contractau Cyhoeddus 2015:

Rheol 113

Ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio:strategaethau a chynlluniau, dangoswyr perfformiad, archwiliadau, arolygon ac adolygiadau

Cynllun Heddlu a Throseddu (gweler adran 5(10) y Ddeddf)

Adroddiad Blynyddol  (gweler adran 12 (6) y Ddeddf)

Copi o bob cytundeb cydweithio, neu'r ffaith bod cytundeb wedi ei wneud a manylion eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn briodol (gweler adran 23E Deddf yr Heddlu 1996).

Trefniadau Partneriaeth

Ymatebion Arolygon Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi

Adroddiadau a gyflwynwyd i'r Corff Plismona Lleol Etholedig yn dangos darpariaeth gwasanaeth, asesiadau perfformiad, asesiadau gweithredol o’r heddlu

Adroddiadau gan Arolygwyr ac Archwilwyr Allanol

Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb

Apeliadau Sbardun Cymunedol a Dderbyniwyd

 Sut rydym yn gwneud penderfyniadau:prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau - at ddibenion tryloywder

Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau pob cyfarfod cyhoeddus ac ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir gan y Comisiynydd;

Agendau a dogfennau trafod ar gyfer y cyfarfod;

Copïau o'r cofnodion cytunedig, (i sicrhau tryloywder a'r penderfyniadau a wnaed gan y swyddogion etholedig).

Cofnod o bob penderfyniad arwyddocaol a wnaed gan neu ar ran y Comisiynydd o ganlyniad i gyfarfod neu fel arall

Ein polisïau a gweithdrefnau: polisïau ysgrifenedig cyfredol, gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfrifoldebau.

Y polisïau a gweithdrefnau canlynol y mae'n rhaid i'r Comisiynydd lynu wrthynt wrth gyflawni ei swydd:

Cod ymddygiad (os oes un),

Gwneud penderfyniadau (polisi ar),

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion a nifer y cwynion yn erbyn y Comisiynydd a gofnodwyd gan Banel yr Heddlu a Throsedd (fel sy'n ofynnol gan reoliadau).

Gwybodaeth am weithrediad y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd gan gynnwys y broses a pholisïau’r cynllun.

Rheolau Sefydlog, pwerau wedi'u dirprwyo, llywodraethu corfforaethol, cydsyniad neu fframwaith llywodraethu

 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer caffael a threfniadau comisiynu

Cynllun Cydraddoldeb

Cyhoeddiad Blynyddol Datganiad Caethwasiaeth Fodern

 Rheoli cofnodion:

Gwybodaeth rheoli cofnodion polisïau diogelwch, gwybodaeth yn ymwneud â chadw a dileu/archifo dogfennau

Polisïau rhannu data (Safonau gofynnol ar gyfer ymateb i geisiadau am wybodaeth).

Protocol Rhannu Gwybodaeth

Hysbysiadau Preifatrwydd

 

Adnoddau Dynol

Niferoedd staff a gyflogir gan Swyddfa'r Comisiynydd

Data amrywiaeth ar gyfer staff a gyflogir gan Swyddfa'r Comisiynydd, gan gynnwys nifer y menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n anabl.

Chwythu'r chwiban - canllaw clir ar beth i'w wneud os codir pryderon ynghylch ymddygiad y Comisiynydd a/neu staff (gweler adran 43B Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996)

 

Rhestrau a chofrestrau

Cofrestr o unrhyw fuddiannau a all wrthdaro gyda swyddogaeth y Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd, gan gynnwys pob buddiant ariannol a swydd am dâl.

Rhestr o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd, a'u hymatebion (cofnod datgelu).

Rhestr o'r holl roddion a lletygarwch a gynigiwyd i staff Swyddfa'r Comisiynydd, ac a gafodd y rhain eu derbyn neu eu gwrthod.