Cyfle: Asesiad Anghenion Dioddefwyr Anuniongyrchol

18fed Medi 2026

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn gwahodd sefydliadau neu ymgynghorwyr cymwys addas i ddarparu dyfynbris ar gyfer Asesiad Anghenion Dioddefwyr Anuniongyrchol.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall yn well profiadau ac anghenion cymorth pobl sy'n cael eu heffeithio'n anuniongyrchol gan ymddygiad troseddol rhywun sy'n agos atynt, gyda phwyslais penodol ar bobl sy'n gysylltiedig ag unigolion a arestiwyd neu a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol.

Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio penderfyniadau polisi a chomisiynu yn y dyfodol, fel bod y cymorth yn adlewyrchu anghenion pobl yn well.

Gwybodaeth allweddol:

  • Uchafswm y gyllideb: £15,000 (heb gynnwys TAW).
  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 5pm ar 30 Medi 2026.
  • Dyddiad dechrau disgwyliedig y contract: 19 Hydref 2026.
  • Angen y cyflawniadau terfynol erbyn: 29 Ionawr 2027.

Rydym yn croesawu dyfynbrisiau gan sefydliadau ac ymgynghorwyr sydd â phrofiad o ymchwil, asesu anghenion, gwasanaethau dioddefwyr, diogelu, cyfiawnder troseddol, amddiffyn y cyhoedd, a gweithio gydag oedolion a phlant sy'n agored i niwed.

I ofyn am y fanyleb lawn, anfonwch e-bost at PCCFunding@gwent.police.uk