Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder

 


Mae'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder yn amlinellu blaenoriaethau'r Comisiynydd ar gyfer plismona yng Ngwent tan 2029.

Mae pum blaenoriaeth plismona, a ddewiswyd yn dilyn ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd, i ddiwallu anghenion cymunedau a sicrhau bod Heddlu Gwent yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol.

Blaenoriaethau'r heddlu a throsedd ar gyfer Gwent tan 2029 yw:

  • Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwneud ein cymunedau'n fwy diogel
  • Amddiffyn pobl agored i niwed
  • Rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr
  • Lleihau aildroseddu

Cynllun yr Heddlu a Throsedd 2025 – 2029 (PDF)