Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2021-004
3 Mehefin 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 14 Ebrill 2021 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2021-002
20 Mai 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cytuno i ddyfarnu cyllid hwb gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i sefydliadau cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n gweithio yng Ngwent.
PCCG-2020-048
5 Mai 2021
Ystyriodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ganfyddiadau’r arolwg cyhoeddus ar y praesept ar gyfer 2021/22 cyn pennu lefel y praesept ar gyfer 2021/22.
PCCG-2021-001
16 Ebrill 2021
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent i roi £10,000 yr un i'r ddwy Ardal Blismona Leol o'r Gronfa Effaith Gadarnhaol i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd ar yr amod y gellid dyfarnu cyllid i brosiectau a oedd yn gallu dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
PCCG-2020-063
12 Ebrill 2021
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddyfarnu arian o'r gronfa Diogelwch Cymunedol a Throseddau Ieuenctid i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 31 Mawrth 2022.
PCCG-2020-062
9 Ebrill 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo’r argymhelliad i ddyfarnu’r contract ar gyfer darparu System Llety a Theithio i Corporate Travel Management Ltd.
PCCG-2020-053
19 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid i gyfrannu at ddarparu Eiriolwr Annibynnol ar gyfer Trais Domestig (IDVA) am y flwyddyn ariannol 2021/22.
PCCG-2020-060
19 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo penodiad Willmott Dixon fel y prif gontractwr adeiladu ar gyfer Canolfan Y Fenni.
PCCG-2020-044
18 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021-22 hyd 2023-24 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys.
PCCG-2020-051
16 Mawrth 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i bartneriaeth diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022.