Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Plismona yng Nghymru

Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng Nghymru*, a sefydlwyd yn 2021, yn dod ag asiantaethau arweiniol ynghyd i herio agweddau ac ymddygiad ledled Cymru gan anelu at ailfeithrin ymddiriedaeth menywod y bydd y system blismona bob amser yn eu diogelu ac yn eu parchu.

Caiff y Tasglu ei gadeirio ar y cyd gan Emma Wools (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru) ac Eleri Thomas (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent), gydag Amanda Blakeman (Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent) yn gweithredu fel yr arweinydd gweithredol.

Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant dim goddefgarwch, lle caiff swyddogion a staff yr heddlu sy'n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru eu hannog a'u grymuso i herio agweddau rhywiol, agweddau sy'n dangos casineb at fenywod, agweddau hiliol, agweddau homoffobaidd a phob math o agweddau gwahaniaethol lle bynnag y byddant yn eu gweld neu'n eu clywed.

Ar adeg lle rydym yn gweithio er mwyn meithrin hyder y cyhoedd yng ngallu'r system blismona i fynd i'r afael yn effeithiol â thrais yn erbyn menywod a merched, mae'n hollbwysig ein bod yn craffu'n briodol ar gymeriad y bobl hynny sy'n gweithio i'w diogelu. Bob dydd, mae'r mwyafrif helaeth o swyddogion yn darparu gwasanaeth eithriadol i'r cyhoedd ac ni ddylem ganiatáu i'r lleiafrif effeithio ar ganfyddiadau'r cyhoedd.

Gan gydnabod bod casineb at fenywod yn broblem sy'n berthnasol i bob cymuned, mae'r Tasglu yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill i sicrhau y caiff y neges ei chlywed ledled Cymru. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod y rhan allweddol sydd gennym i'w chwarae wrth ysgogi'r broses o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol newydd i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a rhoi'r strategaeth honno ar waith, ac i gefnogi camau i roi glasbrint ar waith i Gymru.

Mae'r holl ddiweddariadau allweddol mewn perthynas â'r Tasglu i'w gweld isod:

*Grŵp strategol sy'n cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru, yn ogystal ag aelodau allweddol o'u timau eu hunain, yw Plismona yng Nghymru. Mae'n anelu at nodi cyfleoedd i gydweithio a manteisio ar y cyfleoedd hynny, mae'n ceisio gwella'r gwasanaeth a ddarperir i gymunedau ledled Cymru ac mae'n cynnig llwyfan i gynrychioli'r system blismona gyfan yng Nghymru wrth ymgysylltu â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru.