Y Tîm

Mae'r Comisiynydd yn cael cymorth gan dîm o bobl i sicrhau ei fod yn gallu cyflawni pob agwedd ar ei swydd hyd eithaf ei allu.

Fel Pennaeth Gwasanaethau y Telir Amdanynt, y Prif Weithredwr Siân Curley sy'n gyfrifol am gyflogi a rheoli'r tîm staff yn ogystal â monitro safonau.

Mae'r Prif Swyddog Cyllid, Darren Garwood-Pask, yn cynghori'r Comisiynydd ar bob mater ariannol megis effaith y gyllideb a'r holl benderfyniadau gwario a chomisiynu.

Mae'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid yn atebol i'r Comisiynydd.

Mae strwythur llawn y sefydliad ar gael isod hefyd.

Mae dyletswydd statudol ar y Comisiynydd i gyhoeddi nifer y staff ar y tîm, gan gynnwys cyfran y staff sy'n fenywod a (hyd y gŵyr y Comisiynydd) chyfran y staff sydd o leiafrif ethnig a/neu sydd ag anabledd.

Ar hyn o bryd mae tîm Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnwys y staff canlynol:

Nifer y swyddi yn y strwythur*

17

(Cyfwerth ag amser llawn)

Cyfran y staff sy'n fenywod*

11

Cyfran y staff sy'n aelodau o leiafrif ethnig*

0

Cyfran y staff sydd ag anabledd*

2

*heblaw am y Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd