Plismona sy’n Canolbwyntioar Y Plentyn


Datblygwyd y strategaeth blismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn gyda phlant a phobl ifanc o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gwent.

Ei nod yw:    

  • Meithrin cysylltiadau gwell a chwalu rhwystrau rhwng Heddlu Gwent a phlant a phobl ifanc.
  • Atal plant a phobl ifanc rhag cael eu tynnu at droseddu a’r system cyfiawnder troseddol.
  • Gwella canlyniadau cyfiawnder troseddol ar gyfer plant a phobl ifanc.
  • Gwella gwasanaethau i blant sydd wedi dioddef trosedd a’r rhai sy’n dod i gysylltiad â cham-drin domestig.

Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Un o rolau craidd plismona yw amddiffyn y bobl mewn cymdeithas sy’n agored i niwed, ac mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc a all fod yn agored i niwed drwy eu hoedran neu eu hamgylchiadau. Mae Heddlu Gwent yn credu na ddylai’r un plentyn orfod dioddef niwed, trais, camdriniaeth na chamfanteisio.

“Rydyn ni wedi trafod a gwrando ar bobl ifanc sydd wedi cael profiadau gyda’r heddlu er mwyn deall sut gallwn ni wella’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â nhw. Bydd y strategaeth newydd yn ein helpu ni i wreiddio’r hyn ddysgon ni ar draws yr heddlu, gan sicrhau bod diogelwch a lles plant a phobl ifanc yn ganolog i benderfyniadau ar gyfer pob swyddog ac aelod o staff.”

Gweithiodd plant a phobl ifanc gyda Heddlu Gwent a Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i graffu ar y strategaeth cyn iddi gael ei chwblhau.

Maen nhw hefyd wedi helpu i greu posteri sy’n egluro wrth bobl ifanc beth allan nhw ei ddisgwyl gan yr heddlu, a fydd yn cael eu harddangos mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid.

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Rwy’n ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Ngwent yn gallu byw eu bywydau’n ddiogel. Os oes rhaid iddyn nhw ddod i gysylltiad â’r heddlu, boed hynny fel dioddefwr trais neu fel troseddwr, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu trin yn deg, gyda thrugaredd a pharch.

“Mae Heddlu Gwent wedi bod yn cymryd camau pwysig tuag at greu dull plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r strategaeth hon yn ffurfioli’r gwaith hwn, gan roi plant a phobl ifanc wrth wraidd holl benderfyniadau’r dyfodol.”


Fersiwn plant
Fersiwn pobl ifanc