Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg 2021/22

CYNNWYS

Rhagair Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

  1. Cyflawniadau
  2. Strategaeth y Gymraeg ar y Cyd
  3. Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg

3.1 Cwynion yn ymwneud â gwasanaethau Cymraeg

3.2 Swyddi a hysbysebwyd yn 2021/22

3.3 Hyfforddiant

3.4 Sgiliau Cymraeg Cyflogeion

3.5 Monitro a Goruchwylio Cydymffurfiaeth â'r Safonau

  1. Cydymffurfiaeth â Safonau Darparu Gwasanaeth
  2. Cydymffurfiaeth â Safonau Llunio Polisi
  3. Cydymffurfiaeth â Safonau Gweithredol
  4. Heriau
  5. Cysylltu â ni
  6. Atodiad: Diffiniadau Heddluoedd Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg

RHAGAIR COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDD

Rwyf yn falch o gyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg hwn, sy'n dangos y cynnydd a wnaed gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Dyma'r ail adroddiad ar Strategaeth y Gymraeg ar y Cyd 2021-2025 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent. Mae'n canolbwyntio ar y gofynion adrodd a gynhwysir yn Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i mi fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â darparu gwybodaeth ynghylch sut rydym wedi gweithio i gyflawni'r prif addewidion yn y Strategaeth a'n cyflawniadau eraill yn ystod y flwyddyn. 

Mae'r Prif Gwnstabl a mi yn gwbl ymroddedig i sicrhau y gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio'r Gymraeg i gael mynediad at y gwasanaethau rydym yn eu darparu o ddydd i ddydd. Fel gwasanaeth plismona, rydym yn dal i groesawu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a gyda'n cymunedau. 

Mae cynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i gydweithio ac i weithio gyda phartneriaid eraill i ganfod arferion gwell ac arloesol i'n cynorthwyo ni i gyflawni'r amcanion a amlinellir yn y Strategaeth a chydymffurfio â’r safonau perthnasol.

Rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am y cynnydd rydym wedi ei wneud eleni ac estynnaf wahoddiad i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y gallwn barhau i wella'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau'n ddwyieithog.

Jeff Cuthbert, BSc., MCIPD

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent


1 CYFLAWNIADAU

Ymgysylltu yn Gymraeg

Yn ystod 2021/22, canolbwyntiodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) unwaith eto ar ymgysylltu gyda'n cymunedau Cymraeg eu hiaith.  

Rhwng Tachwedd 2021 ac Ionawr 2022, gwnaethom lansio ein harolwg 'Lleisio eich Barn ar Blismona' a oedd yn cynnwys cwestiwn ar y praesept. Eleni, defnyddiwyd y dull deuol eto ar gyfer ymgysylltu, gyda chyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ar draws ardal pob cyngor ynghyd ag arolwg ar-lein. Cynhaliwyd yr arolwg yn ddwyieithog a chafodd dolen i'r fersiwn Gymraeg ei hyrwyddo'n rhagweithiol gan y rhwydweithiau Cymraeg yng Ngwent. Yn anffodus, ni wnaeth meddalwedd yr arolwg a ddefnyddiwyd y tro hwn wahaniaethu rhwng dewis iaith yr ymatebwyr felly nid oeddem yn gallu canfod nifer yr ymatebion Cymraeg a dderbyniwyd. Tynnwyd sylw at hyn gan ein Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ac rydym yn gweithio i ddatrys y broblem.

Ers mis Mehefin 2020, mae Swyddfa'r Comisiynydd wedi lansio cyfrif Facebook Cymraeg ar wahân Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent | Facebook i sicrhau bod dilynwyr yn gallu gweld cynnwys wedi ei gyhoeddi yn eu dewis iaith  Rydym wedi parhau i hyrwyddo ein presenoldeb Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ystod y llynedd, gwelwyd cynnydd 66% mewn dilynwyr o gymharu â 2020/21. Er bod hyn yn gadarnhaol, mae nifer y dilynwyr yn dal yn isel, ac rydym yn ymchwilio i ffyrdd newydd i gyrraedd mwy o bobl.

Rydym wedi parhau i ddarparu'r fersiwn Gymraeg o'n e-fwletin i bobl sy'n tanysgrifio. Mae nifer y tanysgrifwyr wedi bod yn sefydlog yn ystod y flwyddyn, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hwn ymysg ein cymunedau (gweler adran 4 isod).

Hygyrchedd

Dechreuwyd ar y gwaith o ail adeiladu gwefan ddwyieithog Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod 2021/22. Mae gwelliant i'r swyddogaeth weinyddol yn rhoi mwy o gymorth i staff Swyddfa'r Comisiynydd uwchlwytho a chyhoeddi cynnwys yn y Gymraeg, a thrwy hynny wella ein prosesau cyhoeddi ar y wefan. Cwblhawyd y gwaith o drosglwyddo cynnwys i'r wefan newydd yn gynnar yn 2021/22 ac mae pob tudalen ar gael yn ddwyieithog yn awr. Mae dogfennau wedi'u hargraffu ar gael yn Gymraeg hefyd os gwneir cais.

Monitro a Hunanasesu Perfformiad o ran Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg adolygiad o gydymffurfiaeth Swyddfa'r Comisiynydd â Safonau'r Gymraeg. Cwblhawyd ffurflen hunanasesu ategol ar sail Cynllun Gweithredu'r Gymraeg seiliedig ar risg presennol Swyddfa'r Comisiynydd, a chanlyniadau archwiliad mewnol a gynhaliwyd y llynedd. 

Canfu'r ymarfer cydymffurfiaeth â'r Safonau bod Swyddfa'r Comisiynydd yn cydymffurfio'n llwyr ar draws pedwar o'r naw maes a adolygwyd:

  • Gohebiaeth;
  • Cyhoeddusrwydd a hysbysebu;
  • Cyfryngau cymdeithasol; a
  • Hunaniaeth gorfforaethol.

Cafwyd sylwadau cadarnhaol iawn, a oedd yn cydnabod ein prosesau a'n trefniadau i gefnogi cydymffurfiaeth ar draws y meysydd hyn.  Nodwyd bod ein presenoldeb dwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol yn well na phresenoldeb dwyieithog llawer o sefydliadau eraill.

Canfuwyd ein bod yn cydymffurfio'n rhannol yn y maes 'Gwefan'. Roedd hyn yn ymwneud â phroblem ymarferol gyda'r wefan newydd sydd wedi cael ei hunioni ers hynny.

Canfuwyd tri maes nad oeddent yn cydymffurfio â'r Safonau adeg yr adolygiad:

  • Ffôn - nodwyd yn flaenorol bod ymdrin â galwadau ffôn yn Gymraeg yn her hirdymor i Swyddfa'r Comisiynydd. Mae canllawiau ar y Safonau wedi cael eu hanfon at holl staff Swyddfa'r Comisiynydd, gan gynnwys proses ar gyfer ymdrin â galwadau ffôn. Rydym wedi parhau i gefnogi Heddlu Gwent o ran recriwtio Derbynnydd sy'n siarad Cymraeg, a fyddai'n cefnogi a chynorthwyo Swyddfa'r Comisiynydd i ymdrin â galwadau yn Gymraeg. Cefnogwyd y trefniant hwn gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg oherwydd bod y tîm mor fach ac oherwydd trosiant staff isel yn Swyddfa'r Comisiynydd. Fodd bynnag, gan nad oedd y prosesau recriwtio'n llwyddiannus, gwnaed trefniadau i wella sgiliau Cymraeg staff presennol y Dderbynfa er mwyn bodloni gofynion y Safonau. Byddwn yn parhau i fonitro datblygiad y trefniadau hyn.
  • Dogfennau (a gyhoeddir ar y wefan) - canfuwyd bod dwy o'r tair dogfen a brofwyd yn Saesneg yn unig. Cafwyd diweddariad yn y cyfarfod bod y ddogfen gyntaf a brofwyd (Strategaeth yr Ystâd) yn cael ei hadolygu ar y pryd ac y byddai fersiwn Gymraeg yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl. Roedd y ddogfen arall yn gysylltiedig â phroses cwyno a gyhoeddwyd ar wefan y Panel Heddlu a Throsedd. O dan y Safonau, nid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy'n gyfrifol am y broses hon, ac felly nid yw'n berthnasol.
  • Ffurflenni (a gyhoeddir ar y wefan) - canfuwyd bod un o'r tair ffurflen a brofwyd yn Saesneg yn unig. Canfuwyd bod y ffurflen ‘Cais am fynediad at wybodaeth gan y testun’ yn Saesneg yn unig. Mae fersiwn Gymraeg wedi cael ei chyhoeddi ers hynny.

Roedd un maes (Recriwtio) nad oedd yn rhan o'r gwaith profi gan na chafodd unrhyw swyddi eu hysbysebu adeg yr adolygiad.

Cawsom ein hysbysu bod prosesau effeithiol a dull rhesymegol o ddefnyddio'r Safonau yn golygu bod Swyddfa'r Comisiynydd yn perfformio'n well na llawer o sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Cydnabuwyd hefyd bod Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg Swyddfa'r Comisiynydd yn rhoi darlun cadarnhaol o ymroddiad y sefydliad i gyflawni gwasanaeth dwyieithog.


2 STRATEGAETH Y GYMRAEG AR Y CYD

Mae Strategaeth y Gymraeg ar y Cyd 2021-25 yn cynnwys tri addewid:

  1. Ymgysylltu’n effeithiol â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn llywio’r gwasanaeth a ddarperir gennym (gwybodaeth yn adran 1).
  2. Cynyddu nifer y siaradwyr a dysgwyr Cymraeg a gyflogir gennym ar draws y ddau sefydliad (ceir adroddiad dan adran 3.4).
  3. Casglu data y gallwn eu defnyddio i wella ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg. Ymysg enghreifftiau mae data'n ymwneud ag ymgysylltu a'r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, cwynion ynghylch sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg (cyhoeddus a mewnol), ceisiadau gan staff am ddogfennau Cymraeg yn ymwneud â'u cyflogaeth, a sgiliau Cymraeg yn y sefydliad. Ceir gwybodaeth am y rhain yn yr Adroddiad Cydymffurfiaeth Blynyddol.

Er mwyn galluogi cydberthnasau gwaith agosach a manteisio i'r eithaf ar arbedion, mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn parhau i rannu swyddi Swyddog Polisi'r Gymraeg a'r Cyfieithydd Cymraeg.


3 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU'R GYMRAEG

Mae'r adrannau canlynol yn darparu gwybodaeth am Safonau penodol y mae gofyn i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Trwy wneud hyn, rydym yn dangos sut mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cydymffurfio â'r Safonau ar ran y Comisiynydd.

3.1 Cwynion yn ymwneud â gwasanaethau Cymraeg

Yn ystod cyfnod yr adroddiad, ni dderbyniodd Swyddfa'r Comisiynydd unrhyw gŵynion am ein darpariaeth o wasanaethau Cymraeg, fel yr amlinellir yn Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn gyson â chyfnod adroddiad 2020/21.

Yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â'n cymunedau, rydym yn annog y cyhoedd i ddweud wrthym os ydynt yn meddwl nad ydym yn bodloni ein rhwymedigaethau mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn ein helpu ni i wella ein darpariaeth gwasanaeth ac i gyfathrebu'n effeithiol gyda'n cymunedau. Gellir cysylltu â ni ar y ffôn, drwy e-bost, wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau neu gyfarfodydd cyhoeddus, ar ein gwefan neu ar gyfryngau cymdeithasol. Rhoddir manylion pellach ar ddiwedd y ddogfen hon.

Cyhoeddir ein gweithdrefn ar gyfer cwyno am ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ar ein gwefan - Gweithdrefn Cwynion yn ymwneud â chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg |Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk), ynghyd â'r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb sy'n cyd-fynd â'r weithdrefn ac sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

3.2 Swyddi a hysbysebwyd yn 2021/22

Hysbysebwyd tair swydd wag gan Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod cyfnod yr adroddiad. Mae pob swydd a hysbysebir ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol ar y lleiaf. Mae hwn yn ofyniad ar gyfer proses recriwtio'r Prif Gwnstabl hefyd, yr ydym ni'n gyfrifol amdani.

Mae prosesau recriwtio yn ystyried defnyddio gweithredu cadarnhaol a hysbysebu wedi'i dargedu er mwyn denu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg. Mae ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gweithio gyda Swyddog Polisi'r Gymraeg i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i dargedu ein cymunedau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth o swyddi gwag.

3.3 Hyfforddiant

Hyfforddiant yn y Gymraeg

Mae Heddlu Gwent a Swyddfa'r Comisiynydd yn darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Cymraeg Lefel 1 i bob cyflogai fel cwrs gorfodol. Darperir yr hyfforddiant gan Swyddog Polisi'r Gymraeg.

Mae pob aelod o staff wedi derbyn y sesiwn hyfforddiant gorfodol yn awr. Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Lefel 1 yn cael ei gynnwys yn y rhaglen hyfforddiant sefydlu ar gyfer pob aelod newydd o staff. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu hyfforddiant diweddaru i swyddogion a staff yn ystod 2022/23.

Mae cyfleoedd ar gael i gyflogeion gofrestru ar gyrsiau mewnol Cymraeg i Oedolion a ddarperir gan Goleg Gwent. Mae cyflogeion yn mynychu yn ystod oriau gwaith ble bynnag y bo'n bosibl. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, nid oedd dim dysgwyr yn staff Swyddfa'r Comisiynydd.  

Byddwn yn parhau i gefnogi ac annog staff sydd am gofrestru ar gyrsiau Cymraeg priodol i'w lefel sgiliau presennol, ac i gymryd rhan yn y Rhwydwaith Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg sy'n cael ei redeg gan Heddlu Gwent. 

3.4 Sgiliau Cymraeg Cyflogeion

Mae'r siart canlynol yn dangos lefel y sgiliau Cymraeg yn Swyddfa'r Comisiynydd fel y cofnodwyd yn ystod cyfnod yr adroddiad. 

Rydym yn falch o fod wedi gallu cynyddu lefel sylfaenol y sgiliau Cymraeg sydd ar gael ar draws y sefydliad a byddwn yn parhau i annog a chefnogi staff i ddatblygu eu gallu a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg.

Sgiliau Cymraeg Staff*

2019/20
Lefel 1: 15
Lefel 2: 1
Lefel 3: 0
Lefel 4: 1
Lefel 5: 0

2020/21
Lefel 1: 15
Lefel 2: 1
Lefel 3: 0
Lefel 4: 1
Lefel 5: 0

2021/22
Lefel 1: 16
Lefel 2: 1
Lefel 3: 0
Lefel 4: 1
Lefel 5: 0

*Ac eithrio'r Comisiynydd

3.5. Monitro a Goruchwylio Cydymffurfiaeth â'r Safonau

Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr yw monitro a goruchwylio cydymffurfiaeth Swyddfa'r Comisiynydd â Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i'r Comisiynydd. Mae craffu mewnol yn digwydd mewn Cyfarfodydd Rheoli i alluogi'r Comisiynydd i oruchwylio cydymffurfiaeth a rhoi sylw i unrhyw broblemau.

Mae'n ddyletswydd ar y Comisiynydd i fonitro a chraffu ar gydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg, a orfodir ar y Prif Gwnstabl, hefyd. Mae staff Swyddfa'r Comisiynydd yn cymryd rhan yng Nghyfarfod y Gymraeg Heddlu Gwent a'r Bwrdd Strategaeth Pobl i gefnogi'r Comisiynydd wrth iddo gyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad y Comisiynydd, y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, yn derbyn adroddiadau blynyddol ynghylch cydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yn rhan o'n trefniadau llywodraethu. Mae Panel yr Heddlu a Throsedd Gwent yn derbyn adroddiad Swyddfa'r Comisiynydd er mwyn rhoi sicrwydd iddo ein bod yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, ac mae'n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd.


4 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU DARPARU GWASANAETH

Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'n cydymffurfiaeth â'r Safonau Darparu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion, fel y dangosir yn yr adran hon.

a) Cyfathrebu â'r Cyhoedd

Mae canllawiau ar gyfer staff wedi cael eu cyhoeddi ar fewnrwyd Heddlu Gwent 'Y Bît’, y mae gan ein staff ni fynediad iddi hefyd. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio gofynion y Safonau Darparu Gwasanaeth ar gyfer y ddau sefydliad yn glir ac yn syml.  

b) Gwefannau a chyfryngau cymdeithasol

Mae ein gwefan yn cynnwys rhagdudalen i annog siaradwyr Cymraeg i ddewis iaith cyn mynd at dudalennau eraill y wefan. Rydym wedi gwella ein presenoldeb cyfrwng Cymraeg ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd er mwyn ymgysylltu â chymunedau'n well. 

Rydym yn dal i ddosbarthu ein e-fwletin wythnosol, sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y sawl sy'n tanysgrifio. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd 20 o bobl wedi tanysgrifio i'r fersiwn Gymraeg, chwech yn fwy o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. 

Rydym yn parhau i ddarparu'r e-fwletin ar gyfer ein holl gymunedau fel ffordd rwydd o rannu'r newyddion diweddaraf am ein gwaith - mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan: E-fwletin | Comisiynydd yr Heddu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)/

Yn ystod 2022/23 byddwn yn parhau i ddatblygu ein cyfrif Facebook Cymraeg er mwyn ymgysylltu mwy gyda’n cymunedau a chyrraedd mwy o bobl.

c) Grantiau

Darperir pob gwybodaeth a gyhoeddir am gyfleoedd am gyllid yn Gymraeg a Saesneg. Os derbynnir cais yn Gymraeg, byddwn yn gohebu gyda'r ymgeisydd yn Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewn unrhyw gyfarfodydd perthnasol.

Yn ystod blwyddyn yr adroddiad hwn, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am gyllid yn Gymraeg. Dan y Strategaeth newydd, byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn hyrwyddo cyfleoedd am gyllid er mwyn codi ymwybyddiaeth ein bod yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.

d) Caffael

Nid oes unrhyw geisiadau neu gontractau wedi cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac ni dderbyniwyd unrhyw rai yn Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.

O ran contractau perthnasol (lle mae'r testun yn awgrymu y dylent fod yn Gymraeg) mae dogfennau tendro yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Mae'r ddogfen tendro yn nodi "Mae'r Comisiynydd yn croesawu ymatebion tendro yn Gymraeg" ac mae Rhestr Wirio'r Gymraeg wedi cael ei hymgorffori yn y broses dendro i sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei dalu i'r Gymraeg yn ystod pob cam.

Mae mynediad at wasanaethau cyfieithu proffesiynol yn sicrhau bod cynnwys cyflwyniadau yn y Gymraeg yn cael ei adlewyrchu'n gywir, a bydd y broses werthuso’n rhedeg yn gyfochrog â’r broses werthuso ar gyfer cyflwyniadau yn Saesneg (os yn berthnasol). Bydd yr un dyddiad cau yn berthnasol i gyflwyniadau yn Gymraeg a Saesneg a bydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn cael eu cynnig a'u trefnu ar gyfer contractau perthnasol os bydd sefydliad yn dymuno cael cyfweliad yn Gymraeg. Hysbysebir pob tendr yn Gymraeg a Saesneg.


5 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU LLUNIO POLISI

Rydym wedi bodloni ein Safonau Llunio Polisi trwy ddefnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i ganfod a rhoi sylw i unrhyw effeithiau ar y Gymraeg.  Mae Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan orfodol o'n gweithdrefn llunio polisi ac maent yn arwain ein llunwyr polisi a'n pobl sy’n gwneud penderfyniadau drwy'r broses o ystyried effeithiau negyddol neu gadarnhaol ar bobl sy’n rhannu Nodweddion Gwarchodedig fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Er nad yw'r Gymraeg yn Nodwedd Warchodedig dan Adran 4 Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym wedi diwygio ein templed Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn awr i gynnwys nifer o gwestiynau sy'n golygu y bydd unrhyw effaith ar y ffordd rydym yn trin y Gymraeg mewn perthynas â'r Saesneg, neu gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, yn cael eu nodi. Mae pob polisi newydd, ac adolygiadau o bolisïau presennol yn destun Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ac mae cymorth ar gael gan Swyddog Polisi'r Gymraeg i unrhyw gydweithiwr sy'n cwblhau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.

Er nad yw'r Safonau’n ei gwneud yn ofynnol ein bod yn cynnal asesiad yn y modd hwn, mae defnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn darparu dull effeithlon a chynhwysfawr o asesu effaith ein gweithgareddau mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rydym wedi cyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau sy'n amlinellu sut byddwn yn ystyried y Gymraeg yn ein penderfyniadau cyllido. Mae hwn ar gael ar ein gwefan: Polisi a Gweithdrefn Arian Grant | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)


6 CYDYMFFURFIAETH Â SAFONAU GWEITHREDOL

Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'n cydymffurfiaeth â'r Safonau Gweithredol y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw.  Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion fel y dangosir yn yr adran hon.  

a) Cymorth i Staff

Cyhoeddir canllawiau Safonau'r Gymraeg cynhwysfawr i staff ar fewnrwyd Heddlu Gwent ‘Y Bît’ ar y dudalen ‘Cymraeg’, y mae gan ein staff ni fynediad iddi hefyd. Mae'r dudalen yn cynnwys cymorth ac adnoddau i staff sydd am ymarfer eu sgiliau Cymraeg neu sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant hefyd.

Darperir templedi Cymraeg ar gyfer ymatebion allan o'r swyddfa a llofnodion personol, ynghyd â bathodynnau rhithwir y gall cyflogeion eu hychwanegu at eu negeseuon e-bost i ddangos eu bod naill ai'n dysgu neu'n siarad Cymraeg. Mae pob siaradwr a dysgwr Cymraeg hysbys ar draws yr heddlu wedi cael bathodyn neu laniard priodol i'w wisgo.

b) Swyddi Cymraeg

Mae pob hysbyseb swydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol fel mater o drefn, oni bai bod swydd yn cael ei hasesu i fod yn un lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd ati i gael y sgiliau perthnasol.  Bydd y Tîm Recriwtio yn Adran Gwasanaethau Pobl Heddlu Gwent yn rhoi cymorth i asesu newidiadau i ofynion iaith.

Yn allanol, caiff swyddi eu hysbysebu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg a chyhoeddir fersiynau Cymraeg o wybodaeth yn ymwneud â'r swydd honno, yn ogystal â ffurflenni cais.  Mae pob cais am swydd newydd yn gofyn i ymgeiswyr nodi lefel eu gallu yn y Gymraeg a, lle y bo angen, a hoffent gwblhau'r broses recriwtio yn Gymrae

c) Arwyddion

Mae pob arwydd newydd neu arwydd sy'n cael ei gyfnewid yn cael ei gynhyrchu'n ddwyieithog yn awr ar draws ystâd yr heddlu gyda'r Gymraeg mewn safle lle y mae'n debygol o gael ei darllen gyntaf.

d) Cyrsiau hyfforddiant a ddarparwyd yn Gymraeg

Nid yw staff Swyddfa'r Comisiynydd wedi gwneud unrhyw geisiadau i dderbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.


7 HERIAU

Nid oes gan Swyddfa'r Comisiynydd unrhyw heriau wedi eu cyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg sydd heb eu clirio. Serch hynny, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y meysydd lle rydym yn cydymffurfio'n rhannol a ganfuwyd yn ei hadolygiad - gwasanaethau teleffoni yn benodol.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag unrhyw arfer da a nodir neu heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i ni barhau i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent.


8 CYSYLLTU Â NI

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, neu i roi adborth ar sut gallwn ymgysylltu'n fwy effeithiol â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn ein cymunedau, cysylltwch â:

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Pencadlys Heddlu Gwent
Ffordd Parc Llantarnam
Cwmbrân
Croesyceiliog
Cwmbrân.
NP44 3FW

E-bost: Commissioner@gwent.pnn.police.uk

Ffôn: 01633 642200

Twitter: @gwentpcc

Facebook: https://www.facebook.com/gwentpcc/

Instagram: https://www.instagram.com/gwentpcc/

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg - byddwn yn ymateb yn gyfartal i geisiadau yn y ddwy iaith a byddwn yn ymateb yn yr iaith a ddewiswyd gennych heb oedi.


ATODIAD A: DIFFINIADAU SGILIAU CYMRAEG

Diffiniadau Heddluoedd Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg (sgiliau llafar yn unig):

Lefel 1

Gallu dweud enwau lleoedd, enwau personol, gallu cyfarch yn briodol yn bersonol neu ar y ffon, gallu dechrau a therfynu cyfarfodydd yn ddwyieithog.


Lefel 2

Gallu deall hanfod sgwrs a chyfleu gwybodaeth syml, gallu ymateb i geisiadau syml, gallu deall ceisiadau am gymorth, gallu defnyddio Cymraeg i drosglwyddo galwadau ffôn, gallu cyflwyno ei hun ac eraill.

Lefel 3

Gallu cymryd a throsglwyddo negeseuon sy'n debygol o fod angen sylw yn ystod diwrnod gwaith, gallu sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaethau ac i roi gwybodaeth fanwl, gallu disgrifio pobl a lleoliadau, gallu ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, gallu cymryd manylion neu nodiadau o wrando ar sgwrs Gymraeg.

Lefel 4

Gallu cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn ei faes gwaith ei hun, gallu dadlau achos o blaid neu yn erbyn syniad, gallu sgwrsio yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg wrth ddefnyddio terminoleg plismona neu dechnegol, gallu ymdrin ag ymholiadau'n effeithiol, gallu deall gwahanol dafodieithoedd, gallu cadeirio cyfarfod ac ymateb i gwestiynau yn Gymraeg, gallu disgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad yn Gymraeg.

Lefel 5

Gallu cyfweld ag ymgeiswyr am swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg ac asesu eu haddasrwydd, gallu ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau cymhleth neu ymdrin â gwrthdaro yn Gymraeg, gallu cyfweld neu holi yn ystod ymchwiliad, gallu ymdrin ag ymholiadau cymhleth neu sensitif, cwynion a chwestiynau ymosodol yn ei faes arbenigol ei hun, gallu gwneud cyflwyniadau yn Gymraeg.