Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2020-018
4 Mehefin 2020
Dyfarnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y contract allanol ar gyfer adolygu cwynion i Sancus Solutions Ltd.
PCCG-2020-017
4 Mehefin 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes ei swyddfa ar gyfer 2019-20.
PCCG-2020-016
1 Mehefin 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn y fframwaith ar gyfer cyflenwi neu gyflenwi a ffitio marciau lifrau ar gerbydau heddlu gyda PVL UK Ltd am gyfnod pellach o chwe mis tan 31 Mai 2020.
PCCG-2020-013
26 Mai 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cytuno i ddyfarnu'r Contract ar gyfer Darparu Telemateg Dynol a Cherbydau.
PCCG-2019-077
19 Mai 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wed cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2018-19.
PCCG-2020-015
19 Mai 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2020-014
18 Mai 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG -2019-082
16 Mai 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn Cyllid Partner Diogelwch Cymunedol a Throseddau Ieuenctid am 3 mis arall o'r 1af o Ebrill 2020 tan y 30ain o Fehefin 2020, cyfanswm o £92,959.00.
PCCG-2020-006
16 Mai 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau partner allanol i ddarparu ymyraethau peilot trais difrifol a throseddau trefnedig fel rhan o'r Prosiect Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig yn ystod 2020/21 - cyfanswm o £401,412.
PCCG-2020-004
16 Mai 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid i New Pathways er mwyn sicrhau parhad eu gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn ystod 2020/21.