Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2021-023
9 Mawrth 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes ei swyddfa ar gyfer 2020-21.
PCCG-2021-027
18 Chwefror 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.
PCCG-2021-028
18 Chwefror 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 22 Ionawr 2022 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2021-037
18 Chwefror 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cadarnhau Cyllideb yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2022/23.
PCCG-2021-020
11 Chwefror 2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi derbyn adroddiad Ymgysylltu oddi wrth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar ganfyddiadau’r arolwg i helpu i lywio Cynllun yr Heddlu a Throsedd 2021/25 y Comisiynydd.
PCCG-2021-024
15 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Cymorth i Fenywod Cyfannol i ddarparu Canolfan Galw Heibio gyda’r nod o roi cymorth i fenywod agored i niwed a dioddefwyr cam-fanteisio rhywiol yng Ngwent.
PCCG -2021-025
15 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i benodi Willmott Dixon fel y prif gontractwr ar gyfer adleoli gweithdy’r Fflyd.
PCCG-2021-033
9 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-23 hyd 2024-25 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys.
PCCG-2021-034
9 Rhagfyr 2021
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2021 tan 30 Medi 2021.
PCCG-2021-022
24 Tachwedd 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes ei swyddfa ar gyfer 2020-21