Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2022-041
13 Mehefin 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer Gwasanaeth Interim i Ddioddefwyr sy’n Blant a Phobl Ifanc.
PCCG-2022-049
23 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi dyfarnu cyllid gwerth £6,454.00 o Swyddfa Effaith Gadarnhaol y Comisiynydd ar gyfer 2022/23.
PCCG-2022-050
23 Mai 2023
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent i roi £10,000 yr un i'r ddwy Ardal Blismona Leol o'r Gronfa Effaith Gadarnhaol i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd ar yr amod y gellid dyfarnu cyllid i brosiectau a oedd yn gallu dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
PCCG-2023-002
23 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o £2,750 i gefnogi Strategaeth Chwaraeon Heddlu Cymru Gyfan – Myfyrwyr Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth.
PCCG-2023-003
23 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 17 Ebrill 2023 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2022-051
11 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid tuag at swydd Swyddog Diogelwch Cymunedol Rhanbarthol am y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 31 Gorsenaff 2023.
PCCG-2022-052
9 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid o £40,000 i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru i gyd-gomisiynu gwasanaeth peilot i ymdrin â Cham-drin Domestig a Gyflawnir gan yr Heddlu (PPDA) ar gyfer 2023/24 a 2024/25.
PCCG-2022-053
9 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o £20,000 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23; 2023/24 a 2024/25 i gefnogi gwaith Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
PCCG-2022-035
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2022-038
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner sy'n gweithio yn Connect Gwent ar gyfer 2023/24.