Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2020-041
4 Chwefror 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.
PCCG-2020-043
4 Chwefror 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro Gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys Ebrill am y cyfnod 1 Ebrill 2020 hyd 30 Medi 2020.
PCCG-2020-046
4 Chwefror 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo'r Strategaeth Ystâd ddiwygiedig.
PCCG-2020-045
13 Ionawr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer darparu gwasanaeth a reolir ar gyfer adfer cerbydau i FMG Support (RRRM) Limited yn unol â pharagraffau 20-24 a pharagraff 66 Rhan 3e Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chontractau yn y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2020-047
12 Ionawr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i gyfrannu cyllid o £5000 i ddatblygu Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd yng Nghymru sy'n gynllun ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru.
PCCG-2020-042
21 Rhagfyr 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau a Reolir i Staff Asiantaeth i Randstad Solutions Ltd.
PCCG-2020-037
14 Rhagfyr 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wed cytuno i ymestyn cyfnod y contract ar gyfer Darpariaeth Gweithwyr Asiantaeth am 42 diwrnod ychwanegol tan 28 Mawrth 2021.
PCCG-2020-039
7 Rhagfyr 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 6 Hydref 2020 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2020-040
4 Rhagfyr 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 26 Hydref 2020 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2020-035
30 Tachwedd 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn Adroddiad y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer 2019/20.