Adroddiad blynyddol 2023/24


Cyflwyniad
Cadw cymdogaethau'n ddiogel
Brwydro yn erbyn troseddau difrifol
Rhoi cymorth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed
Gwella hyder y gymuned mewn plismona
Ysgogi plismona cynaliadwy
Y Gofyniad Plismona Strategol
Edrych i’r dyfodol

Cyflwyniad

Hwn yw fy wythfed Adroddiad Blynyddol a'r un olaf fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Mae wedi bod yn anrhydedd a braint gwasanaethu pobl Gwent fel eu Comisiynydd etholedig dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Dim ond sampl o'r hyn rydym wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf yw'r adroddiad blynyddol yma ac rwyf yn eithriadol o falch o'r gwaith rydym wedi ei wneud i bobl Gwent.

Unwaith eto, mae gwaith partner gyda sefydliadau eraill a'n cymunedau wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant gyda'n gilydd trwy gydol y flwyddyn. Trwy ein trefniadau partneriaeth effeithiol, rydym wedi gweithio'n llwyddiannus i leihau amrywiaeth o broblemau ar draws y maes plismona, y system cyfiawnder troseddol, gwasanaethau a gomisiynwyd, a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Ers cyflwyno'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn Llywodraeth Cymru yn 2015, rwyf wedi canolbwyntio ar greu modelau partneriaeth cynaliadwy ym mhopeth rwyf wedi ymwneud ag ef. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad eleni.

Mae darnau o waith sylweddol wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. I gyd-fynd â rhyddhau Cynllun Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiwedd mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad ar bartneriaethau diogelwch cymunedol (PDCau) a'u cysylltiadau â Chomisiynwyr. Roedd yn gofyn pa mor agos y dylai cynlluniau heddlu a throsedd a chynlluniau a strategaethau partneriaeth diogelwch cymunedol (PDC) gyd-fynd â'i gilydd, ac a ddylai comisiynwyr gael cyfrifoldebau a phwerau ychwanegol i ddylanwadu ar waith PDC. Gwnaethom weithio'n agos gyda'n PDCau yma yng Ngwent, ledled Cymru, a gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i lywio ein hatebion. Yn fy rôl fel arweinydd ar blismona lleol i Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, rwyf hefyd wedi helpu i lywio'r ymateb ar ran yr holl gomisiynwyr, gan sicrhau bod y cyd-destun Cymreig yn cael ei ystyried yn fanwl gan y Swyddfa Gartref.

Ym mis Rhagfyr, daeth canlyniadau'r ymgynghoriad i'r casgliad y dylai comisiynwyr yr heddlu a throsedd a PDCau gydweithio'n agosach trwy rannu cynlluniau i lywio blaenoriaethau ei gilydd yn ffurfiol.  Roeddent hefyd yn galluogi comisiynwyr yr heddlu a throsedd i wneud argymhellion ar flaenoriaethau a gweithgarwch PDCau, er gall y PDC benderfynu peidio â gweithredu yn unol â'r cais. Mae adolygiad ehangach o'r PDCau yn mynd rhagddo yn awr gan y Swyddfa Gartref, a fydd yn cynhyrchu adroddiad yn 2024. Yn gysylltiedig â hyn, mae'r adolygiad rhanbarthol o ddiogelwch cymunedol, a gafodd ei lywio gen i a fy swyddfa, yn cynnig cyflwyno fforwm newydd i ddod a chadeiryddion PDCau a chyfarfodydd byrddau eraill sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol, at ei gilydd i ddatrys y problemau na all cyfarfodydd unigol eu datrys ar eu pennau eu hunain. Y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei roi ar waith yn 2024, a bydd fy olynydd yn cadeirio'r cyfarfod.

Hefyd yn ymwneud â diogelwch cymunedol, daeth fy swyddfa a phartneriaid diogelwch cymunedol at ei gilydd y llynedd i roi cymorth iddynt ddatblygu’r Asesiad o Anghenion Strategol y Ddyletswydd Trais Difrifol cyntaf ac wedyn y Strategaeth interim:  ‘Gwent Heb Drais’. Roedd hyn ochr yn ochr â chyllid gan Y Swyddfa Gartref i gefnogi'r gwaith yma a buddsoddi mewn ymyraethau i atal a lleihau trosedd. Mae'r ymrwymiad sylweddol yma gyda phartneriaid yn gosod sail ar gyfer dull clir a phwrpasol o ymdrin â thrais difrifol ym mhob ardal yng Ngwent yn y dyfodol, ac mae'r Ddyletswydd yn gosod gofyniad statudol ar bartneriaid i wneud hyn. I gefnogi hyn, rwyf wedi recriwtio Rheolwr Cyflawni newydd ar gyfer fy swyddfa, sy'n gweithio i'r holl bartneriaid i gefnogi a chydgysylltu'r gwaith yma.

Fel 2023, mae'n ymddangos y bydd gwaith yn cael ei barhau yn 2024 i adolygu strwythurau a gofynion diogelwch cymunedol yn sylweddol, ac ail siapio rôl a chylch gwaith comisiynwyr yr heddlu a throsedd, gan eu dwyn yn agosach eto at y gwaith yma. Rwyf yn gwybod, gyda'r tîm rwyf yn falch i fod wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd, ar ôl i mi ymddiswyddo y byddant yn parhau i geisio gweithio gyda phartneriaid i wneud i'r system bresennol weithio'n well.

Yn ystod y flwyddyn, galwodd yr Ysgrifennydd Cartref ar heddluoedd i gynyddu'r defnydd o stopio a chwilio i atal troseddau treisgar. Pan gaiff ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn gyfiawnadwy, mae stopio a chwilio'n helpu i fynd i'r afael â throsedd ac amddiffyn y cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod gwybodaeth a chudd-wybodaeth gywir yn sail i'w ddefnydd bob tro. Nid yw'n faes plismona a ddylai gael ei yrru'n fympwyol gan dargedau. Hoffwn gymryd y cyfle yma i dawelu meddwl ein cymunedau unwaith eto y byddwn yn parhau i graffu ar ddefnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio trwy'r Panel Craffu ar Gyfreithlondeb a fy Mwrdd Strategaeth a Pherfformiad.

Er fy mod yn mynnu bob amser bod Gwent yn lle diogel ar y cyfan i fyw a gweithio ynddo, yn anffodus cofnododd Heddlu Gwent y nifer uchaf yn y pum mlynedd diwethaf o ddigwyddiadau y cawsant eu galw iddynt, sy'n parhau i osod galw sylweddol ar y gwasanaeth. Roedd nifer y troseddau a gofnodwyd bron yr un fath â'r llynedd, sef 58,000. Yn sicr, mae rhai ffactorau cadarnhaol yn y ffigyrau yma, gan fod llai o achosion o fyrgleriaeth, rhai mathau o ladrad a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus. Serch hynny, mae rhai troseddau meddiangar, fel dwyn o siopau, a rhai troseddau trais ac aflonyddu'n cynyddu. Un maes y bydd angen i'm holynydd roi sylw sylweddol iddo yw craffu ar waith Heddlu Gwent a phartneriaid a gweithio gyda nhw i geisio ymdrin â'r lefelau hyn yn y gobaith y byddant yn gostwng unwaith eto. Does dim datrysiad unigol a all fynd i'r afael â throsedd yn ein cymdeithas, ond gyda'n gilydd gallwn gael effaith.

Yn anffodus, yn ystod y flwyddyn, roeddwn yn sâl a bu'n rhaid i mi gamu yn ôl o'r swydd am gyfnod. Roeddwn mewn cysylltiad rheolaidd gyda fy nirprwy, Eleri Thomas, a'r Prif Weithredwr Sian Curley trwy gydol y cyfnod yma, a chefais wybod am yr holl waith ac unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Eleri a Sian a gweithwyr Swyddfa'r Comisiynydd am gamu i'r adwy yn ystod y cyfnod yma.

Jeff Cuthbert
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Cadw cymdogaethau'n ddiogel

Prif ymrwymiadau

Fy marn gyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn yma yw bod cymdogaethau Gwent yn ddiogel o hyd. Serch hynny, nid yw'r gwelliannau yr oeddwn wedi gobeithio adrodd amdanynt wedi dod i'r golwg. Mae effaith pwysau cymdeithasol ehangach fel yr economi wedi cael effaith negyddol, ac rydym wedi gweld hynny yn y cynnydd mewn dwyn o siopau a throseddau manwerthu. Rwyf yn falch bod cyfraddau byrgleriaeth wedi aros yn is nac erioed a bod anhrefn cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn lleihau yn raddol yn dilyn y tueddiadau uwch yn gynnar yn y flwyddyn; mae hyn yn gadarnhaol. Yn ogystal, rwyf yn hyderus bod y canlyniadau rydym wedi eu cyflawni trwy'r gwasanaethau a gomisiynwyd wedi gwneud cymdogaethau'n fwy diogel. Gall fy olynydd ddatblygu'r gwasanaethau sefydledig hyn ar gyfer y dyfodol.

(cymhariaeth rhwng 2022/23 a 2023/24)

  • Lleihau troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus (wedi lleihau) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (wedi cynyddu), a nifer y bobl sy'n cyflawni'r gweithredoedd hyn yn fynych (cynnydd bach)
  • Lleihau nifer y troseddau meddiangar a throseddwyr mynych (wedi cynyddu)
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd trwy Went gyfan (wedi aros yn sefydlog - marwolaethau neu anafiadau difrifol)
  • Comisiynu a buddsoddi mewn ymgyrchoedd atal trosedd effeithiol (gweler isod)

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Rhoi grantiau o £602,000 i brosiectau diogelwch cymunedol, y gwnaeth £243,000 ohonynt helpu i sicrhau cydweithio mwy gwybodus ac effeithiol trwy ariannu’r partneriaethau diogelwch cymunedol, £38,000 i ariannu dadansoddwr Gwent Fwy Diogel, a £208,000 i ariannu'r pum gwasanaeth troseddau ieuenctid.
  • Cwblhau proses dendro i ail gomisiynu Dull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 gyda darparwr newydd (Nelson's Trust) yn dechrau ym mis Ebrill 2024.
  • Yn ystod y flwyddyn, cafwyd 215 atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 a 243 atgyfeiriad i Ddull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod o Went.
  • Canfuwyd bod 70% o'r defnyddwyr gwasanaeth a ymgysylltodd â'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 ac a ymgysylltodd â Dull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod wedi gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at gyflawni o leiaf un o'u canlyniadau allweddol.
  • Cynhaliodd Dyfodol Cadarnhaol, rhaglen cynhwysiant cymdeithasol sy'n defnyddio chwaraeon i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol, 838 o sesiynau dargyfeirio wedi'u trefnu ledled Gwent.
  • Cynhaliwyd 130 sesiwn Dyfodol Cadarnhaol ymatebol i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol:
    • daeth 1,002 o bobl ifanc i'r sesiynau.
    • nododd 90% bod eu hiechyd a lles wedi gwella;
    • nododd 74% bod eu sgiliau bywyd wedi gwella; a
    • nododd 41% eu bod yn ymgysylltu mwy gydag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Cyfrannu £867,000 at Wasanaeth Cyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau Ac Alcohol Gwent (GDAS), a weithiodd gyda 2600 o ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Canran defnyddwyr gwasanaeth GDAS a oedd yn gwneud newidiadau cadarnhaol ym mhob maes canlyniad oedd:
    • Camddefnyddio alcohol – 68%
    • Camddefnyddio sylweddau - 75%
    • Troseddu - 77%
    • Iechyd a lles – 68%
    • Llety – 75%
    • Cyllid – 81%
    • Perthnasoedd – 74%
  • Cynnig yn llwyddiannus am £520,000 gan gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref i gefnogi mentrau sy'n rhoi sylw i drosedd yng Nglynebwy a Maendy (Casnewydd), yn ogystal â darparu prosiect gyda cholegau a phrifysgolion Gwent.
  • Trwy gyllid blaenorol gan Strydoedd Saffach, ariannu gweithwyr ieuenctid o Ganolfan Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i dargedu ardaloedd lle ceir problemau er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog nhw i fynd i'r Ganolfan yn hytrach na loetran o gwmpas mannau cyhoeddus.
  • Rhoi cymorth i Heddlu Gwent, partneriaid a chymunedau gydag ymgyrchoedd yn y gymuned i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
  • Cynnal gweithdy seiberddiogelwch i fusnesau i'w helpu nhw i wella eu cadernid yn erbyn seiberdroseddau sydd ar gynnydd.
  • Cyfarch arweinwyr gwleidyddol a phartneriaid allweddol yn San Steffan yn rhan o lansiad swyddogol Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned yng Ngwent yn ystod yr wythnos.
  • Dylanwadu ar yr adolygiad cenedlaethol o ddiogelwch cymunedol, gan gynnwys darparu cyllid a chysylltu gwaith yr adolygiad cenedlaethol gyda'r adolygiad rhanbarthol ar wahân.
  • Rhoi £65,000 i Gronfa Uchel Siryf Gwent i ddarparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl Gwent trwy gefnogi prosiectau sy'n helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Gweithio gyda Heddlu Gwent, awdurdodau lleol, cymdeithasau cominwyr ac aelodau seneddol lleol i ganolbwyntio ar feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon, yn ogystal â chefnogi ymgyrch Heddlu Gwent i fynd i'r afael â beicio oddi ar y ffordd yn Nhorfaen.
  • Croesawu agoriad 'trac pwmp’ newydd ar gyfer beiciau mynydd a beiciau BMX yng Nghaerffili, gyda chymorth ariannol gan fy swyddfa.
  • Ariannu sesiynau hyfforddiant gan yr elusen StreetDoctors, a roddodd hyfforddiant cymorth cyntaf i dros 100 o bobl ifanc a'u grymuso nhw i achub bywydau yn eu cymunedau.

Brwydro yn erbyn troseddau difrifol

Mae'r darlun o ran troseddau difrifol yn un cymysg. Mae'n gadarnhaol gweld lleihad mewn trais yn erbyn menywod a merched. Serch hynny, mae cynnydd mewn adroddiadau am droseddau domestig a rhywiol yn dangos nad yw hyder pobl i riportio troseddau wedi cael ei effeithio. Bydd monitro hyn yn fanwl yn hollbwysig er mwyn deall y darlun y tu ôl i’r data. Rydym wedi gwneud cynnydd yn y troseddau trais mwyaf difrifol; fodd bynnag, rwyf wedi cael fy sicrhau bod rhai o'r rhain (er enghraifft troseddau cyffuriau) oherwydd ffocws gweithredol i fynd i'r afael â'r broblem. Mae'r Ddyletswydd Trais Difrifol a chynlluniau newydd fel rhaglen CARA (Cautioning and Relationship Abuse) a'r gwasanaeth cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu (Tabw), sydd oll yn cael eu gyrru trwy fy swyddfa, yn fentrau newydd sy'n dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried y gwaith o geisio mynd i'r afael â thrais, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn cael budd o'r rhain yn y blynyddoedd i ddod.

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2022/23 a 2023/24)

  • Lleihau nifer y plant sy'n dioddef ecsploetiaeth droseddol a rhywiol fwy nac unwaith (Mae data'r heddlu'n dangos lleihad bach, ond rydym ni o'r farn nad yw'r troseddau hyn yn cael eu riportio ddigon).
  • Mwy o darfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol, ac ail-fuddsoddi asedau a atafaelwyd yn y cymunedau lleol (Troseddau cyffuriau - wedi cynyddu, trais difrifol – wedi cynyddu).
  • Gwella'r ymateb cyfiawnder troseddol cyffredinol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (arhosodd adroddiadau o dreisio a throseddau rhywiol difrifol yn sefydlog, cafwyd cynnydd mewn troseddau domestig, lleihad mewn trais yn erbyn menywod a merched, a chafwyd gwelliant mewn canlyniadau cyfiawnder troseddol).
  • Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n gweithio gyda phobl sy'n cyflawni troseddau difrifol i atal a lleihau aildroseddu (gweler isod).

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Yn defnyddio enillion troseddau a afaelwyd gan droseddwyr, dyfarnais £335,824 i 13 sefydliad sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ledled Gwent yn rhan o Gronfa Gymunedol yr Heddlu.
  • Cynhaliodd y gweithgor Dyletswydd Atal Trais Difrifol, sy'n cael ei arwain gan fy swyddfa, yr asesiad cyntaf o anghenion strategol, a'r strategaeth interim ledled Gwent a'r holl ardaloedd awdurdod lleol. Byddaf yn monitro eu heffeithiolrwydd yn awr yn rhan o ofynion y Ddyletswydd.
  • Helpu i atgyfnerthu ymrwymiad Casnewydd i'r Siartr Gwrth-drais Cenedlaethol trwy sicrhau bod plac am yr Angel Cyllyll yn cael ei godi yn y Ganolfan Ddinesig a chyflwyno gwobr arbennig i enillydd ein cystadleuaeth sticer gwrth-drais, gan gyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.
  • Hybu cyngor gwrth-sgamio trwy gydol y flwyddyn ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn mwy na 60 sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd, gan ymgysylltu â mwy na 8,500 o breswylwyr a busnesau.
  • Lansio cynllun newydd CARA (Cautioning and Relationship Abuse) gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Merthyr Tudful Mwy Diogel a Gwasanaethau Phoenix Domestic Abuse i roi sylw i droseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau perthnasoedd lefel isel.

Rhoi cymorth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed

Rwyf yn hynod o falch bod Connect Gwent a'r Uned Gofal Dioddefwyr, y mae fy swyddfa'n eu hariannu, yn parhau i gael lefelau boddhad uchel gan ddioddefwyr. Gellir dweud yr un peth am y gwasanaethau trais rhywiol a cham-drin domestig arbenigol rwy'n eu hariannu. Rwyf yn hyderus o berfformiad eleni bod gennym y systemau mewn lle i gefnogi pobl sy'n dod yn ddioddefwyr, a bod ansawdd y gwasanaethau hynny'n uchel o hyd. Fodd bynnag, mae bob amser mwy y gellir ei wneud, gan gynnwys gwella prydlondeb o ran rhoi gwybodaeth i ddioddefwyr ar adegau allweddol mewn achos.

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2022/23 a 2023/24)

  • Gwella gwasanaethau i ddioddefwyr a sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu cydnabod a’u bod yn derbyn ymateb priodol trwy Connect Gwent a'r Uned Gofal Dioddefwyr (Boddhad gyda'r Uned Gofal Dioddefwyr - 93%).
  • Gwella ein gwaith gyda phartneriaid i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed (dim metrig, gwybodaeth isod).
  • Gwella prydlondeb o ran rhoi gwybodaeth am ymchwiliad yr heddlu i ddioddefwyr (Data'n cael eu datblygu - dangosyddion yn awgrymu nad oes newid sylweddol ers y llynedd).
  • Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol i gefnogi dioddefwyr trwy'r
    broses cyfiawnder troseddol gyfan (gweler isod).

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Mae ein canolbwynt ar wasanaethau i ddioddefwyr yn hollbwysig o hyd, gyda'r uned gofal dioddefwyr newydd yn ymdrin â 55,105 o atgyfeiriadau ac yn rhoi cymorth i 39,889 o bobl.
  • Derbyniodd ein gwasanaeth cymorth amldrosedd i oedolion, a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr 2105 o atgyfeiriadau a derbyniodd ein gwasanaeth plant a phobl ifanc, a ddarperir gan Umbrella Cymru, 228 atgyfeiriad.
  • Roedd 91% o bobl a ddaeth i ddiwedd eu cymorth gyda Cymorth i Ddioddefwyr a 100% o blant a phobl ifanc a ddaeth i ddiwedd eu cymorth gydag Umbrella Cymru yn gallu ymdopi a gwrthsefyll yn well ar ôl cael cymorth.
  • Derbyniodd Cymorth i Ddioddefwyr gytundeb contract o £274,000 a derbyniodd Umbrella Cymru grant o £83,000.
  • Gwnaethom roi £20,000 i Age Cymru a £31,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a chafodd 90 o bobl eu hatgyfeirio a derbyniodd 93 o bobl gymorth yn ystod y flwyddyn rhyngddynt.
  • Derbyniodd New Pathways £465,000 ar gyfer cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol (ISVA) a gwasanaethau cwnsela, gan ymdrin â 1,327 o atgyfeiriadau.
  • Derbyniodd Cyfannol £171,000 ar gyfer ISVA a gwasanaethau cwnsela, gan ymdrin â 136 atgyfeiriad.
  • Datblygu tîm MATAC (pennu tasgau a chydgysylltu amlasiantaeth) yn Heddlu Gwent i weithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig.
  • Defnyddio asesiad o anghenion dioddefwyr gan Supporting Justice i helpu i ail gomisiynu gwasanaethau Connect Gwent, yn ogystal â gwneud argymhellion ehangach i Swyddfa'r Comisiynydd ynglŷn ag anghenion dioddefwyr yng Ngwent.
  • Roedd fy swyddfa'n allweddol yn cyflwyno'r gwasanaeth Cam-drin Domestig a gyflawnir gan yr Heddlu, 'Tabw', mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth eirioli annibynnol i gefnogi dioddefwyr.
  • Ail gomisiynu Dull System Gyfan y Llwybr Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 gyda phartneriaid.
  • Ymdrechu i ail gomisiynu gwasanaeth cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol (ISVA), trwy drefniadau cytundeb newydd a fydd yn dechrau yn yr haf 2024. Bydd y trefniadau cytundeb newydd, mewn partneriaeth â chomisiynwyr De Cymru a Dyfed Powys, yn ein galluogi ni i fonitro'r gwasanaeth yn fwy manwl a llywio'r gwasanaeth er budd dioddefwyr.
  • Cynnal cyfres o sioeau teithiol dros gyfnod o wythnos yng nghymunedau Gwent i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, gan ganolbwyntio ar gasineb ar sail crefydd ac ymgysylltu â mwy na 400 o bobl yn ystod yr wythnos.
  • Arwain yn rhanbarthol ar waith partner i dynnu sylw at Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd.
  • Cynnal sioe deithiol gan ymgysylltu â mwy na 900 o breswylwyr a myfyrwyr coleg yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn, yn ogystal ag arwain cyfathrebu ar ran y tîm VAWDASV rhanbarthol.
  • Gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Genedlaethol Stelcio ac Aflonyddu gyda phobl ifanc yng nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru, Parth Dysgu Glynebwy a Pharth Dysgu Torfaen.

Gwella hyder y gymuned mewn plismona

Nid yw canlyniadau arolwg hyder y cyhoedd yr hyn yr hoffwn iddynt fod ond mae'n bwysig nad ydynt yn cael eu hystyried allan o gyd-destun. Mae Gwent, a phlismona'n genedlaethol, wedi cael ei siâr o straeon heriol ar y cyfryngau, ffactor sy'n gallu effeithio ar hyn. Serch hynny, rwyf yn falch bod Gwent yn defnyddio dull rhagweithiol o adnabod pobl na ddylent fod yn gweithio i'r gwasanaeth, er mwyn anfon neges glir am y safonau sy'n ddisgwyliedig gan swyddogion a staff. Rwyf yn falch iawn hefyd bod perfformiad 999 a 101 wedi troi cornel go iawn, a bod Heddlu Gwent wedi cymell ei hun i roi prawf ar ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a'i fod wedi dechrau defnyddio Facebook mwy yn ystod 2024/25. Rydym wedi gweld cynnydd cymharol fach mewn troseddau nad ydynt yn cael eu riportio bob tro, fel troseddau casineb, ac rydym yn gweld recriwtiaid mwy amrywiol yn dod i mewn i'r gwasanaeth. Ar y cyfan, mae llawer i fod yn optimistaidd amdano wrth i ni fynd i mewn i'r flwyddyn nesaf, ac rwyf yn credu y bydd yr arolygon hyder yn dechrau gwella o ganlyniad i'r camau sy'n cael eu cymryd.

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2022/23 a 2023/24)

  • Gwella effeithiolrwydd gwaith ymgysylltu swyddogion a staff gyda thrigolion yn eu cymunedau, a hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn Heddlu Gwent. (Hyder wedi gostwng i 62%)
  • Gwella hygyrchedd timau plismona cymdogaeth trwy amrywiaeth o sianelau cysylltu sy'n diwallu anghenion y cyhoedd. (Dim metrigau penodol, ond cynyddodd ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol a chafwyd gwelliant sylweddol o ran perfformiad 999/101)
  • Cynyddu riportio troseddau gan gymunedau sy'n llai tebygol o ymgysylltu â'r
    heddlu (arhosodd adroddiadau troseddau casineb yn sefydlog, a chafwyd cynnydd bach mewn adroddiadau am gam-drin ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod)
  • Cynyddu amrywiaeth swyddogion a staff i sicrhau bod ein gwasanaeth heddlu'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu (3.7% o swyddogion a 2.1% o staff o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn erbyn 5.8% ym mhoblogaeth ehangach Gwent – fodd bynnag, y gyfradd ymuno ar gyfer swyddogion oedd 6.4%)

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd, a fydd yn cael ei ryddhau pan fydd y Comisiynydd newydd yn ei swydd ac yn cytuno ar y blaenoriaethau arfaethedig.
  • Cyflwyno cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru ar draws Swyddfa'r Comisiynydd a phartneriaid, sy'n llywio blaenoriaethau a gweithgarwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol dros y blynyddoedd nesaf.
  • Cefnogi prosiect Hanes Pobl Dduon 365 Race Council Cymru trwy gyllid, nawdd a gwobr yn y Gwobrau Ieuenctid a Chymunedau Cenedlaethol, a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn ystod y flwyddyn.
  • Gweithio gyda Chanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wrth iddi gynnal mis o weithgareddau'n canolbwyntio ar hanes pobl dduon yn rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.
  • Noddi cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu Duon i gefnogi swyddogion a staff heddlu duon Gwent. 
  • Ennill Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc am yr ail waith, sy'n cydnabod ymrwymiad parhaus Swyddfa'r Comisiynydd) i sicrhau bod y saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol yn cael eu dilyn wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Ehangu gweithdai Mannau Diogel i blant yn ysgolion Gwent, gyda sesiynau mewn 18 ysgol, gan ymgysylltu â mwy na 1,000 o blant.
  • Cynnal y chweched digwyddiad Hawl i Holi i bobl ifanc.
  • Cefnogi Coleg Gwent i ymgysylltu mewn cyfres o ddiwrnodau lles i fyfyrwyr.
  • Cynnal gweithdai gydag Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu lleisio barn ar y problemau yn eu cymunedau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.
  • Ymuno gyda Heddlu Gwent a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd ar gyfer gweithdy 'troseddau a chanlyniadau' yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
  • Cynnal dwy daith gerdded o gwmpas cymunedau Gwent, a 24 sesiwn ymgysylltu cyffredinol yn ystod y flwyddyn.
  • Mynd i 30 o ddigwyddiadau'r haf ledled Gwent trwy gydol yr haf, gan ymgysylltu â mwy na 7,000 o bobl.
  • Cynnal pedwar panel craffu ar warediadau y tu allan i'r llys a rhoi adborth i Heddlu Gwent lle y bo angen, i helpu i wella arfer ledled y gwasanaeth.
  • Cynnal paneli craffu ar gyfreithlondeb yn ystod y flwyddyn i adolygu hapsampl o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnyddio grym trwy gamerâu corff a
    data Heddlu Gwent.
  • Derbyn Gwobr Arian gan y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, sy'n well na'r statws 'Cydymffurfio â'r Cod' a roddwyd i'r swyddfa am ei gynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn ystod y cyfnod asesu blaenorol.
  • Recriwtio pum ymwelydd annibynnol â dalfeydd newydd yn dilyn ymgyrch recriwtio dros yr haf.
  • Y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd:
    • cynhaliwyd 44 ymweliad pan oedd 411 o bobl yn cael eu cadw yn y ddalfa a derbyniodd 278 ohonynt ymweliad.
    • Rhoddwyd sylw i 77 o fân broblemau a godwyd gyda Rhingyll y Ddalfa ar y pryd, a rhoddwyd sylw i ddau wedi hynny.
  • Y Cynllun Lles Anifeiliaid:
    • Cynhaliwyd wyth ymweliad
    • Codwyd un broblem fach a gafodd sylw gan y Rhingyll yn yr Adran Cŵn.
    • Derbyniwyd tystysgrif cydnabyddiaeth gan Dogs Trust am flwyddyn arall.
  • Helpodd y cynllun i drefnu sesiwn codi sbwriel yn y gymuned i gefnogi'r digwyddiad Help Llaw Mawr.

Ysgogi plismona cynaliadwy

Rwyf yn falch ein bod yn gorffen y flwyddyn gyda 1,506 o swyddogion heddlu, 170 mwy o swyddogion na phan gefais fy ethol yn 2016. Mae Heddlu Gwent wedi canolbwyntio ar iechyd a lles y swyddogion hynny hefyd, sy'n hollbwysig os ydym ni am gadw swyddogion profiadol ac ymroddgar. O ran cyllid, mae bwlch ariannol o ryw £2.8 miliwn o hyd o ganlyniad i bwysau chwyddiannol a heriau cyllideb. Bydd angen llenwi’r bwlch yma naill ai drwy gynyddu praesept y dreth gyngor, neu drwy setliad ariannol gwell gan Lywodraeth y DU. Mae'r Prif Gwnstabl wedi ymrwymo i raglen o newid sylweddol er mwyn darparu gwelliannau i'r gwasanaeth a gwerth am arian. Fodd bynnag, y realiti yw nad yw gwneud toriadau sylweddol o un flwyddyn i'r llall yn ateb cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gymorth ariannol ar gyfer plismona.

Prif ymrwymiadau
(cymhariaeth rhwng 2022/23 a 2023/24)

  • Sicrhau bod gan Heddlu Gwent y nifer cywir o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn y llefydd iawn (nifer y swyddogion heddlu'n sefydlog ar 1,506, staff wedi cynyddu o 28 a swyddogion cefnogi cymuned wedi cynyddu o 10)
  • Cynyddu buddsoddiad mewn technoleg plismona ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a'i mabwysiadu er mwyn cwrdd â heriau yfory heddiw (dim metrigau).
  • Gwella cymorth iechyd a lles ar gyfer swyddogion a staff i sicrhau bod ein gweithlu'n ffit ac yn barod i gwrdd â heriau plismona (Arhosodd absenoldebau salwch yn sefydlog ar gyfer swyddogion heddlu a chafwyd lleihad mewn absenoldebau salwch staff yr heddlu).
  • Lleihau effaith amgylcheddol plismona yn unol â thargedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Data'n cael eu datblygu yn unol â gofynion adrodd Llywodraeth Cymru).

Beth rydym ni wedi ei wneud

  • Cadw nifer swyddogion Heddlu Gwent ar 1,506.
  • Cytuno ar gyllideb o £173 miliwn i Heddlu Gwent ar gyfer 2024/25 (£8 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol).
  • Pennu praesept y dreth gyngor ar 7.7 y cant.
  • Creu cyllideb gyfalaf o £19.7 miliwn ar gyfer 2024/25.
  • Meincnodi costau blynyddol trwy broffiliau gwerth am arian Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
  • Derbyn dyfarniad sicrwydd gan archwilwyr mewnol bod gennym reolwyr a phrosesau rheoli a llywodraethu digonol ac effeithiol.
  • Derbyn datganiad sicrwydd ‘boddhaol ar y cyfan’ gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer y gwasanaethau TG a ddarperir gan SRS.
  • Cyhoeddi fy Natganiad Llywodraethu Blynyddol, sy’n dangos effeithiolrwydd ein gwaith llywodraethu.
  • Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer prosiect Cyfleuster Gweithredol Heddlu Gwent i gadarnhau'r costau a'r dyluniad; serch hynny mae'r prosiect wedi ei oedi oherwydd fforddiadwyedd.
  • Creu gweithdy fflyd newydd yn Llantarnam.
  • Galluogi i'r timau oedd ar ôl yn yr hen bencadlys adleoli er mwyn i waith dymchwel ddechrau a pharhau trwy gydol 2024.
  • Sicrhau bod canolfan heddlu newydd yn Y Fenni'n cael ei hadeiladu'n llwyddiannus i agor yn 2024/25.
  • Darparu gwaith gwerth cymdeithasol mewn cymunedau ac ysgolion yn rhan o brosiect Y Fenni.
  • Cynnal pedwar cyfarfod o'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
  • Ymateb i 38 Cais rhyddid Gwybodaeth ac un cais Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol - dim ond 19 o'r rhain oedd yn ymwneud â gwybodaeth a gedwir gan Swyddfa'r Comisiynydd ac ymatebwyd i 97% o fewn 20 diwrnod gwaith.
  • Cawsom adroddiad am un achos o doriad diogelu data ond nid oedd angen ei atgyfeirio at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gweithdrefnau wedi cael eu hadolygu i sicrhau nad yw'r un broblem yn digwydd yn y dyfodol.
  • Derbyn 43 cais am fynediad at ddata gan y testun. Nid oedd yr un o'r rhain yn berthnasol i wybodaeth a gedwir gan Swyddfa'r Comisiynydd. Yn hytrach roeddent ynglŷn â gwybodaeth a gedwir gan Heddlu Gwent.
  • Derbyn 34 cais am adolygiad o gwynion yn erbyn yr heddlu.
  • Dechrau cyfarfod craffu newydd gyda Heddlu Gwent, i ganiatáu iddo gymryd golwg fanwl thematig bob mis.
  • Cyflwyno hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod i holl staff Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent.
  • Gweithio gyda’r tri chomisiynydd heddlu a throsedd arall yng Nghymru i benodi saith cadeirydd newydd sydd wedi cymhwyso yn y gyfraith ar gyfer gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu.
  • Cynnal 25 sesiwn ymgysylltu yn rhan o'r broses pennu cyllideb, gan ymgysylltu â mwy na 1,500 o breswylwyr.
  • Rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar amryw o faterion yn ymwneud â phlismona a thynnu sylw at yr angen am gyllid cyfalaf oddi wrth Lywodraeth y DU.
  • Cynnal ymweliad gan Weinidog Plismona Llywodraeth y DU, Chris Philp AS, a cheisio esboniad ar gyllid i Gymru ar gyfer mentrau fel yr ardoll prentisiaeth, gwasanaethau iechyd meddwl, a strategaeth cyffuriau Llywodraeth y DU, O Niwed i Obaith.
  • Penodi cyfarwyddwr anweithredol i fwrdd y Coleg Plismona.
  • Hap-samplu detholiad o ffeiliau cwynion wedi gorffen i wirio ansawdd yr ymchwiliadau a rhoi sylwadau i adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent.
  • Trefnu a chynnal diwrnod hyfforddiant blynyddol y Cydbwyllgor Archwilio, a chynnal chwe chyfarfod o'r Cydbwyllgor yn ystod y flwyddyn.
  • Adolygu a chymeradwyo cylch gwaith y Cydbwyllgor Archwilio.
  • Tynnu sylw at y ffaith bod Heddlu Gwent yn allanolyn wrth gofnodi canlyniadau 'dim gweithredu pellach', gan arwain at newid prisiau gan Heddlu Gwent.
  • Cynnal ymarfer toriad o ddata Rhyddid Gwybodaeth a gadarnhaodd nad oes unrhyw wybodaeth wedi cael ei rhyddhau na ddylai fod wedi cael ei rhyddhau.
  • Cyflwyno cyfarfod craffu misol newydd i alluogi fy swyddfa i ganolbwyntio ar y meysydd sy'n peri'r mwyaf o bryder i'r cyhoedd.

Y Gofyniad Plismona Strategol

Mae'r Gofyniad Plismona Strategol (SPR) yn ddyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Cartref i nodi beth yw’r bygythiadau cenedlaethol troseddol a therfysgol canfyddedig sydd mor ddifrifol eu bod yn gofyn am ymateb plismona trawsffiniol. Mae'r SPR yn cynnwys rhai gofynion penodol ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throsedd ac fel Comisiynydd Gwent rwyf yn cymryd y gofynion yma o ddifrif. Mae gofyn i mi ystyried yr SPR wrth ddatblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd; dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am gael y galluoedd gofynnol i sicrhau ymateb effeithiol a chymesur i'r bygythiadau hynny; ac mae gofyn i mi ddarparu datganiad o sicrwydd ynghylch y trefniadau hyn yn fy adroddiad blynyddol.

Yn gyffredinol, rwyf yn cael sicrwydd ac yn goruchwylio'r ymateb i'r bygythiadau canfyddedig trwy wau blaenoriaethau'r SPR trwy fy mhrosesau sicrwydd a chraffu, a gan ein partneriaethau ehangach. Nid wyf yn hunanfodlon, ac mae mwy o waith i'w wneud yng Ngwent a ledled Cymru. Yn benodol, rwyf wedi canfod yr angen i sefydlu rhai dulliau goruchwylio a sicrwydd ychwanegol ar gyfer y gwaith cydweithredol ar draws Cymru gyfan sy'n darparu rhai o'n hymatebion plismona i'r SPR.

Isod, rwyf yn amlinellu'r prif fygythiadau a rhai o'r gweithgareddau / ymatebion sefydledig yr wyf i a fy swyddfa wedi eu defnyddio eleni mewn cysylltiad â'r SPR. Mae rhai agweddau (e.e. trais yn erbyn menywod a merched) yn cael sylw manylach yn yr adroddiad ehangach, felly nid oes angen dyblygu yma.

Bygythiad:

  • Trais yn erbyn menywod a merched
  • Terfysgaeth

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Gweler uchod
  • Ymateb gweithredol: Uned Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU), Heddlu Arbennig Lleol
  • Prif Gwnstabl Cynorthwyol yn rhoi adroddiad bob tri mis i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
  • Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn derbyn gwybodaeth bob tri mis am derfysgaeth trwy Fwrdd CONTEST Gwent a data lleol perthnasol mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:

  • Gweler uchod
  • Esblygu adroddiadau i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
  • Sefydlu dull craffu ar gyfer Cymru gyfan

Bygythiad:
Troseddau Difrifol a Threfnedig

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Ymateb gweithredol: Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (TARIAN).
  • Prif Gwnstabl Cynorthwyol yn rhoi adroddiad bob tri mis i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
  • Ymatebion partneriaethau lleol yn cael eu cydgysylltu gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, ym mhresenoldeb Swyddfa'r Comisiynydd
  • Swyddfa'r Comisiynydd wedi arwain datblygiad y Ddyletswydd Trais Difrifol ledled Gwent, sydd â chysylltiadau a throseddau difrifol a threfnedig

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:

  • Esblygu adroddiadau i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
  • Sefydlu dull craffu ar gyfer Cymru gyfan
  • Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol newydd Gwent, yn cysylltu â gwaith llywodraethu'r Ddyletswydd Trais Difrifol

Bygythiad:
Digwyddiad seiber cenedlaethol

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Ymateb gweithredol: Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Uned Seiberdroseddau Ranbarthol (yn ROCU), uned seiberdroseddau'r heddlu
  • Adroddiadau twyll seiber yn mynd i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad bob tri mis sydd, yn eu tro, yn cael eu gosod ar wefan y Comisiynydd
  • Mae seiber yn fater thematig ar gyfer y fforwm craffu misol

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:

  • Esblygu adroddiadau i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad
  • Sefydlu dull craffu ar gyfer Cymru gyfan (mewn perthynas â'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol)

Bygythiad:
Cam-drin plant yn rhywiol

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Ymateb gweithredol: Uned ymchwilio i gam-drin plant o fewn Uned Amddiffyn y Cyhoedd Heddlu Gwent, Ymgyrch Quartz
  • Mae pryderon diogelu'n cael eu rheoli yn y cyd-destun partneriaeth trwy'r Bwrdd Diogelu, y mae Swyddfa'r Comisiynydd yn aelod ohono
  • Cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei adrodd i'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad bob tri mis, ac adroddiad blynyddol yn cael ei ddarparu gan yr heddlu

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:

  • Datblygu model Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn
  • Ffrwd gwaith plant a phobl ifanc VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol)

Bygythiad: Anhrefn cyhoeddus

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Ymateb gweithredol: Comander efydd, arian ac aur wedi'u hyfforddi'n briodol, plismona ymateb cyffredinol, uned cŵn. Gweler argyfyngau sifil isod hefyd.
  • Cydlyniant cymunedol ac anhrefn sifil yn cael eu hystyried mewn partneriaethau diogelwch cymunedol lleol, ym mhresenoldeb y Comisiynydd
  • Prif Weithredwr Swyddfa'r Comisiynydd yn cael gwahoddiad i fynd i gyfarfodydd Aur yn ôl y gofyn yn ystod anhrefn sifil

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:
Maes thematig i'w ychwanegu at y cyfarfod craffu misol newydd.

Bygythiad: Argyfyngau sifil

Gwaith a gynhaliwyd / mewn lle:

  • Ymateb gweithredol: Plismona ymateb cyffredinol, plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol, Adran Argyfyngau a Chynllunio Gweithredol.
  • Ymateb partneriaeth trwy'r Fforwm Cydnerth Lleol, dan gadeiryddiaeth Heddlu Gwent

Gwaith yn mynd rhagddo / yn cael ei gyflwyno:

Maes thematig i'w ychwanegu at y cyfarfod craffu misol newydd. 

Adolygiad thematig ar gyfarfod craffu misol newydd

Ar y cyfan, rwyf yn dawel fy meddwl bod gan y Prif Gwnstabl y galluoedd mewn lle i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn yn y Gofyniad Plismona Strategol pryd bynnag y bydd eu hangen. 

Fodd bynnag, fel y nodwyd yn gynharach, mae gwaith i'w wneud o hyd, rhai ohono'n cael ei nodi uchod gyda chynlluniau perthnasol ar waith, a bydd angen i'r Comisiynydd newydd ystyried y Gofyniad Plismona Strategol wrth ddatblygu'r Cynllun Heddlu a Throsedd newydd.

Edrych i’r dyfodol

Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn o newid mawr. Yn ogystal â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd newydd yn y swydd o fis Mai, mae Prif Gwnstabl Pam Kelly wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddeol ym mis Medi, sy'n golygu y bydd arweinyddiaeth newydd yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent. 

Yn ogystal â hyn mae gennym arweinydd newydd ar Lywodraeth Cymru yn awr, ac mae'n debyg y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal cyn diwedd y flwyddyn. Mae'r newid yn y darlun gwleidyddol, yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn cyfrannu at ddyfodol ansicr i blismona.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod y byddwn yn parhau i wynebu problemau sylweddol, fel rheoli cyllid a phartneriaethau, galw cynyddol, ac esblygiad parhaus troseddaeth.

Trwy gydol fy amser fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yr hyn sydd wedi fy nghymell a'r hyn rwyf wedi bod yn fwyaf ymroddedig iddo yw sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, ac rwyf yn falch fy mod wedi cyflawni hyn i raddau helaeth. Rwyf yn credu'n gryf, gyda'r tîm rwyf wedi ei ddwyn at ei gilydd, bod seiliau cadarn wedi’u gosod y gall fy olynydd adeiladu arnynt.

Rwyf yn eithriadol o falch o'r gwaith rwyf wedi ei gyflawni er mwyn pobl Gwent. Mae wedi bod yn anrhydedd a braint gwasanaethu fel eu Comisiynydd etholedig a hoffwn ddiolch iddynt, yn ogystal â fy staff a swyddogion a staff Heddlu Gwent, am eu cefnogaeth dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Jeff Cuthbert
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Ebrill 2024