Datganiad caethwasiaeth fodern 2024 / 2025

Yn unol ag Adran 54 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a'r Prif Gwnstabl yn cydnabod eu cyfrifoldeb fel cyflogwr i fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o achosion o gaethwasiaeth fodern ac i roi gwybod i'r cyrff perthnasol am achosion neu bryderon o'r fath. Ategir y datganiad hwn gan gynllun gweithredu lleol.

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 i ganfod, atal a rhoi sylw i gaethwasiaeth fodern ar draws yr heddlu a'i gadwyni cyflenwi.

Beth yw caethwasiaeth fodern?

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae’n dod ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, cam-fanteisio rhywiol, llafur gorfodol a masnachu pobl, a'r hyn sy'n gyffredin rhwng y rhain i gyd yw bod rhywun yn amddifadu rhyddid unigolyn er mwyn cam-fanteisio arno er budd personol neu fasnachol.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a'r Prif Gwnstabl yn ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn rhan o gadwyni cyflenwi'r heddlu neu yn unrhyw ran o'r busnes. Mae polisïau, gweithdrefnau a'n gwaith i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern trwy weithgor yn dangos ein hymrwymiad i weithredu'n foesegol, gydag uniondeb ac i ganfod risgiau y gallwn weithio i'w lliniaru.

Yn 2017, ymrwymodd comisiynwyr yr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru i God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru.

Mae Heddlu Gwent yn gwbl ymroddedig i frwydro yn erbyn arferion cyflogaeth anfoesegol neu anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi. Mae cynllun gweithredu i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cod yn ategu’r ymroddiad hwn.

Gellir rhannu ein dull o ganfod a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yn bedwar prif faes:

Gorfodaeth – byddwn yn sicrhau gorfodaeth ac yn defnyddio ein swyddogaethau cyflogi a phrynu nwyddau a gwasanaethau i wella'r gwaith o gasglu cudd-wybodaeth a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Cod Ymarfer, yn ogystal â gweithredu'n brydlon ar ôl derbyn gwybodaeth.

Nod polisi Caethwasiaeth Fodern yr heddlu, a bennwyd gan y tîm Prif Swyddogion, yw lleihau'r risg o niwed difrifol i ddioddefwyr a gwella diogelwch, iechyd a lles.

Mae'r polisi'n amlinellu sut y bydd troseddau caethwasiaeth fodern yn cael eu trin a sut y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd. Ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron neu gyrff eraill, byddwn yn ymdrechu i erlyn troseddwyr yn llwyddiannus, gyda'r nod o wella ymddiriedaeth a hyder dioddefwyr.

Darperir hyfforddiant cadarn i bob swyddog, sy'n tynnu sylw at arwyddion, proses, gofal dioddefwyr a gwasanaethau cymorth.

Caffael moesegol – hybu datblygu cadwyni cyflenwi moesegol wrth gyflenwi contractau ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn gyffredinol ac yn benodol yng Ngwent.

Cyflogaeth - dilyn arfer gorau a dangos ymrwymiad llwyr i welliant parhaus o fewn systemau a strwythurau Heddlu Gwent, yn ogystal â gweithio gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru a gyda phartneriaid i ganfod a dileu unrhyw ffurf ar gam-fanteisio.

Amgylchedd - byddwn yn creu amgylchedd lle mae'r cyhoedd yng Nghymru yn hyderus ac yn deall sut i adrodd am unrhyw arwyddion o gam-fanteisio yn ei holl ffurfiau. Byddwn yn sicrhau bod ein holl staff - yn arbennig swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu a staff yn ein Canolfan Rheoli Galwadau - yn gwbl ymwybodol o'r hyn y dylid edrych amdano a'r hyn y dylid ei wneud pan fyddant yn cael eu hysbysu am bryderon.

Rydym yn cydnabod bod caethwasiaeth fodern yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'n ffiniau cenedlaethol a bod risgiau'n cynyddu gyda chadwyni cyflenwi cymhleth.

Mae adolygiad dechreuol o'n cadwyni cyflenwi wedi dangos risg posibl o gaethwasiaeth fodern yn y categorïau canlynol:

  • gwybodaeth, cyfathrebu a thechnoleg
  • adeiladu
  • gwasanaethau glanhau a gwaredu gwastraff
  • cynhyrchu iwnifformau

Rydym yn sylweddoli y gall caethwasiaeth fodern ddigwydd, ai'i fod yn digwydd, mewn nifer o gategorïau eraill ac rydym yn mapio ein cadwyni cyflenwi yn defnyddio dull asesu risg i ganfod y meysydd y dylem fod yn eu blaenoriaethu yn rhan o'n hymateb ymarferol i risgiau caethwasiaeth fodern.

Mae ymchwilio'n drwyadl i gadwyni cyflenwi'n waith cymhleth ond yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cyhoeddi holiaduron asesu cyflenwyr i 10 o gyflenwyr eraill, gan ddod a chyfanswm yr holiaduron a gyhoeddwyd i 89, a rhoddwyd sgôr i 76 o gyflenwyr. Yn ogystal, mae Bluelight Commercial (BLC) yn ceisio asesiad gwerth cymdeithasol gan 15 o gyflenwyr, yn arbennig lle y bydd hyn o fudd i heddluoedd eraill trwy drefniadau cenedlaethol.  Defnyddir y sgôr yma fel llinell sylfaen i fesur cynnydd gan y cyflenwr wrth olrhain caethwasiaeth fodern, wedi'i fonitro trwy weithgarwch rheoli contract. Mae’r cyflenwyr a ddewiswyd yn cael eu nodi fel rhai risg uwch oherwydd y math o ddiwydiant, natur y gweithlu, lleoliad y cyflenwr, y math o nwyddau neu lefel ein gwariant, neu maent yn gyflenwyr yr ydym wedi dyfarnu contract iddynt yn ddiweddar a chyflwynwyd yr asesiad yn rhan o'n gwaith rheoli contract. Pan fydd cyflenwyr yn cael sgôr sylfaenol, rydym yn rhoi anogaeth iddynt i wella eu sgôr, gan roi arweiniad i helpu cyflenwyr llai a dangos iddynt ble i gael cyngor i ddeall sut i wneud gwelliannau. Mae Gwerth Cymdeithasol yn eitem safonol ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd gyda chyflenwyr gan ein bod yn cydnabod ei fod yn fantais barhaus trwy gydol oes y contract. Mae dangos arfer da yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fantais i gyflenwyr sydd am lwyddo i ennill cyfleoedd yn y sector cyhoeddus yn y dyfodol.

Rydym wedi ymroi i rannu gwybodaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau. Trwy weithio gyda heddluoedd eraill, gallwn ymchwilio'n fwy trwyadl i gadwyni cyflenwi yn seiliedig ar y risg mwyaf o gam-fanteisio ar bobl.

Byddwn yn parhau i weithio i godi ymwybyddiaeth o faterion caethwasiaeth fodern ledled ein cadwyn gyflenwi. Mae ein cynllun gweithredu'n cynnwys targed i asesu'r 100 uchaf o gyflenwyr ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru erbyn 2025 ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni hyn.


Diwydrwydd dyladwy ac asesu risg

Mae Heddlu Gwent wedi parhau i ddatblygu'r gwaith hwn i gyflawni'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac a gofnodwyd yn ein cynllun gweithredu lleol ar gyfer 2023-24.

Polisi

  • Mae'r Strategaeth Masnach a Chaffael Cydweithredol ar y Cyd 2020-2025 yn corffori polisi caffael cyfrifol. Mae'r polisi'n cynnwys ein hymroddiad a gweithgareddau i roi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru ar waith, ac egwyddorion prynu moesegol. Yn ogystal, rydym yn cefnogi'r egwyddorion yn y ddogfen ‘Bluelight Commercial Responsible Procurement & Commissioning Strategy’.
  • Mae caffael moesegol yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Cyflawni'r Heddlu, sy’n adnabod caffael moesegol fel dull o greu amgylchedd mwy gwrthwynebus ar gyfer caethwasiaeth fodern.
  • Mae ein polisi recriwtio'n adlewyrchu ein hymroddiad i God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru a chaiff ei weithredu a'i asesu yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yr heddlu. Y tîm recriwtio sy'n gyfrifol am sicrhau y glynir wrth egwyddorion cyflogaeth foesegol wrth ddefnyddio gwefannau swyddi ac asiantaethau recriwtio.
  • Mae ein Polisi Buddiannau Busnes yn adlewyrchu’r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Rhaid i swyddogion a staff fod yn ymwybodol o'r Cod wrth gyflwyno cais am gymeradwyaeth i fuddiant busnes.
  • Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru yn eitem safonol ar agenda ein hundebau llafur yn awr.
  • Mae Polisi Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu ar gyfer swyddogion rheng flaen yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan Uned Cuddwybodaeth a Throsedd Trefnedig yr Heddlu.
  • Mae polisïau perthnasol eraill yn cynnwys Cod Moeseg y Coleg Plismona, ac rydym wedi lansio polisi Chwythu'r Chwiban Cymru Gyfan i rymuso staff i leisio amheuon am unrhyw arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.

Gweithdrefnau caffael

  • Lle y bo'n briodol ac yn gymesur, rydym yn defnyddio Offeryn Gwerth Cymdeithasol Bluelight Commercial i ofyn i gynigwyr sut maent yn mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yn eu sefydliadau a’u cadwyni cyflenwi. Rydym yn rhoi sgôr am werth cymdeithasol yn ein tendrau i ddangos sut rydym yn disgwyl i'n cyflenwyr adlewyrchu ein hymateb ac yn eu tro, gynorthwyo'r heddlu i gyflawni amrywiaeth o fentrau gwerth cymdeithasol.
  • Rydym yn ymgorffori diwylliant o gyfrifoldeb ehangach yn yr heddlu i bawb sy'n ymwneud â chaffael nwyddau a gwasanaethau.
  • Mae ein telerau ac amodau contract yn cynnwys yr hawl i ymchwilio a sefydlu atebolrwydd ac ymrwymiad gan y cynigydd llwyddiannus y bydd yn cwblhau holiadur asesu i sefydlu llinell sylfaen lle y bo'n briodol.
  • Rydym yn parhau i rannu arfer gorau a'n gwaith asesu cyflenwyr gyda heddluoedd Cymru.
    Ystadegau Perfformiad o ran Taliadau.
  • Mae ystadegau perfformiad o ran talu anfonebau yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn unol â'r gofyniad statudol.

Ystadegau Perfformiad o ran Taliadau

  • Mae ystadegau perfformiad o ran talu anfonebau yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unol â'r gofyniad statudol.

Asesu cyflenwyr a chadwyni cyflenwi presennol

  • Er mwyn cynyddu'r fenter hon yn genedlaethol ac i ddarparu offeryn effeithiol ar gyfer pob heddlu, gweithiodd heddluoedd Thames Valley, West Mercia, De Cymru a Gwent gyda Bluelight Commercial i uwchraddio rhannau o'r Offeryn Cynllunio Gwerth Cymdeithasol i asesu:
  • caethwasiaeth fodern
  • arfer busnes moesegol
  • yr argyfwng hinsawdd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • cyfraniad cymdeithasol a chymunedol
  • Trwy waith rheoli contract, rydym yn dangos enghreifftiau cadarnhaol o'n cyflenwyr sy'n adlewyrchu ein cod caffael moesegol caethwasiaeth fodern yn eu sefydliadau ac yn cynnig gwerth cymdeithasol gweladwy.


Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

  • Cwblhawyd hyfforddiant diweddaru CIPS (Chartered Institute of Purchasing and Supply) blynyddol gan staff caffael strategol.
  • Rydym yn parhau i gyfeirio swyddogion a staff sydd â chyfrifoldeb dros gontractau at yr hyfforddiant 'Fundamentals of Contract Management' a ddarperir gan Bluelight Commercial. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys ymwybyddiaeth o gadwyni cyflenwi moesegol.
  • Mae senarios cyfyng-gyngor moesegol yn cael eu rhannu ledled heddluoedd Cymru i wella ymwybyddiaeth o faterion moesegol ar draws yr heddluoedd.
  • Mae recriwtio, dyrchafu, cyfweld a phrosesau mewnol cysylltiedig yn annog arfer da o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Mae cynllun cyfathrebu ar waith i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r llwybrau atgyfeirio mewnol ar gyfer tynnu sylw at bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a’u bod yn derbyn hyfforddiant ar y llwybrau hyn.
  • Mae Grŵp Sicrwydd Ariannol ar y Cyd Heddluoedd Cymru a Grŵp Bwrdd Cydweithredol Cymru Gyfan yn derbyn adroddiadau am lwyddiant y gwaith yma gan y Prif Swyddog Cyllid.

Adroddiadau

Mae'r Datganiad hwn wedi'i gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a'r Prif Gwnstabl. Caiff ei adolygu a'i ddiweddaru’n flynyddol.

Hysbysu am Bryderon

Mae gan y cyhoedd a staff yr un cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o achosion posibl o gaethwasiaeth fodern neu o fusnes sy'n defnyddio llafur gorfodol. Os oes gennych unrhyw bryderon o'r fath, cysylltwch ag un o'r cyrff canlynol:
Heddlu Gwent: Ffoniwch 101 (neu 999 mewn argyfwng). Adroddiad ar-lein
Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: Ffoniwch 0800 0121700
Crimestoppers: Ffoniwch 0800 555 111
Llinell Gyfrinachol ar gyfer Pryderon, Safecall 0800 9151571 (gweithwyr Heddlu Gwent yn unig)
Lawrlwythwch yr Ap 'Unseen' am ddim.