Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) wedi ymroi i ddarparu gwasanaeth cyson, teg a hygyrch i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â'r sefydliad. Mae'r polisi hwn yn penderfynu sut mae'r adran yn rheoli cyswllt gyda'r cwsmeriaid cymharol brin y mae eu gweithgareddau neu ymddygiad yn cael eu hystyried i fod yn annerbyniol.