Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Cynllun Heddlu a Throsedd Adroddiad Blynyddol 2018/2019

Cyflwyniad

Croeso i'r trydydd Adroddiad Blynyddol i mi ei ysgrifennu yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd cyffredinol y mae fy Swyddfa wedi ei wneud o ran cyflawni'r blaenoriaethau strategol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd 2017-20211. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut y dylid mynd ati’n strategol i ddarparu gwasanaethau plismona ac ymdrin â throsedd yng Ngwent yn ystod y cyfnod hwn o bedair blynedd.

Mae fy nghynllun yn seiliedig ar ystod o wybodaeth, gan gynnwys adborth gan bartneriaid a chymunedau, ac adlewyrchir hyn yn fy mhum maes blaenoriaeth ar gyfer plismona yng Ngwent:

  • Atal Troseddau
  • Cefnogi Dioddefwyr
  • Cydlyniant Cymunedol
  • Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Darparu Gwasanaethau Effeithlon

Bu sawl datblygiad arwyddocaol yn y meysydd blaenoriaeth hyn yn 2018/19, gyda chefnogaeth sylweddol gan fy Swyddfa.

Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddais ddiweddariad o’m Cynllun Heddlu a Throsedd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion plismona ac anghenion cymunedol, ac yn adlewyrchu’r anghenion hynny. Bu gwaith i ddatblygu dull cynhwysfawr o reoli perfformiad yr heddlu yn flaenoriaeth allweddol o ran helpu i sicrhau y darperir gwasanaethau'n effeithlon ac yn effeithiol yn y meysydd blaenoriaeth. Bu hyn o gymorth gyda datblygu fframwaith perfformiad a fydd yn fodd i graffu’n fwy effeithiol ar ddarpariaeth Heddlu Gwent o’i chymharu â blaenoriaethau'r Heddlu a Throsedd.

Rydym wedi parhau i weithio'n rhagweithiol yn ein cymunedau a gyda phartneriaid i helpu i fynd i'r afael â materion fel troseddau difrifol a chyfundrefnol ac effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o'r mentrau rhagorol sydd wedi'u datblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn.

Unwaith eto, roeddwn yn falch o sicrhau bod cyllid ar gael i'n cymunedau drwy ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr. Ni ddylid tanbrisio swyddogaeth prosiectau a rhaglenni o ran grymuso a chydlynu cymunedol, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r prosiectau llwyddiannus wrth iddynt ddatblygu.

Yn ogystal, eleni, gwelwyd rhagor o ymrwymiad gennyf i ddarparu cynlluniau dargyfeirio i bawb. Bydd ail-dendro’r contract dargyfeirio Braenaru i Fenywod yn fodd i ehangu’r cynllun i gynnwys Gwent gyfan. Bydd comisiynu rhaglen ddargyfeirio '18 i

25' newydd sbon yn sicrhau bod dynion ifanc hefyd yn cael cyfleoedd i newid cyfeiriad a chael cymorth priodol yn hytrach na mynd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Bydd hyn yn helpu i leihau'r perygl o aildroseddu.

Roeddwn hefyd yn falch o gefnogi proses y Prif Gwnstabl o recriwtio 93 o heddweision ychwanegol ar gyfer Gwent. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth plismona a ddarparwn yn meddu ar adnoddau priodol ac yn ymateb i anghenion ein cymunedau.

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar wneud Heddlu Gwent yn fwy cynrychioliadol o'n cymunedau, gan gyflogi Swyddog Gweithredu Cadarnhaol yn y Gymuned penodedig i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd i weithio yn ein trefniadau plismona lleol.

Ar ddiwedd y cyfnod adrodd hwn, derbyniais rybudd gan y Prif Gwnstabl, Julian Williams, o'i fwriad i ymddeol ym mis Mehefin 2019. Hoffwn ddiolch i Julian am arwain Heddlu Gwent mor effeithiol ac am ei ymroddiad i ddiogelu ein cymunedau.  Edrychaf ymlaen at barhau â'r berthynas lwyddiannus hon gyda'i olynydd, Pam Kelly.

Bu hon yn flwyddyn arall o heriau a llwyddiannau. Rwy’n gwybod cymaint y mae pobl Gwent yn gwerthfawrogi gwaith caled ac ymroddiad parhaus beunyddiol ein swyddogion a'n staff. Mae'r Dirprwy Gomisiynydd a minnau'n falch o waith caled ac ymrwymiad ein swyddogion heddlu, ein staff cymorth a'n gwirfoddolwyr, ac o'm tîm yn Swyddfa’r Comisiynydd, y mae eu hymroddiad diflino yn sicrhau Gwent mwy diogel i bob un o'n cymunedau.

 

Jeff Cuthbert     

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent.

Cynnydd o ran bodloni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd 2017-2021

Crynodeb o'r cynnydd cyffredinol yn 2018/19

Dyma ail flwyddyn y Cynllun Heddlu a Throsedd strategol pedair blynedd. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd ag Adroddiad Perfformiad Heddlu Gwent ar gyfer 2018/19.

Blaenoriaeth 1 Atal Troseddu

Atal a lleihau troseddu sy'n achosi'r niwed mwyaf yn ein cymunedau ac yn erbyn y bobl sydd fwyaf bregus

Cynnydd yn 2018/19:

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, ac Ymyrraeth Gynnar

Roedd Swyddfa'r Comisiynydd yn llwyddiannus yn sicrhau £150,000 gan y Swyddfa Gartref er mwyn datblygu a darparu ffyrdd o fynd i’r afael â throsedd difrifol a chyfundrefnol. Roedd Casnewydd yn un o bum ardal ledled Cymru a Lloegr a gafodd gyllid i ymgymryd â gwaith arbrofol i fynd i'r afael â phroblemau a ganfuwyd. Roedd y prosiect yn cynnwys cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau i fodloni meini prawf ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal, cydnerthedd cymunedol a chyfathrebu strategol. Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn cynnwys ffordd drylwyr a chynhwysfawr o fynd i’r afael â throsedd difrifol a chyfundrefnol ar gyfer plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned, ychwanegais £120,000 arall at yr £150,000 a gafwyd gan y Swyddfa Gartref gyda. Roedd y partneriaid a oedd yn gweithio ar y cynllun yn cynnwys Ymddiriedolaeth St Giles, Barnardo's, Casnewydd Fyw, a Mutual Gain.
I gefnogi Ymgyrch JIGSAW (ymgyrch Heddlu Gwent yn erbyn troseddu difrifol a chyfundrefnol yng Ngwent) a'r rhaglen troseddu difrifol a chyfundrefnol yng Nghasnewydd, fe wnaethom gynnal y digwyddiad partneriaeth 'Deall Trais gan Bobl
Ifanc a Gangiau' gyda Chasnewydd yn Un ym mis Chwefror 2019. Comisiynwyd Ymddiriedolaeth St Giles i ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu plant, pobl ifanc a chymunedau’r fro o ran gangiau, gwerthu cyffuriau, trais a cham-fanteisio. Lluniwyd y sesiynau hyfforddi ar gyfer swyddogion rheng flaen, staff addysgu, gweithwyr yn y gymuned, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau yng Nghasnewydd. Cyflwynwyd y sesiynau gan Junior Smart a ddechreuodd weithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar yn 2006 wedi treulio dedfryd o 10 mlynedd dan glo am droseddau yn ymwneud â chyffuriau a gangiau. Oherwydd bod digwyddiad mis Chwefror yn llawn, trefnwyd sesiwn arall ar gyfer dechrau mis Ebrill 2019.

Ariennir y prosiect tan 31 Mawrth 2019, a rhoddir ystyriaeth i gynnal y prosiect y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf.

Yn ogystal, llwyddodd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru i sicrhau £1.21 miliwn o’n Cronfa Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar ym mis Awst 2018 yn rhan o gais ar y cyd â heddluoedd Cymru. Roedd y cais yn cyd-daro â lansio Strategaeth Trais Difrifol y Swyddfa Gartref, ac fe’i dyfarnwyd dros ddwy flynedd (2018/19 a 2019/20). Mae'n amlinellu'r broses ranbarthol o fynd ati mewn modd trylwyr i ddeall a mynd i'r afael ag achosion gwaelodol trais difrifol drwy ymyrraeth gynnar ac atal, gyda phlant o dan 18 oed. Mae pob Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gweithio gyda phartneriaid darparu penodol, ac yn ategu hyn gydag elfen o ymyrraeth uniongyrchol leol, yn seiliedig ar angen lleol fel y dynodwyd yn ystod y cyfnod ariannu. Yn lleol, mae'r prosiect yn seiliedig ar ddarpariaeth troseddu difrifol a chyfundrefnol Casnewydd ond mae'n cynnwys ymyraethau ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill yng Ngwent lle mae perygl sylweddol o gymryd rhan mewn trais difrifol.
Ers dechrau'r gwaith yng Nghasnewydd, ar unrhyw un adeg mae yna lwyth achosion o 10 o bobl ifanc yn ymwneud â'r gwasanaeth. Yn benodol, mae o leiaf un person ifanc a oedd yn gwrthwynebu ymwneud â'r gwasanaeth o'r blaen wedi ymwneud yn helaeth iawn ag Ymddiriedolaeth St Giles. Mae Barnardo's yn gweithio gyda llwyth achosion o 15 o bobl ifanc a'u teuluoedd.

Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd - Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Yn 2017/18, dyfarnwyd oddeutu £6.8 miliwn o Gronfa Drawsnewid yr Heddlu i’r trefniant cydweithio cenedlaethol (Comisiynwyr a heddluoedd Gwent, De Cymru, Gogledd Cymru, Dyfed Powys ac Iechyd Cyhoeddus Cymru) am gyfnod o dair blynedd. Yr amcan oedd dylunio a gweithredu mentrau i fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - amrywiaeth o ddigwyddiadau trawmatig a dirdynnol y gall plant eu hwynebu wrth dyfu. Mae’r rhaglen gydweithredol wedi galluogi pob ardal i ddynodi a gweithredu camau ymyrryd ac ataliol cynnar pan fo Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn amlwg a/neu lle mae teuluoedd yn wynebu risg o ganlyniadau gwael, yn ogystal â rhoi sylw i’r effaith gysylltiedig ar blismona a phartneriaid o ran troseddu a bod yn bregus.
Ers mis Hydref 2018, darparwyd hyfforddiant Profiadau Niweidiol yn ystod
Plentyndod i 700 o swyddogion a staff yr heddlu a 144 o staff o asiantaethau partner ledled Gwent. Erbyn Gorffennaf 2019 bydd hyn wedi cynyddu i 1,300 a 550 yn y drefn honno. Mae'r ganolfan gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi hyfforddi 120 o Lysgenhadon a 180 o staff ym maes tai, ac mae 20 o bobl eraill wedi cwblhau'r cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr. Caiff yr hyfforddiant ei werthuso yn 2019/20.
O dan y rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, caiff Ymgyrch
Encompass, cynllun i gefnogi plant sydd wedi profi cam-drin domestig, ei gyflwyno ledled Gwent yn ystod y flwyddyn. Yn rhan o hyn, bydd yr heddlu'n hysbysu ysgolion o unrhyw achosion o gam-drin domestig sydd wedi cynnwys plant, neu y bu plant yn dyst iddynt, cyn i'r dosbarthiadau ddechrau drannoeth, fel y gellir rhoi’r trefniadau diogelu mwyaf priodol yn eu lle. Mae 462 o blant wedi cael cymorth ers i'r prosiect ddechrau ac mae pob ysgol wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r broses.

Fel aelod o fwrdd llywodraethu Camau Cynnar Gyda'n Gilydd, byddaf yn parhau i oruchwylio'r rhaglen, gan sicrhau'r canlyniadau gorau i rai o'n plant mwyaf bregus yng Ngwent.

Yn ystod 2019/20, byddwn yn ystyried cynaliadwyedd y rhaglenni Cronfa Ymyrraeth
Gynnar Ieuenctid, Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a Throsedd Difrifol a
Chyfundrefnol Casnewydd o ran rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy’n fregus, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth sylweddol i Swyddfa’r Comisiynydd.

Dyfodol Cadarnhaol

Sefydlwyd y prosiect Dyfodol Cadarnhaol yn 2002 gyda’r Comisiynydd yn ei ariannu ers 2013/14 ar y cyd â phartneriaid eraill fel awdurdodau lleol, Chwaraeon Cymru, ac Asda. Rhaglen gynhwysiant yw'r prosiect, ac mae’n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i fentora tua 10,000 o bobl ifanc bob blwyddyn gyda’r bwriad o’u hatal rhag troseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Mae'n darparu mentora un i un ar gyfer pobl ifanc ynghyd â rhaglenni ymgysylltu dargyfeiriol, hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad personol a all arwain at gymwysterau neu gyflogaeth. Mae hefyd yn cynnig awyrgylch cyfforddus i ddysgu a thrafod ynddo i'r bobl ifanc hynny sydd wedi eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys dwy elfen, gyda modd i bobl gyfeirio eu hunain neu gael eu cyfeirio:

  • Darpariaeth gymunedol ddargyfeiriol
  • Rhaglenni addysgol pwrpasol ar gyfer pobl ifanc sydd wedi'u hatgyfeirio.

Drwy gyflwyno'r sesiynau ymgysylltu hyn i’r bobl ifanc yn ôl yr angen, mae'r rhaglen yn galluogi iddynt gyflawni amcanion, boed yn gymwysterau neu'n gyflawniadau personol. Mae hefyd yn cynnig awyrgylch cyfforddus i ddysgu a thrafod ynddo i'r bobl ifanc hynny sydd wedi eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn gwasanaethau prif ffrwd ac y mae angen mwy o gymorth arnynt, ac i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau niferus rhag cyfranogi oherwydd tlodi a phroblemau o fod mewn teulu ynysig. 

Drwy gydol 2018/19, bu mwy o ymwybyddiaeth o ran atgyfeirio unigolion ag iechyd meddwl gwael sy'n aml yn meddwl am hunanladdiad ac yn poeni am hunan-niweidio. Mae pobl ifanc o'r fath fel arfer yn ymwneud ag amrywiaeth o asiantaethau ac mae proses ar waith i sicrhau ymgysylltu rheolaidd rhwng staff Dyfodol Cadarnhaol a'r gwasanaeth cymorth priodol. Darparwyd cymorth ychwanegol hefyd i'r unigolion hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw anghenion emosiynol ychwanegol yn cael sylw.

Roedd Dyfodol Cadarnhaol yn bartner allweddol yn Ymgyrch Bang 2018, ac yn ystod yr adeg honno buont yn ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl ifanc er mwyn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â Chalan Gaeaf a’r 5ed o Dachwedd. Mewn un prosiect cysylltiedig, bu staff yn gweithio gyda thrigolion Pilgwenlli i gynnal digwyddiad cymunedol bach. Daeth 300 o bobl i'r cyfarfod ac roedd adborth gan aelodau'r gymuned a Heddlu Gwent yn tystio y bu effaith gadarnhaol ar faint o ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwyd yn yr ardal.

Cefnogodd Dyfodol Cadarnhaol y digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Gwent ym mis Mawrth i godi ymwybyddiaeth o raglenni dargyfeiriol ar gyfer pobl ifanc wedi eu hariannu gan Swyddfa’r Comisiynydd. 

Cyllid Cymunedol

Yn ystod 2018, euthum ati i werthuso'r grantiau llwyddiannus a ddyfarnwyd o'm Cronfa Partneriaeth yn 2017/18. Dewiswyd 11 o brosiectau yn samplau gwirio fel bod cynrychiolaeth o ardal gyfan Gwent. Ymwelwyd yn bersonol â phawb a gafodd grant a gwerthuswyd y broses drwy gyfres o gwestiynau safonol. Roeddwn yn falch i’r prosiectau sôn am y canlyniadau cadarnhaol a ddaeth i’w rhan o ganlyniad i'r arian a gawsant a bod pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniadau cadarnhaol tuag at o leiaf un o'r meysydd blaenoriaeth. Yn ogystal, argymhellwyd y dylid cynnal un o'r prosiectau yn y dyfodol ac fe gyfeiriwyd y trefnwyr at gylch ariannu 2018/19. Ar gyfer 2018/19, dewisais roi pwyslais o’r newydd ar ddyfodol fy nhrefniant ariannu cymunedol gyda lansiad Cronfa Gymunedol yr Heddlu. Fel gyda'r ddarpariaeth ariannu flaenorol, mae'n rhaid i'r gweithgareddau a gefnogir fod â chysylltiadau clir â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd 2017-2021. Mae'r gronfa newydd yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth ar gyfer ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwent, yn enwedig ar gyfer grwpiau neu sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr ardaloedd hynny. Mae gwaith cymunedol a chydweithio yn ganolog i lwyddiant
Cronfa Gymunedol yr Heddlu. Mae timau heddlu lleol sy'n gweithio’n agos iawn gyda’r grwpiau cymunedol hyn yn gweithredu fel cyswllt rhwng Swyddfa’r
Comisiynydd, Heddlu Gwent a'r buddiolwyr. Diben y gronfa yw cynorthwyo mentrau atal troseddu yn ogystal â threchu tlodi, a diogelu'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, heb ddyblygu ffynonellau cyllid eraill.
Yn ystod y flwyddyn, cytunodd y Bwrdd Asesu Amlasiantaeth i ariannu chwe phrosiect ar draws ardal blismona Gwent - dau yn ardal blismona leol y gorllewin, tri yn y dwyrain, ac un yn gweithio ledled Gwent. Bydd yn ofynnol i bob prosiect llwyddiannus ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion y grant, a'r effeithiau dilynol.

Blaenoriaeth 2: Cefnogi Dioddefwyr

Darparu cymorth rhagorol i bobl sydd wedi dioddef trosedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai sydd wedi profi'r niwed mwyaf difrifol

Cynnydd yn 2018/19:

Connect Gwent

Lansiwyd Connect Gwent yn 2015 i ddarparu gwasanaeth amlasiantaeth gwell i bawb yng Ngwent sydd wedi dioddef trosedd. Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd cyfanswm o 33,380 o atgyfeiriadau (cynnydd o 42% o gymharu â 2017/18), gan gynnwys 1,283 o atgyfeiriadau ychwanegol a wnaed gan swyddogion Heddlu Gwent
(cynnydd o 73%). Gwelwyd 16% yn fwy o bobl yn cyfeirio eu hunain hefyd o’i gymharu â 2017/18. Yn ogystal, roedd 506 o bobl a oedd wedi dioddef troseddau casineb yn defnyddio gwasanaethau.

Yn ystod 2018/19, cynhaliwyd gwaith i wella'r modd y caiff atgyfeiriadau eu cofnodi a'u diffinio. Roedd rhifau atgyfeirio ar gyfer 2017/18 yn seiliedig ar achosion ymarferol (ac eithrio'r rhai yr ystyriwyd eu bod yn amhriodol i'w hatgyfeirio i'r gwasanaeth), ond yn 2018/19 roedd y ffigurau'n cynnwys pob atgyfeiriad a dderbyniwyd, gan gynnwys atgyfeiriadau amhriodol.

Dangosodd arolygon canlyniadau ar gyfer gwasanaeth Connect Gwent a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod fod:

• 81% o bobl wedi gwella neu gynnal iechyd a lles (o’i gymharu â 2017/18);
• 88% o bobl yn gallu ymdopi'n well ag agweddau ar fywyd pob dydd (newydd ar gyfer 2018/19);
• 81% yn teimlo’n fwy diogel (o'i gymharu â 73% yn 2017/18);
• 87% â mwy o hyder a gwybodaeth am gyfleoedd a gwasanaethau (o’i gymharu ag 89% yn 2017/18).

Rydym yn parhau i gydnabod y gofynion cyfnewidiol ar blismona a'r swyddogaethau y mae fy Swyddfa i a Heddlu Gwent yn eu cyflawni drwy amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae cynnal y rhaglenni Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r ffordd yr ydym yn cynorthwyo dioddefwyr. Mae'r her gynyddol sy'n ymwneud â throseddau seiber yn golygu ein bod ni, fel gwasanaeth heddlu, hefyd yn ymateb i nifer cynyddol o bobl sydd wedi dioddef troseddau economaidd. Bu Cydgysylltydd Cam-drin Ariannol a Swyddog Diogelu yn rhan o Connect Gwent dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan ddarparu cymorth ac ymyrraeth yn rhan o'n hymateb i bobl sydd wedi dioddef troseddau economaidd. Yn ystod y flwyddyn, cafodd 538 o bobl gymorth arbenigol o ran cam-fanteisio ariannol.

Iechyd Meddwl

Ers mis Chwefror 2018, mae prosiect ar y cyd Cynghorydd Clinigol Ystafell Reoli'r

Heddlu rhwng Heddlu Gwent a Swyddfa’r Comisiynydd yn sicrhau y darperir cymorth priodol ar y cyswllt cyntaf i bobl sy'n bregus ac sydd ag afiechyd meddwl neu sy'n dioddef argyfwng pan fônt yn cysylltu â Heddlu Gwent. Drwy’r prosiect mae tîm o arbenigwyr iechyd meddwl pwrpasol yn gweithio gyda staff yn ystafell reoli Heddlu Gwent. Nod hyn yw rheoli risg a niwed yn well o ran argyfyngau iechyd meddwl a sicrhau y darperir gofal a chymorth priodol mewn modd amserol.

Ers dechrau'r prosiect, mae'r tîm wedi cofnodi cynnydd mewn ymgynghoriadau iechyd meddwl, gan dderbyn tua 800 o geisiadau y mis am wasanaeth ar gyfartaledd. Mae hyn wedi arwain at leihad yn nifer y rhai a gaiff eu cadw dan Adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl, gyda 237 achos wedi'u cofnodi ers i'r tîm fod ar waith, o'i gymharu â 310 achos o roi rhywun yn y ddalfa yn yr 11 mis cyn lansio'r gwasanaeth. At hynny, mae nifer y swyddogion a anfonwyd i ymdrin â digwyddiadau wedi lleihau, gan eu harbed rhag ymdrin â 1,000 o achosion ers i’r gwasanaeth ddechrau. Iechyd meddwl cyffredinol a bygythiad o hunanladdiad sy'n rhoi'r galw mwyaf ar y tîm, ac mae cynnydd amlwg yn nifer y gwiriadau lles y gofynnwyd amdanynt hefyd wedi'i gofnodi, o 50 ym mis Chwefror 2018 i 178 ym mis Chwefror 2019.  

Mae'r prosiect yn rhan o ymrwymiad fy Swyddfa i a Heddlu Gwent i gefnogi'r prif egwyddorion a amlinellir yng Nghoncordat Gofal Argyfwng Iechyd Meddwl Cymru ac rwy'n croesawu'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'r gwasanaeth hwn yn ei wneud i bobl mewn argyfwng.

Mae'r ymarferydd lles sy’n gweithio yng nghanolfan dioddefwyr Connect Gwent yng Nghoed-duon hefyd yn parhau i ddarparu cymorth arbenigol i ddioddefwyr troseddau â gofynion iechyd meddwl. Yn ystod 2018/19, atgyfeiriwyd 115 o bobl i'r ymarferydd lles am gymorth seiciatrig.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol  

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn aelod o Fwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin
Domestig a Thrais Rhywiol Gwent gyfan. Gan weithio gyda phartneriaeth Gwent Ddiogelach, rydym wedi parhau i roi cyllid ar gyfer darparu Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a chydgysylltydd Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig ar gyfer y rhanbarth. Mae parhad y gwasanaeth wedi sicrhau bod pawb a atgyfeirir i gael cymorth:
• yn cael gwybodaeth a chyngor;
• yn gallu elwa ar wasanaethau priodol;
• yn cael cyngor ar gynllunio diogelwch i wneud iddynt deimlo'n fwy diogel; • yn gweld gwelliannau yn eu lles / ansawdd bywyd.

Drwy’r cyfleoedd a gyflwynir drwy'r prosiect Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ymgynghoriad ar y Bil Cam-drin Domestig, a'r Fframwaith Arfer Gorau ar gyfer ymdrin â Cham-drin Domestig, rwyf wedi parhau i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid allweddol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol i sicrhau y darperir ymyraethau a gwasanaethau sy'n arloesol, yn gynhwysol ac sy'n diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys grwpiau lleiafrifol, plant a phobl ifanc sy'n dioddef cam-drin domestig a mathau eraill o drais ar sail rhywedd.

Yn ystod 2017-18, adolygodd Swyddfa’r Comisiynydd a Chydgysylltydd Gwasanaethau i Ddioddefwyr yr heddlu y gwasanaeth cam-drin rhywiol, trais a cham-fanteisio rhywiol yng Ngwent. Nod yr adolygiad oedd cloriannu’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant ac oedolion sydd wedi dioddef a darparu sylfaen dystiolaeth y gallwn ei defnyddio yn ganllaw wrth greu model cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cam-drin, trais a chamfanteisio rhywiol. Cyflwynwyd yr adroddiad gwerthuso terfynol i mi ym mis Medi 2018, ac fe'i rhoddwyd wedyn i'r Bwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Hydref. Caiff yr argymhellion eu defnyddio yn ganllaw ar gyfer prosesau comisiynu Swyddfa’r Comisiynydd yn y dyfodol y tu hwnt i fis Ebrill 2019.

Mae'r Swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn cyfrannu at yr adolygiad o'r cynllun comisiynu ac asesu anghenion ledled Gwent ar gyfer gwasanaethau a chymorth i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol. Bydd hyn yn ein helpu i gomisiynu gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol.

Boddhad Dioddefwyr

Dros y 12 mis diwethaf, mae Heddlu Gwent wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi dioddef troseddau cudd sy’n dod ymlaen i roi gwybod am hynny.
Troseddau Cudd yw’r troseddau hynny nad yw’n hawdd eu datgelu na rhoi gwybod amdanynt. Maent yn cynnwys cam-drin plant a chamfanteisio rhywiol, troseddau casineb, cam-drin domestig, priodasau gorfodol, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, a thrais ar sail 'anrhydedd'.
Bydd cynnydd gwirioneddol yn rhai o'r troseddau hyn, ond rwyf yn ffyddiog bod y niferoedd cynyddol o adroddiadau yn golygu bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r troseddau ac yn fwy hyderus wrth roi gwybod amdanynt. Mae nifer cynyddol y troseddau a gofnodir, yn enwedig ym meysydd trais a throseddau rhywiol a gaiff eu tan-hysbysu, yn golygu y bydd angen gwasanaethau ar fwy o ddioddefwyr.
Mae buddsoddiad ychwanegol yn y meysydd hyn wedi dangos effaith gadarnhaol ar brofiadau’r bobl hynny sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Mewn arolwg boddhad pwrpasol a gynhaliwyd gyda goroeswyr cam-drin domestig yn hwyr yn 2018/19, dywedodd 87% o'r ymatebwyr eu bod yn fodlon ar yr hyn a wnaeth yr heddlu, gyda 90% yn dweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth cyffredinol a gafwyd gan Heddlu
Gwent. Oherwydd y newidiadau o ran adnoddau a staffio a welodd y Tîm Arolwg Boddhad Dioddefwyr yn ystod y flwyddyn, bydd yr arolwg yn dechrau eto ym mis Ionawr 2019.

Rwy'n parhau i fonitro bodlonrwydd dioddefwyr mewn sawl maes. Yn ystod 2018/19:
• Dywedodd 74% o'r dioddefwyr eu bod yn fodlon â'r gwasanaeth cyffredinol a gawsant;
• Dywedodd 92% y byddent yn hapus i roi gwybod i Heddlu Gwent am unrhyw ddigwyddiad yn y dyfodol.

Er bod hyn ychydig yn llai na'r llynedd, roedd nifer yr arolygon a gynhaliwyd yn sylweddol is ar gyfer 2018/19 o ganlyniad i'r newidiadau o ran adnoddau a staffio. Bydd fy Swyddfa yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent i wella gwasanaethau i ddioddefwyr a gwella boddhad drwy'r Strategaeth Dioddefwyr a thrwy'r byrddau mewnol presennol.

Blaenoriaeth 3: Cydlyniant cymunedol

Cynyddu dealltwriaeth a pharch ymhlith cymunedau i wella cydraddoldeb, diogelwch a lles

Cynnydd yn 2018/19:



Ymgysylltu â'n cymunedau

Cynhaliodd y Dirprwy Gomisiynydd, staff Swyddfa’r Comisiynydd a minnau amrywiaeth eang o weithgareddau ymgysylltu ledled Gwent gyfan. Ategir y gweithgarwch hwn gan raglen ymgysylltu ac ymgynghori flynyddol y mae fy Swyddfa yn ei chynnal sy'n gymorth i ganolbwyntio ar ein gweithgareddau ymgysylltu.  

Yn ystod y flwyddyn, cytunodd y Prif Gwnstabl a minnau ar Gyd-Strategaeth

Gyfathrebu ac Ymgysylltu Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent 2018-2022. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ffordd newydd o gydweithio ar gyfer y ddau sefydliad wrth gyflawni ein rhwymedigaethau statudol i ymgysylltu a chyfathrebu yn gyhoeddus. Cyhoeddir yr adroddiadau alldro ymgysylltu cyntaf yn 2019. Yn ystod 2019/20, nod fy swyddfa yw cynyddu ymgysylltiad er mwyn sicrhau bod y rheini na chlywir eu llais yn aml yn cael cyfle i ymgysylltu, yn enwedig plant a phobl ifanc yng Ngwent.

Ym mis Ionawr 2019, lansiodd Swyddfa’r Comisiynydd fwletin e-newyddion newydd.  Mae tri phrif ddiben i'r bwletin hwn:

  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a sefydliadau partner am weithgareddau Swyddfa’r Comisiynydd a phartneriaid;
  • Targedu preswylwyr sy'n defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd ond nad ydynt yn dilyn Swyddfa’r Comisiynydd ar y cyfryngau cymdeithasol;
  • Darparu strwythur ychwanegol i rannu gwybodaeth, yn fewnol ac yn allanol.

 

Ar ddiwedd mis Mawrth 2019, roedd mwy nag 800 o ddefnyddwyr wedi cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf. I gofrestru i dderbyn yr e-fwletin, ewch i  www.gwent.pcc.police.uk/en/home/.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent

Roeddwn yn falch o gael croesawu, ar y cyd â'r Prif Gwnstabl, diwrnod agored cyntaf ar y cyd y gwasanaethau brys, ‘Tu ôl i'r Bathodyn’ ym mhencadlys yr heddlu ym mis Mehefin 2018. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 15,000 o bobl yn heidio yno drwy gydol y dydd o bob cwr o Went a thu hwnt. Rwy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cydweithio sylweddol rhwng yr holl wasanaethau oedd yn rhan o’r diwrnod ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y blynyddoedd i ddod.

Prysuro fu hanes cyfryngau cymdeithasol Swyddfa’r Comisiynydd yn ystod 2018/19, yn arbennig y defnydd o Twitter i gyfathrebu â'n rhanddeiliaid allweddol. I ategu'r defnydd o Twitter a Facebook, rydym hefyd wedi dechrau defnyddio Instagram a YouTube yn ystod y flwyddyn fel dulliau o gyfathrebu ac ymgysylltu â thrigolion.

 

 

Mawrth 2018

Mawrth 2019

Cynnydd /  Gostyngiad

Dilynwyr benywaidd

Dilynwyr gwrywaidd

Twitter

 

4.313

4,689

cynnydd o 9%

53%

47%

Facebook

 

1,396

1,589

cynnydd o 14%

62%

37%

Instagram

 

Amh

206

cynnydd o 100%

Amh

Amh

Bu cyfrif YouTube gan Swyddfa’r Comisiynydd ers mis Mai 2015 a bu mwy o ddefnydd ar hwn yn ystod y flwyddyn i gynyddu nifer y tanysgrifwyr.

Drwy gynyddu ei phresenoldeb ar-lein a gwneud llawer mwy o ddefnydd o gyfryngau clyweledol sydd eisoes wedi'u sefydlu fel YouTube, fy Swyddfa i sy’n parhau i fod â'r nifer mwyaf o ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol ym mhob cyfrwng o gymharu â Swyddfeydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eraill yng Nghymru.

Ymhlith yr enghreifftiau eraill o'r meysydd hynny lle rydym ni wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â phartneriaid a chymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae:

  • Mynd i nifer o ddigwyddiadau cymunedol ledled Gwent rhwng mis Mai a mis Medi;
  • Ail-gychwyn fy nghymorthfeydd cyhoeddus o dŷ i dŷ ym mhob awdurdod lleol. Dilynir yr ymweliadau anffurfiol hyn gyda’r dewis o gyfarfod ffurfiol y mae angen ei drefnu ymlaen llaw. Mae hyn yn fy ngalluogi i ymgysylltu â phobl na fyddent fel arfer yn mynd i gymorthfeydd traddodiadol, gan barhau i gynnal cymorthfeydd ar gyfer y rhai sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd hon. Caiff pob cymhorthfa ei hyrwyddo drwy wefan Swyddfa’r Comisiynydd, ar yr amrywiol gyfryngau cymdeithasol a thrwy bartneriaid. Caiff y materion a drafodwyd eu cyflwyno i’r Uned Ymateb Cyhoeddus er mwyn dynodi unrhyw themâu ac ymdrin â nhw naill ai drwy godi ymwybyddiaeth o faterion e.e. defnyddio'r rhif 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng, neu drwy sicrhau yr hyrwyddir unrhyw beth a ddysgir drwy Heddlu Gwent;
  • Ym mis Hydref 2018, fe wnaethom ni ariannu a chynnal ar y cyd â Race Council Cymru, Mis Hanes Pobl Dduon Gwent yng Nghasnewydd, sef y digwyddiad cyntaf o’i fath. Roedd 2018 yn nodi 11 mlynedd o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru a'r thema oedd 'Eiconau Du Cymru'. Y siaradwyr gwadd oedd y Prif Gwnstabl a minnau, Simon Wooley, sy’n gyfarwyddwr Operation Black Vote, a nifer o aelodau o'r gymuned sydd wedi gwneud cyfraniadau cymdeithasol, economaidd neu gyfraniadau eraill i Went. Roedd y bobl a ddaeth yn croesawu cynnal digwyddiad o’r fath yng Ngwent ac yn eiddgar i weld gweithgareddau lleol tebyg yn y dyfodol;
  • Cefnogi Heddlu Gwent i roi cyhoeddusrwydd i raglen yr Heddlu Bach. Eisteddais ar un o'r paneli cyfweld ar gyfer Mochriw a Phillipstown, ac ymwelodd staff Swyddfa’r Comisiynydd ag ysgol gynradd Waunfawr gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC.  Bu'r Heddlu Bach o Ysgol Gynradd Blaenycwm hefyd yn cymryd rhan mewn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ac yn fy nghyfweld yn fyw ar y radio. Cafodd lluniau a fideos o'r ymweliadau eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol; 
  • Ariannu a chefnogi digwyddiad ar gyfer y Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol ym mis Ionawr 2019. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Aelodau'r Cynulliad hefyd, a daeth pobl ifanc o bob rhan o Went draw ac achub ar y cyfle i lansio eu 'Cwricwlwm Am Oes', sy'n amlygu'r meysydd allweddol mewn bywyd yr oeddynt o’r farn eu bod yn bwysig i'w dysgu mewn ysgolion, yn amrywio o goginio i sgiliau ariannol. Cafodd fideo byr ar y prosiect hwn ei greu a'i rannu ar sianeli ymgysylltu Swyddfa’r Comisiynydd. Pleidleisiwyd fod y Cwricwlwm am Oes yn flaenoriaeth i Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent y llynedd.

Cynlluniau Gwirfoddol

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn parhau i ymgysylltu'n frwd â'i gwirfoddolwyr. Mae'r Cynllun Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd yn caniatáu i wirfoddolwyr fynd i orsafoedd yr heddlu i wirio'r driniaeth a gaiff y rhai a ddelir yno, yr amodau y cedwir nhw ynddynt, ac a ydynt yn cael eu trin yn unol â’u hawliau. Mae'n cynnig amddiffyniad i’r rhai hynny sydd yn y ddalfa ac i’r heddlu ac yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned yn gyffredinol. Drwy gydol 2018/19, roedd naw gwirfoddolwr ar y cynllun ac fe gynhaliwyd 49 o ymweliadau wythnosol ar wahanol adegau yn ystod y dydd. Arweiniodd hyn at:

  • 59% o’r rhai yn y ddalfa yn ystod cyfnodau ymweld yn cael ymweliad o dan y Cynllun Ymweliadau Annibynnol;
  • 100% o'r materion a ddynodwyd o dan y Cynllun Ymweliadau Annibynnol yn cael sylw gan y rhingyll yn y ddalfa ar adeg yr ymweliad;
  • Cyfeirio dim ond un mater at Swyddfa’r Comisiynydd, a gafodd sylw gan arolygydd y ddalfa. Roedd hyn yn ymwneud ag anhawster ymweld â rhywun yn y ddalfa.

Cynhaliodd Gweinyddwr y Cynllun hyfforddiant ar swyddogaeth yr Ymwelwyr

Annibynnol i staff y dalfeydd ar ddiwedd mis Mai 2018 a hyfforddiant gloywi i'r Ymwelwyr Annibynnol eu hunain ym mis Chwefror 2019. Cafodd llawlyfr y Cynllun ei ddiwygio hefyd i adlewyrchu unrhyw newidiadau a fu yn ystod y flwyddyn.

Bob mis mae'r Cynllun Lles Anifeiliaid yn galluogi i drigolion y fro ymweld â’r cyfleusterau lle caiff cŵn yr heddlu eu cartrefu, eu hyfforddi a'u cludo, arsylwi ar yr amodau, ac adrodd arnynt. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd 10 gwiriad gan naw o wirfoddolwyr y cynllun. Cofnodir canlyniadau'r ymweliadau gan Swyddfa’r Comisiynydd a'u rhannu gyda Heddlu Gwent i sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw faterion neu bryderon y mae’r gwirfoddolwyr yn sôn amdanynt. Bydd aelodau'r cynllun hefyd yn ymweld â chyfleuster llety rhanbarthol cŵn yr heddlu yn Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, i asesu'r amodau a'r cyfleusterau y cedwir cŵn Heddlu Gwent ynddynt dros dro.

Cefnogodd fy Swyddfa wirfoddolwyr Lles Anifeiliaid yn ystod eu hymgyrch i sicrhau newid yn y gyfraith. O ganlyniad, ym mis Ebrill 2019, daeth Deddf Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth) 2019, neu ‘Deddf Finn’ i rym ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol gan ei Mawrhydi y Frenhines. O'r adeg honno, daeth yn drosedd niweidio anifeiliaid sy'n gweithio.

Gan weithio gyda Heddlu Gwent, mae Swyddfa’r Comisiynydd yn parhau i ddefnyddio’r adborth o'r ddau gynllun gwirfoddoli i helpu i roi sicrwydd i’r cyhoedd o'r safonau priodol ym mhob achos.  

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020

Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol2 cyntaf ar y cyd â Heddlu Gwent. Mae’r blaenoriaethau yn y Cynllun Cydraddoldeb, a ategir gan ddau gynllun gweithredu ar wahân, yn cyd-fynd â fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ac yn ei gefnogi, gan gydnabod anghenion a disgwyliadau ein cymunedau amrywiol yng Ngwent. Cyhoeddwyd yr ail Adroddiad Blynyddol ar y cyd ar gyfer 2017/18 ym mis Medi 2018 i ddangos ein cynnydd yn unol ag amcanion y Cynllun Cydraddoldeb.   Adolygwyd y gweithgareddau yng nghynllun gweithredu Swyddfa’r Comisiynydd hefyd er mwyn sicrhau pwyslais perthnasol a gwell adlewyrchiad o weithgarwch gweithredol cysylltiedig Heddlu Gwent, lle bo'n briodol.  Roedd rhai o'r gweithgareddau allweddol a bwysleisiwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gwaith y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb o ran stopio a chwilio a defnyddio grym, troseddau casineb, a gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw er mwyn cefnogi'r Strategaeth Gweithlu Cynrychioliadol. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynnwys lle bo'n briodol yn yr adroddiad hwn i dynnu sylw at feysydd arwyddocaol o gynnydd.

 

Datblygir Cynllun Cydraddoldeb newydd yn ystod 2019/20 i gwmpasu'r cyfnod o bedair blynedd rhwng 2020 a 2024. Caiff hwn ei gyhoeddi yn 2020.

Panel Craffu ar Gyfreithlondeb

Rydym yn parhau i weithio i sicrhau y defnyddir grymoedd yr heddlu yn gywir yng Ngwent. Cydlynir y Panel Craffu gan fy Swyddfa ac mae'n edrych ar yr hyn a ffilmiwyd ar gamerâu corff i weld sut y defnyddiwyd grymoedd stopio a chwilio a sut y defnyddiwyd grym, ynghyd â chraffu ar ddata perfformiad cysylltiedig a chofnodion stopio a chwilio ddwywaith y flwyddyn. Yn ystod 2018/19, roeddwn yn falch o weld nifer o welliannau i brosesau mewnol, gan gynnwys:
• Gwelliannau i'r ffordd yr ysgrifennir y seiliau ar gyfer chwilio pobl;
• Gostyngiad yn nifer y meysydd gwybodaeth gwag ar ffurflenni stopio a chwilio;
• Mwy o graffu mewnol ar ffurflenni gan oruchwylwyr;
• Enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltu gan swyddogion a welwyd drwy gyfrwng deunydd fideo o gamerâu corff.

Bydd fy Swyddfa yn parhau i weithio'n agos gyda Heddlu Gwent i sicrhau bod pwyslais priodol ar welliant parhaus.
Yn dilyn yr ymarfer a gynhaliwyd ym mis Hydref 2018, cynhaliwyd adolygiad o'r Cylch Gorchwyl er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r broses yn gywir ac yn ei chefnogi'n effeithiol. Fel bod cydraddoldeb rhwng craffu ar stopio a chwilio a defnyddio grym, o Ebrill 2019, ystyrir pob elfen ar wahân ar sail chwarterol bob yn ail. Cynhelir yr ymarfer cyntaf ar ddefnyddio grym yn briodol ym mis Gorffennaf 2019.

Stopio a Chwilio - ‘Gwybod eich Hawliau'

Gan adeiladu ar waith blaenorol i hyrwyddo stopio a chwilio cadarnhaol a'r wybodaeth ‘Gwybod eich Hawliau’, lansiodd Swyddfa’r Comisiynydd a Heddlu Gwent raglen ymgysylltu ar y cyd yn 2019. Mae'r rhaglen yn ceisio sefydlu amserlen reolaidd ar gyfer ymgysylltu â grwpiau allweddol. Bwriadwyd y rhaglen yn gyntaf ar gyfer pobl ifanc gyda phwyslais ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac mae’n cynnwys gwaith ymgysylltu ‘Gwybod eich Hawliau’ a gweithio gydag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent a'r Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant i helpu i feithrin hyder ac ymddiriedaeth rhwng cymunedau a'r heddlu.  Mae'r ail elfen yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i wneud cwyn er mwyn annog pobl i gwyno os yw rhywun yn teimlo ei fod wedi cael ei drin yn annheg gan yr heddlu.

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2019, cynhaliwyd dau weithdy gydag oddeutu 40 o bobl ifanc yn ardaloedd Pillgwenlli a Maendy yng Nghasnewydd. Cyflwynwyd nifer o heriau o ran teimladau tuag at yr heddlu; fodd bynnag, gobeithir y bydd ymgysylltu rheolaidd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddeall yn well y rhesymau y tu ôl i hyn, yn ogystal â meithrin cydberthnasau mwy cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu. Bydd gwaith a gynlluniwyd drwy 2019 ac i mewn i 2020 yn cynnwys ymgysylltu â phobl hŷn mewn cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n deillio o brofiadau blaenorol gwael o stopio a chwilio.

Troseddau Casineb

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn aelod o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb. Mae hyn yn sicrhau bod gennym ni drosolwg strategol o'r materion allweddol ledled Cymru a allai effeithio ar y ffordd yr ydym yn cefnogi ein cymunedau, gan ein galluogi ar yr un pryd i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru megis y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol 2017-2020.

Ym mis Hydref 2018, derbyniodd Swyddfa’r Comisiynydd £5,000 gan Lywodraeth

Cymru i gefnogi Heddlu Gwent yn ei weithgareddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Gan newid y trefniadau blaenorol, fe wnaethom wahodd ceisiadau ar y cyd gan grwpiau cymunedol i gefnogi gweithgareddau penodol ar gyfer yr wythnos. Cefnogodd y gronfa 11 prosiect o bob rhan o Went i gyflwyno gweithgareddau yn ystod yr wythnos a thu hwnt. Un o'r prosiectau a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos oedd 'hysbyseb' gwrth-droseddau casineb a ddaeth yn fyw yn nwylo medrus plant ysgol lleol a'n Heddlu Bach ein hunain. Gwerthuswyd y prosiectau i ddeall beth oedd effaith y cyllid. Mae adborth a gafwyd gan ymgeiswyr wedi dangos effaith gadarnhaol o ran ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o beth yw trosedd casineb, a beth y gellir ei wneud i roi gwybod amdano.

Rhoddwyd yr adborth canlynol gan un o'r prosiectau, Pobl yn Gyntaf Casnewydd:

"Cynhaliodd Pobl yn Gyntaf Casnewydd weithdy ym Marchnad Casnewydd, gyda chymorth Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru. Y diben oedd i Aelodau Pobl yn Gyntaf gloriannu amrywiaeth, ond hefyd i ystyried pa mor debyg yw pobl drwy ganfod profiadau bywyd a diddordebau cyffredin, gan ddangos ein bod ni bobl yn llawer tebycach na'r hyn sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Daeth nifer dda i'r gweithdy, gan gynnwys aelodau o gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol amrywiol.

Yn ôl y rhai a gymerodd ran, roedd y gweithdy yn ddefnyddiol iawn o ran codi ymwybyddiaeth o faterion diwylliannol ac annog trafodaeth ar y materion hyn ymysg aelodau Pobl yn Gyntaf (Casnewydd a Thorfaen). O ganlyniad:

  • Mae aelodau'n teimlo'n fwy hyderus i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Mae aelodau wedi codi ymwybyddiaeth bersonol o werthoedd, credoau a rhagfarnau a all effeithio ar eu harferion eu hunain.
  • Mae aelodau'n fwy ymwybodol o sefydliadau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol."

Blaenoriaeth 4: Mynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Sicrhau bod Heddlu Gwent yn gweithio i osgoi ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio'n agos gyda sefydliadau partner i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn yn effeithiol

Cynnydd yn 2018/19:

Gwent Ddiogelach

Sefydlwyd Gwent Ddiogelach gan Swyddfa’r Comisiynydd er mwyn gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol allweddol yn y pum awdurdod lleol. Mae'n ceisio creu cymunedau mwy diogel mewn modd strategol a chydgysylltiedig drwy fynd i'r afael â materion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, cydlyniant cymunedol, atal aildroseddu, a chefnogi dioddefwyr. Cafodd y dull partneriaeth hwn ei gydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei adroddiad yn 2016, Diogelwch Cymunedol yng Nghymru.

Drwy ei flaenoriaethau strategol cytunedig a chan ddefnyddio cyfleoedd ariannu a ddarparwyd gennyf, mae Gwent Ddiogelach wedi cefnogi comisiynu prosiectau gwerth dros £600,000, gan gynnwys ariannu'r ddarpariaeth ganlynol:

  • Prosiect llwyddiannus ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau tanau bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a gefnogwyd gan Gwent Ddiogelach yn 2017. Yn ogystal â pharhau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau ledled Gwent i leihau nifer yr ymosodiadau tân, tanau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thân megis ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân a galwadau ffug, bydd y prosiect yn edrych ar feysydd ychwanegol gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a chwarae triwant;
  • Y rhaglen chwaraeon Dyfodol Cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc, sy'n parhau i gael effaith gadarnhaol ledled Gwent;
  • Cefnogaeth i'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i gyflogi tri Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer Gwent gyfan, dau Weithiwr Dioddefwyr yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Thor-faen, a chyfraniad tuag at ddarpariaeth a chyflawni’r Cynllun Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys ym Mlaenau Gwent a Chaerffili. Bydd hyn yn parhau i sicrhau cymorth ar gyfer meysydd hanfodol o waith y gwasanaethau troseddau ieuenctid ac yn gwella a chynnal darpariaeth y gwasanaethau ledled Gwent;
  • Gwasanaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Rhanbarthol Gwent, a’r Cydlynydd, er mwyn sicrhau y bydd cyllid yn dal ar gael ar gyfer Timau Diogelwch Cymunedol lleol. Gwelwyd canlyniadau cadarnhaol o ran mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ei leihau, a chefnogi pobl sydd wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol eisoes yn ystod y flwyddyn; a
  • Swyddog Partneriaeth Cymunedau Diogelach i sicrhau y parheir i gydweithio ar ddarparu gwasanaethau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamdrin domestig ledled Casnewydd drwy'r Prosiect Diogelwch Cymunedol. Mae'r swydd wedi datblygu cysylltiadau cymunedol i helpu creu cymunedau cydlynus ar draws y ddinas a chefnogi'r gwaith o gydgysylltu ffordd o leihau tensiynau cymunedol drwy gynnwys sawl asiantaeth wahanol. 

Cydlynydd Rhanbarthol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gwent

Rydym wedi parhau i weithio i leihau'r effaith y mae pobl sy'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei deimlo. Drwy Partneriaeth Gwent Ddiogelach, rwyf yn ariannu Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gwent sy'n gweithio gyda'n partneriaid ym maes ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mhob un o’r pum awdurdod lleol, gan gynnwys gyda Prosiectau Diogelwch Cymunedol a Swyddog Perfformiad Casnewydd, i sicrhau y darperir y gwasanaethau a'r cymorth mewn modd mwy cydgysylltiedig i'n cymunedau yr effeithiwyd arnynt.  

Yn ystod y flwyddyn, bu'r Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu’r broses cyfleoedd sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau ymagwedd gyson tuag at y broses yn yr awdurdodau lleol ac yn darparu'r canlyniadau gorau i bobl sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae 'Ymgyrch Bang' yn fenter flynyddol rhwng Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac

Achub De Cymru i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Mae'n dwyn ynghyd yr heddlu a'r gwasanaeth tân gyda phartneriaid megis Dyfodol Cadarnhaol i dargedu ardaloedd lle mae’r perygl mwyaf yn ninas Casnewydd a Bwrdeistref Caerffili. Er mwyn gwella'r effaith gadarnhaol y mae Ymgyrch Bang wedi'i chael ers ei gweithredu, aed ati yn ystod 2018/19 i gydweithio ag awdurdodau addysg, iechyd yr amgylchedd a gorsafoedd tân lleol i geisio lleihau'r galw ar wasanaethau heddlu a thân drwy gydweithio mewn modd mwy lleol. Datblygwyd pecyn 'hyfforddi’r hyfforddwr' hefyd i sicrhau bod staff rheng flaen sydd â chyswllt â phobl ifanc yn cyflwyno neges gyson ledled Gwent ynghylch diogelwch tân ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Caiff y rhaglen ei rhoi ar waith yn 2019 yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y tymor tân gwyllt.

Rydym wedi parhau i gefnogi partneriaid ym mhob awdurdod lleol drwy fynychu diwrnodau gweithredu cymunedol. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i drigolion weld pa wasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt yn eu hardaloedd yn seiliedig ar yr agweddau penodol y maent wedi eu profi, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yna dechrau trafod â’r gwasanaethau hynny. 

Cyfiawnder Adferol

Dangoswyd bod cyfiawnder adferol yn lleihau aildroseddu drwy ddwyn troseddwyr i gyfrif am yr hyn y maent wedi'i wneud a'u helpu i fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddioddefwyr gwrdd â throseddwyr neu gyfathrebu â nhw i esbonio gwir effaith y drosedd a'u helpu i wella ar ôl y drosedd. 

Roeddwn yn falch o gael croesawu, gyda Heddlu Gwent, y gweithdy ‘Comisiynu Gwasanaethau Cyfiawnder Adferol Diogel Ac Effeithiol' ar gyfer Cymru, a gyflwynwyd gan y Cyngor Cyfiawnder Adferol ar y cyd â Chymdeithas Comisiynwyr   yr Heddlu a Throsedd.  Roedd y digwyddiad yn un o gyfres o sesiynau ledled y DU, a daeth â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac asiantaethau perthnasol ynghyd i gefnogi'r broses o gomisiynu gwasanaethau cyfiawnder adferol diogel ac effeithiol.  Roedd y sesiwn yn gyfle i glywed am y canllawiau diweddaraf yn ymwneud â chyfiawnder adferol, i rannu arferion da ar draws ardaloedd y Comisiynwyr Heddlu a

Throsedd ac i sefydlu rhwydweithiau rhannu gwybodaeth i ddarparu rhagor o wasanaethau o ansawdd uchel. Roedd yr adborth a gafwyd yn dilyn y digwyddiad yn dangos bod y gweithdy wedi cyflwyno gwybodaeth gadarnhaol am y cyfleoedd sydd ar gael o ran seilio arferion y dyfodol ledled Cymru ar gyfiawnder adferol. 

Bydd fy Swyddfa yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent i sicrhau y darperir cyfiawnder adferol effeithiol mewn cyfres o ddatrysiadau amgen a'r tu allan i'r llys.

Blaenoriaeth 5 Darparu Gwasanaethau Effeithlon ac Effeithiol

Sicrhau bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaethau sy'n diwallu prif anghenion ein cymunedau

Cynnydd yn 2018/19:


Diweddaru'r Cynllun Heddlu a Throsedd 2017-2021

Diweddarais fy Nghynllun Heddlu a Throsedd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol a'i fod yn adlewyrchu'r galw ar blismona ac anghenion ein cymunedau. Llwyddodd y diweddariad i wneud y ddogfen yn haws i'r cyhoedd ei deall ac i ddangos y gwaith da mae Heddlu Gwent yn ei gyflawni ledled ein cymunedau.
Roedd naratif am drosedd difrifol a chyfundrefnol, seiberdrosedd, a chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn hanfodol i'r diweddariad er mwyn pwysleisio ei bwysigrwydd a sicrhau bod amddiffyn ein trigolion mwyaf bregus yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent.

Ymgynghoriad Praesept ‘Dweud Eich Dweud'

Rhwng y 12fed o Dachwedd 2018 a'r 13eg Ionawr 2019, gofynnais i drigolion Gwent am eu barn ynghylch fy nghodiad arfaethedig i'r praesept (rhan plismona eich treth y cyngor) ar gyfer 2019/20. 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac mewn fformat electronig a phapur. Bu staff yn bresennol mewn 19 o sesiynau ymgysylltu â'r gymuned, yn ymgysylltu â thros 1,000 o bobl yn ystod y cyfnod hwn i hyrwyddo'r arolwg ac annog pobl i'w gwblhau.  Cafodd yr arolwg ei hyrwyddo'n helaeth ar draws y cyfryngau cymdeithasol hefyd a llwyddodd y negeseuon i gyrraedd mwy na 100,000 o'i gymharu â 10,500 o bobl y llynedd. Llwyddwyd i gysylltu â thros 40,000 o bobl trwy gyfrwng Gwent Nawr. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r e-ymgynghoriad yn y wasg leol ac ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd, yn ogystal â thrwy grwpiau cymunedol, sefydliadau partner, y trydydd sector ac awdurdodau lleol. Roedd copïau papur ar gael hefyd mewn fersiynau hawdd eu darllen (ar gais) o'm Swyddfa i.

Arweiniodd y dull rhagweithiol hwn o ymgysylltu at fwy o ganlyniadau na'r ymarferion ymgynghori blaenorol, gyda chyfanswm o 1,918 o ymatebion yn cael eu cofnodi (yr oedd 1,875 ohonyn nhw'n byw yng Ngwent), gan fynd heibio i'r sampl cynrychioliadol o 600. Roedd 67% o drigolion yn cefnogi'r egwyddor o godiad tybiedig o £1 y mis yn y praesept. Roedd 81% o drigolion yn y sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb yn gefnogol. Gan hynny, cynigiais godiad terfynol o 6.99% i Banel Heddlu a Throsedd Gwent3, a dderbyniwyd ganddynt ar yr 22ain o Chwefror 2019.

Mae gwrando ar bobl Gwent ac ymgysylltu â nhw yn fy ngalluogi i glywed eu barn, nid yn unig ar ein gwasanaeth plismona ond ar faterion lleol sydd o bwys iddyn nhw hefyd. Rwyf bob amser yn ystyried yr adborth rwyf wedi ei dderbyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau plismona. Byddaf yn parhau i weithio gyda'n cymunedau a phartneriaid i helpu i ddatrys unrhyw broblem sy'n cael ei chodi gyda ni.  

Cofnodi Troseddau

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynyddodd nifer cyffredinol yr achosion o drosedd a gofnodwyd yng Ngwent 20%, tueddiad ar i fyny a welwyd ar draws y gwasanaeth heddlu trwy Gymru a Lloegr. Yng Ngwent, mae'r cynnydd hwn yn ymwneud yn bennaf â throseddau trefn gyhoeddus a thrais heb anaf, sydd wedi cynyddu'n sylweddol.
Mae cynnydd mewn trosedd yn gallu adlewyrchu amrywiaeth o ffactorau. Mae'r rhain yn cynnwys gwelliannau o ran cofnodi troseddau, mwy o ddioddefwyr yn teimlo'n hyderus i hysbysu am droseddau newydd a hanesyddol, yn ogystal â chynnydd go iawn mewn rhai categorïau o droseddau. Mae Heddlu Gwent wedi parhau i ganolbwyntio ar gofnodi troseddau’n foesegol ac wedi buddsoddi'n sylweddol er mwyn sicrhau bod uniondeb eu data am drosedd yn foesegol a chytbwys. Golyga hyn fod uniondeb data trosedd Heddlu Gwent wedi gwella o 77% i dros 90% mewn cyfnod o ddwy flynedd. Yn ystod 2018/19, derbyniodd Heddlu Gwent ganmoliaeth gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi am eu dull rhagorol o adnabod a chofnodi troseddau rhywiol yn briodol. At hynny, mae buddsoddiad sylweddol wedi cael ei wneud mewn adnoddau sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein, sydd wedi galluogi'r heddlu i ymchwilio'n rhagweithiol i droseddau a digwyddiadau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd mewn troseddau a gofnodwyd.

Fodd bynnag, mae Heddlu Gwent wedi gweld lleihad yn nifer yr achosion o ddwyn o siopau a byrgleriaeth ddomestig yn ystod y flwyddyn. Yn unol â'r ystadegau cenedlaethol, rydym yn gweld cynnydd mewn rhai mathau o droseddau sy'n achosi mwy o niwed ond nad ydynt yn digwydd mor aml. Mae hyn yn golygu bod nifer y troseddau yn y categorïau hyn yn is, ond mae'r niwed a achosir i unigolion a chymunedau ganddynt yn sylweddol. Gyda'n partneriaid, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y troseddau hyn a rhoi mwy o bwyslais fyth ar eu hatal. Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent yn cofnodi ffigyrau isel o ran troseddau cyllyll ac rydym yn gwbl ymwybodol o’r diwylliant gangiau sy'n ymwneud â chyllyll a’r troseddau sy’n cael eu cofnodi yn y dinasoedd mwy - Llundain, Manceinion a Birmingham. Yn ystod 2018/19, dim ond 4.9% o'r holl droseddau'n ymwneud â gwrthrychau llafnog oedd yn gysylltiedig â throseddau gangiau. Rydym yn gweithio gyda disgyblion cyfnod allweddol 3 (blwyddyn 7,8, a 9) ym mhob un o ysgolion Casnewydd i ymateb i broblemau difrifol trais gangiau a throseddau cyllyll ac mae cynlluniau ar waith i gyflwyno'r fenter hon ar draws gweddill Gwent yn y dyfodol agos trwy swyddogion cyswllt ag ysgolion ac awdurdodau lleol.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y Prif Gwnstabl a mi'n cydweithio i fonitro tueddiadau sy'n datblygu a'r ffactorau sy'n gyrru newid er mwyn i ni allu parhau i sicrhau bod Gwent yn lle diogel i bawb.

Datganiad Cyfrifon y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl 2017/18

Derbyniodd Datganiadau Cyfrifon 2017/18 ar gyfer y Prif Gwnstabl a mi gymeradwyaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y 31ain o Orffennaf, gan gadarnhau barn ddiamod ar gyfer y ddau ddatganiad. Roedd y cwblhad llwyddiannus hwn yn garreg filltir bwysig, gan mai'r dyddiad cau statudol newydd ar gyfer cymeradwyo archwiliad o’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 fydd y 31ain o Orffennaf 2019 - y dyddiad cau blaenorol oedd y 30ain o Fedi ar gyfer bob blwyddyn.

Nid oedd y cwblhad llwyddiannus hwn heb ei heriau, a chynhaliodd yr Adran Gyllid a
Swyddfa Archwilio Cymru weithdy 'Gwersi a Ddysgwyd ar ôl Prosiect' ym mis Medi
2018 i gaboli'r broses diwedd blwyddyn yn barod ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Cafodd y canfyddiadau a chofnod gweithredu o'r gweithdy hwn eu hysbysu a'u monitro trwy'r Cydbwyllgor Archwilio.

Uned Ymateb i'r Cyhoedd

Lansiwyd yr Uned Ymateb i'r Cyhoedd ym mis Ebrill 2016 i roi gwell gwasanaeth i'r cyhoedd drwy sicrhau bod unrhyw anfodlonrwydd gyda Heddlu Gwent yn cael sylw mor gyflym ac effeithiol â phosibl cyn iddo ddatblygu'n gŵyn fwy difrifol. Sefydlwyd yr uned i hyrwyddo gweithio mewn ffordd agored, dryloyw ac effeithlon ac i roi ymateb priodol a phrydlon, ac mae'n cyd-fynd â gwaith Adran Safonau Proffesiynol Gwent. 

Yn 2018/19, mae’r Uned Ymateb i'r Cyhoedd wedi: 

  • Rhoi sylw i dros 1,500 o ddigwyddiadau gan leihau cwynion am yr heddlu lleol trwy hwyluso datrysiad cynnar a chanlyniad boddhaol i achwynwyr;
  • Derbyn 14 canmoliaeth gan bobl ynghylch y gwasanaeth ardderchog a dderbyniwyd gan swyddogion a staff. Hysbyswyd yr Adran Safonau

Proffesiynol am y rhain er mwyn iddo roi adborth i'r unigolion dan sylw; 

Bod yn rhan o brosiect cenedlaethol i ddatblygu'r system cwynion heddlu newydd 'Centurion'. Yn dilyn bod yn rhan o'r prosiect hwn mae Centurion wedi mabwysiadu model hysbysu'r Uned Ymateb i'r Cyhoedd fel templed rhagarweiniol y bydd pob swyddfa comisiynydd heddlu a throsedd yn genedlaethol yn gallu ei ddefnyddio. Mae'r tîm wedi cyfrannu at y gwaith o brofi'r broses Centurion newydd hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol.  

Gwella'r Broses Cyfiawnder Troseddol

Rwy'n dal yn Gadeirydd Bwrdd Strategol Cyfiawnder Troseddol Gwent, ac mae fy Swyddfa wedi parhau i weithio gyda'r partneriaid perthnasol i hyrwyddo system cyfiawnder troseddol mwy effeithlon ac effeithiol i Went, sy'n darparu canlyniadau gwell i ddioddefwyr. 

Yn ystod y flwyddyn, mae'r Bwrdd wedi rhoi sylw manwl i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, erlyniadau troseddau casineb ar sail anabledd, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a Glasbrint Cymru ar gyfer Cyfiawnder Menywod ac Ieuenctid. Mae'r Bwrdd wedi cytuno i weithredu fel y corff craffu ar gyfer y Fframwaith Arfer Gorau ar gyfer ymdrin â Cham-drin Domestig ac mae'n monitro gweithrediad y protocol stelcio ac aflonyddu lleol. 

Yn ystod 2019/20, gyda chefnogaeth staff Swyddfa'r Comisiynydd, bydd y Bwrdd yn gweithio i fonitro cydymffurfiaeth gyda'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd er mwyn cwrdd â gofynion cenedlaethol ar gyfer byrddau cyfiawnder troseddol lleol.

Gwobr Tryloywder Comparing our Police and Crime Commissioners (COPACC)

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Swyddfa'r Comisiynydd wedi ennill gwobr genedlaethol am dryloywder gan CoPaCC, corff cenedlaethol annibynnol sy'n monitro trefn lywodraethu'r heddlu. Mae CoPaCC yn cydnabod perfformiad rhagorol gan gomisiynwyr heddlu a throsedd a'u swyddfeydd. Rhoddwyd y wobr CoPaCC am y ffordd rydym yn darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch ar gyfer y cyhoedd ar ein gwefan, gan gynnwys gwybodaeth am 'pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud', 'beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario', 'beth yw ein blaenoriaethau', 'sut rydym ni'n gwneud penderfyniadau' a 'gwybodaeth am gwynion, polisïau a gweithdrefnau'. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno'n ffurfiol yn Uwch-gynhadledd Llywodraethu CoPaCC ym mis Gorffennaf 2019.

Mae'r wobr hon yn dangos y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog bod y sefydliad yn cyhoeddi gwybodaeth am y Comisiynydd a Swyddfa'r Comisiynydd y tu hwnt i'r lefel statudol gofynnol a bod y wybodaeth a ddarperir yn hygyrch a thryloyw.

Cydymffurfio â Gofynion Rhyddid Gwybodaeth

Derbyniodd Swyddfa'r Comisiynydd 24 Cais Rhyddid Gwybodaeth yn ystod 2018/19 a llwyddodd i gydymffurfio 100% gyda'r gofyniad cyfreithiol i ymateb i bob cais o fewn 20 diwrnod gwaith, gan gael effaith gadarnhaol ar hyder y cyhoedd. Mae'r rhan fwyaf o geisiadau a dderbyniwyd yn ymwneud â meysydd nad ydynt yn rhan o ffrwd gwaith amlwg, megis twyll etholiadol, symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol a Gwobr Tryloywder CoPaCC. Bydd yr holl wybodaeth yn ymwneud â cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod y flwyddyn yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2019 yn Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth Swyddfa'r Comisiynydd 2018/19.  

Yn ystod y flwyddyn, penderfynais newid y ffordd rydym yn cofnodi ceisiadau a dderbynnir gan Swyddfa'r Comisiynydd sy'n ymwneud â Heddlu Gwent. O fis Ebrill 2019, bydd y rhain yn cael eu cynnwys ar ein cofnod datgelu ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd er mwyn tryloywder llwyr ac i adlewyrchu nifer y ceisiadau go iawn a dderbynnir ac a brosesir gan Swyddfa'r Comisiynydd. 

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnal Cynllun Cyhoeddi4 sy'n ein rhwymo ni i wneud gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'n gweithgareddau busnes arferol. Mae'r cynllun yn amlinellu'r canlynol: 

  • Pa wybodaeth mae Swyddfa'r Comisiynydd yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi;
  • Sut byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon;
  • A fydd y wybodaeth ar gael am ddim neu a fydd rhaid talu amdani.

 

Mae'r Cynllun Cyhoeddi'n cael ei ddiweddaru yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, canllawiau a gyhoeddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw ofynion statudol eraill i gyhoeddi gwybodaeth.

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018

Daeth GDPR i rym ar y 25ain o Fai 2018, ynghyd â nifer o newidiadau i'r ffyrdd rydym yn cadw a defnyddio eich data personol. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i weithio i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gofynion newydd. Yn ystod haf 2018 cynhaliwyd archwiliad o'n trefniadau diogelu data gan ein harchwilwyr mewnol, a dderbyniodd radd sicrwydd ‘Rhesymol’. Cynhaliwyd archwiliad dilynol ym mis Ionawr 2019 i adolygu cynnydd o ran camau gweithredu nad oeddent wedi cael eu cwblhau, a derbyniwyd gradd sicrwydd ‘Rhesymol’ eto. Mae canlyniadau'r ddau archwiliad yn rhoi sicrwydd ein bod wedi datblygu'n dda o ran rhoi gofynion GDPR ar waith. 

Mae holl staff Swyddfa'r Comisiynydd wedi cwblhau hyfforddiant GDPR gorfodol i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arfer da mewn perthynas â gofynion diogelu data.

Y Gymraeg

Cyflwynwyd Safonau'r Gymraeg ar wahân ar gyfer y Prif Gwnstabl a mi ym mis Medi 2016 gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae fy swyddfa wedi parhau i weithio'n agos gyda Heddlu Gwent trwy gam un a cham dau rhoi'r Safonau ar waith i gefnogi ein hymrwymiad ar y cyd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym wedi:

  • Cynnal Cyfarfod y Gymraeg ar y cyd yn rheolaidd i oruchwylio cynnydd a chydymffurfiaeth barhaol;
  • Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol - Monitro Cydymffurfiaeth â Safonau'r

Gymraeg 2017-18 ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd a oedd yn tynnu sylw at y

gwaith a wnaed wrth roi'r Safonau ar waith ac yn adrodd ar y wybodaeth statudol ofynnol;

  • Parhau i ymgysylltu â phartneriaid trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Parhau i ddarparu sesiynau Cymraeg Lefel 1 Sylfaenol i bob swyddog a staff heddlu nad ydynt yn cyrraedd y lefel sgiliau iaith ofynnol. Mae 67% o swyddogion a staff Heddlu Gwent wedi derbyn y sesiynau. Mae 95% o staff Swyddfa'r Comisiynydd wedi derbyn y sesiynau hefyd; oherwydd cynnydd yn nifer y staff, bydd y gweddill yn derbyn y sesiynau yn gynnar yn 2019/20.

Mae Swyddog Polisi'r Gymraeg, sy'n gweithio ar y cyd i'r ddau sefydliad, wedi chwarae rhan ragweithiol yn datblygu ein darpariaethau hyfforddiant Cymraeg, yn ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru gyfan ac yn cynllunio mentrau mewnol i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Rydym yn dal i gydweithio i geisio gwella ein gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog a byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiadau cydymffurfiaeth blynyddol ym mis Medi 2019. 

Panel yr Heddlu a Throsedd

Rôl y Panel Heddlu a Throsedd yw archwilio fy ngweithredoedd a phenderfyniadau fel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, i hybu gweithio mewn ffordd agored a thryloyw wrth ymgymryd â busnes yr heddlu, a rhoi cefnogaeth i mi er mwyn i mi ymarfer fy swyddogaethau yn effeithiol. Y Panel sy'n gyfrifol am gwynion am fy ymddygiad wrth i mi gyflawni fy swydd hefyd. 

Yn ystod y flwyddyn, ymgynghorwyd ag aelodau'r Panel ynghylch ystod eang o brosiectau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a gyflawnwyd gan fy swyddfa, gan gynnwys: 

  • Pennu'r praesept;
  • Monitro gweithrediad Cynllun Heddlu a Throsedd 2017-2021;
  • Cynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-18;
  • Cynhyrchu Fframwaith Perfformiad Swyddfa'r Comisiynydd;  Perfformiad ariannol trwy gydol 2018/19;  Adolygu Cynllun Heddlu a Throsedd 2017-2021.

 

Bydd staff fy Swyddfa’n parhau i'm cefnogi wrth i mi ymgysylltu â'r Panel ac wrth roi sylw i unrhyw argymhellion a wneir o ganlyniad i ymgysylltu â nhw. 

Cyd-bwyllgor Archwilio

Mae'r Cyd-bwyllgor Archwilio6 yn rhoi sicrwydd annibynnol o ran risg, rheolaeth fewnol, craffu a goruchwylio'r prosesau adrodd ar berfformiad ariannol ar gyfer y Prif Gwnstabl a mi. Yn ystod 2018/19 cynhaliodd y Cyd-bwyllgor Archwilio bedwar cyfarfod ffurfiol ynghyd â phedwar sesiwn i roi sylw manwl i bynciau er mwyn helpu aelodau i ddeall y gwaith mae Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent yn ei wneud yn well. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar:
• Yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (TARIAN) ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU);
• Diweddariad Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (Swyddfa'r Comisiynydd a'r
Llu);
• Proffiliau gwerth am arian;
• Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd - Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Archwilio ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 ochr yn ochr â'r Datganiad o Gyfrifon, gyda manylion y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn a'r ffocws ar gyfer 2018/19. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i'r Prif Gwnstabl a mi o gadernid y gwaith a gyflawnwyd gan y Cyd-bwyllgor Archwilio yn ystod y flwyddyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol 2018/19.

Adnoddau a Gwerth am Arian

Mae fy Swyddfa'n derbyn adroddiadau rheolaidd fel rhan o'r gwaith monitro cyllideb i helpu i sicrhau bod pobl Gwent yn cael gwasanaeth heddlu sy'n rhoi gwerth am arian. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi:

  • Cytuno i ofyniad cyllideb o £141.07m i Heddlu Gwent ar gyfer 2019/20 (£133.68m oedd cyllideb 2018/19);
  • Pennu cynnydd o 6.99% yn nhreth y cyngor (4.37% oedd cynnydd 2018/19);
  • Cytuno i gyllideb cyfalaf o £27.92m ar gyfer 2019/20;
  • Parhau i fonitro sut mae'r Prif Gwnstabl yn rheoli'r gyllideb a phwysau oherwydd cyni (trwy raglen newid Aros ar y Blaen 8 Heddlu Gwent). O 2008/09 hyd ddiwedd 2018/19, mae rhyw £49.50m o arbedion wedi cael eu cyflawni.

Pennu'r Gyllideb

Ar gyfer 2018/19, pennwyd y cyllidebau canlynol ar gyfer gwasanaethau plismona yng Ngwent:

Police Officers 70.88m
Police Staff & PCSOs 29.63m
Other Employee Related Costs 3.82m
Force Investment Plan 2.61m
Premises 5.18m
Transport 2.58m

Yn ogystal, pennwyd y cyllidebau cyfalaf canlynol yng Ngwent ar gyfer 2018/19:

  • Ystadau - £15.5m
  • Cerbydau - £1.0m
  • Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu - £1.3m
  • Prosiectau a Chynlluniau Cyfalaf Eraill - £0.2m

Sicrhau Gwerth am Arian

Rwyf wedi sicrhau bod fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi gwneud popeth y gallant i ddarparu gwerth am arian gan sicrhau bod trigolion yn cael gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Meincnodi costau yn flynyddol gyda heddluoedd eraill trwy gyfrwng proffiliau gwerth am arian Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi;
  • Gradd sicrwydd 'Rhesymol' ar gyfer 2018/19 gan yr archwilwyr mewnol (TIAA) ar gyfer y system gyffredinol o reoli mewnol (heb gynnwys Archwiliadau TGCh o'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir - SRS);
  • Canlyniad archwiliad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o SRS yn nodi bod 'angen gwelliant mawr'.
  • Cwblhau a chyhoeddi fy Natganiad Llywodraethu Blynyddol;
  • Adroddiadau Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi7;
  • Archwiliad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru o fy Natganiad o Gyfrifon a chanfyddiadau'r archwiliad hwnnw (gan gynnwys trefniadau i sicrhau gwerth am arian).


Pobl

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i fonitro'r gwaith o roi Cynllun Pobl Heddlu Gwent ar waith, sy'n nodi bwriad y sefydliad o ran recriwtio, cadw a datblygu swyddogion a staff heddlu. Mae'n rhoi darlun clir o'r llwybr y mae'n rhaid ei ddilyn os ydym ni am gwrdd â'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau. Mae cynllun newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer cyfnod 2019/2022 a bydd y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad8 yn derbyn adroddiad amdano ym mis Mehefin 2019.

Mae ariannu a darparu gwasanaethau plismona yn rhan o'm dyletswyddau statudol a fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod gan Went adnoddau plismona priodol i gwrdd â gofynion ein cymunedau gan wneud yr arbedion angenrheidiol ar yr un pryd.

Daliodd y Prif Gwnstabl i recriwtio yn ystod 2018/19. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom groesawu 93 swyddog heddlu ar gyfnod prawf a 15 swyddog heddlu wedi trosglwyddo o ardaloedd plismona eraill. Fel rhan o'r gwaith parhaus i wella cynrychiolaeth weladwy o leiafrifoedd ethnig yn y llu, penododd Heddlu Gwent Swyddog Gweithredu Cadarnhaol yn y Gymuned i ymgysylltu â'r cymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol ac i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd recriwtio ar draws y sefydliad. Ar hyn o bryd mae poblogaeth o 3.9% o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Ngwent, ac mae Heddlu Gwent wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran cynrychiolaeth weladwy yn y gweithlu ar draws swyddi swyddogion heddlu, staff a swyddogion cymorth cymunedol. Cynhaliodd y Swyddog Gweithredu Cadarnhaol yn y Gymuned nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth ledled ardal y llu yn ystod 2018/19. Bydd y gwaith hwn yn parhau trwy gydol 2019/20 trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda rhanddeiliaid allweddol. 

Mae gwaith monitro'r gweithlu wedi gwella ein dealltwriaeth o'n cynrychiolaeth lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LGB) a'n cynrychiolaeth o bobl anabl. Er ein bod ni wedi gweld cynnydd yn y cyfanswm o'r gweithlu sy'n arddel hunaniaeth LGB, nid ydym yn gallu penderfynu a yw'r gweithlu'n gynrychioliadol ar hyn o bryd oherwydd diffyg ffigyrau pendant mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol yn y boblogaeth ehangach.  

Mae'r gyfran o swyddogion a staff anabl wedi aros yn gyson dros gyfnod o dair blynedd. Yn ystod 2018/19, enillodd Heddlu Gwent statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, a oedd yn gofyn bod y sefydliad yn ymgymryd â nifer o gamau gweithredu craidd sy’n hwyluso'r gwaith o gyflogi a chadw pobl ag anableddau a phobl â chyflyrau iechyd, gan ddarparu gweithle hygyrch a chynhwysol. Mae amrywiaeth o fentrau wedi cael eu rhoi ar waith yn fewnol dan y Strategaeth Lles sy'n rhoi cymorth a chyfleoedd i staff rwydweithio, yn ogystal â rhoi cyngor ymarferol, megis brechiadau ffliw, dosbarthiadau ffitrwydd a lles, a gweithgareddau rheolaidd i hybu byw yn iach.

Yn ystod y flwyddyn, cafwyd gweithredu cadarnhaol eto i recriwtio mwy o bersonél Cymraeg eu hiaith i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth plismona dwyieithog. O ganlyniad, rydym wedi llwyddo i recriwtio siaradwr Cymraeg arall i ystafell gyfathrebu'r llu. 

Mae'r Prif Gwnstabl a mi hefyd wedi ymrwymo i'r ymgyrch 'HeForShe', sy’n rhoi llwyfan y gall dynion a bechgyn ei ddefnyddio er mwyn dod yn gyfrwng newid er mwyn cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae 'HeForShe' yn rhoi cyfle i'r gwasanaeth heddlu gydnabod yn gyhoeddus, gan ei fod yn draddodiadol yn wasanaeth gyda llawer mwy o ddynion, bod anghydbwysedd pŵer yn bodoli o hyd rhwng y rhywiau. Y gobaith yw y bydd rhoi sylw i anghydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn ein sefydliadau yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd rydym yn ymateb i droseddau sy'n cael effaith anghymesur ar fenywod a merched hefyd, er enghraifft, trais domestig a thrais rhywiol. Bydd Archwiliad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau blynyddol Heddlu Gwent yn helpu pobl i ddeall lle y ceir effaith mwy negyddol ar fenywod, a galluogi camau gweithredu priodol sy'n mynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Bydd canlyniadau archwiliadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu rhannu gyda Swyddfa'r Comisiynydd ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Heddlu Gwent. 

Yn dilyn adlewyrchiad o ddata gweithlu Heddlu Gwent yn ystod 2018/19 a rhoi Cynllun Gweithlu Cynrychioliadol ar waith ar draws y llu, mae nifer o gamau gweithredu allweddol wedi cael eu nodi ar gyfer 2019/20, gan gynnwys:

  • Canolbwyntio ar ddiwylliant ehangach o ddeall ac addysgu yn y gweithle a chefnogi swyddogion/swyddogion cymorth cymunedol o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig trwy gyfres o ymyraethau ymarferol;
  • Cwmpasu cyfleoedd i weithio gyda sefydliadau anabledd ac arbenigwyr cyflogaeth i fod yn fwy cynhwysol a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl anabl ymuno â Heddlu Gwent;
  • Cwmpasu'r gwaith o ail gyflwyno'r rhaglen ddatblygu 'Sbardun' ('Springboard') i swyddogion a staff benywaidd;
  • Paratoi arolwg staff i ddeall y rhwystrau i ddyrchafiad, yn benodol i swyddogion benywaidd a swyddogion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Strwythur Swyddfa'r Comisiynydd

Yn dilyn adolygiad yn 2017/18, mae strwythur newydd wedi cael ei roi ar waith ar gyfer fy Swyddfa, sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad sefydliadol dan arweiniad y Prif Weithredwr. Rwyf yn hyderus bod y sefydliad mewn sefyllfa lawer gwell i fodloni ei ddyletswyddau statudol (sy'n cynyddu'n fythol) a chyflawni'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. 

Mae fy swyddfa wedi ymroi i fuddsoddi yn ei staff ac rydym wedi parhau i hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn sicrhau bod staff yn derbyn yr hyfforddiant a sgiliau gofynnol i sicrhau eich bod chi'n cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae pob unigolyn yn rhoi adborth ar yr hyfforddiant a dderbyniwyd, a defnyddir yr adborth hwn i asesu gwerth yr hyfforddiant hwnnw i'r sefydliad ac i'r unigolyn. At hynny, rydym wedi cyflwyno diwrnodau datblygu staff bob tri mis sy'n rhoi cyfle i bobl ddysgu ar y cyd yn ogystal â datblygiad sefydliadol  

Rydym wedi cymryd camau i wella amrywiaeth ein gweithlu hefyd. Yn ystod y flwyddyn, enillodd Swyddfa'r Comisiynydd statws 'Hyderus o ran Anabledd' a derbyniodd wobr efydd Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Bydd pob un o'r cynlluniau hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu gweithlu cynhwysol sy'n denu ceisiadau gan bobl anabl a chyn bersonél y Lluoedd Arfog.

Adnoddau

Y weledigaeth ar gyfer plismona yng Ngwent yw datblygu'r cydbwysedd cywir rhwng darpariaeth a thawelu meddwl. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth heddlu ymatebol, gorsafoedd heddlu yn y lleoliadau iawn, a thechnoleg a dulliau cyfathrebu modern i sicrhau y gellir cysylltu â swyddogion a darparu gwasanaeth effeithlon, effeithiol ac economaidd. Fel y Comisiynydd, fi sy'n gyfrifol am ystâd yr heddlu yng Ngwent, sy'n cynnwys yr holl orsafoedd heddlu, tir ac asedau.    

Er gwaethaf y lleihad mewn cyllid canolog i'r gwasanaeth heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf yn dal yn ymroddedig i weithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth heddlu gweladwy a hygyrch sy'n ymateb yn ddigonol i angen lleol ac yn tawelu meddwl y gymuned. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hyn wedi arwain at: 

  • Ail agor dalfa Ystrad Mynach i ddarparu mwy o le i gadw pobl yn y ddalfa yng Ngwent;
  • Sefydlu prosiect sy'n sefyll ar ei ben ei hun i benderfynu ar anghenion dalfa Heddlu Gwent yn y tymor byr, canolig a hirdymor ac i ddatblygu'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiwallu'r anghenion hynny. Dechreuodd gwaith cwmpasu yn gynnar yn 2019 ac roedd cynigion a chyfleoedd dangosol i gael eu cyflwyno i'r Bwrdd Strategaeth Ystadau ym mis Ebrill 2019;
  • Cafodd Cam 3 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ar gyfer y pencadlys newydd ei gymeradwyo gan y Prif Gwnstabl a mi ym mis Rhagfyr 2018 gan gadarnhau dyluniad manwl yr adeilad newydd. Prynwyd y tir yn derfynol ym mis Chwefror 2019 ac mae 'gwaith galluogi' megis draenio a phŵer ar y gweill ar gyfer mis Ebrill 2019. Bydd tendrau ar gyfer adeiladu, gosod a dodrefnu'r pencadlys newydd yn cael eu dyfarnu yn ystod haf 2019 a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2019;
  • Adolygiad o'r gwasanaethau cownter blaen a darpariaeth swyddogion ymholiadau mewn gorsafoedd. Rhoddodd yr adolygiad ddealltwriaeth well o'r ffordd orau y gall Heddlu Gwent gwrdd â galw mewn cymunedau yn wyneb y galw newidiol ar eu gwasanaeth a'r nifer fach o aelodau'r cyhoedd sy'n defnyddio cownteri blaen. O ganlyniad, penderfynwyd newid oriau agor rhai gwasanaethau cownter blaen;
  • Llwyddo i greu pwynt cyswllt heddlu yn 'siop un stop' Cyngor Sir Fynwy yn Y Fenni.

Penawdau ac Uchafbwyntiau

Troseddau Seiber

Mae plismona'n dal i wynebu heriau sylweddol mewn perthynas â throseddau a digwyddiadau sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber. Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn adnoddau i sicrhau ein bod ni'n gallu ymdrin â bygythiadau presennol a rhai newydd. Cododd troseddau sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber 45.8% yn ystod 2018/19 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hwn yn duedd sydd wedi bod yn codi dros y pedair blynedd diwethaf. Ymysg y troseddau mae sgamiau ar-lein, twyll hunaniaeth a cham-fanteisio rhywiol. Cyfeirir swm sylweddol o'r gyllideb rwyf wedi ei dyrannu i Heddlu Gwent tuag at atal a mynd i'r afael â throseddau seiber.

Mae bwlio/aflonyddu seiber yn cyfrif am y rhan fwyaf o droseddau seiber yng Ngwent, wedi ei ddilyn gan gam-fanteisio a thwyll. Fel arfer mae troseddau bwlio / aflonyddu seiber yn cynnwys bygwth neu anfon negeseuon sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Instagram, Snap Chat ac ati, ac mae'r troseddau hyn wedi cynyddu 54.8% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.    

Mae Ymgyrch Signature yn parhau i ddiogelu pobl fregus sydd wedi dioddef twyll. Pan gaiff twyll ar-lein ei hysbysu, mae ymchwilwyr ariannol hyfforddedig yn ceisio olrhain symudiad credyd trwy'r system bancio, a cheisio adennill yr arian sydd wedi cael ei ddwyn. Mae'r Cydgysylltydd Cam-drin Ariannol a Swyddog Diogelu, sy'n gweithio yn Connect Gwent, yn ymweld â phobl fregus sydd wedi dioddef trosedd i gynnig cymorth priodol a chyngor atal trosedd. Mae Swyddog Cymorth Seiber Cymunedol yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i roi cyngor cyfredol i'r cyhoedd ynglŷn â sut i osgoi dod yn ddioddefwyr twyll ar-lein. Rwyf yn edrych ymlaen at weld effaith gadarnhaol Ymgyrch Signature yn parhau. 

Mae Hyfforddwr Digidol yn gweithio yn y tîm Dysgu a Datblygu, ac mae'n helpu i ddarparu pecynnau hyfforddiant seiber i bob swyddog rheng flaen. Mae gwaith ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhaglen o hyfforddiant ymchwilio digidol ymarferol i swyddogion. 

Yn ystod 2019/20 bydd Heddlu Gwent yn uwchsgilio nifer fawr o swyddogion rheng flaen gyda hyfforddiant mewnol ac allanol trwy sefydliadau megis Get Safe Online. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ymdrin â throseddau seiber llai difrifol a chymhleth yn fwy effeithiol. Bydd yr adnoddau a hyfforddiant ychwanegol yn parhau i wella gallu Heddlu Gwent i ymchwilio, yn eu helpu nhw i ddwyn troseddwyr gerbron y llysoedd a gwella gwasanaethau i'r cyhoedd.

Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Mae fy Swyddfa wedi parhau i weithio gyda Chydgysylltydd Rhanbarthol Trawsnewid yr Heddlu, yr arweinydd strategol cenedlaethol, a Chadeirydd Partneriaeth Atal Caethwasiaeth Rhanbarthol i sicrhau bod yr adolygiad o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl a ddechreuwyd gen i, yn gadarn. Mae hyn wedi sicrhau bod gennym ni dystiolaeth gadarn sy'n dangos ein blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl fel gwasanaeth heddlu ac ar y cyd gyda phartneriaid. Cwblhawyd yr adolygiad yn yr haf yn 2018 ac aethpwyd â'r argymhellion ymlaen trwy gyfrwng y partneriaethau atal caethwasiaeth cenedlaethol a rhanbarthol. Mae'r canfyddiadau wedi arwain at ddulliau mwy cyson o ymdrin â'r materion hyn ar draws yr ardaloedd plismona yng Nghymru a gweithgareddau mwy cyfannol rhwng sefydliadau sydd wedi datganoli a rhai heb eu datganoli. Maen nhw wedi cael eu defnyddio fel sail i'n hymateb ni i'r galwad am dystiolaeth gan Bwyllgor Dethol Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl Y Swyddfa Gartref yn ystod 2018/19 hefyd.
Ym mis Mehefin 2018, dechreuodd rhaglen beilot 12 mis yr Eiriolwr Caethwasiaeth Fodern. Mae'r Eiriolwr yn cael ei gyflogi gan Gymorth i Ddioddefwyr ac mae wedi rhoi cymorth uniongyrchol i nifer o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern sydd wedi dioddef cam-fanteisio rhywiol neu gam-fanteisio ar weithwyr. Roedd un dioddefwr yn wladolyn Prydeinig. Mae'r Eiriolwr wedi cefnogi gweithredoedd yr heddlu a gweithgarwch arall gydag asiantaethau megis Tîm Mewnfudo'r Swyddfa Gartref a'r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) yn ôl y gofyn.

Er mwyn cefnogi mwy o waith partner, darparwyd pum diwrnod o ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a digwyddiadau diogelu i 600 o bobl a fynychodd o wahanol asiantaethau ledled Gwent. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dulliau cyson yn cael eu defnyddio wrth ymdrin â chaethwasiaeth fodern ac yn sicrhau gwell canlyniadau i ddioddefwyr.
Rwyf yn dal i gynrychioli pedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru ar Grŵp Arweinyddiaeth Cymru Gyfan ar gyfer Atal Masnachu Pobl a Rhwydwaith
Comisiynwyr Heddlu a Throsedd y DU ar gyfer Caethwasiaeth Fodern a Masnachu
Pobl. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni, ochr yn ochr â Grŵp Atal Caethwasiaeth Gwent, yn cyfrannu a dylanwadu'n weithredol ar y dull cenedlaethol o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Darparu Cynlluniau Dargyfeirio

Sefydlwyd y Cynllun Braenaru i Fenywod yn 2013 ac mae'n fenter gan Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru gyda'r nod o 'ddatblygu dull sy’n integredig ac yn amlasiantaeth - dull system gyfan' ar gyfer menywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.  Mae'n cefnogi menywod ar eu taith trwy'r system cyfiawnder troseddol, o'r pwynt arést i ryddhad o'r carchar, trwy sicrhau bod ymateb amlasiantaeth, cydgysylltiedig ar gyfer pob achos. Un o brif nodweddion y cynllun yw darparu ymateb amlasiantaeth i ddargyfeirio menywod (ble y bo'n briodol) oddi wrth y system cyfiawnder troseddol a thuag at gymorth ac ymyraethau cymunedol cyn gynted â phosibl. Mae'r Cynllun Braenaru i Fenywod wedi bod ar waith yng Ngwent ers mis Hydref 2015 a, hyd yn hyn, mae 347 o fenywod wedi cael eu dargyfeirio trwy'r cynllun.   

Trwy gydol 2018/19, yn gweithio gyda Heddlu Gwent, parhaodd fy Swyddfa i ddatblygu cyfleoedd dargyfeirio i holl droseddwyr lefel isel a throseddwyr tro cyntaf yng Ngwent, gyda phwyslais penodol ar bobl fregus. Gan y bydd y contract Braenaru i Fenywod presennol yn cael ei ail-dendro ym mis Hydref 2018, cynhaliodd Rheoli Integredig Troseddwyr ddigwyddiad Ymgysylltu â'r Farchnad ar gyfer Dull System Gyfan Cynllun Braenaru Menywod yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad yn sesiwn ar y cyd rhwng Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Heddlu Gwent a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru a Heddlu De Cymru a roddodd gyfle i ddarparwyr â diddordeb ddysgu mwy am y cyfleoedd tendro a oedd ar gael. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent wedi tendro am y cynllun dargyfeirio 18 i 25 newydd. Dyma'r garfan fwyaf o droseddwyr ac mae'n gam priodol i wella'r cymorth dargyfeiriol rydym yn ei gynnig yng Ngwent. Mae'r gwasanaethau newydd i fod i ddechrau yn ystod yr hydref 2019. 

Nid oes unrhyw amheuaeth bod cynlluniau dargyfeirio o fudd i gymdeithas trwy leihau ail droseddu a chynyddu gallu'r unigolion sy'n rhan ohonynt i fyw bywydau mwy cadarnhaol. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau pellach a chanlyniadau cadarnhaol dros y blynyddoedd nesaf. 

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) a Gwasanaeth Ymyraethau Adsefydlu Integredig Gwent (IRIS)

Mae GDAS yn cael ei weithredu ar y cyd gan Swyddfa'r Comisiynydd, y Bwrdd Cynllunio Lleol a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Mae'n darparu gwasanaeth integredig ymyrraeth cyffuriau, alcohol a theulu ledled Gwent i unigolion, gan gynnwys troseddwyr a chymunedau sy'n cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau. Darperir yr elfen cyfiawnder troseddol trwy'r Gwasanaeth Ymyraethau Adsefydlu Integredig (IRIS). Yn ystod 2018/19 canolbwyntiodd GDAS-IRIS ar fynd i'r afael â throsedd cyfundrefnol yn ymwneud â chyffuriau, digartrefedd a cham-drin domestig trwy fwy o waith partner gyda'r awdurdodau statudol a phartneriaid y trydydd sector.  

Derbyniodd y gwasanaeth 1,440 o atgyfeiriadau yn ystod 2018/19 ac mae rhai o'i brif gyflawniadau yn cynnwys: 

  • Ehangu'r Gwasanaeth Atgyfeirio Arést presennol i ddalfa Ystrad Mynach ym mis Ionawr 2019;
  • Gweithio gyda Heddlu Gwent i gefnogi gweithgarwch gweithredol cysylltiedig â cham-fanteisio troseddol i sicrhau bod unigolion bregus yn cael eu diogelu rhag bod yn bregus pellach;
  • Gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, trefnu uned profi symudol ar gyfer y diciâu. Cafodd 144 o bobl eu sgrinio a chytunwyd ar dempled ar gyfer cydweithrediad rhwng asiantaethau ar gyfer y dyfodol;  
  • Cefnogi'r ymateb amlasiantaeth i droseddau difrifol a chyfundrefnol yng Ngwent, gan ddarparu ymyraethau priodol ble y canfuwyd bod angen hynny;
  • Cymryd rhan yn Grwpiau Gorchwyl Cysgwyr Allan Casnewydd i gyfeirio pobl at gymorth, darparu gwybodaeth a rhoi cymorth i unigolion gyda phroblemau tai dwys. Mae camddefnyddio sylweddau a throseddu wedi cael eu hamlygu fel problemau cyffredin o fewn y gymuned cysgu allan;
  • Parhau i gefnogi cydweithio rhwng asiantaethau i ddarparu ymyraethau arbenigol i weithwyr rhyw. Mae staff GDAS yn cyfrannu'n rheolaidd at y gwaith o gasglu cudd-wybodaeth a chynllunio strategol, ac yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau lleol gan gynnwys Heddlu Gwent ar ymgyrchoedd wedi'u targedu.


Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 20159 yn rhoi cyfleoedd go iawn i sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yn canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor, cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus (BGCau) statudol a grëwyd gan y Ddeddf, sydd wedi disodli byrddau gwasanaethau lleol yn awr, ran hollbwysig i'w chwarae yn cynnal iechyd, annibyniaeth a lles pawb ar draws Cymru, a sicrhau bod eu bywydau nhw o werth ac yn llawn ystyr a phwrpas.

Fel gwestai statudol ym mhob un o'r pump BGC cyhoeddus yng Ngwent, mae fy Swyddfa'n cefnogi'r dull o weithio mewn partneriaeth sy'n sail i'w gwaith. Rydym wedi parhau i weithio gyda phob un o'r BGCau trwy gydol y flwyddyn wrth iddynt roi eu cynlluniau gweithredu ar waith. Rydym wedi cydweithio i ddatblygu cyfleoedd i gynnal gweithgarwch ymgysylltu ar y cyd hefyd, yn arbennig ar gyfer pynciau cyffredin megis y praesept a'r gyllideb.

Yn ogystal, rydym wedi parhau i weithio'n agos ar draws y BGCau i gyflawni gwaith ledled Gwent gyfan sy'n canolbwyntio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, i sicrhau dull cyd-gysyllteidig o weithio mewn partneriaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau trwy gydol 2019/20 wrth i'r rhaglen symud yn ei blaen. 

Arweiniodd dyhead gan yr holl bartneriaid i allu deall anghenion llesiant dinasyddion Gwent ar gyfer y dyfodol yn well, cynllunio'n well ar eu cyfer ac ymateb yn well iddynt at gomisiynu adroddiad 'Senarios y Dyfodol ar gyfer Gwent'. Mae'r adroddiad yn cysylltu'r gwaith ledled Gwent i roi sylw i lesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae pob BGC yn edrych ar ei ymatebion yn awr er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a lliniaru unrhyw broblemau a ganfuwyd. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda BGC Casnewydd i yrru'r gwaith troseddau difrifol a chyfundrefnol yn llwyddiannus yn y ddinas, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw ynghylch cynlluniau ar gyfer y prosiect yn y dyfodol. 

Rydym wedi parhau i weithio gyda BGC Caerffili i gefnogi datblygu Cynghrair Parc Lansbury dros Newid. Nod y bartneriaeth yw dylanwadu'n gadarnhaol ac addasu’r ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn yr ardal i alluogi newid diwylliant hirdymor o fewn y gymuned. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu yn awr i ddarparu dull 'un gwasanaeth cyhoeddus' ac mae gwaith yn cael ei gyflawni i ganfod gwasanaethau ac adnoddau priodol ar gyfer yr ardal. 

Yn Nhorfaen, mae'r BGC wedi datblygu dull 'blaenoriaeth yn seiliedig ar leoedd' o weithio i ddatblygu set o gynigion sy'n canolbwyntio ar amcanion y BGC i 'atal neu gyfyngu ar effaith cyflyrau iechyd cronig trwy gefnogi ffordd iach o fyw.' Nod y ffordd hon o weithio yw ceisio penderfynu sut gall y partneriaid BGC gydweithio yn y ffordd orau i wneud y mwyaf o lesiant lleol. Bydd y cynllun peilot ym Mlaenafon a gynhaliwyd yn ystod 2018/19 yn cael ei werthuso a bydd y casgliad yn cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Arolygon Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cynnal nifer o arolygon yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd ganmoliaeth i Heddlu Gwent yn dilyn arolygiad thematig ar eu dull o ymdrin â throseddau casineb. Fodd bynnag, nododd yr arolwg o Uniondeb Data Troseddu fod gwelliannau wedi cael eu gwneud ond bod 'angen gwella' a dyfarnwyd sgôr o 90.5% i Went. Nid yw’r adborth yn dilyn yr arolwg thematig ar Amddiffyn Plant wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol eto; fodd bynnag, soniodd yr arolygwyr am fy ymrwymiad i a'r Prif Gwnstabl i amddiffyn pobl fregus.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gynnal ymweliad gan Bennaeth Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, Syr Tom Windsor. Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod rôl y Datganiad Rheoli Llu newydd a'i ddefnydd fel dull o hunan-arfarnu ar gyfer plismona, yn ogystal â diweddariadau i nifer o fentrau cenedlaethol. Roedd Syr Tom yn ddiolchgar am y cyfle i drafod a deall natur gwaith plismona yn well o fewn cyd-destun system gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Ymgysylltu Rhanbarthol a Chenedlaethol

Grŵp Plismona Cymru Gyfan

Mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throsedd a’r pedwar prif gwnstabl yn parhau i gyfarfod bob tri mis i drafod materion strategol a chanfod y ffordd orau i gydweithio i atal trosedd ac amddiffyn dioddefwyr trosedd rhag niwed difrifol ac i ganfod mwy o gyfleoedd i gydweithio. Mae’r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid yn ystyried gofynion plismona ar gyfer Cymru yn awr ac yn y dyfodol.  

O fis Mehefin 2018 tan fis Mehefin 2019, fi yw Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan. Mae hyn yn golygu cyfrifoldebau ychwanegol yn trefnu gwaith ar y cyd ar draws y pedair ardal blismona yng Nghymru a gyda Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu Bwrdd Plismona ar gyfer Cymru, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae plismona'n wasanaeth cyhoeddus heb ei ddatganoli, a bydd y Bwrdd hwn, dan arweiniad yr heddlu, yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n llwyr ddeall rôl yr heddlu fel partner allweddol wrth gyflawni ethos 'un gwasanaeth cyhoeddus' Llywodraeth Cymru.

At hynny, Grŵp Plismona Cymru Gyfan oedd y prif gyfrwng ar gyfer casglu syniadau i lunio rhan o'n cynnig i'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

Bwrdd Plismona Llywodraeth Cymru

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Plismona Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd
2018. Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ysgrifenedig ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn nodi pwrpas y Bwrdd a'i bwysigrwydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi'u trefnu'n dda.

Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona

Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona trwy Swyddfeydd John Griffiths AC, a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf

Mae sefydlu'r grŵp hwn wedi rhoi cyfrwng ar gyfer gwell dealltwriaeth ymysg ACau o waith plismona a'r pwysau rydym yn eu hwynebu. Cytunwyd ar raglen lawn o gyfarfodydd yn y dyfodol i sicrhau ffocws priodol ar yr heriau mwyaf taer. Ymysg y meysydd pwnc mae:

  • Strwythur plismona yng Nghymru a'r heriau mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu
  • Iechyd meddwl
  • Digartrefedd, cysgu allan a cham-drin sylweddau
  • Trais domestig a cham-drin rhywiol
  • Caethwasiaeth fodern
  • Partneriaethau trydydd sector
  • Cyffuriau anghyfreithlon a symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol
  • Datganoli a chyfiawnder troseddol

Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (APCC)

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd Swyddfa'r Comisiynydd ymweliad gan Susannah Hancock, Prif Weithredwr Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Rhoddodd yr ymweliad rywfaint o gyd-destun i fy ngwaith yng Ngwent, gan gynnwys fy mhrif raglenni, ein partneriaethau, fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a'r Panel Heddlu a Throsedd. Gwnaethom drafod cydberthnasau rhwng Swyddfa'r Comisiynydd a Chymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac unrhyw faterion o achos pryder cenedlaethol, gan gynnwys Brexit. Roedd yr ymweliad yn hynod o werthfawr i'r ddwy ochr ac mae wedi helpu i baratoi ar gyfer ymgysylltu â'n gilydd yn y dyfodol. Ers yr ymweliad, mae Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi penodi prif swyddog ar gyfer Cymru. 

Uwch Grŵp Llywio'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Agorodd Llywodraeth y DU yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar ddechrau 2019. I baratoi ar ei gyfer, sefydlodd Y Swyddfa Gartref Uwch Grŵp Llywio i yrru'r elfen a oedd yn ymwneud â gorfodi'r gyfraith. Roeddwn yn falch iawn i gael gwahoddiad gan Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i fod yn un o'i bedwar cynrychiolydd ar yr Uwch Grŵp Llywio. At hynny, fi oedd yr unig gynrychiolydd o Gymru ar yr Uwch Grŵp Llywio, felly roedd gen i gyfrifoldeb penodol dros sicrhau bod y materion a oedd yn berthnasol i Gymru'n cael eu clywed, eu deall a'u hystyried yng nghyddestun y cyflwyniad cyffredinol. Nod yr Uwch Grŵp Llywio oedd sicrhau, cyn belled â phosibl, bod y cyflwyniad drafft yn ystyried y cyflwyniadau gan wasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn cael dull cydgysylltiedig o weithio ymysg ein partneriaid allweddol.

Edrych tua'r Dyfodol

Yn ystod fy nhair blynedd diwethaf fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd go iawn wrth ddarparu gwasanaeth plismona sy'n diwallu anghenion ein cymunedau yng Ngwent, ar adeg pan mae cyllidebau wedi cael eu hymestyn i'r eithaf. 

Byddaf yn parhau i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth plismona effeithlon ac yn effeithiol sy'n cynnig gwerth am arian. Byddaf hefyd yn parhau i sicrhau ffocws pwrpasol ar reoli perfformiad, gan weithio gyda Heddlu Gwent a'r Panel Heddlu a Throsedd i ddatblygu ein prosesau rheoli perfformiad ymhellach.  

Fodd bynnag, rhaid i ni sylweddoli faint o waith caled sydd angen ei wneud o hyd. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y prif faterion, megis trosedd difrifol a chyfundrefnol, cam-fanteisio, a gwarchod pobl fregus, gan ddatblygu ymateb i dueddiadau eraill sy'n dod i'r amlwg wrth iddynt godi. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddaf yn cefnogi creu swydd Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr i weithio o fewn Connect Gwent. Bydd y swydd hon yn rhoi llais i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn gwella gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gwasanaethau ar draws y system cyfiawnder troseddol yng Ngwent. 

Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon, rwyf wedi siarad â miloedd o drigolion Gwent ac mae eu hadborth wedi fy helpu i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r problemau sydd o bwys iddyn nhw. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd a'n partneriaid i sicrhau bod pobl yng Ngwent yn teimlo'n ddiogel, a'u bod nhw'n ddiogel, a'n bod ni'n darparu cymorth a thawelwch meddwl priodol iddyn nhw pan fydd angen. 

Wrth ddarparu'r ymateb hwn, byddaf yn parhau i gefnogi rhaglen recriwtio'r Prif Gwnstabl, gan sicrhau bod ein gwasanaeth heddlu'n alluog ac effeithiol. Yn ogystal, rwyf yn edrych ymlaen at symud ymlaen â gwaith ar y pencadlys heddlu newydd. Mae hwn yn rhan sylweddol o fy Strategaeth Ystadau a bydd yn helpu i sicrhau bod gennym ni gartref addas i'r pwrpas ar gyfer plismona yng Ngwent. Bydd y cyflawniadau hyn yn helpu i osod sylfaen cadarn ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod fy nhair blynedd diwethaf fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd go iawn wrth ddarparu gwasanaeth plismona sy'n diwallu anghenion ein cymunedau yng Ngwent, ar adeg pan mae cyllidebau wedi cael eu hymestyn i'r eithaf. 

Byddaf yn parhau i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth plismona effeithlon ac yn effeithiol sy'n cynnig gwerth am arian. Byddaf hefyd yn parhau i sicrhau ffocws pwrpasol ar reoli perfformiad, gan weithio gyda Heddlu Gwent a'r Panel Heddlu a Throsedd i ddatblygu ein prosesau rheoli perfformiad ymhellach.  

Fodd bynnag, rhaid i ni sylweddoli faint o waith caled sydd angen ei wneud o hyd. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y prif faterion, megis trosedd difrifol a chyfundrefnol, cam-fanteisio, a gwarchod pobl fregus, gan ddatblygu ymateb i dueddiadau eraill sy'n dod i'r amlwg wrth iddynt godi. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddaf yn cefnogi creu swydd Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr i weithio o fewn Connect Gwent. Bydd y swydd hon yn rhoi llais i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn gwella gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gwasanaethau ar draws y system cyfiawnder troseddol yng Ngwent. 

Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon, rwyf wedi siarad â miloedd o drigolion Gwent ac mae eu hadborth wedi fy helpu i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r problemau sydd o bwys iddyn nhw. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd a'n partneriaid i sicrhau bod pobl yng Ngwent yn teimlo'n ddiogel, a'u bod nhw'n ddiogel, a'n bod ni'n darparu cymorth a thawelwch meddwl priodol iddyn nhw pan fydd angen. 

Wrth ddarparu'r ymateb hwn, byddaf yn parhau i gefnogi rhaglen recriwtio'r Prif Gwnstabl, gan sicrhau bod ein gwasanaeth heddlu'n alluog ac effeithiol. Yn ogystal, rwyf yn edrych ymlaen at symud ymlaen â gwaith ar y pencadlys heddlu newydd. Mae hwn yn rhan sylweddol o fy Strategaeth Ystadau a bydd yn helpu i sicrhau bod gennym ni gartref addas i'r pwrpas ar gyfer plismona yng Ngwent. Bydd y cyflawniadau hyn yn helpu i osod sylfaen cadarn ar gyfer y dyfodol. 

Mynegai Dolenni i Wefannau

1.

 

Cynllun Heddlu a Throsedd Gwent 2017-2021 (Tudalen 3)

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/cyhoeddiadau/police-and-crime-plan/  

2.

Cyd Gynllun Cydraddoldeb Strategol Swyddfa’r Comisiynydd a Heddlu Gwent 2016-2020 (Tudalen

15)

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/cyhoeddiadau/  

3.

Panel Heddlu a Throsedd Gwent (Tudalen 20) www.gwentpcp.org.uk/www.gwentpcp.org.uk/cy/hafan  

4.

 

Cynllun Cyhoeddi Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Tudalen 23) https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/eich-hawliau/eich-hawl-i-wybodaeth/rhyddidgwybodaeth/cynllun-cyhoeddi-enghreifftiol-ac-arweiniad-i-wybodaeth/

5.

Gwybodaeth y Gymraeg Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Tudalen 23) www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/know-your-rights/welsh-language/  

6.

Cyd-bwyllgor Archwilio Gwent (Tudalen 24)

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/cyd-bwyllgor-archwilio/

7.

Adran Gwent o wefan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi

(Tudalen 26)

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/arolygiadau-arolygiaeth-cwnstabliaeth-ei-mawrhydihmicfrs/

8.

Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Tudalen 26) www.gwent.pcc.police.uk/en/transparency/public-meetings/  

9.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Tudalen 32) gov.wales/well-being-future-generations-wales-act-2015-guidance