Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2020-026
7 Awst 2020
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddyfarnu arian o'r gronfa Diogelwch Cymunedol a Throseddau Ieuenctid i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2020 - 31 Mawrth 2021.
PCCG-2020-025
4 Awst 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2020 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2020-023
21 Gorffennaf 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 18 Mehefin 2020 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2020-019
10 Gorffennaf 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Adroddiad Rheoli Gweithgarwch Blynyddol y Trysorlys a gwir Ddangoswyr Darbodus ar gyfer 2019/20.
PCCG-2020-021
7 Gorffennaf 2020
Cyflwynodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu broses monitro gwahanol ar gyfer y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
PCCG-2020-022
7 Gorffennaf 2020
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ymestyn cyfnod gwasanaethu aelodau'r Cynllun Lles Anifeiliaid a'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
PCCG-2020-020
30 Mehefin 2020
Dyfarnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd gyfanswm o £201,553 o gyllid grant eithriadol i chwe sefydliad yng Ngwent er mwyn iddynt roi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod pandemig Covid-19.
PCCG-2020-008
30 Mehefin 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o £181,000 i raglen Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.
PCCG-2020-012
26 Mehefin 2020
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i roi £10,000 yr un i Uwch-arolygwyr y ddwy Ardal Blismona Leol ar gyfer y Gronfa Effaith Gadarnhaol i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd ar yr amod y gellid dyfarnu cyllid i brosiectau a oedd yn gallu dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
PCCG-2020-011
26 Mehefin 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi dyfarnu cyllid o £9692.50 o Gronfa Effaith Gadarnhaol y Comisiynydd ar gyfer 2019/20.