Dweud Eich Dweud
Eich adborth chi ar faterion megis trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a'ch profiadau chi yn ymdrin â'r heddlu sy'n helpu i lunio'r Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-2025 sy'n llywio gwaith Heddlu Gwent.
I sicrhau fy mod yn gallu clywed am y materion sydd o bwys i chi am blismona, mae fy swyddfa'n cynnal ac yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau i ymgysylltu â'r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.
Trwy ymgysylltu yn effeithiol â'r cyhoedd fy mwriad yw:
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o swydd a dyletswyddau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu;
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r amcanion heddlu a throseddu;
- Annog pobl i leisio barn am blismona yng Ngwent;
- Sefydlu a datblygu cydberthnasau gweithio effeithiol gyda'r cyhoedd, ein partneriaid a rhanddeiliaid; a
- Rhoi adborth ar y materion rydych wedi eu lleisio.
Mae'r holl weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori yn cael eu monitro gan swyddfa'r Comisiynydd bob blwyddyn i weld pa mor effeithiol ydynt. Mae'r ddogfen hon yn nodi sut mae cynllun gweithredu sydd wedi cael ei lunio i gefnogi gofynion y Strategaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu ar y Cyd 2018-2022 yn mynd rhagddo.
Gallwch weld adroddiadau'r blynyddoedd blaenorol trwy chwilio cofrestrau penderfyniad y Comisiynydd.