Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent  Adroddiad Blynyddol 2019/20

CYFLWYNIAD

Roedd hon yn flwyddyn o newid.

Datblygodd fy swyddfa i a Heddlu Gwent brosesau newydd, gan sbarduno gwelliannau sylweddol yn y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw ac i weithio ynddo, neu i ymweld ag ef.

Ymwreiddiwyd y broses o aildrefnu’r swyddfa yn 2018/19 yn llawn ac yn sgil hyn gwelwyd arferion gweithio diwygiedig a mwy fyth o bwyslais ar graffu ar waith yr heddlu a’i gefnogi yn unol â’m Cynllun Heddlu a Throseddu.

Cyflawnir hyn mewn cymunedau gan Heddlu Gwent, lle bu newidiadau sylweddol ar y brig. Mae tîm prif swyddogion cyfan gwbl newydd bron o’i gymharu ag adroddiad y llynedd, ac mae’n canolbwyntio ar ddiogelu a rhoi sicrwydd i’n cymunedau.

Penodais Pam Kelly yn Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent ym mis Awst, yn dilyn gwrandawiad cadarnhau gan Banel yr Heddlu a Throseddu. Dangoswyd ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i hymrwymiad i bobl Gwent yn gryf drwy gydol proses ddethol drylwyr.

Yn dilyn hyn, ymunodd Dirprwy Brif Gwnstabl newydd, Amanda Blakeman, â Heddlu Gwent ym mis Medi. Rwyf yn hyderus mai nhw yw’r bobl iawn i ysgogi ein dyheadau ar gyfer plismona yng Ngwent dros y blynyddoedd nesaf.

Fe’u cynorthwyir yn fedrus gan Brif Gwnstabl Cynorthwyol newydd, Jonathan

Edwards, a ymunodd ym mis Mai, a Nigel Stephens, Prif Swyddog Cynorthwyol (Adnoddau) hirsefydlog. Gyda’i gilydd, bydd y tîm prif swyddogion hwn yn sicrhau bod fy Nghynllun Heddlu a Throseddu yng Ngwent yn parhau i gael ei gyflawni’n llwyddiannus.

Yn ystod y flwyddyn, diweddarais y cynllun i adlewyrchu natur gyfnewidiol troseddu yn well a sut mae hyn yn effeithio ar blismona lleol. Mae esblygiad cyson troseddu yn creu heriau sylweddol ar adeg pan fo gwasanaethau plismona yn wynebu pwysau ychwanegol yn dilyn blynyddoedd o gyllid llai oddi wrth y llywodraeth.

Gellir rhagweld rhai heriau – er enghraifft y cynnydd mewn troseddau a alluogir gan seiber – ond ni ellir rhagweld heriau eraill i’r un graddau. Mae hyn yn amlwg wrth edrych ar droseddau difrifol a chyfundrefnol a’r effaith ddinistriol y gall hyn ei chael ar gymunedau. Wrth i’r materion hyn esblygu, mae’n rhaid i’n hymatebion esblygu hefyd er mwyn mynd i’r afael â nhw.

Gellir gwneud hyn yn rhannol drwy ddarparu adnoddau digonol ar gyfer plismona ac rwyf yn falch iawn ein bod wedi croesawu 59 o recriwtiaid newydd i Heddlu Gwent yn

2019/20. O’r rhain, mae 24 yn rhan o Ymgyrch Uplift y llywodraeth i recriwtio, a ddylai greu tua 160 o swyddi plismona newydd yng Ngwent dros gyfnod o dair blynedd. Byddant yn helpu i ddiogelu a rhoi sicrwydd i’n trigolion, gan wneud yn siŵr bod Gwent yn parhau i fod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel yn y DU.

Rwyf yn gwybod bod hyn yn wir, oherwydd bod yr Arolwg Troseddu diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos hyn. Cafwyd gostyngiad bach yn nifer y troseddau a gofnodwyd yn 2019/20 ac, er enghraifft, rydym yn parhau i fod ag un o’r lefelau isaf o droseddau cyllyll yn y DU.

Mae perfformiad uchel, wrth gwrs, yn allweddol i’n llwyddiant ar y cyd. Rwyf i’n craffu ar berfformiad yn wythnosol ac atgyfnerthir hyn gan waith craffu allanol. Yn dilyn archwiliad ym mis Tachwedd, nododd Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi fod effeithiolrwydd cyffredinol Heddlu Gwent yn ‘dda’.

Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i droseddu, amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, a mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r adroddiad arolygu’n dangos bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaeth da ac effeithiol i’w drigolion.

Canmolwyd Heddlu Gwent am gyflawni mewn nifer o feysydd blaenoriaeth fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, er enghraifft atal troseddu a chefnogi dioddefwyr. Hefyd, mae wedi gwneud gwelliannau sylweddol ers yr arolygiad diwethaf ym meysydd hanfodol cam-drin domestig a throseddau difrifol a chyfundrefnol, yn ogystal â sut mae’n blaenoriaethu ymchwiliadau. 

Er mwyn sicrhau bod hyn yn unol â’m disgwyliadau a disgwyliadau Panel yr Heddlu a Throseddu, mae fy nhîm a mi wedi parhau i weithio ar ddatblygu Fframwaith Perfformiad Sefydliadol gyda Heddlu Gwent. Bu cynnydd da o ran datblygu hyn ac adrodd ar gyfer Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Cefnogwyd hyn yn dda gan is-grŵp perfformiad Panel yr Heddlu a Throseddu.

Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb yr heddlu yn unig yw cadw Gwent yn ddiogel. Mae’n gofyn am ddull amlasiantaethol, a cheir enghreifftiau o hyn yn fy adroddiad.

Gwnaethom fuddsoddi’n helaeth yn y system cyfiawnder troseddol ehangach yn 2019/20, gyda’r contract ar gyfer dull system gyfan Braenaru i Fenywod a’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer oedolion ifanc 18–25 oed yn mynd yn fyw ym mis Hydref. Mae hyn yn rhoi cymorth i fenywod o’r adeg pan gânt eu harestio hyd at y cyfnod gwarchodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mae’n cynnig gwasanaethau dargyfeirio a chymorth i bobl ifanc 18–25 oed hefyd. Gyda’i gilydd, nod y cynlluniau hyn yw cefnogi pobl, atal rhagor o droseddu, a thrwy hynny, gwella diogelwch y cyhoedd.

Rwyf yn dymuno parhau i weithio gyda phawb sy’n cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Gwent. Gwent sy’n ddiogel. Gwent nad yw’n cael ei amharu gan weithgarwch troseddol. Gwent lle mae pobl yn rhydd i fyw’r bywydau y maent yn dymuno, heb ofn na chasineb.

 

Y CYNNYDD O’I GYMHARU Â’R CYNLLUN

BLAENORIAETH 1 – ATAL TROSEDDU

Hyrwyddo a lleihau troseddu sy’n achosi’r niwed mwyaf yn ein cymunedau ac yn erbyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed.

Cyfanswm y Troseddau a Gofnodwyd

Mathau o droseddau

2017–2018

2018–2019 

2019–2020

Pob lladrad arall

4,509

4,753

4,303

Dwyn beiciau

310

425

329

Bwrgleriaethau annedd

2,613

2,540

2,546

Bwrgleriaethau nad ydynt mewn annedd

1,121

1,163

1,098

Difrod troseddol a thanau bwriadol

8,683

9,419

8,584

Troseddau cyffuriau

1,369

1,463

1,498

Lladdiadau

7

4

6

Troseddau amrywiol

1,195

1,403

1,370

Troseddau rhywiol eraill

902

981

1,040

Meddu ar arfau

208

237

251

Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus

4,735

7,872

7,975

Treisio

418

574

499

Lladradau

257

301

304

Dwyn o siopau

3,883

3,533

3,459

Dwyn oddi wrth y person

348

373

314

Troseddau cerbyd

3,353

3,398

3,256

Trais gydag anaf

4,860

5,823

5,741

Trais heb anaf

9,865

14,176

14,853

Cyfanswm

48,636

58,438

57,426

Bu gostyngiad yn nifer y troseddau a gofnodwyd o’i gymharu â 2018–19, gyda dros 1,000 yn llai o ddigwyddiadau. Bu gostyngiadau sylweddol mewn lladradau, difrod troseddol a thanau bwriadol, ond rwyf yn hyderus bod y cynnydd yr ydym wedi eu gweld mewn meysydd megis troseddau cyffuriau, er enghraifft, yn cynrychioli plismona rhagweithiol a chynnydd  yn hyder y cyhoedd i roi gwybod inni am y materion hyn. Mae trais gyda a heb anaf yn parhau i fod yn uchel ac maent wedi cynyddu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn cynnwys nifer sylweddol o droseddau cam-drin domestig. Rydym yn gwybod bod hon yn drosedd a danadroddir, felly rwyf i a Heddlu Gwent yn disgwyl i’r cynnydd hwn barhau ac i ddioddefwyr fod â rhagor o hyder i roi gwybod inni. Ceir pryder cyffredinol y bydd cam-drin domestig wedi’i danadrodd yn sylweddol yn ystod y cyfyngiadau symud, a ddechreuodd ar ddiwedd blwyddyn 2019/20. Ni ddisgwylir effaith hyn tan adroddiad 2020/21, pan fydd y cyfyngiadau symud wedi eu llacio ac y byddai gan bobl fwy o allu i adrodd; fodd bynnag, rydym yn rhagweld cynnydd.

Adolygiad Atal Troseddu

Wrth ddiweddaru Cynllun yr Heddlu a Throseddu, gwnaethom adolygu’r cynnydd a’r gweithgarwch cyfredol wrth gyflawni pob un o’r pum blaenoriaeth sydd ynddo. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o’r broses o atal troseddu gan Heddlu Gwent fel blaenoriaeth. 

Gwnaeth y cynllun wedi’i ddiweddaru ddiwygio hyn i bwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â throseddau sy’n achosi niwed sylweddol i gymunedau yng Ngwent, megis troseddau difrifol a chyfundrefnol a chaethwasiaeth fodern. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd atal aildroseddu ac addysgu’r cyhoedd.

Mewn ymateb i argymhellion yn adroddiad yr adolygiad, mae’r heddlu wedi penodi arweinydd strategol ar gyfer atal troseddu. Mae’r heddlu wedi diwygio ei strategaeth atal troseddu ac yn datblygu cynllun cyflawni, a fydd yn mabwysiadu dull cydlynol o atal troseddu ar draws yr holl feysydd busnes perthnasol.

Seiberdroseddu

Mae seiberdroseddu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio dau weithgaredd troseddol cysylltiedig: troseddau seiber-ddibynnol a throseddau a alluogir gan seiber. Mae troseddau seiber-ddibynnol, na ellir eu cyflawni ond drwy ddefnyddio technoleg, yn cynnwys lledaenu feirysau a meddalwedd maleisus, hacio, ac ymosodiadau i dynnu seilwaith rhwydwaith neu wefannau i lawr. Maent hefyd yn droseddau a anelir yn gyffredinol at gyfrifiaduron neu rwydweithiau. Troseddau traddodiadol sydd hefyd yn cael eu hwyluso gan y defnydd o dechnoleg yw troseddau a alluogir gan seiber. Mae twyll, lladrata a throseddu rhywiol yn erbyn plant yn enghreifftiau o hyn. Mae troseddau a alluogir gan seiber wedi cynyddu 46% bob blwyddyn ar gyfartaledd ers 2014/15, gyda mathau o fwlio ac aflonyddu yn ffurfio mwyafrif yr achosion. Mae camfanteisio yn cyfrif am oddeutu un rhan o bump o droseddau a alluogir gan seiber.

Mae Heddlu Gwent wedi blaenoriaethu codi ymwybyddiaeth ragweithiol er mwyn helpu pobl i gadw’n ddiogel ar-lein, gan frwydro yn erbyn materion sy’n dod i’r amlwg hefyd fel gwefannau ffrydio byw pan fo anhysbysrwydd yn ei gwneud yn anodd i droseddwyr gael eu hadnabod. Mae Heddlu Gwent hefyd yn parhau i fod â rhan flaenllaw yng nghyfarfod seiberdroseddu Cymru gyfan. Y Prif Gwnstabl yw’r arweinydd seiberdroseddu ar gyfer heddluoedd Cymru, a fi yw’r arweinydd ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru.

O ran cofnodi troseddau sy’n gysylltiedig â seiber, mae’r heddlu’n dibynnu ar swyddogion i’w fflagio nhw ar y system ar hyn o bryd pan fyddant yn eu cofnodi nhw yn gyntaf. Mae meddalwedd deallusrwydd artiffisial awtomataidd yn cael ei gyflwyno er mwyn adolygu pob trosedd, a bydd hyn yn pennu a oes angen cymhwyswyr ychwanegol ar drosedd. Dylai hyn arwain at ragor o droseddau seiber-ddibynnol a throseddau a alluogir gan seiber sy’n cael eu cofnodi.

Mae gan Heddlu Gwent dîm ymchwilio ar-lein pwrpasol i’r heddlu (POLIT) a’i brif dasg yw ymchwilio i gam-drin y rhyngrwyd a thargedu pobl sy’n meddu ar ddelweddau anweddus o blant. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion arbenigol yn yr uned ymchwilio fforensig ddigidol, derbyniodd tîm POLIT 216 o atgyfeiriadau oddi wrth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn 19/20. Ers mis Ionawr 2020, mae 121 o droseddwyr wedi eu nodi ac mae POLIT wedi cynnal 115 o ymchwiliadau. Mae POLIT yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac yn defnyddio Cysylltu Gwent i sicrhau bod dioddefwyr a theuluoedd yn cael eu cefnogi. 

Yn rhan o’r ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, buom yn gweithio gyda CrimeStoppers ar ymgyrch atal troseddau difrifol a chyfundrefnol a lansiwyd ym mis Ionawr. Amlygodd hyn effaith gangiau troseddol ar fusnesau a chymunedau, gyda hysbysebion digidol wedi eu targedu at ddelio mewn cyffuriau, trais, seiberdroseddu, a gwyngalchu arian.

Ymgyrch lwyddiannus gan yr heddlu i nodi a chefnogi dioddefwyr twyll sy’n agored i niwed yw Ymgyrch Signature. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r mater hefyd ac yn annog amrywiaeth o asiantaethau, megis banciau, i weithio gyda’r tîm er mwyn atal y rhai sy’n agored i niwed rhag dod yn ddioddefwyr. 

Trefnodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i Swyddog Diogelu Seiber Heddlu Gwent ddarparu gwybodaeth a chyngor i dros 70 o aelodau o gymuned fusnes Gwent yn ystod digwyddiad yng Nglynebwy. Trafodwyd trefniadau seiberddiogelwch cwmnïau a chynhaliwyd cyfres o ymarferion i brofi seibergadernid y cyfranogwyr. Gofynnwyd i fusnesau ymrwymo i sicrhau bod eu cyfrineiriau’n cael eu newid i fod yn fwy cadarn ac yn llai agored i hacio. Ategwyd hyn yn ystod Wythnos Diogelwch Busnes gyda negeseuon diogelwch ar-lein allweddol i fusnesau.

Ysgrifennwyd cyngor ynghylch sut i gadw’n ddiogel ar-lein gyda Heddlu Gwent ac fe’i cyhoeddwyd yng nghylchgrawn Torfaen Business Voice. 

Hwylusodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ymweliad gan Cysylltu Gwent â safle ymddeol yn y Fenni, lle rhoddwyd cyngor i 10 o breswylwyr agored i niwed ynghylch sut i osgoi sgamiau seiber a sgamiau ffôn. Digwyddodd hyn ar ôl i reolwr y safle gwrdd â rhai o dîm Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn digwyddiad ymgysylltu ym Marchnad y Fenni. Rhoddwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd am y cymorth y gall Age Cymru ei ddarparu, a swyddogaeth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Roedd y sylwadau o’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn, a diolchodd y preswylwyr i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Cysylltu Gwent am eu negeseuon calonogol a’u cyngor. Rhoddodd Cysylltu Gwent sgwrs ychwanegol am sgamiau seiber i oddeutu 50 o bobl 70+ oed mewn clwb cyfrifiaduron yng Nghil-y-coed. Unwaith eto, hwyluswyd hyn gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar ôl cwrdd â threfnydd y clwb mewn digwyddiad ymgysylltu.

Hefyd, drwy gydol yr haf ac mewn digwyddiadau ymgysylltu â phraeseptau, dosbarthodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gannoedd o daflenni ynghylch cadw’n ddiogel ar-lein yn ystod sgyrsiau gyda thrigolion ynghylch diogelu.

Rhannodd Swyddog Cymorth Cymunedol Seiber Heddlu Gwent stondin Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn rheolaidd i gydgyflwyno negeseuon diogelwch ar-lein. Ategwyd hyn gan drafodaethau gyda phobl ifanc mewn digwyddiad Diogelu Gwent yng ngwesty’r Celtic Manor.

Cynlluniau Dargyfeirio

Lansiwyd dull system gyfan Braenaru i Fenywod a’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer oedolion ifanc rhwng 18 a 25 oed ym mis Hydref. Roedd hyn yn dilyn proses gomisiynu gydweithredol gyda Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Dyfarnwyd y contract i Future 4 (consortiwm o G4S, Cymru Ddiogelach, Include a Llamau).

Gan weithredu ledled ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, mae’n darparu cymorth cynhwysfawr i fenywod o’r adeg pan gânt eu harestio hyd at y cyfnod gwarchodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mae’n darparu gwasanaethau dargyfeirio a chymorth i bob unigolyn 18–25 oed hefyd. Mae’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth i’w helpu i adolygu eu dewisiadau a’r canlyniadau. Mae hefyd yn helpu cyfranogwyr i ddeall eu cryfderau, i oresgyn rhwystrau ac i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen heb droseddu mwyach.

Mae’r cynlluniau dargyfeirio ar gael ym mhob ystafell ddalfa ledled ardaloedd y ddau heddlu ac i bobl sy’n mynd i orsaf ar gyfer presenoldeb gwirfoddol hefyd.

Cyn hyn, dim ond gwasanaeth Braenaru i Fenywod peilot oedd ar gyfer Casnewydd. Nid oedd gwasanaeth dargyfeirio ar gyfer pobl 18–25 oed yng Ngwent. Rwyf yn falch iawn â’r ffordd y mae’r gwelliannau hyn yn gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i’r afael â’r materion hyn.

ASTUDIAETH ACHOS:

Yn ystod chwe mis cyntaf y contract, ymgymerodd 64% o’r menywod a atgyfeiriwyd i gael ymyrraeth â’r gwasanaeth. Mae hyn yn helpu menywod i wrthsefyll effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar eu bywydau eu hunain ac i leihau’r tebygolrwydd y bydd eu plant yn profi trawma. 

Roedd 85% arall o’r bobl ifanc a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth i gael ymyrraeth a chymorth yn ymgymryd ag ef, yn rhan o’r gwasanaeth 18-25. Mae hyn yn helpu oedolion ifanc i osgoi’r rhwystrau y mae cofnod troseddol yn eu creu. Mae’n ystyried manteision ymyrraeth gynnar wedi ei thargedu sy’n ystyried natur fregus ac aeddfedrwydd oedolion ifanc yn y system cyfiawnder troseddol.

Camau Cynnar Gyda’n Gilydd:

Rydym yn mabwysiadu dull cydweithredol amlasiantaethol o wella’r broses o nodi risgiau a phobl sy’n agored i niwed, gan atal gwaethygiad a lleihau’r gofynion yn y dyfodol. Mae hyn yn defnyddio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth o drawma ar gyfer plismona a phartneriaid.

Ceir dull integredig o ymdrin â phobl sy’n agored i niwed sy’n cyfeirio, cefnogi a diogelu pobl sy’n agored i niwed 24/7. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, ceir Uwch Ymarferydd Diogelu yn Ystafell Reoli’r Heddlu yn awr. Mae’r gweithiwr cymdeithasol yn darparu cyngor a chanllawiau tactegol i swyddogion. Mae’r cymorth hwn yn caniatáu i swyddogion ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u barn broffesiynol gydag aelodau o’r cyhoedd. Yna, gallant benderfynu ar yr ymatebion cyfeirio, cefnogi a diogelu perthnasol.

Mae’n hanfodol rhoi’r hyder a’r sgiliau i’n swyddogion a’n staff fel y gallant ymateb yn fwy effeithiol i bobl sy’n agored i niwed. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd 554 o swyddogion a staff yr heddlu, ynghyd â 246 o staff o asiantaethau partner, hyfforddiant profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan Barnardo’s. Ariennir hyn drwy fy swyddfa i ac mae’n dod â’r cyfanswm sydd wedi cael hyfforddiant ers 2018 i 1,292 o swyddogion a staff yr heddlu, ynghyd â 412 o staff o asiantaethau partner.

Ceir Hyfforddwr Amlygiad i Niwed newydd yn Heddlu Gwent yn awr ac ategir ei waith gan fframwaith datblygu gweithlu sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed ac y mae angen diogelu arnynt. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob swyddog y sgiliau a’r wybodaeth i nodi ac ymateb i bob math o amlygiad i niwed ar y cyfle cyntaf.  

Mae’r tîm profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi gweithio gyda phartneriaid yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent gyda’r nod o ddatblygu meysydd ‘braenaru’ i wella ymatebion. Maent wedi creu dau brosiect ymyrraeth gynnar gyda’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ym Mlaenau Gwent ac yn Hyb Diogelu

Casnewydd. Yn y rhain, mae swyddogion yr heddlu’n rhannu swyddfeydd gyda staff y cyngor, gan arwain at: 

  • Sgrinio cynnar i nodi atgyfeiriadau ar gyfer diogelu, cyfeirio a chefnogi; Rhannu gwybodaeth yn gynnar er mwyn llywio penderfyniadau diogelu; a
  • Thrafodaethau strategaeth amlasiantaethol amserol.

ASTUDIAETH ACHOS:

Mae’r dull prosiect ymyrraeth gynnar wedi darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal i dros 400 o deuluoedd na fyddent wedi cael cynnig hyn o’r blaen. Mae wedi cael effaith gadarnhaol amlwg hefyd gan leihau nifer yr ailatgyfeiriadau am gymorth i deuluoedd. Oherwydd llwyddiant yr ardaloedd braenaru, mae’r dull hwn wedi ei roi ar waith yn Nhorfaen yn awr. Mae’r gwaith o ailfodelu’r prosesau diogelu presennol yng Nghaerffili ac yn Sir Fynwy wedi ei ddechrau. 

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent:

Alcohol a chyffuriau yw’r ddau brif sbardun sy’n ysgogi trosedd, felly mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn rhan annatod o unrhyw strategaeth atal troseddu. Yn aml, mae nifer o faterion ar waith, a llawer o bobl sydd wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gallai hyn gynnwys cam-drin, byw mewn cartrefi treisgar neu fod â rhieni y mae ganddynt broblemau camddefnyddio sylweddau.

Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) yn darparu gwasanaethau gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth o drawma. Mae hyn yn gweithio i fynd i’r afael ag anghenion sylfaenol yn ogystal â materion rheoli camddefnyddio sylweddau. Comisiynir gwaith Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gwent, ac rwyf innau’n aelod gweithredol ohono.

Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent yn cynnig cymorth i aelodau o’r teulu, gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gwasanaethau i blant a phobl ifanc, llwybrau mynediad agored i bobl â phroblemau cyffuriau neu alcohol, a gwasanaeth ymyrryd adfer integredig o’r enw Cyfiawnder Troseddol GDAS. 

Mae fy swyddfa i’n ariannu mwy na 50% o’r gwaith sy’n cefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau sy’n gysylltiedig â’r system cyfiawnder troseddol. Gellir darparu’r cymorth hwn o amser yr arestiad hyd at yr amser pan fo rhywun yn cael ei ryddhau o’r carchar. Ei nod yw gwella iechyd a lles pobl, yn ogystal â lleihau ac atal aildroseddu.

Yn 2020/21, derbyniodd y gwasanaeth 1,361 o atgyfeiriadau a gweithiwyd gydag oddeutu 460 o bobl ar unrhyw un adeg drwy gydol y flwyddyn. 

ASTUDIAETH ACHOS:

Roedd Mike* wedi bod yn troseddu dro ar ôl tro ers nifer o flynyddoedd.

Roedd wedi ei ddal mewn cylch o garchar, aildroseddu, a dychwelyd i’r carchar. Roedd camddefnyddio alcohol a chyffuriau yn sbarduno ei droseddu. Roedd yn ddigartref am gyfnodau hir hefyd.

Roedd gan Mike berthynas wael â’r heddlu. Ni ymgysylltodd â’r tîm Rheoli Troseddwyr Integredig i ddechrau a pharhaodd ei batrwm troseddu. 

Fodd bynnag, ar ôl llawer o ddyfal barhad, cyswllt wythnosol a chefnogaeth, llwyddodd y tîm i ennill ei ymddiriedaeth. Roedd hyn yn caniatáu i fesurau ymyrryd gael eu rhoi ar waith. Mae Mike wedi cael cymorth i gael gafael ar fudd-daliadau er mwyn lleihau ei angen i gyflawni troseddau er budd ariannol. Mae ef wedi cymryd rhan mewn cymorth adfer hefyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.

Nid yw’n defnyddio cyffuriau nac yn camddefnyddio alcohol bellach, ac nid yw ef wedi troseddu ers chwe mis. 

* Nid ei enw go iawn

Cronfa Gymunedol yr Heddlu

Nod Cronfa Gymunedol yr Heddlu yw galluogi plant a phobl ifanc yng Ngwent i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae’n gwneud hyn drwy gefnogi prosiectau sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl oherwydd trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu sy’n chwarae rhan yn y gweithgareddau hyn.

Yn 2019/20, derbyniodd wyth sefydliad gyllid gwerth cyfanswm o £252,182. Dyfarnwyd cyllid am ail flwyddyn i ddau sefydliad arall, gydag amodau. Daw hyn â chyfanswm gwerth y grantiau a ddyfarnwyd yn 2019–20 i £298,141. 

Cefnogwyd ystod eang o brosiectau ac ymyriadau. Er enghraifft:

  • Mae plant sy’n ymwneud â phrosiect Cymru Creations ym Mlaenau Gwent wedi gweithio gyda chwmni cyfryngau sydd wedi ennill gwobrau i greu ffilmiau byr sy’n canolbwyntio ar bynciau megis gyrru yn beryglus, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau casineb.
  • Mae hyd at 100 o blant a phobl ifanc fesul noson wedi bod yn mynd i Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân lle maent yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac i gael cymorth gydag addysg a hyfforddiant.
  • Mae prosiect #stopstabbingstartjabbing yng nghlwb bocsio amatur Alway yn cynnig sesiynau bocsio cymunedol a mentora unigol i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymuno â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae plant sy’n dilyn y prosiectau hyn wedi cyflawni canlyniadau gan gynnwys gwell iechyd a lles, rhagor o ymdeimlad o ddiogelwch, perthnasoedd mwy cadarnhaol â theulu a/neu ffrindiau, ac maent wedi gallu gwneud dewisiadau bywyd gwybodus yn well.

ASTUDIAETH ACHOS:

Trefnodd Urban Circle ‘Summer Fest’ yn Nhŷ Tredegar ym mis Awst.

Dyfeisiwyd a threfnwyd yr ŵyl gan bobl ifanc 13–25 oed yn rhan o brosiect UTurn, Urban Circle, a ariennir gan fy swyddfa i. Mae’r prosiect yn defnyddio’r celfyddydau creadigol i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghasnewydd. 

Enillodd y bobl ifanc yn nhîm y digwyddiad gymwysterau stiwardio a chymorth cyntaf, a chwblhaodd oddeutu hanner y tîm achrediadau diogelu a gwaith ieuenctid hefyd. 

Hefyd, trefnodd Urban Circle ddigwyddiad cerddoriaeth Calan Gaeaf lle’r oedd dros 200 o bobl ifanc o Gasnewydd yn bresennol. Fe’i cynlluniwyd i roi rhywbeth cadarnhaol i bobl ifanc ei wneud ar noson sy’n gysylltiedig â lefelau uchel o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol:

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol a thrais difrifol yn parhau i fod yn bryder sylweddol yn genedlaethol. Fodd bynnag, rwyf yn falch yn naturiol fod Gwent yn parhau i fod yn un o’r heddluoedd sydd â’r niferoedd isaf o droseddau sy’n gysylltiedig ag arfau yn y DU (41ain allan o 43 o heddluoedd). Nid yw mwyafrif y troseddau hyn yn gysylltiedig â throseddoldeb cyfundrefnol.

Nid yw hynny’n golygu fy mod yn diystyru’r mater hwn. Nid wyf yn gwneud hynny. Gwn fod hwn yn faes sy’n peri pryder sylweddol i rai trigolion ac rwyf wedi gweld drosof fy hun y niwed a achosir gan gyflenwi cyffuriau. Gan weithio gyda phartneriaid, mae angen inni ymyrryd cyn gynted â phosibl er mwyn helpu i atal pobl ifanc rhag cael eu hecsbloetio fel hyn.

Parhaodd prosiectau peilot sy’n helpu i gyflawni hyn yng Ngwent i gael eu darparu drwy gydol y flwyddyn. Wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref a’m swyddfa i, darparodd menter Fearless St Giles, Barnardo’s a Crimestoppers ymyriadau wedi eu targedu i’r bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o gael eu tynnu i mewn i droseddau difrifol a chyfundrefnol, a thrais difrifol. Roedd rhai o’r rheini a gefnogwyd wedi profi niwed sylweddol a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn eu bywydau, gan gynnwys cam-drin domestig a dod i gysylltiad â’r broses o gyflenwi cyffuriau.

Mae’r prosiectau hyn yn parhau i weithio ledled Gwent gyfan, gyda chymorth uniongyrchol i blant 11-17 oed a’u teuluoedd. Ceir ymyriadau drwy ysgolion hefyd, gan ddarparu addysg a gwybodaeth am droseddau difrifol a chyfundrefnol a thrais difrifol i drigolion.

ASTUDIAETH ACHOS:

Yn 2019/20, gwnaeth yr ymyriadau troseddau difrifol a chyfundrefnol a thrais difrifol y canlynol:

  1. Darparu cymorth uniongyrchol i 70 o blant a’u teuluoedd neu ofalwyr;
  2. Cyflwyno dros 500 o sesiynau cymorth;
  3. Cynnal rhaglenni ar gyfer 6,877 o blant ysgol ledled Gwent.

Cwblhawyd adolygiadau unigol gyda’r 70 o blant ar ddiwedd y flwyddyn a dangoswyd gwelliant o 89% mewn presenoldeb yn yr ysgol, gostyngiad o 89% mewn troseddu, a gwelliant o 100% mewn iechyd meddwl a lles ymhlith y cyfranogwyr.

Buddsoddwyd dros £270,000 yn y rhaglenni yn 2019/20.

BLAENORIAETH 2 – CEFNOGI DIODDEFWYR

Darparu cymorth rhagorol i ddioddefwyr troseddau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd wedi profi’r niwed mwyaf difrifol.

Canlyniadau’r Arolwg Bodlonrwydd Dioddefwyr

 

2017–2018

2018–2019

2019–2020

Profiad cyfan 

81%

75%

75%

Hwylustod cyswllt

88%

89%

95%

Camau a gymerwyd 

76%

71%

76%

Y ffordd yr ymdriniwyd â nhw

92%

87%

85%

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

65%

64%

46%

Mae’r Bwrdd Dioddefwyr (gweler isod) wedi parhau i oruchwylio rhaglen gwaith gwella a chraffu ar berfformiad gwasanaethau i ddioddefwyr. Bu rhywfaint o welliant mewn dau o’r pum maes; fodd bynnag, y maes sy’n peri pryder sylweddol o hyd yw nad yw dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn briodol. Yn hanesyddol, mae’r gyfradd fodlonrwydd ar gyfer cael yr wybodaeth ddiweddaraf wedi bod yn is nag agweddau eraill ar y gwasanaeth. Er mwyn helpu i ddeall y materion ymhellach, bydd sgript yr arolwg yn cael ei haddasu ar gyfer chwarter cyntaf 2020/21, fel na ofynnir y cwestiwn i unrhyw un y mae ei achos wedi ei ddatrys heb orfod anfon swyddogion i leoliad y digwyddiad. Y gobaith yw y bydd y gyfradd fodlonrwydd yn codi o ganlyniad i hyn, gan alluogi dealltwriaeth fwy cywir o brofiadau dioddefwyr. Fodd bynnag, rwyf i a’r heddlu yn cydnabod yr angen am ragor o welliannau yn y maes hwn. Cynllunnir gwelliannau ar gyfer 2021/22 a disgwyliaf y byddant yn darparu gwell gwasanaethau i ddioddefwyr yng Ngwent. 

Cysylltu Gwent:

Gwasanaeth cymorth amlasiantaethol i ddioddefwyr yw Cysylltu Gwent. Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl yr effeithiwyd arnynt gan droseddau er mwyn eu helpu i ymdopi ac i adfer. Fe’i hariennir gan fy swyddfa i, drwy grant gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae bod yn wasanaeth amlasiantaethol yn caniatáu i bobl gael y cymorth mwyaf perthnasol a phriodol yn unol â’u hanghenion. Mae’n bosibl y darperir cymorth gan un asiantaeth o fewn Cysylltu Gwent neu gan asiantaethau sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gydgysylltiedig. 

Gwnaeth Cysylltu Gwent y canlynol yn ystod y flwyddyn hon:

  • Derbyn 15,061 o atgyfeiriadau;
  • Darparu un achos o gymorth i 1,109 o bobl (7% o’r atgyfeiriadau); a Darparu cymorth parhaus i 1,599 o bobl (11% o’r atgyfeiriadau).

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 2,708 o bobl wedi eu cefnogi (18% o’r atgyfeiriadau)

Y canlyniad

Y nifer sy’n adrodd am welliant

Yn gallu ymdopi ac adfer yn well

679

Yn fwy gwybodus ac wedi ei rymuso’n well ar gyfer gweithredu

624

Gwell iechyd a lles

681

Gwell teimladau o ddiogelwch

640

ASTUDIAETH ACHOS:

Atgyfeiriwyd Alice* at Cysylltu Gwent i gael cymorth yn sgil ymosodiad domestig.

Roedd hi wedi bod yn briod ers dros 30 mlynedd, ond roedd ei gŵr yn rheoli ei harian i gyd a llawer o agweddau eraill ar ei bywyd. Roedd merch hynaf Alice wedi gweld y cam-drin drwy gydol ei phlentyndod hefyd. 

Yn ei chyfarfod cyntaf, ac Alice yn ofidus iawn, cytunodd y gweithiwr achosion cam-drin domestig arbenigol y gallai eirioli ar ei rhan,  mynd gyda hi i gyfarfodydd, a’i helpu gydag unrhyw waith papur oherwydd ei bod yn dioddef o ddyslecsia.

Cyfarfu Alice a’r gweithiwr achos nifer o weithiau, a datblygodd gynllun diogelwch a chymorth, fel bod ganddi rywbeth gweledol i’w helpu i gyflawni ei hamcanion. Roedd Alice yn rhentu ei heiddo yn breifat, felly, helpodd y gweithiwr achos hi i drafod y sefyllfa gyda’i landlord. Yna, caniataodd y landlord iddi osod larymau a newid y cloeon. 

Mae Alice yn ysgaru erbyn hyn. Mae hi wedi dilyn fforwm goroeswyr a gynhelir gan Heddlu Gwent, ac mae hi’n dweud ei bod yn teimlo ei bod wedi ei grymuso i wneud pethau ar ei phen ei hun.

* Nid ei henw go iawn

Iechyd Meddwl

I helpu i ymdrin â nifer y galwadau iechyd meddwl y mae Heddlu Gwent yn eu derbyn, mae ein prosiect ar y cyd yn parhau i ddarparu cymorth i bobl sy’n agored i niwed sy’n profi salwch meddwl neu argyfwng iechyd meddwl.

Ers mis Chwefror 2018, mae tîm o arbenigwyr iechyd meddwl ymroddedig wedi gweithio ochr yn ochr â’r staff yn Ystafell Reoli’r Heddlu gan wneud y canlynol:

  • Darparu cymorth priodol ar gyfer argyfwng iechyd meddwl; a
  • Rheoli risg a niwed yn ystod y cyswllt cyntaf.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r tîm wedi cofnodi cynnydd o 9.2% mewn ymgynghoriadau iechyd meddwl, gan dderbyn 870 o geisiadau am wasanaeth fesul mis ar gyfartaledd. Roedd nifer y cyfnodau cadw o dan Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn parhau i fod yn gyson, gyda 273 wedi eu cofnodi yn 2019/20 o’u cymharu â 278 ar gyfer 2018/19.

Cafodd dros 1,100 o ddigwyddiadau lle byddai swyddogion wedi cael eu hanfon allan eu hosgoi yn ystod y flwyddyn oherwydd y cynllun hwn, sy’n gynnydd o 19% ers y llynedd. Mae hyn yn adlewyrchu newidiadau ym mhrosesau cofnodi’r tîm ac nid yw’n peri pryder bod Heddlu Gwent yn llai ymatebol i alwadau ar hyn o bryd.  

Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad fy swyddfa i a Heddlu Gwent i gefnogi’r egwyddorion allweddol a amlinellir yng Nghoncordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl i Gymru. Yn naturiol, rwyf yn croesawu’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r gwasanaeth hwn yn ei wneud i bobl mewn argyfwng. 

Mae’r ymarferydd llesiant a leolir yn Cysylltu Gwent yn parhau i ddarparu cymorth arbenigol i ddioddefwyr troseddau sydd â gofynion iechyd meddwl. Yn ystod 2019/20, gwnaed 73 o atgyfeiriadau am gymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn ostyngiad mewn atgyfeiriadau o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond oherwydd salwch staff yr oedd hyn.

Cydlynydd Ymgysylltu â Goroeswyr

Yn dilyn argymhelliad gan fy swyddfa, mae cydlynydd ymgysylltu â goroeswyr newydd wedi dechrau gweithio yn Heddlu Gwent. Y swydd yw’r gyntaf o’i math i heddlu yng Nghymru.

Mae’r swyddogaeth yn sicrhau bod dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr wrth wraidd ymateb Heddlu Gwent i oroeswyr cam-drin rhywiol a thrais domestig. Mae’r cydlynydd wedi sefydlu fframwaith ymgysylltu â goroeswyr cynaliadwy, lle gall goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol rannu eu profiadau.

Mae cefnogi’r holl ddioddefwyr troseddau yn flaenoriaeth sylfaenol yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu. Mae swydd newydd y cydlynydd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni hynny mewn ffordd effeithiol a chynhwysol.

Y Bwrdd Dioddefwyr:

Ym mis Mai, crëwyd Bwrdd Dioddefwyr er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson ac o ansawdd da yn effeithiol i ddioddefwyr a thystion, gan graffu ar y gwasanaethau hyn. O dan gadeiryddiaeth y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, mae’n adolygu’r ddarpariaeth a’r perfformiad cyfredol. Yn hollbwysig, mae’n cytuno hefyd ar unrhyw newidiadau i’r modd y darperir gwasanaethau i ddioddefwyr. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion a nodir yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr a Strategaeth Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae’r bwrdd wedi goruchwylio gwaith sylweddol a wnaed er mwyn gwella gwasanaethau i ddioddefwyr, gan gynnwys:

  • Craffu ar ohebiaeth a diweddariadau i ddioddefwyr; Sefydlu proses monitro perfformiadau; ac
  • Archwilio bodlonrwydd dioddefwyr.

O ganlyniad, mae hyfforddiant wedi ei ddarparu i swyddogion ar rheng Sarjant sy’n canolbwyntio ar wella’r broses o gyfathrebu â dioddefwyr. Dylai dioddefwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt gael eu hatgyfeirio at Cysylltu Gwent yn rhan o’r drefn arferol yn awr.

Mae’r bwrdd wedi comisiynu adolygiad o daith gyfan y dioddefwr, o’r dechrau i’r diwedd, mewn cysylltiad â’r hyn sy’n ymwneud â Heddlu Gwent. Roedd gwerthusiad o’r dewisiadau i fod i gael ei gyflwyno ym mis Mai 2020. Bydd hyn yn cynnig dewisiadau eraill i’r ffyrdd y caiff dioddefwyr eu cefnogi ar hyn o bryd er mwyn gwella ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Rwyf yn parhau i fod yn gyfrifol am fonitro ac adrodd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am gydymffurfiaeth asiantaethau cyfiawnder troseddol ag agweddau allweddol o’r Cod Dioddefwyr. I gefnogi hyn, mae fy swyddfa wedi sefydlu y Grŵp Cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr, ac mae’n ei gadeirio. Mae’r canlynol yn dod i gyfarfodydd y grŵp: Heddlu Gwent, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a Gwasanaeth Erlyn y Goron.  Mae’r grŵp yn gwneud y canlynol:

  • Cytuno ar ddulliau casglu data;
  • Adolygu cydymffurfiaeth;
  • Nodi arferion da a meysydd i’w datblygu;
  • Cydgysylltu gwaith amlasiantaethol er mwyn gwella cydymffurfiaeth â’r Cod Dioddefwyr; a
  • Cyfrannu gwybodaeth, materion a datblygiadau cydymffurfio at Fwrdd Dioddefwyr Heddlu Gwent a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gwent.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol:

Mae un o bob tair menyw yn profi rhyw fath o drais neu gam-drin rhywiol yn ystod eu hoes yng Nghymru. Mae cyfanswm o 11% o’r holl droseddau yng Ngwent yn gysylltiedig â cham-drin domestig ac mae dros hanner y troseddau sy’n cynnwys arfau yn digwydd yn y cartref. 

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn achosi niwed sylweddol i deuluoedd, cymunedau, ac yn fwyaf oll, i’r dioddefwyr eu hunain.  Mae gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn hanfodol i bobl sy’n adrodd i’r heddlu a’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny. Eleni, darperais £300,000 i wasanaethau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion.

Ym mis Mawrth, roedd fy swyddfa hefyd yn un o 17 o swyddfeydd comisiynwyr a lwyddodd i gael rhagor o gyllid oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer dau eiriolwr annibynnol ar drais rhywiol.

Rwyf wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent gefnogi dioddefwyr a goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Gwyddom fod hon yn drosedd sy’n cael ei thanadrodd yn sylweddol a disgwyliaf i nifer yr achosion gynyddu yn ystod y flwyddyn nesaf oherwydd cyfyngiadau symud COVID-19.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol wrth fynd i’r afael â Thrais yn erbyn

Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac mae’r Dirprwy Gomisiynydd yn aelod gweithredol o Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Rhanbarthol Gwent. Nod hyn yw sicrhau’r ymateb mwyaf effeithlon ac effeithiol o atal niwed difrifol a achosir gan Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Rwyf i a’m swyddfa’n parhau i weithio gyda Heddlu Gwent er mwyn sicrhau’r ymateb gorau i ddioddefwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer aelodau o’r cyhoedd a chyflogeion. Mae’r gwaith eleni wedi cynnwys adolygu’r polisi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol sy’n seiliedig ar waith. Mae hyn yn cynnwys adran ychwanegol ynghylch caniatáu absenoldeb arbennig i gyflogeion sy’n dioddef oherwydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol drwy ddull cydweithredol.

Mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cael canlyniadau rhagorol yn y llys. Mae cyfraddau erlyn ar gyfer cam-drin domestig, troseddau rhywiol a threisio yn uwch na’r cyfraddau cenedlaethol (Cymru a Lloegr) ac yn uwch na chyfraddau Cymru.

Math o drosedd

Cenedlaethol

Cymru

Gwent

Cam-drin Domestig

77.5%

77.6%

82.8%

Treisio

65.6%

62.3%

69.3%

Troseddau Rhywiol

83.2%

85.1%

89.4%

ASTUDIAETH ACHOS:

Ymunodd fy swyddfa â Thîm Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent a Heddlu Gwent i lansio ymgyrch ar y cyd er mwyn tynnu sylw at Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac annog pobl sy’n dioddef hyn i ofyn am gymorth.

Mae ymgyrch ‘Peidiwch â dioddef yn ddistaw’ yn annog pobl i adrodd drwy linell gymorth Byw Heb Ofn ac yn cyfeirio pobl at wefan Diogelu Gwent i gael cyngor a gwybodaeth. Mae’r ymgyrch yn annog partneriaid (yn enwedig y sector cyhoeddus a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) i ddefnyddio’r adnoddau a grëwyd ac i hyrwyddo’r ymgyrch drwy eu sianelau.

Llywiodd cyfanswm o 30 o oroeswyr ei chynnwys a chymerodd rhai ohonynt ran yn yr ymgyrch ei hun. 

Dechreuwyd cyflwyno’r ymgyrch yn rhannol ym mis Chwefror er mwyn cydfynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol a hyrwyddo swydd newydd y cydgysylltydd ymgysylltu â goroeswyr, a bydd yn cael ei chyflwyno’n llawn ddiwedd mis Mawrth a dechrau mis Ebrill.

BLAENORIAETH 3 – CYDLYNIANT CYMUNEDOL

Cynyddu dealltwriaeth a pharch ymhlith cymunedau er mwyn gwella cydraddoldeb, diogelwch a lles.

Nifer yr achosion o Droseddau Casineb a Dioddefwyr sydd wedi Dioddef fwy nag Unwaith

 

2017–2018

2018–2019

2019–2020

Achosion o droseddau casineb 

1,005

1,138

967

Dioddefwyr troseddau casineb sydd wedi dioddef fwy nag unwaith 

85

92

89

Troseddau casineb a anfonwyd at y Swyddfa Gartref 

651

797

668

Bu gostyngiad parhaus mewn troseddau casineb, sef 16.2% yn llai o droseddau casineb o’u cymharu â 2018/19. Gan gydnabod bod digwyddiadau a newyddion cenedlaethol a rhyngwladol yn effeithio’n sylweddol ar adrodd am droseddau casineb, mae’n heriol deall y darlun cywir. Mae gwaith wedi ei wneud i archwilio ffyrdd o annog pobl i adrodd, a bydd fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn parhau i wneud hynny ynghyd â chymunedau lleol.

Troseddau Casineb a Thensiynau Cymunedol:

Rydym yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid er mwyn monitro troseddau a digwyddiadau casineb. Rwyf i a’m swyddfa yn mynd i gyfarfodydd partneriaeth yn rheolaidd er mwyn adolygu’r broses o adrodd troseddau casineb a’r ymateb i ddioddefwyr a throseddwyr. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gefnogi Heddlu Gwent hefyd er mwyn sicrhau prosesau craffu mewnol effeithiol a gwelliannau.

Mae fy swyddfa yn aelod o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb. Mae hyn yn gyfle inni oruchwylio materion allweddol ledled Cymru, gan ddylanwadu arnynt yn strategol. Mae hefyd yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru, megis Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol 2017-2020. Cydnabuwyd y cyfraniad hwn tuag at y broses o ddatblygu strategaethau a pholisïau yng Nghymru gan y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, eleni.

Tua diwedd 2019/20, yn sgil heriau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag achosion o COVID-19 cafwyd y potensial am gynnydd mewn tensiynau a throseddau casineb. Roedd hyn yn gyfle arall inni ddatblygu ein hymgysylltiad â phartneriaid a chefnogi ein cymunedau i gadw’n ddiogel yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Cronfa Gymunedol yr Uchel Siryf:

Rhoddais ddyfarndal o £55,000 i Gronfa Uchel Siryf Gwent, sydd â’r nod o ddarparu ansawdd bywyd mwy diogel a gwell i bobl yng Ngwent. Mae’n gwneud hyn drwy gefnogi mentrau yn y gymuned sy’n lleihau troseddu ac yn gwella diogelwch cymunedol.

Cynhaliwyd digwyddiad gwneud grant cyfranogol, pan fo’r broses o wneud penderfyniadau wedi ei datganoli i’r gymuned leol fel y gallent gefnogi’r mentrau y maent o’r farn eu bod yn cynnig yr atebion gorau i’r materion sy’n wynebu eu cymuned. Rhoes yr Uchel Siryf 17 o ddyfarndaliadau, sef cyfanswm o £76,025, gyda naw sefydliad arall yn derbyn rhodd o £500 am gymryd rhan. Cefnogwyd ystod eang o sefydliadau cymunedol ledled Gwent, gan gynnwys prosiectau ieuenctid, hybiau cymunedol, cymorth cam-drin domestig, grwpiau rhieni, prosiectau celf, sesiynau dawns a gwarchodfa natur.

Panel Craffu ar Gyfreithlondeb:

Cydlynir y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb gan fy swyddfa er mwyn darparu adolygiad a sylwadau annibynnol i Heddlu Gwent ynghylch ‘stopio a chwilio’ a ‘defnyddio grym’. Er mwyn sicrhau bod pwerau’r heddlu’n cael eu defnyddio’n gywir yng Ngwent y mae hyn. Gan weithio gydag aelodau’r Grŵp Cynghori Annibynnol, mae’r panel yn cwrdd bob chwarter i archwilio darnau o ffilm a wnaed gan gamerâu corff, data perfformiad cysylltiedig a chofnodion 'stopio a chwilio'.
Cafwyd nifer o lwyddiannau yn ystod 2019/20, gan gynnwys:

  • Gwelliannau i’r ffordd y cofnodi’r sail dros gynnal chwiliadau;
  • Cofnodi data’n well yn sgil datrys problemau technolegol;
  • Tystiolaeth o hyfforddiant effeithiol yn arferion cofnodi swyddogion newydd;
  • Rhagor o waith craffu mewnol ar berfformiad a chanlyniadau; ac
  • Enghreifftiau o ymgysylltiadau cadarnhaol gan swyddogion a recordiwyd gan gamera corff.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom ni wahodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth,
Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi i gyfranogi yng nghyfarfodydd y panel. Mae ei sylwadau wedi cefnogi gwelliant i’n swyddogaeth a’n proses graffu. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Heddlu Gwent ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi er mwyn sicrhau bod pwyslais priodol ar welliant parhaus a chyfreithlondeb.

Y Gronfa Effaith Gadarnhaol:

Mae’r Gronfa Effaith Gadarnhaol wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau canlyniadau tymor byr cadarnhaol i sefydliadau sy’n derbyn ariana chymunedau yng Ngwent.

Yn 2019/20, rhoddais 10 dyfarndal, sef cyfanswm o £9,692.50. Darparwyd cyllid i helpu digwyddiadau megis gwobrau gwirfoddolwyr, cynhadledd cam-drin domestig a Gŵyl Maendy. Cyfrannodd at waith da parhaus sefydliadau sy’n cefnogi plismona hefyd, megis Cymdeithas Achub Ardal Hafren.

ASTUDIAETH ACHOS:

Rhoddais £1,000 o’m Cronfa Effaith Gadarnhaol i Gymdeithas Achub Ardal Hafren. Lleolir y Gymdeithas yng ngorsaf dân Malpas a chaiff ei chriwio’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, ac mae’n helpu Heddlu Gwent i chwilio am bobl sydd ar goll a gyda digwyddiadau ar hyd Aber Afon Hafren.

Mae Cymdeithas Achub Ardal Hafren yn darparu cymorth gwerthfawr i Heddlu Gwent a’r gwasanaethau brys, ac mae’n dibynnu ar wirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith eithriadol o bwysig. Mae gorsaf bad achub Cymdeithas Achub Ardal Hafren yng Nghasnewydd yn costio oddeutu £20,000 bob blwyddyn i’w gweithredu, a helpodd y rhodd gyda chostau cynnal cychod, cerbydau ac offer.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cydraddoldeb Strategol:

Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyntaf ar y cyd â Heddlu Gwent. Cefnogir y blaenoriaethau sydd ynddo gan ddau gynllun gweithredu ar wahân sydd wedi eu cyfochri â’m Cynllun Heddlu a Throseddu, gan gefnogi’r broses o’i gyflawni. Maent hefyd yn cydnabod anghenion a disgwyliadau ein cymunedau amrywiol yng Ngwent.
Dengys yr adroddiad blynyddol ar y cyd ar gyfer 2018/19 ein perfformiad o’i gymharu â’r amcanion cydraddoldeb yn ystod y flwyddyn. Roedd y gweithgareddau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar:

  • Gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod;
  • Craffu ar ‘stopio a chwilio’ a ‘defnyddio grym’;
  • Perfformiad troseddau casineb;
  • Sicrhau hygyrchedd pencadlys newydd yr heddlu; a
  • Chefnogi’r strategaeth gweithlu cynrychioliadol.

Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-2024 hefyd. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o’r cynllun presennol yn ogystal ag ymgysylltu mewnol ac allanol â rhanddeiliaid. Bydd amcanion drafft yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2020/21, o flaen dogfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol.

Cynlluniau Gwirfoddoli:

Mae’r Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol yn caniatáu i wirfoddolwyr fynd i orsafoedd heddlu i wirio’r ffordd y caiff carcharorion eu trin, amodau’r ddalfa, ac a ydynt yn cael eu hawliau.
Trwy gydol 2019/20, roedd wyth gwirfoddolwr cynllun a gynhaliodd 69 o ymweliadau dirybudd ar wahanol adegau o’r diwrnod. Arweiniodd hyn at:

  • 62% o garcharorion yn y ddalfa yn ystod cyfnodau ymweliadau yn derbyn ymweliad gan yr Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd; a
  • 100% o’r materion a nodwyd gan Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn cael sylw gan Sarjant y ddalfa yn ystod yr ymweliad.

Trwy’r broses hon, gallwn fod yn ffyddiog bod y trefniadau priodol ar waith er mwyn bodloni hawliau carcharorion, a bod amodau’r ddalfa yn bodloni safonau uchel.
Yn dilyn asesiad fframwaith sicrhau ansawdd y cynllun gan y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, cadwodd ein cynllun ei statws ‘Cydymffurfio â’r Cod’.
Mae’r Cynllun Lles Anifeiliaid yn trefnu bod gwirfoddolwyr yn cynnal ymweliadau, yn arsylwi ac yn adrodd ar amodau lletya, hyfforddi, a chludo cŵn yr heddlu.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd 11 o wiriadau gan wyth
gwirfoddolwr. Rhannwyd canlyniadau’r ymweliadau a gofnodwyd gan fy swyddfa â Heddlu Gwent er mwyn sicrhau yr aed i’r afael ag unrhyw faterion neu bryderon a godwyd gan y gwirfoddolwyr.
Rwyf yn fodlon bod y ddau gynllun hyn yn parhau i sicrhau bod y rhai sydd yn y ddalfa a’n cŵn heddlu yn cael eu cadw dan amodau derbyniol.

Cynhadledd y Gymraeg

Mae fy swyddfa wedi parhau i weithio’n agos gyda Heddlu Gwent er mwyn cefnogi ein hymrwymiad a rennir tuag at ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd er mwyn goruchwylio cydymffurfiaeth a gwelliannau;
  • Cyhoeddi adroddiad blynyddol cydymffurfio â’r Gymraeg bob blwyddyn;
  • Cwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts;
  • Integreiddio ein rhwydwaith siaradwyr Cymraeg a dysgwyr mewnol o fewn y strwythur rhwydweithiau cymorth staff presennol; a
  • Sicrhau bod sesiynau Cymraeg sylfaenol gorfodol wedi eu cyflwyno i’r holl staff.

Ym mis Chwefror, roeddwn i hefyd yn falch o gefnogi cynhadledd ‘Cymraeg Ein Hiaith’ Heddlu Gwent, a fu’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn rhan o fywyd bob dydd.

BLAENORIAETH 4 – MYND I’R AFAEL AG YMDDYGIAD
GWRTHGYMDEITHASOL

Sicrhau bod Heddlu Gwent yn gweithio i ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio’n agos gyda sefydliadau partner er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn yn effeithiol.

Nifer y digwyddiadau gwrthgymdeithasol 

 

2017–2018

2018–2019

2019–2020

Ardal Blismona Leol y Dwyrain

7,597

4,781

4,856

Ardal Blismona Leol y Gorllewin

10,141

5,944

5,999

Cyfanswm

17,738

10,725

10,855

Mae’r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â chyfyngiadau symud COVID-19 ar ddiwedd 2019/20. Felly, mae’n anodd barnu a oes cynnydd gwirioneddol yn nifer yr achosion. Gwelodd Ardaloedd Plismona Lleol y Dwyrain a’r Gorllewin batrymau adrodd tebyg, sydd wedi arwain at gynnydd cyffredinol o 1.2% o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n debygol, fodd bynnag, heb y cynnydd a achoswyd gan COVID-19, y byddai gostyngiad wedi bod yn nifer y digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd. Mae Heddlu Gwent yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ddefnyddio lefelau amrywiol o ymyrraeth, yn enwedig pan fo’n gysylltiedig â throseddu.

Dyfodol Cadarnhaol

Trwy gydol y flwyddyn, cafodd 1,872 o bobl ifanc fudd o raglen Dyfodol Cadarnhaol a ddarparwyd gan Casnewydd Fyw. Derbyniodd y rhaglen cynhwysiant ieuenctid sy’n defnyddio chwaraeon a gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc 10-18 oed £181,000 gan fy swyddfa yn 2019/20.
Mae Dyfodol Cadarnhaol yn darparu gweithgareddau dargyfeiriol ac addysg arall i bobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig iawn yng Ngwent, sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu. Mae gan lawer o’r bobl ifanc sy’n dilyn Dyfodol Cadarnhaol gefndiroedd teuluol anodd. Yn aml, nid oes ganddynt esiamplau cadarnhaol, mannau diogel na ffiniau yn eu bywydau.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 37 o sesiynau dargyfeiriol wythnosol. Ategwyd hyn gan 16 o sesiynau adweithiol a gynhaliwyd yn benodol mewn ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae pobl ifanc sy’n dod i’r sesiynau’n rheolaidd wedi gweld canlyniadau sy’n cynnwys gwell hyder, iechyd meddwl, hunan-werth a chadernid drwy wneud ffrindiau newydd. Maent hefyd wedi cael profiad o fod yn rhan o dîm llwyddiannus ac o gael esiamplau cadarnhaol yn y staff.
Yn ogystal â’r rhaglen ddargyfeiriol, cyflwynwyd rhaglen addysg arall bwrpasol i 116 o bobl ifanc, sef cyfanswm o 9,164 awr o ddarpariaeth. Er nad yw’n bosibl i lawer o’r bobl ifanc ddychwelyd i addysg brif ffrwd oherwydd eu bod wedi eu hallgáu neu fod ganddynt rwystrau difrifol mewn cysylltiad ag ymdopi â’r amgylchedd prif ffrwd, roedd wyth yn gallu ailymuno â’r ddarpariaeth addysg prif ffrwd. Cymerodd pedwar ran mewn lleoliadau allanol a/neu swyddogaethau gwirfoddoli.
O ganlyniad i hyn, gwelodd cyfranogwyr ganlyniadau, gan gynnwys rhagor o ymgysylltiad mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a gwell sgiliau bywyd. Mae hyn oherwydd cyfleoedd i wirfoddoli, dilyn cyrsiau, ennill cymwysterau, a dysgu sgiliau megis nofio, coginio a dulliau ymdopi hunanofal. Cynigir chwaraeon a gweithgareddau corfforol fel bachyn i ennyn brwdfrydedd pobl ifanc yn eu lleoliad, ac fel offeryn i helpu i reoli emosiynau ac ymddygiad.

ASTUDIAETH ACHOS:

Ymunodd fy swyddfa â’r tîm o Dyfodol Cadarnhaol ar gyfer twrnamaint pêldroed pum bob ochr yng Nghil-y-coed. Cystadlodd timau o brosiectau Dyfodol Cadarnhaol ledled Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen i fod yn bencampwyr y twrnamaint ac, yn dilyn diwrnod o chwaraeon o ansawdd uchel, gorffennodd mewn buddugoliaeth i BME Sport Newport (enillwyr dros 16 oed) a Chanolfan Hamdden y Fenni (enillwyr dan 16 oed).

Cydgysylltydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Rhanbarthol a Gwent Mwy Diogel:

Ariennir y cydgysylltydd ymddygiad gwrthgymdeithasol rhanbarthol drwy fy nghronfa Gwent Mwy Diogel. Mae’r cydgysylltydd yn arwain rhaglen waith Gwent Mwy Diogel ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Eleni cyflwynodd y cydgysylltydd grwpiau ‘arferion effeithiol’ yng Ngwent, lle gall swyddogion a phartneriaid drafod achosion anodd. Maent hefyd yn caniatáu iddynt rannu gwybodaeth am y ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac o gefnogi dioddefwyr. Trwy’r gwaith hwn, tynnwyd sylw at y diffyg cyfryngu sydd ar gael i’r heddlu a phartneriaid. Felly, sefydlodd y cydgysylltydd hyfforddiant ar gyfer 14 o ymarferwyr a swyddogion yng Ngwent.

Yn ystod y flwyddyn, cododd y Comisiynydd Dioddefwyr bryderon yn genedlaethol ynghylch cefnogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys argymhelliad i adolygu’r broses sbardun cymunedol. Mae sbardun cymunedol yn galluogi dioddefwyr i’w gwneud yn ofynnol i asiantaethau gynnal adolygiad o’u hymateb i’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd ganddynt os ydynt yn teimlo na chawsant ymateb boddhaol.

Cynhaliwyd adolygiad llawn o’r broses sbardun cymunedol yng Ngwent gyda’r arweinwyr diogelwch cymunedol a’m swyddfa. Er bod pob un o’r pum ardal awdurdod lleol yn gyson yn eu dull gweithredu ac eisoes yn bodloni argymhellion y Comisiynydd Dioddefwyr, roedd angen codi proffil y broses sbarduno. Felly, cytunodd pob parti ar hysbysebion a chanllawiau cliriach am y broses. Disgwyliwn i ragor o ddioddefwyr ddefnyddio’r broses sbarduno, ond datblygiad cadarnhaol fydd hyn drwy well gwybodaeth ac ymwybyddiaeth yn hytrach na chynnydd mewn problemau.

Mae adolygiad o arferion da wedi ei gynnal ar draws y pum hyb diogelwch cymunedol a bydd adroddiad yn cael ei ysgrifennu ym mis Mai 2020 er mwyn galluogi’r broses o ddysgu ar y cyd. Edrychodd yr adolygiad ar yr holl faterion diogelwch cymunedol a drafodir yn yr hybiau, nid ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unig. Er mwyn cael y darlun ehangach ynghylch diogelwch cymunedol ledled Gwent yr oedd hyn, gan gydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn gysylltiedig yn aml. Bydd Cydgysylltydd Diogelwch Cymunedol newydd ar waith ar gyfer 2020/21 er mwyn cefnogi’r hybiau i ddatblygu’r argymhellion.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, cynhaliwyd ymgyrchoedd ledled Gwent a Chymru gyfan. Amlygodd wythnos o weithgareddau enghreifftiau o ganlyniadau cadarnhaol, a chynhaliwyd gweithrediadau ar y cyd â Heddlu Gwent, y pum awdurdod lleol a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cynhaliwyd digwyddiad arddangos terfynol ar y diwrnod olaf.

BLAENORIAETH 5 – DARPARU GWASANAETHAU’N EFFEITHIOL

Rydym wedi ystyried yn ddiweddar y posibilrwydd o ddefnyddio Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 fel ffordd ychwanegol o fynd i’r afael â throseddu cyfundrefnol.
Cytunwyd i brofi’r dull gweithredu gydag unigolyn a oedd yn achosi problemau a oedd yn peri risg sylweddol i’r gymuned drwy ei weithgareddau mewn grŵp troseddu cyfundrefnol.

Trafodwyd y materion mewn cyfarfod hyb diogelwch cymunedol. Roedd nifer o bartneriaid yn gallu adnabod yr unigolyn drwy groesgyfeirio eu cronfeydd data, gan ganiatáu i dystiolaeth gael ei chasglu a’r awdurdod lleol gymryd camau yn erbyn y gwryw oherwydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Effeithiodd hyn ar ei allu i gymryd rhan mewn troseddu cyfundrefnol.

BLAENORIAETH 5 – DARPARU GWASANAETHAU’N EFFEITHIOL

Sicrhau bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion blaenoriaeth ein cymunedau.

Nifer y galwadau 999 a 101

 

2017–2018

2018–2019 

2019–2020

Cyfanswm Galwadau 999

74,693

83,269

81,290

Cyfanswm Galwadau 101

214,576

221,235

199,082

Galwadau 101 Nas Atebwyd

175,441

181,415

180,407

Galwadau 101 a Adawyd

39,068

39,847

18,607

Gostyngodd y galw sy’n deillio o alwadau 999 a 101 eleni. Nid yw’n hysbys a fydd goblygiadau COVID-19 yn dylanwadu ar y galw wrth inni symud ymlaen. Gallai’r gostyngiadau hyn ddangos darlun cadarnhaol a negyddol, ac mae angen rhagor o waith dadansoddi arnom.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan enfawr bellach yn y ffordd y mae Heddlu Gwent yn rhyngweithio â’r cyhoedd. Cyflwynodd ddesg cyfryngau cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2018, sy’n darparu gwasanaeth 24/7 drwy Facebook a Twitter. Mae’r ddesg yn rheoli adroddiadau am droseddau a digwyddiadau, yn darparu cyngor, ac mae’n rhagweithiol wrth adolygu’r ymateb i apeliadau am wybodaeth. Mae’r ddesg yn cyhoeddi gwybodaeth gymunedol hefyd gyda’r bwriad o leihau’r galw ar y ganolfan alwadau. Cefnogwyd cyflwyno’r ddesg drwy ddyrchafu pum aelod o staff. Adolygwyd hyn ym mis Rhagfyr 2019 ac fe’i hymestynnwyd hyd at fis Mawrth 2021.

Mae sylwadau’n dangos bod y cyhoedd wedi croesawu cyflwyno’r ddesg. Cynhelir arolygon yn rheolaidd a dangosodd canlyniadau arolwg 2019 na fyddai 27% o’r ymatebwyr wedi cysylltu â Heddlu Gwent i adrodd eu problem oni fyddai’r ddesg cyfryngau cymdeithasol wedi bod ar gael, byddai 93% o’r ymatebwyr yn argymell y gwasanaeth i eraill, a dywedodd 94% o’r ymatebwyr y byddent yn defnyddio’r gwasanaeth eto.

Cwynion a’r Uned Ymateb Cyhoeddus

Cyn iddi symud i Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent, roedd yr Uned Ymateb Cyhoeddus wedi ei lleoli yn fy swyddfa i am ddeg mis cyntaf y flwyddyn ariannol. Yn ystod y cyfnod hwn, ymdriniodd â 238 o achosion o anfodlonrwydd a’u datrys, gan gefnogi’r cyhoedd yng Ngwent i gael atebion i feysydd a oedd yn peri pryder iddynt a’u hatal rhag troi’n gwynion. Roedd hyn yn lleihau’r galw ar Heddlu Gwent ac yn helpu i sicrhau hefyd y cynhelir hyder y cyhoedd mewn plismona.

Yn ystod 2019/20, cynhaliwyd dau arolygiad o ffeiliau cwynion. Mae hyn yn cynnwys hap samplu rhestr o gwynion caeëdig o gyfnod o chwe mis gan fy swyddfa er mwyn sicrhau bod yr Adran Safonau Proffesiynol yn dilyn y prosesau cywir. Holir yr Adran Safonau Proffesiynol am unrhyw faterion a nodir, ac yna bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn darparu ymateb. Caiff y rhain eu coladu a’u monitro o flwyddyn i flwyddyn er mwyn sicrhau nad yw’r un materion yn cael eu hailadrodd. Yna, caiff cofnod penderfyniad ei ddrafftio a’i gyhoeddi ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Ar y ddau achlysur, gwelwyd bod yr holl ffeiliau a archwiliwyd yn drefnus. Mae’r broses hon yn sicrhau y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog bod eu cwynion yn cael eu trin yn briodol.

Y Cyd-bwyllgor Archwilio:

Mae’r Cyd-bwyllgor Archwilio yn darparu sicrwydd annibynnol ynghylch risg, rheolaeth fewnol, gwaith craffu ac arolygiaeth y prosesau adrodd ar berfformiad ariannol ar gyfer Heddlu Gwent a’m swyddfa. Cyhoeddodd ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018/19 ym mis Gorffennaf ochr yn ochr â datganiad y cyfrifon. Darparodd y rhain sicrwydd o gadernid y gwaith a wnaed gan y Cyd-bwyllgor Archwilio yn ystod y flwyddyn.
Yn ystod 2019/20, newidiodd y Cyd-bwyllgor Archwilio ei gyfarfodydd er mwyn rhoi rhagor o bwyslais ar reoli risgiau. Cynhaliwyd adolygiad manwl o’i gylch gorchwyl hefyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau newydd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Mae hyn yn sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Archwilio yn bodloni ei ofynion statudol ac yn rhoi gwerth i waith fy swyddfa a Heddlu Gwent.

Pobl:
Gwnaethom gwblhau a dechrau cyflawni ein cynllun busnes sy’n nodi’n fanylach sut y mae’r swyddfa’n cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throseddu. Fe’i bwriedir yn bennaf fel dogfen fewnol ac mae’n offeryn gweithredol ar gyfer galluogi gwaith cynllunio a chyflawni.
Mae’r cynllun busnes yn ddogfen ‘fyw’ a disgwylir newidiadau iddi yn ystod y flwyddyn. Os bydd angen darnau sylweddol o waith newydd yn ystod cyfnod y cynllun hwn, bydd fy mwrdd rheoli’n ystyried a ddylent ddisodli prosiectau cyfredol.
Nid yw’r cynllun busnes yn rhoi manylion llawn am weithgareddau yr ystyrir mai busnes arferol ydynt. O’r herwydd, nid yw’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gweithgareddau y bydd fy swyddfa i yn ymgymryd â nhw. Diben y ddogfen hon yw amlinellu meysydd gwaith a fydd yn cael eu blaenoriaethu a’u hybu.
Ategir hyn gan gyflwyno adolygiadau datblygu perfformiad sy’n helpu i wneud i bawb weithio’n fwy craff. Mae’r amgylchedd yr ydym ni’n gweithio ynddo yn newid yn gyson, felly mae’n hanfodol ein bod yn datblygu gydag ef er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Gwent. Mae’r broses o adolygu datblygiad perfformiad yn helpu i sicrhau bod pawb yn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol.

Panel yr Heddlu a Throseddu
Rydym wedi parhau i weithio’n gynhyrchiol gyda Phanel yr Heddlu a Throseddu drwy gydol y flwyddyn. Mae’r panel yn pwyso a mesur fy mherfformiad yn rheolaidd ar ran trigolion.
Cymeradwyodd y panel fy mhenodiad o Pam Kelly yn Brif Gwnstabl newydd ac rwyf wedi lleihau’r cynnydd ym mhraesept y dreth gyngor yn dilyn sgyrsiau gyda’r panel.
Rwyf i a’m tîm wedi parhau i weithio’n gynhyrchiol gyda’r panel cyfan a’r is-grwpiau cyllid a pherfformiad. Rydym ni wedi cytuno i sefydlu is-grŵp ystadau i archwilio ein strategaeth ystadau wrth inni symud ymlaen.
Trefnwyd cyfres o sgyrsiau ac arddangosiadau llawn gwybodaeth gennym ar gyfer y panel yn 2019/20, a oedd yn tynnu sylw at y pwysau sy’n wynebu Heddlu Gwent a rhai o’r agweddau cudd ar blismona. Fe’u gwahoddwyd i bencadlys yr heddlu hefyd er mwyn cael profiad o blismona rheng flaen o ddydd i ddydd.

Adnoddau:
Rydym wedi parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn plismona, gyda thros 400 o swyddogion newydd a 160 o swyddi newydd o’u cymharu â thair blynedd yn ôl. Ffigur ein sefydliad ar ddiwedd y flwyddyn oedd 1,323 o heddweision a 122 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Parhaodd ein buddsoddiad mewn technoleg i gael ei gyflwyno i staff drwy gydol y flwyddyn, gyda rhagor o swyddogion yn derbyn gliniaduron a ffonau. Mae pob swyddog heddlu rheng flaen yn gallu cael gafael ar systemau gwaith ble bynnag y bo ac mae’n gallu nodi manylion a chasglu gwybodaeth er mwyn ymateb yn y modd gorau i ddigwyddiadau mewn amser real. Trwy fuddsoddi yn y dechnoleg hon a’i darparu i’r swyddogion, mae hyn yn golygu eu bod yn gallu derbyn galwadau, casglu tystiolaeth, ffeilio adroddiadau a chael gafael ar ddata ynghylch mannau lle ceir problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymdogaeth ar unrhyw adeg. Mae hyn yn golygu eu bod yn treulio llai o amser mewn swyddfeydd a rhagor o amser allan yn eu cymunedau. Mae’n caniatáu i swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu gasglu a rhannu gwybodaeth yn gyflym, gan eu gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Mae’r dechnoleg hon yn golygu hefyd fod staff wedi cael eu hannog i weithio mewn modd ystwyth a thynnwyd sylw at bwysigrwydd hyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyda phandemig COVID-19. Mae wedi caniatáu i bobl y mae angen iddynt warchod eu hunain neu hunanynysu i barhau i weithio, gan gynnwys ateb galwadau 101.
Buddsoddwyd mewn Taser eleni hefyd, drwy gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Dim ond cost yr offer yr oedd hyn yn ei gwmpasu, felly bu’n rhaid inni dalu am hyfforddiant a chostau cysylltiedig. Fodd bynnag, roedd y cyllid yn caniatáu i Heddlu Gwent sicrhau bod ganddo ddigon o offer i hyfforddi 80 o swyddogion ychwanegol i ddefnyddio Taser, gan ddod â chyfanswm y swyddogion a hyfforddwyd i ddefnyddio Taser i 320 erbyn diwedd mis Mawrth 2020.
Dechreuwyd gwaith adeiladu ar bencadlys newydd Heddlu Gwent eleni. Dyma un o agweddau allweddol fy strategaeth ystadau i wella cyfleusterau plismona yng
Ngwent. Bydd yn gartref i’r ystafell reoli, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau i’r heddlu, ochr yn ochr â thimau troseddau mawr, swyddogaethau hyfforddi, gwasanaethau cymorth, uwch-reolwyr a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r datblygiad hwn yn Llantarnam yn gam mawr ymlaen o ran darparu gwasanaeth heddlu modern i bobl Gwent.
Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd gan y pencadlys newydd ran allweddol o ran sicrhau bod anghenion lles a hyfforddiant staff plismona yng Ngwent yn cael eu diwallu, i’w helpu i ddiogelu a rhoi sicrwydd i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r pencadlys presennol yng Nghroesyceiliog bron yn 50 mlwydd oed ac mae angen buddsoddiad sylweddol arno. Aseswyd yr holl bosibiliadau ymarferol mewn cysylltiad ag aros ar y safle presennol, ynghyd â phrynu’r adeiladau presennol, ond rwyf yn teimlo’n sicr mai adeiladu pencadlys newydd yn Llantarnam sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

ASTUDIAETH ACHOS:

Bydd y pencadlys newydd yn costio £32 miliwn, sy’n dod o gronfa wrth gefn benodol. Bydd costau cynnal blynyddol y pencadlys newydd £1.1 miliwn yn llai fesul blwyddyn o’u cymharu â chostau cynnal cyfredol y pencadlys ar hyn o bryd.

Bydd yr adeilad newydd yn llenwi tua hanner ôl troed safle y pencadlys presennol a bydd yn darparu lle gwaith ystwyth i oddeutu 480 o heddweision a staff. Disgwylir y bydd y cyfleuster newydd wedi ei gwblhau ddiwedd 2021.

YMGYSYLLTU:

Cynlluniwyd gweithgareddau ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn er mwyn darparu ystod mor amrywiol â phosibl o gyfleoedd, fel bod detholiad eang o drigolion o bob rhan o Went yn cael cyfle i gymryd rhan. Y nod oedd cefnogi cynhwysiant a chyfranogiad cymunedol drwy ddarparu cyfleoedd i bobl a sefydliadau gysylltu â mi a’m swyddfa.

Yn ogystal â’r gweithgareddau ymgysylltu llai, y teithiau cerdded a’r digwyddiadau y cymerodd y swyddfa ran ynddynt drwy gydol y flwyddyn, bu tair set o ymgysylltiadau cyhoeddus ar raddfa fawr yn 2019/20. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau haf a gynhaliwyd mewn cymunedau ledled Gwent, gan arolygu pobl ar braesept, a gofyn i bobl am eu safbwyntiau mewn cysylltiad â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Trwy gydol yr haf, roeddwn i a’m swyddfa’n bresennol mewn dros 20 o ddigwyddiadau cymunedol ledled Gwent, gan ymgysylltu â mwy na 7,500 o bobl wyneb yn wyneb. Darparwyd rhywfaint o gyngor atal troseddu ac eitemau atal troseddu ar gyfer pob un o’r rhain gan gynnwys deiliaid cardiau gwrthsgimio, llyfrynnau atal troseddu a chlychau pwrs. Yn ogystal â hyn, gwnaed y canlynol hefyd:
• Cynnal 13 atgyfeiriad at Uned Ymateb yr Heddlu, Cysylltu Gwent neu bartneriaid;
• Arolygu 234 o bobl; a
• Cofrestru 70 o bobl newydd ar gyfer yr e-fwletin.
Caniataodd bod yn weithgar yng nghymunedau Gwent inni esbonio pwysau plismona i drigolion a’u cyfeirio at wasanaethau eraill fel y bo hynny’n briodol. Cyrff cyhoeddus eraill oedd y rhain weithiau, ond gwasanaethau cymorth yr heddlu oeddent yn aml, yn enwedig Cysylltu Gwent.

Cefnogir y dull hwn gan adroddiad Sefydliad yr Heddlu, ‘Understanding the Public’s Priorities for Policing’, sy’n dangos po fwyaf y mae pobl yn ei wybod am flaenoriaethau plismona, po fwyaf y maent yn cefnogi plismona yn eu cymunedau.
Bu fy swyddfa’n rhan o’r ymchwil genedlaethol hon a chynhaliwyd pedwar gweithdy cymunedol yng Ngwent yn rhan ohoni.

Gan mai fy nghyfrifoldeb i yw pennu lefel y praesept ar gyfer Gwent bob blwyddyn, cynhaliais raglen ymgysylltu gadarn unwaith eto. Cynhaliwyd yr ymgysylltiad praesept am 13 wythnos o 14 Hydref 2019 hyd at 12 Ionawr 2020. Digwyddodd chwech o’r wythnosau hyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Prif bwyslais arolwg eleni oedd ymgysylltu wyneb yn wyneb. Mae’r dull hwn yn rhan o ymgyrch ehangach gennyf i a’m swyddfa i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’m swyddogaeth a’m cyfrifoldebau. Rydym yn annog pobl i roi eu safbwyntiau ar blismona, ac i sefydlu a thyfu perthynas waith effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid.

Roedd y dull o ymgysylltu wyneb yn wyneb yn barhaus yn caniatáu inni brofi barn y cyhoedd ar y pwnc yn gyson. Roedd hefyd yn caniatáu rhagor o amlygrwydd ac roedd yn ddull llawer mwy effeithlon a chyfannol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Roeddem yn bresennol ar gyfer cyfanswm o 25 o ddigwyddiadau ymgysylltu praesept ledled Gwent. O’r rhain, cynhaliwyd pedwar digwyddiad pwrpasol ym mhob awdurdod lleol. Roeddem yn bresennol mewn pum digwyddiad ychwanegol y cawsom wahoddiad iddynt. Cynhaliwyd saith digwyddiad ymgysylltu ar ddydd Sadwrn.

Cyflawnais i a’m swyddfa gyfanswm o 145 awr o waith ymgysylltu yn rhan o’r gwaith arolygu praesept. Hefyd, cynhaliwyd arolygon mewn wyth digwyddiad haf, sy’n golygu 40 awr ychwanegol o ymgysylltiad.

Ar y cyd, arweiniodd hyn at 1,730 o bobl yn ateb y cwestiwn praesept, “A fyddech chi’n cefnogi’r egwyddor o gynnydd o £2 y mis ar eich treth gyngor (yn seiliedig ar eiddo band D) er mwyn cynnal y ddarpariaeth blismona ar y lefelau presennol?”. Dywedodd cyfanswm o 66% o’r ymatebwyr eu bod o blaid, 22% yn erbyn, a 12% yn ansicr.

Cytunwyd, cyn lansio’r arolwg, y byddai sampl gynrychioliadol o 600 yn cael ei defnyddio. Cyn y llynedd, roedd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu bob amser wedi cael trafferth cyflawni sampl gynrychioliadol, gan fethu â’i chyflawni bob tro ond dwywaith (606 yn 2018/19 a 1,875 yn 2019/20).

O’r 1,730 o ymatebwyr, cwblhaodd 1,086 o bobl yr arolwg yn ystod un o’r digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda 644 o bobl yn dewis cwblhau’r arolwg arlein. Yn ogystal â chyflawni sampl gynrychioliadol o ymatebwyr, mae hyn yn golygu bod gan arolwg praesept eleni fwy na’r nifer gofynnol o ymatebwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb, gyda nifer yr ymatebwyr wyneb yn wyneb yn well o lawer.

Roedd mwyafrif yr ymatebion a gafwyd yn Saesneg, ac eithrio 37 yn Gymraeg. Un ymateb ar hugain a gafwyd yn Gymraeg y llynedd a dim ond un y flwyddyn flaenorol.

Gwnaethom ymgysylltu â’r gymuned ym mis Mawrth ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd hefyd (gweler uchod). Yn rhan o hyn, gofynnwyd i drigolion a oeddent yn cytuno â’r amcanion drafft. Er mwyn cyflawni hyn, cysylltwyd â 58,000 o drigolion drwy e-bost, yn ogystal â rhannu nifer o weithiau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwyd hefyd â rhestr helaeth o grwpiau cymorth yng Ngwent, gan gynnwys grwpiau sy’n canolbwyntio ar hil, anabledd, oedran, LGBTQ+, pobl ifanc, iechyd meddwl, y Gymraeg a gwirfoddolwyr. Cynhaliwyd ymgysylltiad wyneb yn wyneb gennym hefyd, ond bu rhaid inni orffen hyn yn gynt na’r disgwyl oherwydd COVID-19.

CYLLID:

Byddaf yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan Heddlu Gwent er mwyn helpu i sicrhau bod gennym wasanaeth heddlu sy’n rhoi gwerth am arian. Rwyf wedi gwneud y canlynol eleni:

  • Cytuno ar gyllideb o £154.54 miliwn ar gyfer Heddlu Gwent yn 2020/21 (£13 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol);
  • Pennu cynnydd y dreth gyngor ar 6.82%;
  • Creu cyllideb gyfalaf o £26.37 miliwn ar gyfer 2020/21; a
  • Pharhau i fonitro gwaith gwella gwasanaethau Heddlu Gwent, sydd wedi sicrhau £50.77 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd arian parod ers 2008/09.

Pennu’r Gyllideb:

Ar gyfer 2019/20, pennwyd y cyllidebau canlynol ar gyfer gwasanaethau plismona yng Ngwent:

Swyddogion yr Heddlu

£73.07

Staff yr Heddlu a Swyddogi Cymorth Cymunedol yr Heddlu

£32.06

Costau Eraill sy’n Gysylltiedig a Chyflogeion

£2.86

Cynllun Buddsoddi’r Heddl

£1.57

Safleoedd

£4.83

Cludiant

£2.62

Cyflenwadau a Gwasanaethau

£20.39

Ar ddiwedd 2019/20, cynhyrchodd y gwariant cyffredinol ar wasanaethau plismona yng Ngwent warged fach o £0.01 miliwn (0.07%) o’i chymharu â’r gyllideb gyffredinol o £141.51 miliwn.
Hefyd, gosodwyd y cyllidebau cyfalaf canlynol yng Ngwent:

  • Ystad - £22.3 miliwn
  • Cerbydau - £1 miliwn
  • Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu - £0.2 miliwn

Y gwariant cyfalaf cyffredinol ar wasanaethau plismona yng Ngwent oedd £9.9 miliwn o’i gymharu â’r gyllideb gyfalaf gyffredinol o £23.5 miliwn, oherwydd bod gwariant ar gynlluniau ystadau cyfalaf sylweddol (megis y pencadlys newydd) yn cael ei drosglwyddo i’r flwyddyn ariannol nesaf.

Sicrhau Gwerth am Arian:

Rwyf wedi sicrhau bod fy swyddfa i a Heddlu Gwent wedi cyflawni gwerth am arian, gan sicrhau bod gan drigolion wasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon drwy wneud y canlynol:

  • Meincnodi costau blynyddol drwy broffiliau gwerth am arian Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi;
  • Derbyn dyfarniad sicrwydd gan archwilwyr mewnol bod gennym reolwyr a phrosesau rheoli a llywodraethu digonol ac effeithiol;
  • Derbyn datganiad sicrwydd ‘boddhaol ar y cyfan’ gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer y gwasanaethau TG a ddarperir gan SRS;
  • Cyhoeddi fy Natganiad Llywodraethu Blynyddol, sy’n dangos effeithiolrwydd ein llywodraethu; a
  • Sicrhau bod Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio fy natganiad cyfrifon yn flynyddol.

ASTUDIAETH ACHOS:

Eleni, cynyddais braesept y dreth gyngor 6.82% ar gyfer trigolion Gwent, sy’n golygu bod yr aelwyd gyfartalog yng Ngwent wedi talu £1.45 yn ychwanegol fesul mis am ei gwasanaeth plismona.

Yn ogystal â’r achos ariannol a gyflwynwyd gan Heddlu Gwent ac argymhellion Panel Heddlu a Throseddu Gwent, gwnaethom ymgysylltu’n helaeth ledled Gwent hefyd. Nododd dros 66% o’r ymatebwyr eu bod yn fodlon cefnogi cynnydd praesept o hyd at £2.

Roedd yr arian ychwanegol yn caniatáu i Heddlu Gwent gynnal ei fuddsoddiad blaenorol mewn recriwtio, ac mewn meysydd blaenoriaeth megis amddiffyn plant, cam-drin domestig, trais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, troseddau casineb, a throseddau difrifol a chyfundrefnol

BODLONI GOFYNION STATUDOL:

Fy mhrif gyfrifoldeb yw sicrhau bod gan Went wasanaeth plismona effeithlon ac effeithiol. Un o’r ffyrdd yr wyf yn gwneud hynny yw drwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am berfformiad Heddlu Gwent. Rwyf i a’m swyddfa yn gwneud hyn yn ddyddiol, ac rwyf hefyd yn cynnal Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad chwarterol yn gyhoeddus.

Mae Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd yn cael ei ddatblygu er mwyn helpu i nodi ble rydym yn cyflawni ein dyletswyddau statudol, yn ogystal ag unrhyw feysydd cydymffurfio y mae angen eu gwella.

Rwyf yn sicrhau bod fy swyddfa’n hygyrch, yn dryloyw ac yn rhoi’r wybodaeth i’r cyhoedd sydd ei hangen arnynt er mwyn magu eu hyder yn y gwaith sy’n cael ei wneud. Manylir ar y meysydd statudol allweddol ar gyfer cydymffurfio isod.

Ymatebion Arolygiadau Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi:

Mae’n ofynnol imi ymateb i’r Ysgrifennydd Cartref ar unrhyw adroddiadau arolygu Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi a baratowyd o dan Adran 55 o Ddeddf yr Heddlu 1996. Yn ystod 2019/20, ymatebais i saith adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut y byddai Heddlu Gwent yn mynd i’r afael ag unrhyw argymhellion, ond yn cymeradwyo gwaith cadarnhaol hefyd. Mae ymateb i’r adroddiadau’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ynghylch perfformiad plismona, nid yn lleol yn unig, ond yn genedlaethol hefyd. Mae hefyd yn caniatáu i’r Swyddfa Gartref ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi bennu meysydd arolygu ar gyfer y dyfodol ac a oes angen cymryd unrhyw gamau ychwanegol.

Diogelu Data:

Mae gennym Swyddog Diogelu Data sy’n monitro cydymffurfiaeth ac yn ein cynghori ynghylch ein rhwymedigaethau statudol. Mae sicrhau bod pob aelod o staff yn cael hyfforddiant blynyddol yn ofyniad statudol o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Gwnaethom gwblhau hyn ym mis Chwefror, mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu Dyfed Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu Gogledd Cymru.

Adroddwyd am un tramgwydd data yn 2019/20, ond nid ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ei atgyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Derbyniwyd tri Chais Gwrthrych am Wybodaeth, ond roedd pob un ohonynt yn gofyn am wybodaeth a gedwir gan Heddlu Gwent. Dywedwyd wrthynt am y camgymeriad a rhoddwyd y manylion cyswllt cywir iddynt.

Adolygwyd yr Amserlen Cadw a Gwaredu yn ystod 2019/20. Bydd gwaith o adolygu’r holl wybodaeth electronig a gwybodaeth ar gopi caled a gedwir yn dechrau yn ystod 2020/21, er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n gofynion o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Bydd adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn cysylltiad â Diogelu Data yn cael ei ddatblygu yn 2020/21.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 28 o geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid
Gwybodaeth. Y gyfradd gydymffurfiaeth o fewn y cyfnod ymateb o 20 diwrnod gwaith oedd 96% (27 allan o 28). Roedd hyn oherwydd bod un cais e-bost wedi ei anghofio.

Roedd themâu allweddol yn ymwneud â chyllid a pholisïau. Mae cyllid yn thema sy’n codi bob blwyddyn ac yn gyffredinol mae’n cwmpasu cyflogau a chostau swyddfa. Cymerwyd 10 diwrnod i ymateb i gais ar gyfartaledd. Ni dderbyniwyd yr un apêl. Mae Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer 2019/20 wedi ei gyhoeddi ar fy ngwefan sy’n darparu rhagor o wybodaeth am hyn.

Mae fy swyddfa’n cynnal cynllun cyhoeddi sy’n ein hymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn rhan o’n gweithgareddau busnes arferol ac yn cefnogi’r wybodaeth y mae’n ofynnol inni ei chyhoeddi o dan Orchymyn Gwybodaeth Benodedig 2011. Caiff hyn ei fonitro gan fy Mhennaeth Sicrwydd a Chydymffurfio, sy’n cadarnhau cydymffurfiaeth â’r gofynion hyn yn ystod 2019/20.

Gwobr Tryloywder

Ceir llawer iawn o wybodaeth y mae’n ofynnol inni ei chyhoeddi o dan y Gorchymyn Gwybodaeth Benodedig, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth arall. Felly, rwyf yn falch o adrodd am y bumed flwyddyn yn olynol fod fy swyddfa i wedi ennill gwobr genedlaethol am dryloywder. Mae hyn oherwydd bod gwybodaeth allweddol yn cael ei chyhoeddi ar fy ngwefan mewn fformat hygyrch a thryloyw y gellir ei gwelywio. Rhoddwyd y wobr gan Comparing Police and Crime Commissioners (a elwir yn CoPaCC), sef corff annibynnol sy’n monitro gwaith llywodraethu’r heddlu.

Newidiadau i System Gwynion yr Heddlu

O 1 Chwefror 2020, cyflwynodd Rheoliadau’r Heddlu (Cwynion a Chamymddwyn)
2020 y gofyniad cyfreithiol i Gomisiynwyr fod y corff perthnasol ar gyfer adolygiadau (a arferai gael eu galw’n apeliadau) y gofynnir amdanynt gan y cyhoedd i’r cwynion a gofnodir sy’n bodloni set benodol o feini prawf.

Pennaeth Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent oedd yn ymgymryd â’r swyddogaeth adolygu cwynion yn flaenorol. O ganlyniad i'r newidiadau hyn ac er mwyn sicrhau bod yr adolygiadau mor annibynnol â phosibl, penderfynais y byddai’r Uned Ymateb Cyhoeddus, a arferai fod yn rhan o fy swyddfa i ac yn ymdrin ag anfodlonrwydd lefel isel, yn symud i’r Adran Safonau Proffesiynol yn Heddlu Gwent.

Roedd hyn hefyd yn sicrhau bod eglurder i’r cyhoedd oherwydd mai un adran yn unig yr oedd angen iddynt gysylltu â hi i roi gwybod am anfodlonrwydd neu i wneud cwyn.

EDRYCH I’R DYFODOL

Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad blynyddol hwn, mae pandemig COVID-19 yn effeithio ar y genedl gyfan a’r rhan fwyaf o’r byd.

Mae hwn yn gyfnod digynsail ac rydym yn gweld mesurau digynsail; nid dim ond er mwyn arafu lledaeniad y clefyd hwn, ond er mwyn diogelu’r system gofal iechyd a’n cymunedau yn gyffredinol. Creodd hyn set newydd o heriau i bob un ohonom, o ran ein bywydau preifat a phroffesiynol.
Hoffwn ailddatgan fy niolch parhaus unwaith eto i holl swyddogion yr heddlu, staff, gweithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill sydd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn.

Nid yw wedi bod yn rhwydd i’n swyddogion, sydd wedi bod ar y rheng flaen yn ymdrin â gorfodi’r cyfyngiadau symud.

Mae fy swyddfa wedi gorfod newid llawer o’i harferion gwaith i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau statudol a’m blaenoriaethau, er bod hynny mewn ffyrdd arloesol a gwahanol.

Gwnaeth COVID-19 effeithio ar etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a gynlluniwyd ar gyfer mis Mai hefyd, sydd bellach wedi eu gohirio tan fis Mai 2021. Dymunaf roi sicrwydd i’n holl gymunedau fy mod yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau y darperir y gwasanaeth heddlu gorau iddynt dros y 12 mis nesaf.

Bydd y Cynllun Heddlu a Throseddu presennol yn dod i ben yn 2022, a chynhelir adolygiad er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben tan hynny.