Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2022-052
9 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid o £40,000 i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru i gyd-gomisiynu gwasanaeth peilot i ymdrin â Cham-drin Domestig a Gyflawnir gan yr Heddlu (PPDA) ar gyfer 2023/24 a 2024/25.
PCCG-2022-053
9 Mai 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o £20,000 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23; 2023/24 a 2024/25 i gefnogi gwaith Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
PCCG-2022-035
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2022-038
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner sy'n gweithio yn Connect Gwent ar gyfer 2023/24.
PCCG-2022-046
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i bartneriaeth diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024
PCCG-2023-001
18 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 16 Ionawr 2023 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2022-045
14 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd â Heddlu Gwent i ddarparu peilot ar gyfer ymyraethau trais difrifol a throseddau trefnedig yn ystod 2023/24, cyfanswm o £170,191
PCCG-2022-047
14 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid diogelwch cymuned i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer 1 Ebrill 2023 - 31 Mawrth 2024.
PCCG-2022-048
14 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu £188,240 o gyllid grant i raglen Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
PCCG-2022-037
3 Ebrill 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i gyfrannu at ddarpariaeth y gwasanaeth Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.