Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2019-069
17 Ionawr 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-068
23 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer y fframwaith cyflenwi, neu gyflenwi a gosod, marciau lifrau ar gerbydau heddlu gyda PVL UK Ltd am gyfnod dechreuol o chwe mis tan 31 Mai 2020.
PCCG-2019-062
17 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer System Rheoli Tystiolaeth Ddigidol i'r cyflenwr NICE Investigate mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru trwy'r Fframwaith G-Cloud a arweinir gan Wasanaeth Masnachol y Goron am gyfnod dechreuol o 24 mis gydag opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd arall.
PCCG-2019-065
17 Rhagfyr 2019
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Medi 2019.
PCCG-2019-066
17 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21 i 2022-23 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys
PCCG-2019-063
17 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo diwygiad i’r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol o ran cynyddu’r ddirprwyaeth gyfredol gan y Prif Gwnstabl i hawliadau sifil o derfyn o £1,000 i £10,000.
PCCG-2019-044
9 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes Heddlu Gwent ar gyfer 2018-19.
PCCG-2019-061
2 Rhagfyr 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo Polisi Rheoli Cyswllt gyda Chwsmeriaid Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
M-2019-004
26 Tachwedd 2019
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, 26 Tachwedd 2019
PCCG-2019-067
25 Tachwedd 2019
Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi ystyried a chytuno ar yr opsiwn y mae am ei ddefnyddio mewn perthynas â’r newidiadau i'r Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu a gyflwynwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017.