Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i gefnogi'r cais am gyllid ar gyfer Uwch-ddadansoddwr Gwasanaeth Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru Gyfan.

Reference Number: PCCG-2022-020

Date Added: Dydd Mawrth, 9 Awst 2022

Details:

Cytunodd pob partner i'r cyfraniad ariannol yng nghyfarfod Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan ym mis Gorffennaf 2019. Mae'r swydd wedi bod yn wag ers mis Tachwedd 2021 ac mae Gwent wedi cyfrannu £5,496.17 hyd at fis Mehefin 2022. Penderfynodd y partneriaid recriwtio unwaith eto a bydd contract 24 mis newydd yn cael ei ddyfarnu. Gwnaed ymrwymiad i gyfrannu £16,765.76 tan Ionawr 2023, ac mae £5,496.17 wedi cael ei gyfrannu hyd yn hyn. Mae'r cais mwyaf diweddar ar gyfer ymrwymiad o £18,000 gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent tan fis Gorffennaf 2024. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi cytuno i gynyddu ei gyfraniad ariannol gwreiddiol gan £6,730.41 ac i ymestyn hyd yr ymrwymiad gan 18 mis hyd at fis Gorffennaf 2024.

Attachments: