Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2022-006
22 Ebrill 2022
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i New Pathways a Cymorth i Fenywod Cyfannol i roi cymorth i ddioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent.
PCCG-2021-035
8 Ebrill 2022
Dyfarnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y contract allanol ar gyfer adolygu cwynion i Sancus Solutions Ltd.
PCCG-2021-032
7 Ebrill 2022
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd â Heddlu Gwent i ddarparu peilot ar gyfer ymyraethau trais difrifol a throseddau trefnedig yn ystod 2022/23, cyfanswm o £163,645.
PCCG-2022-003
7 Ebrill 2022
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid diogelwch cymuned i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023.
PCCG-2022-001
6 Ebrill 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu’r contract ar gyfer darparu gwasanaethau fforensig yn rhan o’r West and South Coast Consortium
PCCG-2021-030
23 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 31 Ionawr 2022 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2021-031
21 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o £151,934.67 o Gronfa Gymunedol yr Heddlu rhwng saith prosiect. Yn ogystal, dyfarnwyd cyllid ail flwyddyn mewn egwyddor i bedwar prosiect a dderbyniodd arian yn 2019/20 i ddechrau, yn amodol ar dderbyn adroddiadau boddhaol a chydymffurfiaeth gyda thelerau ac amodau grant. Mae hyn yn dod â chyfanswm yr arian a ddyfarnwyd yn 2020/21 i £298,838.39.
PCCG-2021-036
21 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i gyfrannu at Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2022/23.
PCCG-2021-029
17 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2021-023
9 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes ei swyddfa ar gyfer 2020-21.