Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cydnabod gwirfoddolwyr Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi diolch i wirfoddolwyr ledled Gwent sy'n rhoi o'u hamser i gefnogi eu cymunedau.
Mae'r Comisiynydd yn uniongyrchol gyfrifol am ddau gynllun gwirfoddoli sy'n cefnogi ei rôl yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif ar ran y cyhoedd.
Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn helpu i sicrhau bod y safonau llym yn nalfeydd Heddlu Gwent yn cael eu bodloni a bod lles y bobl sy'n cael eu dal ynddynt yn cael ei warchod.
Mae Gwirfoddolwyr Lles Anifeiliaid yn ymweld yn rheolaidd â chŵn heddlu Gwent pan fyddant gartref, ar ddyletswydd neu yn aros mewn cytiau cŵn. Eu rôl yw sicrhau bod yr anifeiliaid yn iach, yn cael gofal da a'u bod mewn cyflwr da.
Yn ogystal, mae'r Comisiynydd yn rhoi cyllid i grwpiau cymunedol ledled Gwent sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac i gefnogi dioddefwyr trosedd agored i niwed.
Yn ystod Wythnos Gwirfoddoli, dywedodd y Comisiynydd: “Hoffwn ddiolch o galon i holl wirfoddolwr Gwent am eu hymroddiad, eu gwaith caled a'r cyfraniad amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau.
"Mae pob awr sy'n cael ei rhoi i wirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol, a heb haelioni, ymroddiad ac ymdrech gwirfoddolwyr ledled Gwent, byddai ein cymunedau'n llawer tlotach. Mae eu parodrwydd i roi o'u hamser yn anhunanol yn helpu i gryfhau cysylltiadau yn y gymuned, cefnogi pobl mewn angen, a chreu lle mwy diogel a gwydn i bawb fyw ynddo."