Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2021-015
16 Awst 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 14 Mehefin 2021 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2021-011
30 Gorffennaf 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn Adroddiad y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21.
PCCG-2021- 012
27 Gorffennaf 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn cyfnod rhai o aelodau'r cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd o 2022 i 2023.
PCCG-2021-009
5 Gorffennaf 2021
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i ddyfarnu Contract yn ôl y Gofyn ar gyfer darparu gwasanaeth Symud ac Adleoli Dodrefn i Crown Workspace.
PCCG-2021-007
30 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro perfformiad ei swyddfa yn ystod 2020/21 mewn perthynas â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
PCCG-2021-008
22 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys a gwir Ddangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21.
PCCG-2021-006
17 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarniad contract ar gyfer cadw a gwireddu Cryptoarian.
PCCG-2021-005
11 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid tuag at swydd Swyddog Diogelwch Cymunedol Rhanbarthol am y cyfnod 1 Mehefin 2021 tan 31 Mawrth 2022.
PCCG-2021-003
3 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 26 Ebrill 2021 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2021-004
3 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 14 Ebrill 2021 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.