Adroddiad Blynyddol 2024/25
Rhagair gan y Comisiynydd
Uchafbwyntiau’r Flwyddyn
Perfformiad a Chanlyniadau
Grantiau a Gwasanaethau wedi’u Comisiynu
Y Gofyniad Plismona Strategol
Edrych ymlaen at 2025/26
Rhagair gan y Comisiynydd
Dyma fy adroddiad blynyddol statudol cyntaf ers i mi gael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent ym mis Mai 2024. Rwy’n parhau i fod yn hynod falch o’r ymddiriedaeth a’r ffydd y rhoddodd preswylwyr ynof pan wnaethant bleidleisio dros eu comisiynydd.
Gallaf ddweud heb flewyn ar dafod, bod hon wedi bod yn un o flynyddoedd mwyaf heriol, ond hefyd fwyaf gwerthfawr, fy ngyrfa. Mae hi wedi bod yn bleser gweld yn uniongyrchol sut mae gwahanol dimau Heddlu Gwent yn gweithredu, dechrau meithrin perthynas ag asiantaethau partner a’r gwasanaethau rwyf yn eu hariannu, ac, yn bwysig, cwrdd â’r gwahanol gymunedau rydym yn eu gwasanaethu ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Er mwyn bod mor weladwy â phosibl, rwyf wedi mynychu grwpiau cymunedol a digwyddiadau lleol, wedi siarad â thrigolion ac wedi ymweld â llawer o’n hysgolion i siarad â phlant a phobl ifanc. Hoffwn ddiolch i bawb am y croeso cynnes.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rwyf wedi gorfod gwneud tri o’r penderfyniadau mwyaf y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gyfrifol amdanynt: penodi Prif Gwnstabl newydd, cyhoeddi fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd, a gosod cyllideb Heddlu Gwent.
Penodais Mark Hobrough yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent ym mis Rhagfyr 2024. Daeth y penodiad ar ôl misoedd o ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfres o gyfweliadau â phaneli a oedd yn cynnwys sefydliadau partner, aelodau o’r gymuned, a phobl ifanc. Chwe mis yn ddiweddarach, rwy’n parhau i fod yn argyhoeddedig ynghylch ei angerdd a’i ymrwymiad i wneud Gwent yn lle mwy diogel i’n trigolion.
Ar ddechrau’r flwyddyn hon, fe osodais gyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2025/26 yn ffurfiol am y tro cyntaf. Mae rhan sylweddol o’r gyllideb hon yn dod trwy braesept y dreth gyngor a fy ngwaith i yw gosod y lefel y mae trigolion yn ei thalu. Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd. Fodd bynnag, credaf fod y gyllideb derfynol yn gydbwysedd teg rhwng fforddiadwyedd a’r arian sydd ei angen i greu Gwent fwy diogel ac i gyflawni’r ymrwymiadau rwyf wedi’u gwneud yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Cafodd fy Nghynllun newydd ei lansio ym mis Mawrth ac mae ynddo bum blaenoriaeth, sef atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; gwneud ein cymunedau yn fwy diogel; amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed; rhoi dioddefwyr yn gyntaf; a lleihau aildroseddu. Penderfynais ar y blaenoriaethau hyn ar ôl misoedd o ymgysylltu â’r cyhoedd, trafod gydag asiantaethau partner a chynnal grwpiau ffocws â thrigolion. Maent hefyd yn adlewyrchu’r ymrwymiadau a wnes wrth ymgyrchu dros gael fy ethol ac rwy’n ffyddiog y byddant yn sicrhau Gwent fwy diogel i ni i gyd. Yn sail i’r blaenoriaethau hyn mae fy ymrwymiad diwyro i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant.
Mewn uchafbwyntiau eraill, yn ein hymrwymiad ar y cyd i gynyddu plismona gweladwy, agorodd y Prif Gwnstabl Hobrough a minnau gyfleuster newydd Heddlu Gwent yn y Fenni yn ffurfiol. Mae’r cyfleuster yn galluogi Heddlu Gwent i gynyddu ei welededd yn y Fenni a’r ardal gyfagos, gan roi adeilad i dimau lleol sy’n addas i’r dyfodol.
Gwnaethom hefyd weithio gyda’n gilydd i gynnal arddangosfa bwerus o waith celf ym mhencadlys Heddlu Gwent i nodi Diwrnod Rhuban y Gwyn. Mae ‘Words Matter’ yn cynnwys mwy nag 20 o weithiau gan artistiaid ledled y DU ac mae’n archwilio themâu trais, misogynedd a beio dioddefwyr. Fel rhan o fy nghefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, fe ddes i â phartneriaid allweddol ynghyd hefyd ar gyfer digwyddiad bord gron i drafod sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn well i gefnogi menywod a merched.
Rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, byddaf yn parhau i weithio’n galed bob dydd ar ran pobl Gwent; i gyflawni’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder; a pharhau i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau er mwyn gwneud Gwent yn lle mwy diogel i ni i gyd.
Diolch
Jane Mudd
Uchafbwyntiau’r Flwyddyn
Ebrill i Fehefin 2024
Ar ddechrau’r flwyddyn hon, gwelwyd ymddeoliad haeddiannol y Comisiynydd blaenorol, Jeff Cuthbert. Yn dilyn yr etholiad, tyngais lw fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd ym mis Mai 2024, gan ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent. Penodais Eleri Thomas hefyd i barhau fel Dirprwy Gomisiynydd.
Yn dilyn ymarfer tendro ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, lansiwyd y gwasanaeth dargyfeirio newydd i fenywod a phobl ifanc ar 1 Ebrill. Nod Ymddiriedolaeth Nelson a phartneriaid cyflawni eraill yw cefnogi menywod ac oedolion ifanc yn y system gyfiawnder.
Aeth £1 filiwn o gyllid i Heddlu Gwent a’i bartneriaid i gynnal Ymgyrch Lumley, gan gynyddu patrolau gweladwy mewn ardaloedd lle roedd llawer o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Eich Llais, Eich Dewis: Arweiniodd fy nghyfraniad o £65,000 i Gronfa’r Uchel Siryf at ddyfarnu 8 grant i grwpiau cymunedol llawr gwlad sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Fel ‘cynullydd arweiniol’ partneriaid o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, dechreuodd fy swyddfa weithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol i ariannu gwerth £160,000 o ymyriadau i atal a lleihau trais difrifol.
Ymwybyddiaeth o Gam-drin Pobl Hŷn: Trefnodd fy swyddfa sioe deithiol 7 digwyddiad dros gyfnod o wythnos, gan siarad â’r cyhoedd, busnesau a sefydliadau eraill, a dosbarthu 130 o becynnau gwybodaeth i helpu i godi ymwybyddiaeth.
Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn: Aeth fy swyddfa ati i ymgysylltu â phobl ifanc o Gwmbrân a phlant sydd â phrofiad o ofal i ddeall eu barn ar blismona. Gwnaethant hefyd gynnal Gweithdai Mannau Diogel, gan gyrraedd dros 600 o ddisgyblion mewn 10 o ysgolion ym Mlaenau Gwent a Chasnewydd.
Cydlyniant Cymunedol: Cefnogodd fy swyddfa a minnau gyfres o ddigwyddiadau oedd yn dathlu amrywiaeth, gan gynnwys Ramadan, diwylliant Roma, a Diwrnod Stephen Lawrence.
Ymgysylltu yn ystod yr Haf: Gwnaethom ymgysylltu â dros 3,200 o bobl mewn chwe digwyddiad ar ddechrau’r haf, gan helpu i lywio fy mlaenoriaethau newydd.
Adeilad Newydd yr Heddlu: Cafodd y gwaith adeiladu yn y Fenni ei gwblhau, gyda gwelededd yr heddlu a chynaliadwyedd yn ystyriaethau wrth ddylunio’r lleoliad newydd.
Dechreuodd cyfarfod newydd i graffu ar safonau proffesiynol, dan gadeiryddiaeth fy Mhrif Weithredwr, a oedd yn edrych ar gwynion, ymddygiad a fetio.
Gorffennaf i Fedi 2024
Gwnaethpwyd cynnydd sylweddol ar ddatblygu’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd, gydag arolygon ar-lein ac wyneb yn wyneb ar y gweill, arolygon partneriaeth o bartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol, a dechrau grwpiau ffocws wedi’u targedu.
Cwblhawyd ymgyrch ymgysylltu’r haf, gan fynychu cyfanswm o 28 o ddigwyddiadau ac ymgysylltu â 9,000 o bobl ar cynllun yr heddlu a throsedd, materion lleol a negeseuon atal troseddu. Ymwelodd fy nhîm hefyd â dros 50 o fforymau ym Mlaenafon a’r Fenni, grŵp cyn-filwyr yn Sir Fynwy a grŵp cof yng Nghwmbrân i ymgysylltu’n bwrpasol â phobl hŷn ar ddatblygiad fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
O ran plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn, parhaodd fy nhîm i ymgysylltu â phobl ifanc drwy ddigwyddiadau gyda Dyfodol Cadarnhaol a Chanolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd ac aethant i amrywiaeth o Ffeiriau Wythnos y Glas i ddysgwyr a oedd yn dechrau nôl yn y coleg. Gwnaethant hefyd gynnal sesiwn ddilynol Pawb â’i Farn i Bobl Ifanc ym mis Gorffennaf ar bryderon am fepio.
Ymwelais ag amrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau cymunedol a ariennir gan fy swyddfa, gan gynnwys Tŷ Cymunedol Bryn Farm, Cymdeithas Gymunedol Yemeni Casnewydd; Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS), i weld yn uniongyrchol sut mae’r buddsoddiad blynyddol o dros £800k yn cael ei ddefnyddio; a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerffili a Blaenau Gwent, i ddeall eu gwaith yn well a sut mae fy nghyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio i helpu troseddwyr ifanc.
Cafodd menter LEAD sy’n ymwneud â pherchnogaeth cŵn gyfrifol ei hehangu ar draws Gwent, ac fe wnes i gwrdd â theuluoedd dioddefwyr a fu farw’n drasig ar ôl ymosodiadau gan gŵn, gan ddadorchuddio plac coffa yng nghanol tref Caerffili.
Ym mis Medi, gwnaeth y Prif Gwnstabl Pam Kelly ymddeol o Heddlu Gwent, ac fe wnes i ddiolch iddi am ei blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig. Nododd hynny ddechrau’r broses o ddewis ei holynydd yn ffurfiol.
Ymwelais â gwasanaethau lleol sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr ledled Gwent a chymerais ran mewn digwyddiad bord gron cenedlaethol gyda’r Comisiynydd Dioddefwyr, y Farwnes Newlove, ar sut y gall comisiynwyr fonitro cydymffurfiaeth â’r Cod Dioddefwyr.
Cynhaliais ddigwyddiad dathlu ar gyfer fy ngwirfoddolwyr: Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol ac Ymwelwyr Lles Anifeiliaid, lle y diolchais iddynt am eu rôl yn fy nghefnogi gydag atebolrwydd yr heddlu ac ymddiriedaeth a ffydd gymunedol mewn plismona.
Cadeiriais y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol am y tro cyntaf, sef cyfarfod strategol sy’n dwyn ynghyd arweinwyr allweddol o’r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder i wella’r system gyfiawnder yng Ngwent.
Hydref i Ragfyr 2024
Roedd y broses o ddrafftio ac ymgynghori ar fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder ar y gweill erbyn hyn.
Fe wnes i annerch cynhadledd genedlaethol yr Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan bwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar a llywio plant a phobl ifanc i ffwrdd oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fe wnes i hefyd gefnogi safiad llymach Llywodraeth y DU ar ddwyn o siopau a throseddau manwerthu; ac ymgysylltu’n lleol â gweithwyr siopau ar y pethau eraill y gellir eu gwneud.
Cadarnhawyd trefniadau cyllido lleol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, gyda £160k o gyllid yn cael ei ddyrannu i amryw o brosiectau diogelwch cymunedol lleol, gan gynnwys: rhaglen addysg realiti rhithwir, Cenhadon Nos ac ymyriadau 1-1 i blant mewn ysgolion.
Dechreuodd y rhaglen Rhybuddio a Cham-drin Perthynas (CARA) o ddifrif yn dilyn cytundeb cenedlaethol, gyda chefnogaeth fy swyddfa a’r cyllid a ddarparwyd gennyf. Mae CARA yn caniatáu i droseddwyr cam-drin domestig lefel isel gael eu dargyfeirio o’r llys i raglenni ymyrraeth.
Mewn partneriaeth â’r Prif Gwnstabl ac wedi’i threfnu gan fy swyddfa, cynhaliais arddangosfa gelf effeithiol o fwy nag 20 o weithiau celf ar thema trais yn erbyn menywod a merched i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn. Gwnaeth cannoedd o swyddogion, aelodau o staff a phartneriaid weld yr arddangosfa, ac oedd hefyd yn lleoliad ar gyfer digwyddiad bord gron partneriaeth a gadeiriwyd gennyf.
Cymerais ran mewn cynhadledd genedlaethol a chefnogaeth i Hanes Pobl Ddu 365. Parhaodd y swyddfa â’r ffocws gan ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystod wythnos ymwybyddiaeth troseddau casineb, gyda dathliadau Windrush yng Nghasnewydd a Chwmbrân. Cynhaliwyd digwyddiadau eraill i ymgysylltu â’r gymuned adeg Calan Gaeaf, ochr yn ochr â theithiau cerdded parhaus i gwrdd â’r cyhoedd. Gwnaeth fy swyddfa hefyd hyrwyddo’r ymgyrch ymwybyddiaeth llinell gymorth cam-drin domestig Byw Heb Ofn.
Aeth Paneli Craffu, a sefydlwyd gan fy swyddfa, ati i adolygu’r defnydd o rym, stopio a chwilio, a datrysiadau y tu allan i’r llys. Roedd adborth gan y Panel Craffu Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys yn allweddol wrth helpu i newid polisi Heddlu Gwent o roi’r rhain ar gyfer troseddau’n ymwneud â meddu ar gyffuriau.
Cytunodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i sefydlu Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Strategol newydd o dan fy nghadeiryddiaeth, gyda’r nod o ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth strategol i bartneriaethau eraill ledled Gwent, a datrys y materion strategol na allant eu datrys yn lleol.
Siaradais ag arweinwyr plismona, gwleidyddion ac arbenigwyr yn yr Uwchgynhadledd Partneriaeth Plismona flynyddol yn Llundain ynghylch ymdrechion diwygio diwylliannol Heddlu Gwent i wella ymddiriedaeth a hyder.
Yn dilyn proses hir, dewisais Mark Hobrough fel y Prif Gwnstabl newydd, a chadarnhawyd hyn yn y Panel Heddlu a Throsedd ym mis Rhagfyr.
Ionawr i Fawrth 2025
Ym mis Ionawr, gosodais gyllideb 2025/26 ar gyfer Heddlu Gwent, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r gwasanaethau rwyf yn eu hariannu yn ffurfiol ar £213.2 miliwn, gan weithredu ar wybodaeth a gefais gan y Prif Gwnstabl, y cyhoedd, asiantaethau partner, Llywodraethau Cymru a’r DU, a Phanel Heddlu a Throsedd Gwent. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £1 filiwn ychwanegol i fuddsoddi mewn gwasanaethau i atal troseddau, cefnogi dioddefwyr, lleihau troseddu a meithrin cymunedau cydnerth.
Cafodd y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd ei gwblhau a’i lansio yn y diwedd ar 28 Mawrth mewn digwyddiad lansio yn swyddfeydd Cyngor Caerffili yn Ystrad Mynach.
Fe gymerais ran mewn gweithdai’r Swyddfa Gartref ar Ddiwygio Tirwedd yr Heddlu, rhan o Genhadaeth Strydoedd Mwy Diogel Llywodraeth y DU, i sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau llywodraethu plismona yn y dyfodol.
Ymunais yn ffurfiol â’r Bwrdd Cynllunio Ardal camddefnyddio sylweddau, a chyfrannodd fy nhîm at ddigwyddiad cynllunio strategol y Bwrdd Cynllunio Ardal i helpu i lunio blaenoriaethau partneriaeth yn y dyfodol ar gyfer ymdrin â chamddefnyddio alcohol a sylweddau.
Cyflawnodd fy nhîm a minnau lawer o waith ymgysylltu y chwarter hwn, gan gynnwys ymuno â Rhwydwaith Rhedwyr Benywaidd Casnewydd ar fenter gyda Heddlu Gwent ac Athletau Cymru i ddiogelu rhedwyr benywaidd. Cymerwyd rhan mewn digwyddiadau i ddathlu diwylliant Cymru a chefnogi Mis Hanes Pobl Dduon. Mynychwyd digwyddiadau yn y Coed Duon, y Fenni, Brynbuga, ac yn ystod Diwrnod Cofio’r Holocost, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a Ramadan.
Parhaodd y tîm i gyflwyno sesiynau Mannau Diogel mewn ysgolion ac ymweld â digwyddiadau lles i fyfyrwyr Coleg Gwent; a chyfarfu’r Comisiynydd â Heddlu Bach a myfyrwyr eraill o ysgolion cynradd ar gyfer sesiynau holi ac ateb.
Roeddwn i allan yn cwrdd â llawer o gymunedau yng Ngwent, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, Siop Siarad yng nghanol tref y Coed Duon, a busnesau a thrigolion yn Sir Fynwy. Cyflwynais sesiynau briffio misol gydag Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd Cymru, ac arweinwyr cynghorau hefyd.
Ymunais â’r Tîm Troseddau Gwledig i ddysgu mwy am sut maen nhw’n mynd i’r afael â throseddu mewn ardaloedd gwledig. Roedd hyn yn cynnwys arddangos dronau newydd i gwmpasu ardaloedd mawr, a chyfarfod â ffermwyr a busnesau gwledig i ddeall y materion sy’n bwysig iddynt.
Perfformiad a Chanlyniadau
Er bod Gwent yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef ar y cyfan, cofnododd Heddlu Gwent y lefel uchaf o ddigwyddiadau a fynychwyd ganddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sy’n parhau i roi pwysau sylweddol ar y gwasanaeth. Hefyd, cofnodwyd dros 60,000 o droseddau am y tro cyntaf, yn dilyn patrwm o gynnydd mewn troseddau wedi’u cofnodi gan yr heddlu rydym wedi’i weld ers rhai blynyddoedd. Bydd rhywfaint o hyn o ganlyniad i arferion cofnodi gwell, ond mae cynnydd mewn troseddau wedi’i weld yn gyffredinol ledled y wlad, a adlewyrchir yn Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Fodd bynnag, mae rhai pethau positif yn y manylion. Mae Heddlu Gwent yn ymateb i alwadau 999 a 101 yn gyflymach na bron pob heddlu arall. Mae rhai mathau o ladrad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn is na’r llynedd. Ac mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod rhai troseddau caffael, fel dwyn o siopau a throseddau cerbydau, yn dechrau gostwng erbyn hyn o’r niferoedd uchaf erioed rydym wedi’u gweld yn ystod y 18 mis diwethaf. Fodd bynnag, ni allaf anwybyddu’r ffaith bod troseddu yn parhau i gynyddu.
Wrth i fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd gael ei gyhoeddi, ffocws sylweddol i mi fydd craffu ar Heddlu Gwent, gweithio gyda phartneriaid, canolbwyntio ar atal troseddu a cheisio mynd i’r afael â’r niferoedd hyn a sicrhau eu bod yn gostwng eto, gobeithio.
Grantiau a Gwasanaethau wedi’u Comisiynu
Fel y soniais ar y dechrau, rwyf wedi treulio llawer o amser eleni yn dod i adnabod y partneriaid a’r partneriaethau a fydd yn cyfrannu at gyflawni nodau fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Yn benodol, rwyf wedi mwynhau ymweld â’r gwasanaethau rwy’n eu hariannu a gweld y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud dros gymunedau Gwent. P’un a yw’n lleihau troseddu, gweithio gyda phlant mewn ysgolion, neu ddarparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr, rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan y bobl rwyf yn cwrdd â nhw a’u hangerdd dros yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Byddaf yn parhau i fonitro’r gwasanaethau hyn, gan sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i’r bobl a’r cymunedau sy’n elwa arnynt ond hefyd yn cynnig gwerth am arian yn y cyfnod economaidd heriol hwn. Dyma rai o uchafbwyntiau eleni.
Gwasanaeth Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol
Allbwn - 1573 o atgyfeiriadau i’r gwasanaeth Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol
Canlyniad - Ar gyfartaledd, mae 78% o ddioddefwyr wedi gwneud cynnydd yn erbyn ‘mwy gwybodus ac wedi’u grymuso i weithredu ar wybodaeth’ ac mae 73% wedi gwneud cynnydd yn erbyn ‘teimlo’n fwy diogel’
Gwasanaeth Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol
Allbwn - 701 o atgyfeiriadau newydd gyda 1,081 o ddioddefwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol y flwyddyn
Canlyniad - Dywedodd 85% eu bod yn gallu ymdopi ac adfer a meithrin gwydnwch yn well
PPDA/Tabw – Cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu
Allbwn - Mae 30 o ddioddefwyr newydd cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu wedi cael eu cefnogi gan Tabw yng Ngwent
Canlyniad - O’r 30 o ddioddefwyr, mae 23 wedi riportio i’r heddlu. Efallai na fyddai’r gyfradd riportio uchel hon wedi’i chyflawni heb y cymorth arbenigol a ddarparwyd gan Tabw.
Cynllun Braenaru’r Llys Teulu
Allbwn - Cafodd 759 o achosion eu hatgyfeirio at Gynllun Braenaru’r Llys Teulu (299 yng Ngwent a 460 yn Ne Cymru), gydag 875 o blant yn gysylltiedig â dioddefwyr. Cafodd 92% eu cefnogi’n llwyddiannus.
Canlyniad - Mae dioddefwyr a gafodd brofiad o broses y llys cyn Cynllun Braenaru’r Llys Teulu wedi tynnu sylw at effaith y gwasanaeth, gan nodi eu bod yn teimlo’n fwy parod ar gyfer y llys ac yn fwy gwybodus am eu dewisiadau.
Academi Cyfryngau Cymru - Cyrhaeddiad ac Ymgysylltu "Gwrywdod Cadarnhaol"
Allbwn - Ymgysylltwyd â bron 800 o blant a phobl ifanc ledled Gwent yn ystod y 12 mis diwethaf. O’r rhain, cafodd 39 ymyrraeth un-i-un a a chafodd 741 ymyrraeth grŵp.
Canlyniad - Nododd 100% o gyfranogwyr un-i-un ‘Gwell dealltwriaeth o wrywdod cadarnhaol’ a mwy o ymwybyddiaeth o ‘fisogynedd a thrais ar sail rhywedd’. Canlyniadau grŵp: Roedd 100% yn teimlo’n fwy hyderus wrth ‘nodi ac ymdrin ag ymddygiad niweidiol.’
CARA - Rhybuddio a Cham-drin Perthynas
Allbwn - Mae 23 o bobl wedi mynd drwy broses CARA yng Ngwent.
Canlyniad - Dywedodd 90% fod y gweithdai wedi cael “llawer o effaith” ar eu hymwybyddiaeth o gam-drin domestig a sut maen nhw’n gweld eu perthnasoedd personol/teuluol. Dywedodd 95% eu bod wedi cael “llawer o effaith” ar sut maen nhw’n gweld eu hymddygiad eu hunain a’u cymhelliant i newid agweddau ar eu hymddygiad / bywyd.
Prosiect Trais Difrifol Economi’r Nos – Caerffili
Allbwn - Hyfforddiant Trwydded Bersonol Achrededig: Hyd at 30 o unigolion wedi’u hyfforddi ar drwyddedu, diogelu ac atal trais.
Canlyniad - Mae’n cryfhau diogelwch cymunedol mewn lleoliadau bywyd nos. Mae’n lleihau trais a bygythiadau, yn enwedig yn erbyn menywod a merched. Mae staff yn gallu ymdrin â materion hollbwysig fel sbeicio diodydd a diogelu yn well.
Meddygon Stryd – Rhaglen Lleihau Trais – Caerffili
Allbwn - Cyflwynwyd 50 o sesiynau i 966 o bobl ifanc, gan ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf ar gyfer argyfyngau treisgar (e.e. gwaedu, anymwybyddiaeth).
Canlyniadau - Mae’n grymuso pobl ifanc gyda sgiliau achub bywydau. Mae’n hyrwyddo diwylliant o gyfrifoldeb ac ymyrraeth. Hyfforddiant costeffeithiol (£10.35 y disgybl). Mae’n atgyfnerthu negeseuon gwrth-drais a chefnogaeth gan gymheiriaid.
Cwnsela Therapiwtig Arbenigol i Blant – Caerffili
Allbwn - Cafodd 15 o blant o Gaerffili sy’n ddioddefwyr trais rhywiol gymorth arbenigol. Cwblhawyd 190 o sesiynau cwnsela.
Canlyniad – Mae’n rhoi gofal sy’n ystyriol o drawma, iachâd emosiynol, a chymorth seicolegol hirdymor i blant agored i niwed.
Sesiynau Chwarae ac Ymwahanu – Torfaen
Allbwn - Sesiynau wedi’u darparu i 32 o blant o dan 24 oed y nodwyd eu bod yn wynebu risg ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu; a 10 aelod o staff wedi’u hyfforddi ar ddulliau sy’n ystyriol o drawma.
Canlyniadau - Gwell ymddygiad ac ymgysylltu. Llai o gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad treisgar. Perthnasoedd cryfach rhwng staff a phobl ifanc. Adborth cadarnhaol gan ysgolion a theuluoedd. Llai o absenoldebau o’r ysgol.
Cymorth i Ddioddefwyr (Connect Gwent)
Allbwn – 1,846 o atgyfeiriadau i’r gwasanaeth.
Canlyniad - Dywedodd 88% o ddefnyddwyr y gwasanaeth a gefnogwyd eu bod yn ‘teimlo’n fwy diogel’, eu bod yn ‘gallu ymdopi’n well ag agweddau ar fywyd bob dydd’ a bod eu ‘hiechyd a lles wedi gwella’.
Crimestoppers (Rhaglen Fearless)
Allbwn – 10,864 o bobl ifanc wedi’u targedu drwy sesiynau ymyrraeth, gan ganolbwyntio ar risgiau troseddau cyfundrefnol difrifol, llinellau cyffuriau, troseddau â chyllyll a thrais difrifol. Gwnaeth 894 o weithwyr proffesiynol elwa ar hyfforddiant / gweithdai Fearless.
Canlyniadau - Dangosodd arolygon ar ôl y sesiynau fod 100% o gyfranogwyr wedi meithrin dealltwriaeth gliriach o ddeddfau troseddau â chyllyll, gyda 90% yn dweud eu bod yn llai tebygol o gario cyllell.
Gwasanaeth dargyfeirio yn seiliedig ar Chwaraeon Dyfodol Cadarnhaol
Allbwn - Mynychodd 6,431 sesiynau cymunedol / dargyfeirio wedi’u trefnu. Mynychodd 1,040 sesiynau adweithiol. Mynychodd 1,431 sesiynau grŵp wedi’u targedu - e.e. ceiswyr lloches / ffoaduriaid / plant sy’n derbyn gofal. Cafodd 130 sesiwn fentora 1-i-1. Manteisiodd 120 ar gynnig addysg amgen.
Canlyniad - Ar gyfer y rhai a wnaeth gwblhau arolygon: 70% Gwelliant mewn iechyd a lles, 58% Gwelliant mewn sgiliau bywyd, 45% Mwy o ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a 67% Mwy o ymgysylltu â gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a chymunedol.
Ymddiriedolaeth St Giles
Allbynnau - Cyrhaeddwyd 50 o bobl ifanc trwy ymyrraeth drydyddol 1:1. Cynhaliwyd 452 o sesiynau cyswllt o bell.
Canlyniadau - Gwnaeth 27 o bobl adael y gwasanaeth (pob un wedi’i gynllunio gyda chanlyniadau cadarnhaol wedi’u cyflawni).
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent
Allbynnau - Gwelodd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent 3,170 o bobl yn y ddalfa, 801 yn y llys, a chefnogwyd 923 o unigolion yn y gymuned. Mae 4,978 o sesiynau cymorth wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ac mae 299 o gyfarfodydd aml-asiantaeth wedi’u mynychu i gefnogi pobl yn y system gyfiawnder.
Canlyniadau - Gwnaeth 93% o bobl a oedd yn gadael y carchar ymgysylltu â’r gwasanaeth. Gwnaeth 100% ohonynt ymgysylltu trwy rybuddion amodol. Ar ôl gadael y gwasanaeth (Ch4 yn unig), nododd 69-78% o ddefnyddwyr y gwasanaeth gynnydd cadarnhaol o ran defnyddio llai o sylweddau/alcohol neu roi’r gorau iddynt.
ONE Wales (Gwasanaeth Dargyfeirio Menywod a Phobl Ifanc)
Allbynnau - Yn ystod y flwyddyn gyntaf, derbyniodd gwasanaeth ONE Wales gyfanswm o 2,605 o atgyfeiriadau ledled Gwent a De Cymru. O Went, cafwyd 370 o atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Menywod, a 134 i’r Gwasanaeth Pobl Ifanc (18-25).
Canlyniadau - Oherwydd amserlen y contract, mae canlyniadau pellach yn cael eu datblygu.
Y Gofyniad Plismona Strategol
Trwy’r Gofyniad Plismona Strategol, mae’r Ysgrifennydd Cartref yn nodi’r troseddau a’r bygythiadau terfysgol cenedlaethol ac argyfyngau sifil eraill y mae’n ystyried eu bod mor ddifrifol fel bod angen ymateb plismona trawsffiniol. Eleni, fe wnes i ystyried y Gofyniad Plismona Strategol wrth ddatblygu fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd, sy’n adlewyrchu llawer o’r blaenoriaethau y mae’r Gofyniad Plismona Strategol yn eu rhestru, fel trais yn erbyn menywod a merched a throseddau difrifol a chyfundrefnol.
Yn gyffredinol, rwy’n goruchwylio ac yn cael sicrwydd ynghylch yr ymateb i’r bygythiadau a nodwyd trwy gynnwys blaenoriaethau’r Gofyniad Plismona Strategol yn fy mhrosesau sicrwydd a chraffu, ac o’n partneriaethau ehangach. Rwy’n falch bod y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi sefydlu Bwrdd Goruchwylio Cydweithrediad newydd ledled Cymru eleni, a fydd yn ddull allweddol o adolygu’r ymateb perthnasol i’r bygythiadau trawsffiniol hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i ddatblygu’r bwrdd hwn.
Ar y cyfan, rwy’n cael fy sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl y galluoedd i ymdrin â’r bygythiadau a nodir yn y Gofyniad Plismona Strategol. Byddaf yn parhau i fonitro’r trefniadau hyn trwy fy nhrefniadau sicrwydd ac atebolrwydd newydd yn y flwyddyn i ddod.
Edrych ymlaen at 2025/26
Wrth i mi fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf trwy’r adroddiad blynyddol hwn, rwy’n gwybod y bydd y flwyddyn nesaf yn parhau i fod yn un heriol. Mae troseddu yn parhau i fod ar gynnydd a bydd angen i blismona gadw i fyny â chyflymder y newidiadau mewn cymdeithas.
Rydym yn parhau i ddatblygu ein perthynas â Llywodraeth newydd y DU gyda newidiadau polisi, mentrau newydd a’n hymgysylltu â’u rhaglen Diwygio Tirwedd. Ers i’r Ysgrifennydd Cartref gyhoeddi sefydlu Uned Perfformiad yr Heddlu a Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Plismona, mae fy nhîm a minnau wedi bod yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod safbwyntiau ac effeithiau Gwent a Chymru yn cael eu deall a’u hadlewyrchu’n llawn yn y genhadaeth i ailennyn hyder y cyhoedd. Ac mae cyllid yn parhau i fod yn her barhaol y mae’n rhaid i ni ei hwynebu.
Mae hon yn adeg i fuddsoddi yn ein partneriaethau, a bydd angen i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Fodd bynnag, rydym wedi datblygu sylfeini cadarn ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dechrau gweld effeithiau fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd, Cynllun Cyflawni’r Prif Gwnstabl newydd, cynlluniau newydd i gryfhau ein partneriaethau lleol, a buddsoddiadau newydd mewn plismona trwy fentrau lleol a chenedlaethol.
Er enghraifft, mae Gwarant Plismona Cymdogaeth Llywodraeth y DU yn addo darparu mwy o swyddogion heddlu ar gyfer ein sefydliad, ac rydym yn gweithio’n galed gyda’r Swyddfa Gartref a phartneriaid lleol i gynyddu gwelededd yr heddlu a thargedu ardaloedd lle gwelir llawer o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau. Rwyf wedi nodi £1 filiwn bob blwyddyn yn fy nghyllideb i fuddsoddi mewn mwy o wasanaethau sy’n atal troseddau, sy’n cefnogi dioddefwyr, sy’n lleihau troseddu ac sy’n helpu i feithrin cymunedau cydnerth. A thrwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rwyf wedi sefydlu Bwrdd Cymunedau Strategol Mwy Diogel newydd sy’n dwyn ynghyd bartneriaid i fynd i’r afael â’r problemau nad yw’n bosibl eu datrys yn lleol.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyflwyno diwygiadau i’r ffordd rwyf yn monitro ac yn craffu ar berfformiad Heddlu Gwent ac yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Bydd y newidiadau hyn yn mynd yn fyw yn fuan a byddant yn fwy gweladwy a thryloyw nag erioed o’r blaen.
Mae Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, ac rwy’n frwdfrydig ynghylch yr hyn y gallwn ni ei gyflawni’r flwyddyn nesaf.
Diolch.