Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol
Bwriad y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol yw nodi safle a dyheadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent mewn perthynas â materion llywodraethu. Mae'r Cod yn amlinellu sut y bydd y Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ac yn sicrhau bod ganddo'r prosesau a'r polisïau priodol ar waith i fodloni gofynion llywodraethu corfforaethol da.
Dim ond os bydd cydberthynas agored, cyd-gefnogol ac un heriol adeiladol rhwng Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Prif Gwnstabl a Gwasanaeth yr Heddlu a arweinir ganddo y bydd pobl Gwent yn derbyn y plismona o ansawdd y mae ganddynt yr hawl i'w gael. Er mwyn meithrin a chynnal y gwaith partneriaeth hanfodol hwn y mae'r egwyddorion, y canllawiau a'r arferion canlynol wedi'u datblygu. Eu bwriad yw tanseilio diwylliant a hinsawdd o gydymddiriedaeth, hyder a natur agored lle mae'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd yn glir.