Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2020-050
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner o fewn Connect Gwent ar gyfer 2021/22.
PCCG-2020-052
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid i gefnogi rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd yn ystod 2021/22.
PCCG-2020-055
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o £181,000 i raglen Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.
PCCG-2020-056
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau partner allanol i ddarparu ymyraethau peilot trais difrifol a throseddau trefnedig fel rhan o'r Prosiect Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig yn ystod 2021/22 - cyfanswm o £164,794.
PCCG-2020-057
4 Mawrth 2021
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddyfarnu cyllid i Llwybrau Newydd a Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ystod 2021/22 i sicrhau bod eu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn parhau.
PCCG -2020-058
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o Gronfa Gymunedol Swyddfa'r Comisiynydd i chwe sefydliad o gronfa 2021/2022, sef cyfanswm o £143,656.64 a phedwar sefydliad o gronfa 2019/20 a 2020/21, sef cyfanswm o £155,596.72.
PCCG-2020-059
4 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i gyfrannu at Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2021/22.
PCCG-2020-049
3 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2020-061
22 Chwefror 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cadarnhau Cyllideb yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2021/22.
PCCG-2020-041
4 Chwefror 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.