Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
Adroddiad Blynyddol Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg 2020/21

RHAGAIR COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDD GWENT

Rwyf yn falch o gyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg hwn, sy'n dangos y cynnydd a wnaed gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dyma'r adroddiad cyntaf ar gyfer Strategaeth y Gymraeg ar y Cyd 2021-2025 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent. Mae'n canolbwyntio ar y gofynion adrodd a gynhwysir yn Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i mi fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â darparu gwybodaeth ynghylch sut rydym wedi gweithio i gyflawni'r prif addewidion yn y Strategaeth a'n cyflawniadau eraill yn ystod y flwyddyn.

Mae'n hanfodol bod aelodau'r cyhoedd yn gallu mynd at y gwasanaethau a ddarperir gennym o ddydd i ddydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwasanaeth plismona, rydym wedi parhau i groesawu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a gyda'n cymunedau.

Mae cynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r ddau sefydliad. Byddwn yn parhau i gydweithio i adnabod arferion gwell ac arloesol sy'n ein helpu i gyflawni'r amcanion a amlinellir yn y Strategaeth a chydymffurfio gyda’r safonau perthnasol.

Rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am y cynnydd rydym wedi ei wneud eleni ac estynnaf wahoddiad i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y gallwn barhau i wella'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau'n ddwyieithog.

 

Jeff Cuthbert, BSc., MCIPD

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

 

1 CYFLAWNIADAU

 

Ymgysylltu yn Gymraeg

Yn ystod 2020/21, gwnaethom barhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu â'n cymunedau sy'n siarad Cymraeg. Parhawyd i gyhoeddi’r holl gynnwys a gynlluniwyd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, gan ddefnyddio'r testun Cymraeg yn gyntaf lle'r oedd postiadau'n cynnwys Cymraeg a Saesneg. Cafodd pob rhifyn o'r e-fwletin wythnosol i drigolion ei gyhoeddi yn Gymraeg, er bod nifer y tanysgrifwyr yn dal yn isel iawn.

Rhwng Tachwedd 2020 ac Ionawr 2021, gwnaethom lansio ein harolwg 'Lleisiwch eich Barn ar Blismona' a oedd yn cynnwys cwestiwn ar y praesept. Oherwydd effaith COVID-19, nid oeddem yn gallu ymgysylltu â thrigolion fel o’r blaen a gwnaethom ganolbwyntio ar ansawdd y gwaith ymgysylltu yn hytrach na niferoedd. Yn defnyddio ein rhwydweithiau Cymraeg sy’n seiliedig yng Ngwent, gwnaethom annog pobl i gwblhau'r arolwg yn Gymraeg, a derbyniwyd 17 ymateb.

Daeth y gwaith ymgysylltu ar Amcanion Cydraddoldeb ar y Cyd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) a Heddlu Gwent ar gyfer 2020-2024 i ben ym mis Ebrill 2020. Oherwydd effaith COVID-19, cafodd llawer o'n gwaith ymgysylltu ei wneud trwy gyfrwng arolwg ar y we. Cafodd nifer o randdeiliaid Cymraeg eu hiaith eu cynnwys yn benodol wrth ddosbarthu'r arolwg ar-lein; derbyniwyd pedwar ymateb yn Gymraeg a oedd yn llai na'r disgwyl. Defnyddiwyd y sylwadau a dderbyniwyd i lywio'r Amcanion terfynol, a gyhoeddwyd o fewn Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent 2020-2024.

 

Hygyrchedd

Ym mis Mehefin 2020, lansiodd Swyddfa'r Comisiynydd gyfrif Facebook Cymraeg ar wahân i sicrhau bod dilynwyr yn gallu gweld cynnwys wedi ei gyhoeddi yn eu dewis iaith. Mae nifer y dilynwyr sy'n siarad Cymraeg yn isel iawn o hyd ac rydym yn dal i hyrwyddo’r cyfrif, ynghyd â'n e-fwletin, i'n cymunedau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a diddordeb.

Dechreuwyd ar y gwaith o ail adeiladu gwefan ddwyieithog Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod y flwyddyn hefyd. Mae un gwelliant i'r swyddogaeth weinyddol yn rhoi mwy o gymorth i staff Swyddfa'r Comisiynydd uwchlwytho a chyhoeddi cynnwys yn y Gymraeg, a thrwy hynny wella ein prosesau cyhoeddi ar y wefan. Bydd y gwaith o drosglwyddo cynnwys i'r wefan newydd yn parhau ar ddiwedd 2021/dechrau 2022.

 

Monitro a Hunanasesu Perfformiad o ran Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i fonitro sut rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i'r Comisiynydd. Mae ein Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg yn ein galluogi i asesu ein darpariaeth o ran gwasanaethau Cymraeg a nodi unrhyw risgiau o ran cydymffurfiaeth.

O ganlyniad i'r gwaith hunanasesu a wnaed yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, rydym wedi nodi camau gweithredu ychwanegol ar gyfer 2021/22. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiad o wefan newydd Swyddfa'r Comisiynydd i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â'r safonau perthnasol.

 

2 STRATEGAETH Y GYMRAEG AR Y CYD

Mae Strategaeth y Gymraeg ar gyfer y cyfnod 2017-2020 a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent wedi dod i ben yn awr. Mae Strategaeth newydd wedi cael ei chynhyrchu a'i chyhoeddi yn ystod cyfnod adroddiad 2021/22.

Y tri addewid allweddol yn y Strategaeth ar y Cyd newydd yw:

  1. Ymgysylltu’n effeithiol â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn llywio’r gwasanaeth a ddarperir gennym.
  2. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r dysgwyr a gyflogir gennym ar draws y ddau sefydliad.
  3. Casglu data y gallwn eu defnyddio i wella ansawdd ein gwasanaethau

Er mwyn galluogi cydberthnasau gwaith agosach a manteisio i'r eithaf ar arbedion, mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn parhau i rannu swyddi Swyddog Polisi'r Gymraeg a'r Cyfieithydd Cymraeg.

 

CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU'R GYMRAEG

Mae'r adrannau canlynol yn darparu gwybodaeth am Safonau penodol y mae gofyn i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Trwy wneud hyn, rydym yn dangos sut mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cydymffurfio â'r Safonau hynny.

 

3.1  Cwynion yn ymwneud â gwasanaethau Cymraeg

Yn ystod cyfnod yr adroddiad - 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021, ni dderbyniodd Swyddfa'r Comisiynydd unrhyw gŵynion am ein darpariaeth o wasanaethau Cymraeg, fel yr amlinellir yn Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn gyson â chyfnod adroddiad 2019/20.

Fel rhan o'n hymgysylltiad parhaus â'n cymunedau, rydym yn annog y cyhoedd i ddweud wrthym os ydynt yn meddwl nad ydym yn bodloni ein rhwymedigaethau mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn ein helpu ni i barhau i wella ein darpariaeth gwasanaeth a chyfathrebu'n effeithiol gyda'n cymunedau. Gellir cysylltu â ni ar y ffôn, drwy e-bost, wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau neu gyfarfodydd cyhoeddus, trwy ein gwefan neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. 1Rhoddir manylion pellach ar ddiwedd y ddogfen hon.

Yn ystod y flwyddyn gwnaethom adolygu ein gweithdrefn cwynion yn ymwneud â chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, i sicrhau ei bod yn effeithiol ac yn berthnasol i'n prosesau o hyd. Cyhoeddir y weithdrefn ar ein gwefan2 ynghyd â'r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

Rydym yn parhau i fonitro effaith COVID-19 ar sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg, gan wneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg i sicrhau ein bod mor hygyrch â phosibl i'n cymunedau. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adolygu wrth i gyfyngiadau newid, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl o dan yr amodau ar waith ar y pryd.


1 Mae cyfyngiadau COVID-19 yn berthnasol.
2 www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/publications/welsh-language-standards-compliance-complaints/


3.2 Swyddi a hysbysebwyd yn 2020/21

Yn ystod cyfnod yr adroddiad 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 ni hysbysebodd Swyddfa'r Comisiynydd unrhyw swyddi gwag. Mae pob swydd a hysbysebir ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol ar y lleiaf. Mae hwn yn ofyniad ar gyfer proses recriwtio'r Prif Gwnstabl hefyd, yr ydym ni'n gyfrifol amdani.

Wrth recriwtio yn y dyfodol byddwn yn ystyried defnyddio gweithredu cadarnhaol a hysbysebu wedi'i dargedu er mwyn denu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg. Bydd ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gweithio gyda Swyddog Polisi'r Gymraeg i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i dargedu ein cymunedau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth o swyddi gwag.

 

3.3  Hyfforddiant
Hyfforddiant yn y Gymraeg

Mae Heddlu Gwent a Swyddfa'r Comisiynydd yn darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Cymraeg Lefel 1 i bob cyflogai fel cwrs gorfodol. Darperir yr hyfforddiant gan Swyddog Polisi'r Gymraeg.

Mae pob aelod o staff wedi derbyn y sesiwn hyfforddiant gorfodol yn awr. Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Lefel 1 yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen hyfforddiant sefydlu ar gyfer pob aelod newydd o staff.

Mae cyfleoedd ar gael i gyflogeion gofrestru ar gyrsiau mewnol Cymraeg i Oedolion a ddarperir gan Goleg Gwent. Mae cyflogeion yn mynychu yn ystod oriau gwaith ble bynnag y bo'n bosibl. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, nid oedd dim dysgwyr yn staff Swyddfa'r Comisiynydd.

Byddwn yn parhau i gefnogi ac annog staff sydd am gofrestru ar gyrsiau Cymraeg priodol i'w lefel sgiliau presennol, ac i gymryd rhan yn y Rhwydwaith Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg sy'n cael ei redeg gan Heddlu Gwent.

 

3.4  Sgiliau Cymraeg Cyflogeion

Mae'r tabl canlynol yn dangos lefel y sgiliau Cymraeg yn Swyddfa'r Comisiynydd fel y cofnodwyd yn ystod cyfnod yr adroddiad.

 

Sgiliau Cymraeg StafF

Lefel3

Nifer aelodau staff4

 

2017/ 18

2018/ 19

2019/ 20

2020/ 21

1

4

13

15

15

2

2

2

2

2

3

0

0

0

0

4

0

1

1

1

5

1

0

0

0

Cyfanswm

7

18

18

18

Cyfanswm Staff

17

19

19

18

Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal lefel sylfaenol y sgiliau Cymraeg sydd ar gael ar draws y sefydliad a byddwn yn parhau i annog a chefnogi staff i ddatblygu eu gallu a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg.

 

3.5. Monitro a Goruchwylio Cydymffurfiaeth â'r Safonau

Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr yw monitro a goruchwylio cydymffurfiaeth Swyddfa'r Comisiynydd â Safonau'r Gymraeg. Mae craffu mewnol yn digwydd mewn Cyfarfodydd Rheoli i alluogi'r Comisiynydd i oruchwylio cydymffurfiaeth a rhoi sylw i unrhyw broblemau.

Mae'n ddyletswydd ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i fonitro a chraffu ar gydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg, a orfodir ar y Prif Gwnstabl, hefyd. Mae staff Swyddfa'r Comisiynydd yn cymryd rhan yng Nghyfarfod y Gymraeg Heddlu Gwent a'r Bwrdd Strategaeth Pobl i gefnogi'r Comisiynydd wrth iddo gyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad y Comisiynydd, y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, yn derbyn adroddiadau blynyddol ynghylch cydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yn rhan o'n trefniadau llywodraethu. Mae Panel yr Heddlu a Throsedd Gwent yn derbyn adroddiad Swyddfa'r Comisiynydd er mwyn rhoi sicrwydd iddo ein bod yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, ac mae'n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd.


3 Gweler y diffiniadau yn Atodiad A

4 Ar wahân i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd


4 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU DARPARU GWASANAETH

Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ein cydymffurfiaeth â'r Safonau Darparu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion, fel y dangosir isod.

 

a)  Cyfathrebu â'r Cyhoedd

Mae canllawiau ar gyfer staff wedi cael eu cyhoeddi ar fewnrwyd Heddlu Gwent 'Y Bît’, y mae gan ein staff ni fynediad iddi hefyd. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio gofynion y Safonau Darparu Gwasanaeth ar gyfer y ddau sefydliad yn glir ac yn syml.

 

b)  Gwefannau a chyfryngau cymdeithasol

Mae ein gwefan yn cynnwys rhagdudalen i annog siaradwyr Cymraeg i ddewis iaith cyn mynd at dudalennau eraill y wefan. Rydym wedi gwella ein presenoldeb cyfrwng Cymraeg ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd er mwyn ymgysylltu â chymunedau'n well.

Rydym yn dal i ddosbarthu ein e-fwletin wythnosol, sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y sawl sy'n tanysgrifio. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 20 o bobl wedi tanysgrifio i'r fersiwn Gymraeg, chwech yn fwy o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Rydym yn parhau i ddarparu'r e-fwletin ar gyfer ein holl gymunedau fel ffordd rwydd o rannu'r newyddion diweddaraf am ein gwaith - mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan ar E-fwletin | Heddlu Gwent a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (pcc.police.uk).

Yn ystod 2021/22 byddwn yn parhau i ddatblygu ein cyfrif Facebook Cymraeg er mwyn ymgysylltu mwy gyda’n cymunedau a chyrraedd mwy o bobl.

 

c)  Grantiau

Darperir pob gwybodaeth a gyhoeddir am gyfleoedd am gyllid yn Gymraeg a Saesneg. Os derbynnir cais yn Gymraeg, byddwn yn gohebu gyda'r ymgeisydd yn Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewn unrhyw gyfarfodydd perthnasol.

Yn ystod blwyddyn yr adroddiad hwn, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am gyllid yn Gymraeg. Dan y Strategaeth newydd, byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn hyrwyddo cyfleoedd am gyllid er mwyn codi ymwybyddiaeth ein bod yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.

 

d)  Caffael

Nid oes unrhyw geisiadau neu gontractau wedi cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac ni dderbyniwyd unrhyw rai yn Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.

O ran contractau perthnasol (lle mae'r testun yn awgrymu y dylent fod yn Gymraeg) mae dogfennau tendro yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Mae'r ddogfen tendro yn nodi "Mae'r Comisiynydd yn croesawu ymatebion tendro yn Gymraeg" ac mae Rhestr Wirio'r Gymraeg wedi cael ei hymgorffori yn y broses dendro i sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei dalu i'r Gymraeg yn ystod pob cam.

Mae mynediad at wasanaethau cyfieithu proffesiynol yn sicrhau bod cynnwys cyflwyniadau yn y Gymraeg yn cael ei adlewyrchu'n gywir, a bydd y broses werthuso’n rhedeg yn gyfochrog â’r broses werthuso ar gyfer cyflwyniadau yn Saesneg (os yn berthnasol). Bydd yr un dyddiad cau yn berthnasol i gyflwyniadau yn Gymraeg a Saesneg a bydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn cael eu cynnig a'u trefnu ar gyfer contractau perthnasol os bydd sefydliad yn dymuno cael cyfweliad yn Gymraeg.

Hysbysebir pob tendr yn Gymraeg a Saesneg.

 

5 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU LLUNIO POLISI

Rydym wedi bodloni ein Safonau Llunio Polisi trwy ddefnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i ganfod a rhoi sylw i unrhyw effeithiau ar y Gymraeg. Mae Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan orfodol o'n gweithdrefn llunio polisi ac maent yn arwain ein llunwyr polisi a'n pobl sy’n gwneud penderfyniadau drwy'r broses o ystyried effeithiau negyddol neu gadarnhaol ar bobl sy’n rhannu Nodweddion Gwarchodedig fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Er nad yw'r Gymraeg yn Nodwedd Warchodedig dan Adran 4 Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym wedi diwygio ein templed Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn awr i gynnwys nifer o gwestiynau sy'n golygu y bydd unrhyw effaith ar y ffordd rydym yn trin y Gymraeg mewn perthynas â'r Saesneg, neu gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, yn cael eu nodi. Mae pob polisi newydd, ac adolygiadau o bolisïau presennol yn destun Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ac mae cymorth ar gael gan Swyddog

Polisi'r Gymraeg i unrhyw gydweithiwr sy'n cwblhau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.

Er nad yw'r Safonau’n ei gwneud yn ofynnol ein bod yn cynnal asesiad yn y modd hwn, mae defnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn darparu dull effeithlon a chynhwysfawr o asesu effaith ein gweithgareddau mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rydym wedi cyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau sy'n amlinellu sut byddwn yn ystyried y Gymraeg yn ein penderfyniadau cyllido. Mae hwn ar gael ar ein gwefan: Gweithdrefn ar gyfer Cwynion yn ymwneud â Chydymffurfiaeth a Safonau’r Gymraeg | Heddlu Gwent a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (pcc.police.uk)

 

6 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU GWEITHREDOL

Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ein cydymffurfiaeth â'r Safonau Gweithredol y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion fel y dangosir isod.

 

a)  Cymorth i Staff

Cyhoeddir canllawiau Safonau'r Gymraeg cynhwysfawr i staff ar fewnrwyd Heddlu Gwent ‘Y Bît’ ar y dudalen ‘Cymraeg’, y mae gan ein staff ni fynediad iddi hefyd. Mae'r dudalen yn cynnwys cymorth ac adnoddau i staff sydd am ymarfer eu sgiliau Cymraeg neu sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant hefyd.

Darperir templedi Cymraeg ar gyfer ymatebion allan o'r swyddfa a llofnodion personol, ynghyd â bathodynnau rhithwir y gall cyflogeion eu hychwanegu at eu negeseuon e- bost i ddangos eu bod naill ai'n dysgu neu'n siarad Cymraeg. Mae pob siaradwr a dysgwr Cymraeg hysbys ar draws y Llu wedi cael bathodyn neu laniard priodol i'w wisgo.

 

b)  Swyddi Cymraeg

Mae pob hysbyseb swydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol fel mater o drefn, oni bai bod swydd yn cael ei hasesu i fod yn un lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd ati i gael y sgiliau perthnasol. Bydd y Tîm Recriwtio yn Adran Gwasanaethau Pobl Heddlu Gwent yn rhoi cymorth i asesu newidiadau i ofynion iaith.

Yn allanol, caiff swyddi eu hysbysebu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg a chyhoeddir fersiynau Cymraeg o wybodaeth yn ymwneud â'r swydd honno, yn ogystal â ffurflenni cais. Mae pob cais am swydd newydd yn gofyn i ymgeiswyr nodi lefel eu gallu yn y Gymraeg a, lle y bo angen, a hoffent gwblhau'r broses recriwtio yn Gymraeg.

 

c)  Arwyddion

Mae pob arwydd newydd neu arwydd sy'n cael ei gyfnewid yn cael ei gynhyrchu'n ddwyieithog yn awr ar draws ystâd yr heddlu gyda'r Gymraeg mewn safle lle y mae'n debygol o gael ei darllen gyntaf.

 

d)  Cyrsiau hyfforddiant a ddarparwyd yn Gymraeg

Nid yw staff Swyddfa'r Comisiynydd wedi gwneud unrhyw gais i dderbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.

 

7 HERIAU

Nid oes gan Swyddfa'r Comisiynydd unrhyw heriau wedi eu cyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg sydd heb eu clirio.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag unrhyw arfer da a nodir neu heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i ni barhau i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent.

 

8 CYSYLLTU Â NI

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, neu i roi adborth ar sut gallwn ymgysylltu'n fwy effeithiol â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn ein cymunedau, cysylltwch â:

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Pencadlys yr Heddlu
Cwmbrân Croesyceiliog Cwmbrân.
NP44 2XJ

E-bost: Commissioner@gwent.pnn.police.uk Ffôn: 01633 642200

Twitter: @gwentpcc

Facebook: https://www.facebook.com/gwentpcc/ Instagram: https://www.instagram.com/gwentpcc/

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg - byddwn yn ymateb yn gyfartal i geisiadau yn y ddwy iaith a byddwn yn ymateb yn yr iaith a ddewisiwyd gennych heb oedi.

 

ATODIAD A: DIFFINIADAU SGILIAU CYMRAEG

Diffiniadau Lluoedd Heddlu Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg (sgiliau llafar yn unig):

 

Lefel 1

Gallu dweud enwau lleoedd, enwau personol, gallu cyfarch yn briodol yn bersonol neu ar y ffon, gallu dechrau a therfynu cyfarfodydd yn ddwyieithog.

 

Lefel 2

Gallu deall hanfod sgwrs a chyfleu gwybodaeth syml, gallu ymateb i geisiadau syml, gallu deall ceisiadau am gymorth, gallu defnyddio Cymraeg i drosglwyddo galwadau ffôn, gallu cyflwyno ei hun ac eraill.

 

Lefel 3

Gallu cymryd a throsglwyddo negeseuon sy'n debygol o fod angen sylw yn ystod diwrnod gwaith, gallu sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaethau ac i roi gwybodaeth fanwl, gallu disgrifio pobl a lleoliadau, gallu ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, gallu cymryd manylion neu nodiadau o wrando ar sgwrs Gymraeg.

 

Lefel 4

Gallu cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn ei faes gwaith ei hun, gallu dadlau achos o blaid neu yn erbyn syniad, gallu sgwrsio yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg wrth ddefnyddio terminoleg plismona neu dechnegol, gallu ymdrin ag ymholiadau'n effeithiol, gallu deall gwahanol dafodieithoedd, gallu cadeirio cyfarfod ac ymateb i gwestiynau yn Gymraeg, gallu disgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad yn Gymraeg.

 

Lefel 5

Gallu cyfweld ag ymgeiswyr am swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg ac asesu eu haddasrwydd, gallu ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau cymhleth neu ymdrin â gwrthdaro yn Gymraeg, gallu cyfweld neu holi yn ystod ymchwiliad, gallu ymdrin ag ymholiadau cymhleth neu sensitif, cwynion a chwestiynau ymosodol yn ei faes arbenigol ei hun, gallu gwneud cyflwyniadau yn Gymraeg.