Strategaeth Cyfalaf
Mae Cod Darbodus 2017 Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn gofyn bod awdurdodau lleol (gan gynnwys comisiynwyr heddlu a throsedd) yn cynhyrchu Strategaeth Gyfalaf, i ddangos bod penderfyniadau gwariant a buddsoddi cyfalaf yn cael eu gwneud yn unol â’r canlyniadau dymunol ac yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.
Nod y Strategaeth Gyfalaf hon yw galluogi pobl sy’n gyfrifol am lywodraethu i ddeall sut bydd Heddlu Gwent yn sicrhau stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd; a bodloni gofynion deddfwriaethol o ran creu adroddiadau hefyd.