Cynllun Heddlu a Throsedd
Mae Cynllun yr Heddlu a Throsedd y Comisiynydd yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent tan 2025.
Mae pum blaenoriaeth plismona, a ddewiswyd i ddiwallu anghenion cymunedau a sicrhau bod Heddlu Gwent yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol.
Blaenoriaethau'r heddlu a throsedd ar gyfer Gwent tan 2025 yw:
• Cadw Cymdogaethau'n Ddiogel
• Brwydro yn erbyn Troseddau Difrifol
• Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr ac Amddiffyn Pobl Agored i Niwed
• Cynyddu Hyder y Gymuned mewn Plismona
• Ysgogi Plismona Cynaliadwy