Y Prif Swyddog Cyllid

Darren Garwood-Pask yw'r Prif Swyddog Cyllid.

Bywgraffiad

Dechreuodd Darren Garwood-Pask ei yrfa ym 1990 gyda'r Swyddfa Gymreig (Llywodraeth Cymru erbyn hyn) a chyflawnodd nifer o swyddogaethau ariannol o fewn yr adran hon o’r Llywodraeth Ganolog, cyn gadael i ymuno ag Ysbyty Athrofaol Cymru ym 1998 fel Uwch Gyfrifydd Cynllunio ac Asesu Costau. Symudodd wedyn at Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) yn 2000 fel Pennaeth Cyfrifyddu Rheoli a daeth yn Brif Gyfrifydd yn 2002. Ymunodd Darren â Heddlu Gwent fel Pennaeth Cyllid yn 2005 a daeth yn Bennaeth Cyllid a Chymorth Busnes yn 2010. Ym mis Mai 2013, daeth yn Brif Swyddog Cyllid y Comisiynydd gan arwain ar gyllid, comisiynu, yr ystâd, fflyd a chaffael.

Mae Darren yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig ac yn aelod o'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Yn ogystal, mae'n is-lywydd Cymdeithas Trysoryddion Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PACCTS) ac ef sy'n arwain PACCTS ar Gwmni TGCh yr Heddlu, Rhwydwaith Pontio'r Gwasanaethau Brys, Grŵp Dyfodol PACCTS ac mae'n goruchwylio Costau TGCh Y Swyddfa Gartref.

O safbwynt rhanbarthol, Darren yw'r arweinydd Cyllid ar gyfer y Rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd ac mae'n aelod gweithredol o Grŵp Cyllid ac Adnoddau Heddlu Cymru.

Ganwyd Darren yng Nghaerdydd ac mae'n byw yno gyda'i wraig, dau fab a merch.


Cyflog
£96,657 y flwyddyn

 


Treuliau a Gwariant