Y Prif Weithredwr

Siân Curley yw'r Prif Weithredwr

Bywgraffiad

Mae Siân Curley wedi bod yn Brif Weithredwr ers mis Ionawr 2016. Siân sy'n gyfrifol am reoli Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (Swyddfa'r Comisiynydd) a'i staff o ddydd i ddydd. Mae hi'n darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd, cyngor a chymorth o safon uchel i'r Comisiynydd, i sicrhau ei fod yn bodloni ei ddyletswyddau statudol, amcanion strategol ac anghenion y cyhoedd. Mae hi'n gyswllt allweddol rhwng Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent hefyd, gan gynnwys y Prif Gwnstabl, yn ogystal ag asiantaethau partner. Fel Prif Weithredwr, Siân yw Pennaeth Gwasanaethau y Telir Amdanynt a'r Swyddog Monitro, sy'n swyddogaethau statudol.

Mae gan Siân radd Meistr mewn Arweinyddiaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus a gradd Baglor mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Astudiaethau Cyfreithiol.

Yn y gorffennol mae Siân wedi gweithio i Awdurdod Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Choleg Prifysgol Cymru Casnewydd (sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru). Mae wedi gweithio ym meysydd llywodraethu corfforaethol, gwasanaethau democrataidd, cwynion a materion ymddygiad, a rheoli newid.

Ar hyn o bryd Siân yw Is-gadeirydd Cymdeithas Prif Weithredwyr Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y corff proffesiynol sy'n cynrychioli prif weithredwyr swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr.


Cyflog
£96,072 y flwyddyn

 


Treuliau a Gwariant