Swyddi Gwag

Rheolwr cyflawni partneriaeth Y Ddyletswydd Trais Difrifol

Cyflwynwyd y Ddyletswydd Trais Difrifol yn 2023 i ddod â phartneriaid at ei gilydd i gymryd agwedd iechyd cyhoeddus tuag at leihau ac atal trais difrifol ledled Cymru a Lloegr.

Bydd y swydd cyfnod penodol 24 mis yn gweithio ar ran yr holl bartneriaid yng Ngwent i sicrhau bod y gofynion newydd yma’n cael eu bodloni. Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddatblygu ymateb y bartneriaeth i drais difrifol, gan gynnwys yr asesiad o anghenion, strategaeth a chynlluniau cyflawni, cefnogi partneriaid i ymgorffori ymyraethau ar gyfer y dyfodol a monitro eu heffeithiolrwydd yn unol â’r strategaeth. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd adrodd i’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Y Swyddfa Gartref, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar lefel strategol mewn amgylchedd partneriaeth cymhleth. Bydd ganddo ef neu hi sgiliau rheoli prosiectau a rhaglenni cadarn, y gallu i weithio’n gyflym, a gwybodaeth gadarn am Y Ddyletswydd Trais Difrifol a sut mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gweithredu. Bydd sgiliau trafod a dylanwadu cadarn yn allweddol.

Dysgwch fwy ac ymgeisiwch